Gall rhoi rhodd i’ch teulu a’ch ffrindiau tra rydych yn fyw fod yn ffordd dda o leihau gwerth eich ystâd at ddibenion Treth Etifeddiant gan elwa’ch anwyliaid ar unwaith. Fodd bynnag, mae cynllunio ystadau a threth yn faes cymhleth, felly gall ceisio cyngor proffesiynol fod o gymorth i chi osgoi problemau pan rowch rodd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Faint allaf ei roi i briod neu bartner sifil yn ddi-dreth?
- Faint allaf ei roi i fy mhlant a fy nheulu yn ddi-dreth?
- Gadael rhywbeth i elusen yn eich ewyllys
- Faint yw’r ‘lwfans rhodd’ blynyddol?
- Beth arall allaf ei roi yn ddi-dreth?
- Beth yw Trosglwyddiad Eithriedig Posibl?
- Rhyddhad Graddol
- A oes yna unrhyw ryddhad i’w gael ar Dreth Etifeddiant?
- Ble i gael cyngor ar gynllunio ystadau a threth
Faint allaf ei roi i briod neu bartner sifil yn ddi-dreth?
Byddwch yn ofalus
Gallai rhodd nad yw’n un arian parod a rowch tra rydych yn fyw, fel cyfranddaliadau neu eiddo, olygu y bydd rhaid i chi neu’r derbynnydd dalu swm sylweddol o Dreth Enillion Cyfalaf.
Cyn i chi roi’r rhodd honno, mae'n werth cael gyngor proffesiynol i’ch helpu chi a’r derbynnydd i wneud y mwyaf o’r rhodd honno.
Gweler ein canllaw ar Ddewis ymgynghorydd ariannol
Caiff cyplau priod a phartneriaid sifil drosglwyddo eu hystâd ymlaen i’w priod yn ddi-dreth pan fyddant yn marw.
Mewn geiriau eraill, gall y priod sy’n goroesi etifeddu’r ystâd gyfan heb orfod talu Treth Etifeddiant (IHT).
Gallant hefyd drosglwyddo eu lwfans di-dreth sydd heb ei ddefnyddio ymlaen i’w priod neu bartner sifil.
Er enghraifft, os bydd gŵr yn marw a gadael ei ystâd gyfan i’w wraig, gall ei wraig gymryd ei lwfans o £325,000 a’i ychwanegu i’w lwfans di-dreth ei hun.
Fodd bynnag, os yw ystâd y gŵr yn £300,000 a gadawodd y cyfan i’w frawd, yna byddai gan y wraig yr hawl i’r £25,000 sy’n weddill yn unig.
Gallai rhoddion i bartner nad ydynt yn briod â chi fod yn destun Treth Etifeddiant.
Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Faint allaf ei roi i fy mhlant a fy nheulu yn ddi-dreth?
Chi sydd i ddewis beth a faint y dymunwch ei roi i’ch plant ac aelodau eraill o’ch teulu.
Fodd bynnag, i sicrhau bod hynny’n ddi-dreth, mae’n bwysig i chi gynllunio pa bryd i roi’r rhodd.
Yn syml, cyn belled â’ch bod yn byw am fwy na saith mlynedd ar ôl i chi roi’r rhodd, ni fydd yn ofynnol i’ch plant neu’ch teulu dalu Treth Etifeddiant ar y rhodd wedi i chi farw.
Fodd bynnag, gallai unrhyw incwm a wneir o’r rhodd hon fod yn destun treth i’r buddiolwr, er enghraifft Treth Enillion Cyfalaf.
Os na fyddwch yn ddigon ffodus i fyw mwy na saith mlynedd wedi i chi roi’r rhodd, efallai y byddant yn gorfod talu Treth Etifeddiant.
Pan wneir y rhodd i ddechrau, caiff ei alw’n Drosglwyddiad Eithriedig Posibl oherwydd, a chymryd y byddwch yn byw am saith mlynedd arall, ni fydd unrhyw IHT yn ddyledus arni. Os byddwch yn marw cyn pen saith mlynedd, fe’i gelwir yn Drosglwyddiad Taladwy.
Golyga hyn, os ydych yn ystyried rhoi arian neu asedau i’ch teulu a’ch ffrindiau er mwyn lleihau Treth Etifeddiant, mae’n bwysig iawn i chi wneud cofnod o:
- beth roesoch chi
- pwy gafodd y rhodd gennych
- pryd rhoddwyd y rhodd gennych
- faint yw ei werth.
Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i ysgutor eich ystâd gyfrifo pa ran o’ch ystâd sy’n destun treth yn ystod profiant.
