Absenoldeb a thâl mamolaeth

Er mwyn eich helpu i gymryd amser o’r gwaith cyn ac ar ôl i’ch babi gael ei eni, byddwch yn gymwys i gael absenoldeb mamolaeth a thâl mamolaeth. Darganfyddwch fwy am beth mae gennych hawl iddo.

Beth yw Absenoldeb Mamolaeth Statudol?

Pan fyddwch yn cael babi, mae gennych hawl i Absenoldeb Mamolaeth Statudol am flwyddyn - nid oes gwahaniaeth ers faint ydych wedi bod yn eich swydd.

Fodd bynnag, er bod gennych hawl i 52 wythnos o’r gwaith, dim ond am 39 ohonynt y byddwch yn derbyn tâl mamolaeth os ydych yn gymwys.

I ddarganfod mwy am eich hawl i absenoldeb mamolaeth, gwelwch GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

 

Pryd fydd yn dechrau?

Y cynharaf y gall eich absenoldeb mamolaeth â thâl ddecrhau yw’r 11eg wythnos cyn y disgwylir i’ch babi gael ei eni.

Os caiff eich babi ei eni’n gynnar, mae’ch absenoldeb yn cychwyn y diwrnod wedi’r enedigaeth.

Nid oes rhaid i chi gymryd y 52 wythnos mae gennych hawl i’w gael, ond mae rhaid i chi gymryd o leiaf bythefnos i ffwrdd o’r gwaith ar ôl i’r babi gael ei eni.

Absenoldeb Mamolaeth Arferol, Absenoldeb Mamolaeth Atodol ac Absenoldeb Rhieniol a Rennir

Gall rhieni cymwys newydd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ddefnyddio Absenoldeb Rhiant a Rennir

Mae eich absenoldeb mamolaeth yn cynnwys dwy ran wahanol:

  • Absenoldeb Mamolaeth Arferol: dyma’r chwe mis cyntaf – neu 26 wythnos. Os byddwch yn dychwelyd i’r gwaith yn ystod y cyfnod hwn, mae gennych hawl i ddychwelyd i’r un swydd ag yr oeddech yn ei gwneud cyn i chi fynd ar absenoldeb mamolaeth.
  • Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol: dyma’r ail gyfnod o chwe mis ac mae’n effeithio ar yr hawliau a fydd gennych wrth ddychwelyd i’r gwaith. Os byddwch yn cymryd mwy na chwe mis o absenoldeb, mae’r hawl gennych i ddychwelyd i’r un swydd oni bai nad yw ar gael mwyach. Mewn sefyllfa o’r fath mae rhaid rhoi swydd debyg i chi gyda’r un cyflog ac amodau.

Eich hawliau ar absenoldeb mamolaeth

Tra byddwch ar absenoldeb mamolaeth, byddwch yn dal i allu derbyn yr holl hawliau gweithiwr rydych yn eu derbyn gan y gwaith fel arfer – er enghraifft:

  • gwyliau â thâl
  • cael eich diogelu rhag cael eich diswyddo’n annheg
  • taliadau a hawliau pensiwn yn ystod eich talu’r Tâl Mamolaeth Statudol
  • unrhyw fuddion gweithiwr eraill – er enghraifft aelodaeth o gampfa, yswiriant meddygol – ar gyfer cyfnod llawn yr absenoldeb mamolaeth.

Beth yw Tâl Mamolaeth Statudol?

Tâl Mamolaeth Statudol yw’r lleiafswm cyfreithiol mae rhaid i’ch cyflogwr eich talu tra’ch bod ar absenoldeb mamolaeth.

Byddwch yn cael Tâl Mamolaeth Statudol os ydych:

  • yn ennill o leiaf £123 yr wythnos ar gyfartaledd
  • wedi gweithio i’ch cyflogwr am 26 wythnos pan fyddwch yn cyrraedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad geni disgwyliedig.

Os ydych yn hunangyflogedig - neu ddim yn gymwys am Dâl Mamolaeth Statudol - efallai y bydd gennych hawl i Lwfans Mamolaeth.

Faint o Dâl Mamolaeth Statudol fyddaf yn ei gael?

Mae faint o dâl mamolaeth a gewch yn newid yn ystod eich absenoldeb mamolaeth.

Wedi 39 wythnos, nid oes rhaid i’ch cyflogwr dalu unrhyw beth.

