Meddwl sut i newid ewyllys? Nid chi yw’r unig un. Mae llawer o bobl yn newid eu hewyllys wedi iddynt gael plant neu wyrion ac wyresau, neu pan fydd eu sefyllfa ariannol yn newid. Gan ddibynnu ar y math o newid rydych yn ei wneud, dylech un ai ychwanegu at eich ewyllys neu ysgrifennu un newydd. Bydd y canllaw hwn yn rhoi help i chi deall sut i newid ewyllys, beth yw’r gost i newid ac esbonio beth yw codisil.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Oes angen i chi newid eich ewyllys?
Mae’n syniad da adolygu eich ewyllys yn achlysurol a sicrhau ei bod yn datgan yr hyn yr ydych yn ei ddymuno.
Dylech yn sicr adolygu’ch ewyllys:
- pan fydd rhywun a enwir yn eich ewyllys yn marw
- os oes gennych blant neu wyrion neu wyresau - efallai y byddwch am newid pwy sy'n cael beth
- os byddwch yn priodi - mae priodas yn diddymu ewyllys yng Nghymru a Lloegr (ond nid yn yr Alban)
- os byddwch yn ysgaru - nid yw ysgariad yn diddymu ewyllys, er yng Nghymru a Lloegr ni fyddai eich cyn-ŵr/wraig neu bartner sifil yn elwa ohoni
- mae newidiadau sylweddol eraill i’ch bywyd gan gynnwys prynu eiddo dramor, dechrau eich busnes eich hun neu newid sylweddol yn eich amgylchiadau meddygol.
Ni ddylech ddiwygio dogfen wreiddiol yr ewyllys trwy ysgrifennu arno neu ychwanegu unrhyw beth.
Os hoffech wneud newidiadau mwy sylweddol i’r ewyllys, gallai fod yn well ysgrifennu ewyllys newydd.
Os byddwch yn ysgrifennu ewyllys newydd gallwch ddiddymu’r hen un drwy ei dinistrio.
Gallwch wneud newidiadau bach i’ch ewyllys – fel newid yr ysgutorion neu ychwanegu etifeddiaeth – drwy ddefnyddio dogfen a elwir yn godisil (rhagor am hyn isod).
Defnyddio codicil
Beth yw codisil?
Dogfen syml yw codisil sydd angen ei llofnodi a’i thystio yn yr un modd ag ewyllys.
Mae’n eich galluogi i wneud newidiadau i ewyllys sy’n bodoli’n barod yn hytrach nag ailysgrifennu fersiwn ysgrifenedig yn llwyr.
Nid oes rheolau ynglŷn â beth gallwch ei newid trwy ddefnyddio codisil - gall amrywio o fod mor syml ag un gair hyd at nifer o adrannau o’ch ewyllys.
Ond mae’n syniad da defnyddio codisiliau ar gyfer newidiadau bychain yn unig, oherwydd gallant wneud y gwaith o weinyddu eich ewyllys yn fwy cymhleth pan fyddwch farw.
Mae rhaid llofnodi a thystio codisil yn yr un modd â’ch ewyllys gwreiddiol, ond nid yw’n ofynnol i chi ddefnyddio’r un tystion.
Peidiwch â defnyddio rhywun fel tyst os ydynt hwy neu eu gŵr/gwraig neu bartner sifil yn elwa trwy rodd yn y codisil – bydd hyn yn annilysu’r rhodd iddynt (yn y codisil).
- Os ydych yn defnyddio gwasanaeth ysgrifennu ewyllys neu gyfreithiwr, mae ychwanegu codisil yn rhatach fel arfer nag ysgrifennu ewyllys newydd
- Dylid cadw codisil gyda’ch ewyllys gwreiddiol - gall codisiliau gael eu colli gan godi cwestiynau ynglŷn â’r ewyllys gwreiddiol
- Os ydych yn newid nifer o rannau o’ch ewyllys, mae’n well i chi fel arfer ysgrifennu ewyllys newydd.
Ysgrifennu ewyllys newydd
Dyma’r dewis gorau fel arfer, yn enwedig os ydych yn dymuno gwneud mwy na dim ond rhai newidiadau bychain.
Mae’n union fel ysgrifennu eich ewyllys am y tro cyntaf, ond gyda rhai pethau ychwanegol i’w hystyried.
- Sicrhewch fod eich ewyllys newydd yn datgan yn glir ei bod yn diddymu unrhyw ewyllysiau neu godisiliau hŷn
- Os ydych yn berchen ar asedau mewn gwahanol rannau o'r byd a bod gennych ewyllys cyfatebol, gwnewch yn siŵr nad yw'ch ewyllys newydd yn dirymu'r ewyllys arall honno yn anfwriadol
- Dinistriwch eich hen ewyllys ac unrhyw gopïau – un ai drwy ei rhwygo, ei thorri’n ddarnau neu ei llosgi. Fel arall gall dwy (neu fwy) o ewyllysiau gael eu darganfod a bydd hi’n aneglur pa un ddylid ei dilyn
- Dywedwch wrth eich ysgutor ymhle y cedwir eich ewyllys er mwyn iddynt ddod o hyd iddi pan ddaw’r amser.