Gadael rhywbeth i elusen yn eich ewyllys
I annog mwy o bobl i adael arian i elusennau, bydd unrhyw arian parod neu ased strwythurol a adewch i gorff elusennol cymwys, un ai yn ystod eich bwyd neu mewn ewyllys, wedi ei eithrio rhag Treth Etifeddiant (IHT).
Gall hyn leihau cyfradd yr IHT sy’n ddyledus o’r gyfradd bresennol o 40% i 36%. Ni fyddai’r gyfradd ostyngol hon yn berthnasol oni bai bod y rhodd i elusen yn cynrychioli o leiaf 10% o’r “ystâd net” ar ddyddiad y farwolaeth. Gallai hyn arbed miloedd o bunnoedd.
Yn gyffredinol, diffinnir yr ystâd net fel y gwerth sydd yn weddill ar ôl didynnu unrhyw eithriadau (gan gynnwys eich band preswyl cyfradd nil sydd ar gael) ac unrhyw ostyngiadau eraill sydd ar gael.
Gall hwn fod yn faes eithaf cymhleth a byddai’n ddoeth i chi geisio cyngor proffesiynol i sicrhau bod unrhyw rodd gennych yn gymwys.
Faint yw’r ‘lwfans rhodd’ blynyddol?
Tra byddwch yn fyw, mae gennych ‘lwfans rhodd’ o £3,000 y flwyddyn. Eich eithriad blynyddol yw’r enw a roddir ar hyn.
Golyga hyn y gallwch roi asedau ac arian parod hyd at gyfanswm o £3,000 mewn blwyddyn dreth heb i’r swm gael ei ychwanegu at werth eich ystâd at ddibenion Treth Etifeddiant (IHT).
Gall unrhyw ran o’r eithriad blynyddol nad yw’n cael ei ddefnyddio yn y flwyddyn dreth gael ei drosglwyddo i’r flwyddyn dreth ganlynol. Rhaid ei ddefnyddio yn y flwyddyn dreth ganlynol ac ni chewch ei drosglwyddo y tu hwnt i hynny.
Nid yw rhai rhoddion penodol yn cyfrif tuag at yr eithriad blynyddol hwn. Gan hynny, nid oes angen talu Treth Etifeddiant arnynt.
Gallai rhoddion sy’n werth mwy na’r lwfans £3000 fod yn destun Treth Etifeddiant.
Beth arall allaf ei roi yn ddi-dreth?
Rhoddion sy’n werth llai na £250
Cewch roi faint fynnwch chi o roddion hyd at £250 i unrhyw nifer o bobl. Er, ni chewch roi hynny i unigolyn sydd eisoes wedi cael rhodd sy’n cynnwys y cyfan o’ch eithriad blynyddol o £3,000. Nid yw unrhyw un o’r rhoddion hyn yn destun Treth Etifeddiant.
Anrhegion priodas
Yn yr achos hwn, er mwyn i’r rhodd fod o fudd at ddibenion Treth Etifeddiant, rhaid ei rhoi cyn, nid ar ôl, y briodas, a rhaid i’r briodas ddigwydd, a rhaid iddi:
- gael ei rhoi i blentyn ac yn werth £5,000 neu lai,
- gael ei rhoi i ŵyr neu wyres neu or-ŵyr neu or-wyres ac yn werth £2,500 neu lai, neu
- gael ei rhoi i aelod arall o’r teulu neu i ffrind ac yn werth £1,000 neu lai.
Rhoddion i helpu gyda chostau byw
Gallai rhoddion sy’n helpu i dalu am gostau byw cyn-briod, dibynnydd oedrannus neu blentyn dan 18 oed neu sydd mewn addysg amser llawn, fod wedi’u heithrio.
Rhoddion o weddillion eich incwm
Os oes gennych chi ddigon o incwm i gynnal eich safon byw arferol, cewch roi rhoddion o weddillion eich incwm. Er enghraifft, talu arian yn rheolaidd i mewn i gyfrif cynilo plentyn, neu dalu premiwm yswiriant bywyd ar gyfer eich priod neu bartner sifil.
I wneud defnydd o’r eithriad hwn, mae’n bwysig iawn eich bod yn cadw cofnod o’r rhoddion hyn. Fel arall, mae’n debygol iawn y bydd Treth Etifeddiant yn ddyledus ar y rhoddion hyn wedi i chi farw.
Mae’r rheolau ar gyfer yr eithriad hwn yn gymhleth. Er enghraifft, rhaid i’r rhoddion hyn fod yn rhai rheolaidd, felly rhaid i chi fod yn barod i ymrwymo i barhau i roi’r rhoddion hyn.