Mae’r tabl hwn yn dangos faint fyddwch yn ei gael ar bob cam o’ch absenoldeb mamolaeth ym mlwyddyn dreth 2023/24:

Absenoldeb Mamolaeth Statudol Tâl Mamolaeth a Thadolaeth Statudol

Chwe wythnos cyntaf

90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog cyn treth

Y 33 wythnos nesaf

£172.48 yr wythnos (am 2023/24) neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog (p’un bynnag yw’r lleiaf)

Y 13eg wythnos nesaf

Di-dâl

Dyma’r lleiafswm y mae rhaid i’ch cyflogwr ei dalu i chi.

Efallai y cewch fwy - yn ddibynnol ar beth sydd wedi ei gynnwys yn eich contract.

Mae rhai cyflogwyr yn cynnig buddion mamolaeth sy’n fwy hael na’r Tâl Mamolaeth Statudol.

Ond cofiwch, os byddwch yn penderfynu peidio â mynd yn ôl i’r gwaith ar ôl 52 wythnos, efallai y bydd rhaid i chi dalu unrhyw dâl ychwanegol yn ôl.

Fodd bynnag, cewch gadw’r gweddill. Felly, os nad ydych yn siŵr am ddychwelyd, mae’n werth hawlio o hyd.

Os ydych eisiau gwybod faint o absenoldeb mamolaeth mae gennych hawl i’w gael, dylai fod yn eich contract neu siaradwch gyda’ch bos neu adran adnoddau dynol.

Tâl Mamolaeth Ychwanegol

Efallai bydd rhai cyflogwyr yn cynnig tâl mamolaeth ychwanegol i chi, a elwir weithiau’n gynllun mamolaeth cyflogwr, Tâl Mamolaeth Galwedigaethol neu Dâl Mamolaeth Gytundebol. Bydd hwn yn fwy na Thâl Mamolaeth Statudol.

Os na fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl beichiogrwydd efallai bydd rhaid i chi dalu’n ôl yr hyn a gafodd ei dalu i chi dros y Tâl Mamolaeth Statudol.

Er mwyn darganfod beth gallech fod a hawl iddo, bydd angen i chi edrych beth yw telerau ac amodau eich cyflogaeth.

Am fwy o wybodaeth ar dâl mamolaeth galwedigaethol, ewch i wefan Maternity ActionYn agor mewn ffenestr newydd

Tâl Mamolaeth Statudol os ydych yn weithiwr asiantaeth

Gall gweithwyr asiantaeth gael Tâl Mamolaeth Statudol os ydynt yn cwrdd a’r amodau cymhwysol. Mae rhaid eich bod:

  • wedi cael eich cyflogi gan yr un asiantaeth am 26 wythnos pan fyddwch yn cyrraedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad geni disgwyliedig
  • yn gweithio i’r asiantaeth yn y cyfan neu ran o’ch 15fed wythnos cyn y dyddiad geni disgwyiedig
  • wedi ennill o leiaf £123 yr wythnos ar gyfartaledd am y 2 fis blaenorol.

Absenoldeb a Thâl Rhiant a Rennir

Gall rhieni cymwys newydd rannu hyd at 50 wythnos o absenoldeb rhiant a 37 wythnos o dâl gyda’u partner.

Os ydych yn gymwys, gallwch gymryd yr absenoldeb mewn hyd at dri bloc gwahanol yn hytrach na’r cyfan ar unwaith.

Mae rhaid i chi roi rhybudd rhwymol i’ch cyflogwr i derfynu eich absenoldeb mamolaeth ar eich cyfer chi neu’ch partner i fod yn gymwys am Absenoldeb Rhiant a Rennir.

Mae rhaid i chi hefyd derfynu unrhyw dâl mamolaeth neu Lwfans Mamolaeth - hyd yn oed os nad ydych yn cael absenoldeb mamolaeth.

A ydych yn gymwys i gael Absenoldeb Rhiant a Rennir Statudol?

I fod yn gymwys am Absenoldeb Rhiant a Rennir, mae rhaid i chi fod yn gymwys am un o'r canlynol:

  • tâl neu absenoldeb mamolaeth
  • tâl neu absenoldeb mabwysiad
  • Lwfans Mamolaeth.

Mae rhaid eich bod chi neu'ch partner:

  • wedi gweithio gyda'r un cyflogwr am 26 wythnos erbyn y 15fed wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig y babi
  • yn aros gyda'r cyflogwr yn ystod yr Absenoldeb Rhiant a Rennir.

