Mae gofal plant yn ddrud a gall gymryd rhan fawr o gyllideb eich teulu. Mae’r llywodraeth yn cynnig cymorth fel Gofal Plant Di-dreth sy’n cynnig hyd at £2,000 y plentyn bob blwyddyn.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Gwiriwch pa help y gallech ei gael gyda chostau gofal plant
- Beth yw gofal Plant Di-dreth?
- Sut i wneud cais am Ofal Plant Di-dreth
- Oes gennych chi hawl i 15 neu 30 awr o help gyda chostau gofal plant?
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Treth Gwaith - yr elfen gofal plant
- Meithrinfeydd yn y gweithle
- Neiniau a theidiau yn gofalu am wyrion
Gwiriwch pa help y gallech ei gael gyda chostau gofal plant
Defnyddiwch y gyfrifiannell gofal plant ar GOV.UK i ddarganfod faint o help gallwch ei gael tuag at gostau gofal plant.
Beth yw gofal Plant Di-dreth?
Cynllun gan y llywodraeth yw Gofal Plant Di-dreth i helpu rhieni sy’n gweithio gyda chost gofal plant yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Gall dalu am:
- gwarchodwyr plant, meithrinfeydd a nanis cofrestredig
- brecwast cofrestredig, clybiau ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae, cynlluniau gwyliau
- ysgolion cofrestredig (heb gynnwys ffioedd ysgol, oni bai bod eich plentyn yn is na'r oedran ysgol gorfodol)
- gweithwyr gofal cartref sy’n gweithio i asiantaeth gofal cartref cofrestredig.
Gallwch ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth ar yr un pryd â defnyddio 15 awr neu 30 awr o ofal plant am ddim.
Ond, ni allwch ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth ar yr un pryd â:
- Credyd Cynhwysol
- Credydau treth
- Talebau Gofal Plant
Os ydych yn cael cymorth gyda chostau gofal plant o Gredyd Cynhwysol neu gredydau treth yn barod, bydd agor cyfrif Gofal Plant Di-dreth yn stopio eich taliadau budd-dal i gyd, nid yn unig y rhai sydd am ofal plant.
Os nad ydych yn siŵr os byddwch yn well eich byd yn defnyddio Gofal Plant Di-dreth neu fudd-daliadau’r wladwriaeth, siaradwch ag ymgynghorydd annibynnol ar fudd-daliadau ar Advice LocalYn agor mewn ffenestr newydd
Pwy all ei gael Gofal Plant Di-dreth?
I fod yn gymwys, fel rheol mae angen i riant neu rieni:
- bod yn gweithio a bod â phlant o dan 12 oed (neu o dan 17 oed os oes gan eich plentyn anabledd). Ond nid ydynt yn gymwys mwyach o'r 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 11 oed. Mae plant a fabwysiadwyd yn gymwys, ond nid yw plant maeth.
- ennill o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog BywYn agor mewn ffenestr newydd am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.
- heb fwy na £ 100,000 o incwm net wedi'i addasu bob blwyddyn, fesul rhiant. Darganfyddwch fwy am incwm net wedi'i addasu ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig. Os ydych chi neu’ch partner ar gyfnod mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu efallai y byddwch yn dal yn gymwys. Gallwch hefyd wneud cais os ydych chi’n dechrau neu’n ail-ddechrau gwaith o fewn y 31 diwrnod nesaf.
Oes gennych chi gyfrifoldebau gofalu, neu os ydych chi’n sâl neu’n anabl ac felly methu gweithio, gallwch ddal i fod yn gymwys i gael cyfrif gofal plant os yw un rhiant yn gweithio ac nad yw’r llall yn gallu gweithio ac yn derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:
- Lwfans Gofalwr
- Budd-dal Analluogrwydd neu Fudd-dal Analluogrwydd tymor hir
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau
- Credydau yswiriant gwladol oherwydd analluogrwydd neu allu cyfyngedig i weithio.