Dylech siarad â chynghorydd cyfreithiol neu dreth ystadau yn gyntaf os dymunwch wneud defnydd o’r eithriad hwn.
Gall neiniau a theidiau hefyd ei ddefnyddio i dalu am bethau fel ffioedd ysgol eu hwyrion ac wyresau.
- Rhoddion elusennol: Os rhowch rodd i elusen, amgueddfa, prifysgol neu glwb chwaraeon amatur yn y gymuned, nid oes angen talu treth arni.
- Rhoddion i bleidiau gwleidyddol: cewch roi rhodd Etifeddiant yn Ddi-dreth i blaid wleidyddol dan rai amodau penodol.
Am fwy o wybodaeth ar roddion sydd yn eithriedig rhag Treth Etifeddiant, ewch i GOV.UK
Beth yw Trosglwyddiad Eithriedig Posibl?
Mae Trosglwyddiad Eithriedig Posibl (PET) yn galluogi unigolyn i roi rhoddion o unrhyw werth a fydd yn cael eu heithrio rhag Treth Etifeddiant (IHT) os bydd yr unigolyn yn goroesi am gyfnod o saith mlynedd.
Os na fyddwch yn goroesi’r rhodd am gyfnod o saith mlynedd, daw’r PET yn Ystyriaeth Daladwy a chaiff ei ychwanegu at werth eich ystâd at ddibenion IHT. Os bydd y gwerth cyfunol yn uwch na throthwy’r IHT, gall IHT fod yn ddyledus.
Rhaid i unrhyw drosglwyddiad gydol oes sydd yn Eithriedig Posib fodloni rhai amodau penodol ond yn amodol ar rai eithriadau neilltuol. Rhodd yw’r trosglwyddiad a wneir gan unigolyn i unigolyn arall neu i ymddiriedolaeth benodol. Golyga hyn, er enghraifft, ni all corfforaeth na chwmni roi na derbyn rhodd.
Er enghraifft, os rhoddir rhodd o £400,000:
- I ddechrau, bydd y rhodd yn defnyddio’r cyfan o’r £325,000 o NRB sydd ar gael (dynodir y rhoddion hynaf yn gyntaf).
- Mae’r £75,000 sy’n weddill yn destun IHT, pan fydd y farwolaeth (yn ogystal â’r IHT ar yr ystâd).
- Petai’r £75,000 sy’n weddill wedi cael ei roi dros dair blynedd cyn y farwolaeth, yna gallai gostyngiad graddol fod yn gymwys.
- Er enghraifft, os rhoddwyd y cyfan o’r rhodd rhwng tair a phedair blynedd cyn y farwolaeth, yna’r gost dreth ar y £75,000 fyddai 32%.
- Felly, £24,000 fyddai’r IHT sy’n ddyledus ar y PET.
Nid yw rhoddion sy’n parhau i fod yn berthnasol i chi, waeth pa bryd y rhoesoch y rhodd honno, yn cyfrif fel PET.
Er enghraifft, os parhewch i fyw yn y tŷ a roesoch i’ch plentyn fwy na 10 mlynedd yn ôl heb orfod talu rhent, yna byddai’r tŷ yn parhau i gael ei ystyried yn rhan o’r ystâd ac felly’n destun IHT. Yr enw a roddir i ddisgrifio hyn yw rhodd gyda budd amodol.
I ddarganfod mwy am PETs, ewch i GOV.UK
Rhyddhad Graddol
Os oes Treth Etifeddiant (IHT) i’w thalu, caiff ei chodi ar 40% ar roddion yn y tair blynedd cyn i chi farw. Mae rhoddion a wnaed dair i saith mlynedd cyn i chi farw yn cael eu trethu ar gyfradd raddol a elwir yn ‘ostyngiad graddol’.
Blynyddoedd rhwng rhodd a marwolaeth | Treth a dalwyd |
---|---|
Llai na 3 |
40% |
3 i 4 |
32% |
4 i 5 |
24% |
5 i 6 |
16% |
6 i 7 |
8% |
7 neu fwy |
0% |
Mae’r tabl uchod yn dangos gostyngiad mewn treth IHT a fyddai’n daladwy fel arall wrth drosglwyddo.
Nid yw Rhyddhad Graddol yn lleihau gwerth y rhodd a drosglwyddwyd; mae ond yn lleihau faint o dreth sy’n daladwy.
A oes yna unrhyw ryddhad i’w gael ar Dreth Etifeddiant?
