Absenoldeb a thâl tadolaeth

Pan fydd eich partner yn rhoi genedigaeth neu pan fyddwch yn mabwysiadu plentyn neu’n cael babi drwy fam ddirprwyol, efallai y bydd gennych hawl i absenoldeb tadolaeth a thâl tadolaeth. 

Beth yw Absenoldeb Tadolaeth Statudol?

Absenoldeb Tadolaeth Statudol yw'r amser y gallwch ei gymryd i ffwrdd i'w dreulio gyda'ch babi newydd-anedig.

Os ydych yn gyflogai, mae gennych hawl i unai wythnos neu bythefnos o absenoldeb tadolaeth â thâl.

Nid yw’r rhan fwyaf o weithwyr asiantaeth a chontract yn gymwys.

  • Mae rhaid i chi ei gymryd fel wythnos gyfan neu wythnosau yn olynol.
  • Mae eich absenoldeb tadolaeth yn ychwanegol at eich lwfans gwyliau arferol.
  • Ni all absenoldeb ddechrau cyn yr enedigaeth ac mae rhaid iddo ddod i ben cyn pen 56 diwrnod ar ôl yr enedigaeth (neu'r dyddiad dyledus os yw'r babi yn gynnar).
  • Mae rhai cwmnïau'n gadael i'w gweithwyr gymryd mwy o amser i ffwrdd, felly gwiriwch eich contract am fanylion.

Telir Absenoldeb Tadolaeth Statudol - gelwir hyn yn Dâl Tadolaeth Statudol.

A ydych yn gymwys?

I fod yn gymwys ar gyfer Absenoldeb Tadolaeth Statudol mae rhaid i chi fod yn:

  • tad biolegol y plentyn
  • mabwysiadwr y plentyn neu riant arfaethedig (os yw'n defnyddio dirprwy)
  • gŵr neu bartner mam y plentyn (gan gynnwys partneriaid o'r un rhyw).

Mae rhaid i chi hefyd fod wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 26 wythnos barhaus gan y naill neu'r llall:

  • diwedd y 15fed wythnos cyn wythnos y dyddiad disgwyl y babi
  • diwedd yr wythnos y dywedir wrthych eich bod wedi cael eich paru â'ch plentyn i'w fabwysiadu (ar gyfer mabwysiadu yn y DU).

Absenoldeb Rhiant a Rennir

Gall rhieni cymwys newydd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ddefnyddio Absenoldeb Rhiant a Rennir.

Mae Absenoldeb Rhiant a Rennir yn caniatáu i chi rannu hyd at 50 wythnos o absenoldeb rhiant a 37 wythnos o dâl gyda’ch partner.

Cyhyd â bod eich cyflogwr yn cytuno, gallwch gymryd yr absenoldeb mewn hyd at dri bloc gwahanol hyd yn oed, yn hytrach na’i gymryd dros un cyfnod yn unig.

Mae hyn yn caniatáu i chi newid trefniadau os bydd angen arnoch.

A ydych yn gymwys?

Mae rhaid i fam y plentyn roi rhybudd cyfrwymol i ddod â’i habsenoldeb mamolaeth i ben er mwyn i’r naill ohonoch fod yn gymwys am Absenoldeb Rhiant a Rennir.

Gallwch gychwyn eich absenoldeb tra bydd y fam yn parhau i fod ar absenoldeb mamolaeth cyn belled â bod y rhybudd cyfrwymol wedi ei roi.

Mae’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer Absenoldeb Rhiant a Rennir yr un fath â’r rhai ar gyfer Absenoldeb Tadolaeth Statudol.

Yn ogystal, yn ystod y 66 wythnos cyn yr wythnos pan ddisgwylir i’r babi gael ei eni (neu’r wythnos y cawsoch eich paru â’ch plentyn mabwysiedig) mae rhaid i’ch partner:

  • fod wedi bod yn gweithio am o leiaf 26 wythnos (nid yn olynol o angenrhaid)
  • wedi ennill cyfanswm o £390 o leiaf dros 13 o’r 66 wythnos (adiwch yr wythnosau a ildiodd y cyflog uchaf, nid yn olynol o angenrhaid).