Faint yw Gofal Plant Di-dreth?
Gallwch roi arian i mewn i gyfrif gofal plant, ac am bob £8 rydych yn ei dalu, bydd y llywodraeth yn talu £2 i mewn. Mae terfyn ar faint gall y llywodraeth rhoi, gydag uchafswm o £2,000 y plentyn bob blwyddyn (neu £4,000 ar gyfer plant anabl).
Er enghraifft, os ydych yn talu £8,000 ar gyfer un plentyn, bydd y llywodraeth yn talu £2,000 i’r cyfrif, ac fel arfer caiff yr arian ei brosesu'r diwrnod gwaith nesaf.
Os ydych yn talu gyda cherdyn debyd, mae'n cymryd un diwrnod gwaith i brosesu'r taliad, tra bod trosglwyddiadau banc yn cymryd hyd at dri diwrnod gwaith. Mae cyfraniadau’r llywodraeth wedi'u cyfyngu i £500 bob tri mis neu £1,000 i blentyn anabl. I gael y cyfraniad mwyaf rhaid i chi gyfrannu at y cyfrif bob chwarter.
Gall pobl eraill, fel neiniau a theidiau neu ffrindiau teulu, hefyd dalu i’r cyfrif gofal plant.
Sut i wneud cais am Ofal Plant Di-dreth
Bob tri mis, bydd angen i chi wirio a chadarnhau eich bod yn gymwys o hyd - defnyddiwch eich cyfrif gofal plant ar-lein ar gyfer hyn. Byddwch yn derbyn nodyn atgoffa i wneud hyn.
Os nad yw eich amgylchiadau wedi newid, cadarnhewch hyn. Os yw eich sefyllfa wedi newid, bydd y llywodraeth yn ail-wirio a ydych yn gymwys o hyd.
Oes gennych chi hawl i 15 neu 30 awr o help gyda chostau gofal plant?
Efallai bydd gennych hawl i rai gofal plant am ddim. Mae'n bwysig gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer y gofal plant am ddim sydd ar gael, fel nad ydych yn colli allan.
Mae faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar ba wlad rydych yn byw ynddo. Gallwch ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth ar yr un pryd â defnyddio 15 neu 30 awr o ofal plant am ddim.
Gallwch ddefnyddio’r oriau am ddim hyn gyda darparwyr gofal plant cofrestredig fel:
- meithrinfeydd a dosbarthiadau meithrin
- cylchoedd chwarae a chyn-ysgolion
- gwarchodwyr plant cofrestredig
- Canolfannau Plant Sure StartYn agor mewn ffenestr newydd
- Cychwyn Cadarn yng NghymruYn agor mewn ffenestr newydd
- Sure Start yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd
- cynlluniau gwyliau, clybiau brecwast ac ar ôl ysgol.
Dewch o hyd i'r opsiwn gofal plant iawn i chi gyda'n canllaw Opsiynau gofal plant
Gofal plant newydd a ariennir gan y llywodraeth
Lloegr
Efallai y gallwch gael:
- 15 awr o ofal plant am ddim ar gyfer eich plentyn rhwng 9 mis a dwy flwydd oed, a
- hyd at 30 awr ar gyfer plant rhwng tri a phedwar oed.
O fis Medi 2025, bydd rhieni sydd â phlant rhwng naw mis a phedwar blwydd oed sy'n gweithio yn gymwys i gael 30 awr o ofal plant.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael gofal plant am ddim
Mae'r cynllun hwn fel arfer ar gael i rieni a gofalwyr sy'n gweithio. Ar gyfer cyplau, mae’n rhaid i’r ddau riant fod yn gweithio, neu os ydych chi’n unig riant mae angen i chi fod yn gweithio i hawlio’r oriau am ddim.
Mae cymhwysedd fel arfer yn seiliedig ar:
- oed eich plentyn
- eich statws gwaith neu incwm.