Mae rhai asedau penodol yn derbyn rhyddhad rhag Treth Etifeddiant (IHT). Golyga hyn bod rhywbeth o werth wedi cael ei drosglwyddo ond nid oes treth yn ddyledus ar y gwerth llawn. Rhaid i chi gyflwyno cais am hyn fel arfer a rhaid bodloni amryw o amodau.
- Busnes — Yn ddibynnol ar natur eich perchnogaeth o’r busnes a pha fath o fusnes ydyw, gallwch hawlio gostyngiad treth o un ai 50% neu 100% ar asedau busnes yr ystâd. Gallai’r rhain fod wedi cael eu trosglwyddo tra yr oedd y perchennog yn dal yn fyw neu fel rhan o’r ewyllys, ond rhaid iddynt fod wedi bod dan berchnogaeth am ddwy flynedd o leiaf cyn marwolaeth y perchennog.
Darganfyddwch fwy am ryddhad ar Dreth Etifeddiant i Fusnesau ar GOV.UK
- Eiddo amaethyddol — Gallwch drosglwyddo fferm yn rhydd rhag Treth Etifeddiant, cyn belled y bodlonir rhai amodau penodol. Fodd bynnag, mae rhai asedau fferm yn destun treth, fel peiriannau fferm. Hefyd, os defnyddir ased nad yw'n gymwys, megis offer fferm, mewn busnes, gallai fod yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Busnes.
Darganfyddwch fwy am Ryddhad ar Dreth Etifeddiant ar Asedau Amaethyddol ar GOV.UK
- Eiddo coetir — Gallwch gael gostyngiad am dyfu coed, ond dim ond i’r coed mae hyn yn berthnasol, ac nid y tir ei hun. Mae’n weithredol ar farwolaeth ac yn gohirio’r dreth sy’n daladwy nes bydd y pren wedi ei werthu. Fodd bynnag, gallai coetir a ddefnyddir i ddibenion masnachol gael hyd at 100% o ostyngiad busnes, sy’n fwy ffafriol na gohirio. Mewn theori, gellir gohirio Treth Etifeddiant nes bydd y coed wedi eu torri a gwerthu, ar yr amod bod y coetir wedi bod yn eiddo i chi ers pum mlynedd.
Darganfyddwch fwy am Dreth Etifeddiant ar eiddo coetir ar GOV.UK
- Asedau treftadaeth — Os ydych yn berchen ar adeilad, tir neu greiriau o arwyddocâd cenedlaethol gwyddonol, hanesyddol neu gelfyddydol, gallech hawlio eithriad rhag Treth Etifeddiant. Yn gyffredinol, mae hyn ond yn berthnasol i blasty, tir o harddwch naturiol eithriadol, neu waith celf enwog. Fodd bynnag, rhaid bodloni rhai amodau penodol cyn medru hawlio’r eithriad hwn.
Darganfyddwch fwy am ryddhad treth ar asedau treftadaeth ar GOV.UK
- Rhai rhoddion yn ddibynnol ar werth y rhodd a phryd y’i rhoddwyd.
Nid yw arian, asedau neu eiddo a rowch mewn ymddiriedolaeth wedi eu heithrio rhag Treth Etifeddiant bob tro.
Mae’n dibynnu ar y math o ymddiriedolaeth a ddewiswch i’w sefydlu i ddal yr ased.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Defnyddio ymddiriedolaeth i leihau eich Treth Etifeddiant
Ble i gael cyngor ar gynllunio ystadau a threth
Pan luniwch eich ewyllys, mae’n syniad bob amser i gynllunio’ch ystâd a beth ddylai ddigwydd iddi wedi i chi farw.
Mae rhoi rhoddion a throsglwyddo pethau yn ystod eich bywyd yn un ffordd o gynllunio’ch ystâd. Mae’n ffordd dda o leihau’ch Treth Etifeddiaeth. Ond, mae’r gyfraith yn y maes hwn yn eithaf cymhleth.
Felly hefyd os rhowch eich asedau mewn ymddiriedolaeth i’ch teulu eu hetifeddu wedi i chi farw.
Mae’n beth da cael cyngor gan arbenigwr mewn cynllunio ystadau, fel cyfreithiwr neu ymgynghorydd ariannol annibynnol.
I chwilio am gynghorydd cynllunio ystadau a threth yn eich ardal, defnyddiwch:
- Cyfeirlyfr Cynghorwyr Ymddeoliad — dewiswch ‘cynllunio Treth Etifeddiant’ i gael canlyniadau mwy penodol wrth chwilio am arbenigwyr mewn Treth Etifeddiant.