Gallech fod yn gymwys hefyd am Dâl Rhiant a Rennir Statudol.

Tâl tadolaeth

Y gyfradd Tâl Tadolaeth Statudol a Thâl Rhiant a Rennir Statudol yw’r lleiaf o:

  • £172.48 yr wythnos
  • 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog.

Fe’i telir i chi gan eich cyflogwr a fydd yn didynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyn ei dalu i chi. 

Tâl Tadolaeth Statudol

I fod yn gymwys am Absenoldeb Tadolaeth Statudol rhaid eich bod wedi gweithio i’ch cyflogwr am 26 wythnos o leiaf yn barhaus cyn:

  • y 15fed wythnos cyn y dyddiad pan ddisgwylir i’ch babi gael ei eni
  • diwedd yr wythnos y parodd yr asiantaeth fabwysiadu chi â phlentyn.

Mae rhaid i chi fod yn ennill £123 yr wythnos o leiaf cyn treth a pharhau i weithio iddo hyd nes i’r babi gael ei eni (neu gael ei leoli gyda chi). 

Tâl Rhiant a Rennir Statudol

Gallwch gael Tâl Rhiant a Rennir Statudol:

  • os ydych yn gyflogai neu’n weithiwr
  • os ydych yn gymwys i gael Tâl Tadolaeth Statudol a’ch partner yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, Lwfans Mamolaeth neu Dâl Mabwysiadu Statudol.

Mae rhaid i fam y plentyn ddod â’i thâl mamolaeth neu Lwfans Mamolaeth i ben er mwyn i’r naill ohonoch fod yn gymwys am Dâl Rhiant a Rennir Statudol.

Sut i wneud cais am absenoldeb a thâl tadolaeth

Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Statudol

I wneud cais am absenoldeb a thâl tadolaeth, mae rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn mynd ar absenoldeb tadolaeth ac yn gofyn am dâl tadolaeth o leiaf 15 wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig eich babi.

Os ydych yn mabwysiadu, mae rhaid i chi ddweud wrthynt:

  • 28 diwrnod cyn i chi fod eisiau’ch tâl tadolaeth ddechrau, neu
  • o fewn saith diwrnod wedi i’r asiantaeth fabwysiadu ddweud wrthych fod babi wedi ei ddewis ar eich cyfer am absenoldeb tadolaeth.

Absenoldeb a Thâl Rhiant a Rennir

Mae rhaid i chi rhoi gwybod i’ch cyflogwr yn ysgrifenedig os dymunwch ddechrau Absenoldeb neu Dâl Rhiant a Rennir

Mae rhaid i'ch partner wneud cais i'w gyflogwr ei hun.

Mae rhaid i chi roi rhybudd ysgrifenedig i'ch cyflogwr os ydych am ddechrau Absenoldeb neu Dâl Rhannu Rhiant.

Gellir rhoi rhybudd ar yr un pryd os ydych yn gymwys ar gyfer y ddau.

Os newidiwch eich meddwl ynglŷn â’r dyddiadau neu faint o Absenoldeb neu Dâl y bwriadwch eu cymryd, mae rhaid i chi roi wyth wythnos o rybudd o leiaf cyn cychwyn unrhyw gyfnod o absenoldeb.

Os credwch fod eich cyflogwr yn bod yn annheg                      

Os nad yw’ch cyflogwr yn meddwl bod angen iddynt roi tâl tadolaeth i chi, neu rydych yn teimlo nad ydynt yn talu’r swm iawn:

  • darganfyddwch a yw'r hyn sy'n digwydd yn wahaniaethu - mae mwy o wybodaeth ar wefan Cyngor ar Bopeth
  • siaradwch â'ch cyflogwr - efallai y gallwch ei ddatrys yn anffurfiol. Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, ceisiwch siarad â'ch undeb llafur neu gynrychiolydd cyflogwyr os oes gennych un – neu ewch i wefan Acas website i weld a allant helpu.
  • os na allwch ddatrys y mater, gallwch wneud cwyn ysgrifenedig - darganfyddwch fwy ar Gyngor ar Bopeth.

Os nad ydych yn gymwys am dâl ac absenoldeb tadolaeth?

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.