Os ydych chi, neu’ch partner, ar absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu, neu os nad yw un ohonoch yn gallu gweithio oherwydd eich bod yn anabl neu’n ofalwr, gallech fod yn gymwys i gael oriau gofal plant am ddim o hyd.
Gallwch wirio a ydych yn gymwys i gael gofal plant am ddim yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i wneud cais am ofal plant am ddim
Gallwch wneud hyn ar-lein trwy sefydlu cyfrif gofal plant yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Mae rhai cynghorau yn rhestru darparwyr sy'n cynnig yr oriau ychwanegol ar eu gwefan, neu gallwch gysylltu â’ch darparwr gofal plant i weld a ydyn nhw’n eu cynnig. Gallwch ddod o hyd i ddarparwyr gofal plant cofrestredig Ofsted yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Cymru
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais gan ddefnyddio’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol. Darganfyddwch fwy ar wefan FamilyPointYn agor mewn ffenestr newydd (Opens in a new window)
Mae rhai cynghorau yn rhestru darparwyr gofal plant cymeradwy – gwiriwch a yw darparwyr wedi’u cymeradwyo ar wefan Arolygiaeth Gofal CymruYn agor mewn ffenestr newydd
Gall rhai plant dwy a thair oed sy’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg gael gofal plant rhan-amser am ddim am ddwy awr a hanner y dydd, bum niwrnod yr wythnos am 39 wythnos. Dewch o hyd i'ch gwasanaeth Dechrau’n Deg lleol ar wefan FamilyPoint Yn agor mewn ffenestr newyddYn agor mewn ffenestr newydd
Gall plant tair a phedair oed gael 10 awr o addysg gynnar am ddim yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn, mewn ysgol neu feithrinfa wedi’i hariannu. Gelwir hyn yn Gyfnod Sylfaen.
Mae gan rai plant tair a phedair oed hawl i 20 awr ychwanegol, gan ddod â’u cyfanswm i 30 awr am 48 wythnos o’r flwyddyn.
I fod yn gymwys am yr 20 awr ychwanegol o ofal plant am ddim:
- rhaid i’r ddau riant fod yn gweithio - neu rhaid i’r unig riant fod yn gweithio mewn teulu un rhiant. A rhaid byw yng Nghymru yn barhaol
- Dros y tri mis nesaf mae'n rhaid i chi a'ch partner (os oes gennych un) ddisgwyl ennill o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd. Darganfyddwch fwy yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- rhaid i bob rhiant ennill llai na £100,000 y flwyddyn.
Os na ddefnyddiwch eich holl oriau mewn un wythnos, ni allwch eu defnyddio mewn wythnos arall. Mae llawer o ddarparwyr yn cyfartaleddu’r oriau dros y flwyddyn, felly mae gennych gyfwerth â 22 awr yr wythnos. Gofynnwch i’ch darparwr sut maen nhw’n gwneud hyn.
Yr Alban
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais a chael gwybod mwy am ofal plant am ddim ac addysg yn yr Alban ar y wefan mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Gall rhai plant dwy oed gael 16 awr o ofal plant yr wythnos yn ystod y tymor os ydyn nhw’n derbyn rhai budd-daliadau.
Mae pob plentyn tair a phedair oed yn gymwys am 16 awr yr wythnos o ddysgu cynnar a gofal plant am ddim yn ystod y tymor.
Gogledd Iwerddon
Mae gan blant hawl io leiaf 12.5 awr o addysg gyn-ysgol am ddim yr wythnos am 38 wythnos yn y flwyddyn cyn iddynt ddechrau Ysgol Gynradd Un.
O 1 Medi 2024, os ydych yn cael Gofal Plant Di-dreth ar gyfer plant nad ydynt yn yr ysgol gynradd eto, efallai y byddwch yn gymwys i gael 15% ychwanegol ar gyfer gofal plant os byddwch yn cofrestru erbyn 20 Awst 2024.