Yn ystos y 66 wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig y babi, mae rhaid i'r llall ohonoch:

  • wedi gweithio am 26 wythnos (nid oes rhaid iddynt fod yn olynol)
  • wedi ennill cyfanswmo £390 o leiaf mewn 13 o'r wythnosau hynny (nid oes rhaid iddynt fod yn olynol).

Gallwch gael Tâl Rhiant a Rennir Statudol os:

  • rydych yn gyflogai neu’n weithiwr
  • rydych yn gymwys am Dâl Mamolaeth Statudol, Lwfans Mamolaeth neu Dâl Mabwysiadu Statudol ac mae’ch partner yn gymwys am Dâl Tadolaeth Statudol.

Absenoldeb a thâl salwch os ydych yn hunangyflogedig

Os ydych yn hunangyflogedig ni allwch gael Tâl Mamolaeth Statudol. Efallai y gallwch gael Lwfans Mamolaeth.

Sut i wneud cais am absenoldeb a thâl mamolaeth

Absenoldeb a Thâl Mamolaeth Statudol

I wneud cais am Absenoldeb a Thâl Mamolaeth Statudol, mae rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn mynd ar absenoldeb mamolaeth a gofyn am famolaeth o leiaf 15 wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig eich babi.

I hysbysu’ch cyflogwr yn ysgrifenedig, gallwch lawrlwytho ein templed o lythyr (DOCX, 15KB)

Os ydych yn mabwysiadu, mae rhaid i chi ddweud wrthynt:

  • o fewn saith diwrnod wedi i’r asiantaeth fabwysiadu ddweud wrthych fod plentyn wedi ei ddewis ar eich cyfer ar gyfer absenoldeb mamolaeth
  • 28 diwrnod cyn eich bod eisiau i’ch tâl mamolaeth gychwyn

Mae rhaid i chi roi prawf i’ch cyflogwr o’ch beichiogrwydd i gael tâl mamolaeth. Gallai hyn gynnwys:

  • eich tystysgrif MATB1, neu
  • llythyr gan eich meddyg neu fydwraig.

Absenoldeb a Thâl Rhiant a Rennir

Mae rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr os dymunwch gychwyn Absenoldeb neu Dâl Rhiant a Rennir.

Mae rhaid i’ch partner wneud cais gyda’u cyflogwr eu hunain.

Yn y rhan fwyaf o achosion, dylech roi o leiaf wyth wythnos o rybudd i’ch cyflogwr.

Gallwch lawrlwytho ffurflen gais o wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Dychwelyd i’r gwaith

Cyn i chi fynd ar Absenoldeb Mamolaeth, byddwch angen dweud wrth eich cyflogwr am faint o amser rydych yn bwriadu bod i ffwrdd o’r gwaith a’ch dyddiad dychwelyd disgwyliedig.

Gall llawer ddigwydd tra byddwch ar absenoldeb mamolaeth ac mae gennych hawl i newid eich meddwl am ddiwedd eich absenoldeb mamolaeth.

Ond mae rhaid i chi roi wyth wythnos o rybudd i’ch cyflogwr os ydych yn awyddus i ddychwelyd yn gynt neu’n hwyrach.

Os credwch fod eich cyflogwr yn bod yn annheg

Os nad yw’ch cyflogwr yn meddwl bod angen iddynt roi tâl mamolaeth i chi - neu os ydych yn teimlo nad ydynt yn talu’r swm iawn – mae pethau y gallwch ei wneud:

  1. Darganfyddwch os yw’r hyn sy’n digwydd yn gwahaniaethu. Darllenwch fwy am wahaniaethu ar wefan Cyngor Ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
  2. Siaradwch gyda’ch cyflogwr – efallai’r adran Adnoddau Dynol. Efallai y byddwch yn gallu datrys y mater yn anffurfiol. Os nad ydych yn siŵr ble i gychwyn, ceisiwch siarad gyda’ch cynrychiolwr undeb llafur neu weithiwr os oes gennych un. Neu gall Acas fod o help - darganfyddwch fwy ar wefan AcasYn agor mewn ffenestr newydd
  3. Os na allwch ddatrys y mater, gallwch wneud cwyn ysgrifenedig; darganfyddwch fwy ar wefan Cyngor Ar Bopeth.Yn agor mewn ffenestr newydd

Gall y gwefannau hyn gynnig mwy o help a chyngor Equality Advisory & Support Service (EASS)

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.