Ariennir y cynllun tan ddiwedd mis Mawrth 2025. Darganfyddwch fwy am y Northern Ireland Childcare Subsidy SchemeYn agor mewn ffenestr newydd
Credyd Cynhwysol
Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal i bobl sydd mewn ac allan o waith. Mae’n disodli chwe budd-dal presennol, gan gynnwys Credyd Treth Gwaith.
Gall teuluoedd sy’n gweithio sy’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol hawlio hyd at 85% o’u costau gofal plant misol.
Rhaid i chi dalu am y gofal plant ymlaen llaw yn gyntaf a darparu derbynebau i gael arian yn ôl. Dim ond yn ystod eich cyfnod asesu y gallwch chi hawlio am ofal plant. Os na allwch chi dalu’r gost ymlaen llaw honno, efallai y byddwch chi’n gallu cael help gyda hynny drwy’r Cymorth Hyblyg.Yn agor mewn ffenestr newydd
Os oes gennych chi gynnig swydd, gallwch ofyn am help gyda chostau gofal plant am y mis cyn i chi ddechrau gweithio. Siaradwch â'ch anogwr gwaith ar unwaith am eich cynnig swydd a pha gymorth y gallwch ei gael.
Gallwch hefyd gael help gyda chostau gofal plant am o leiaf fis ar ôl i'ch swydd ddod i ben i gadw'ch gofal plant i fynd wrth i chi newid rhwng swyddi. Darganfyddwch fwy yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Pwy sy’n ei gael?
Fel arfer bydd angen i chi a/neu’ch partner:
- bod yn gweithio (does dim ots faint o oriau rydych chi neu’ch partner yn gweithio), neu
- bod gyda chynnig swydd.
Faint ydyw?
Gallwch gael £1014.63 y mis am un plentyn, a £1739.37 y mis ar gyfer dau neu fwy o blant.
Gallwch dim ond ei hawlio os yw'ch gofal plant yn cael ei ddarparu gan ddarparwr gofal plant cofrestredig neu wedi'i gymeradwyo gan y llywodraeth. Am fwy o wybodaeth, ewch i GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol
Sut i wneud cais am eich costau gofal plant
Telir costau gofal plant mewn ôl-ddyledion. Mae hyn yn golygu y byddwch fel arfer yn talu’r costau eich hun, yn hysbysu’r costau trwy eich cyfrif ar-lein ac yn cael eich talu’n ôl ar eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf.
Mae gennych tan ddiwedd yr ail gyfnod asesu ar ôl i’r gofal plant ddigwydd i hysbysu’r costau hyn.
Er enghraifft, os mai’ch dyddiad asesu (y dyddiad y gwnaethoch ddechrau hawlio a chael eich taliad Credyd Cynhwysol) yw’r 10fed a’ch bod am hawlio costau gofal plant a dalwyd gennych ym mis Medi yn ôl, mae gennych tan 10 Tachwedd i roi gwybod am y costau.
Dim ond yn ystod y cyfnod asesu hwnnw y gallwch hawlio costau gofal plant yn ôl. Felly os ydych yn talu costau gofal plant fwy na mis ymlaen llaw, er enghraifft tymor cyfan, byddwch yn anfon eich adroddiad yn yr un ffordd ac yn cael eich talu'n ôl mewn rhandaliadau dros uchafswm o dri chyfnod asesu.
Os ydych yn meddwl y byddwch yn cael trafferth talu costau gofal plant ymlaen llaw, siaradwch â’ch anogwr gwaith.
Gogledd Iwerddon
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon a'ch bod yn gymwys i’r elfen gofal plant o Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill sy'n seiliedig ar incwm, gallwch wneud cais am grant heb fod angen i’w ad-dalu, hyd at £1,500 o'r Gronfa Ddisgresiwn yr Ymgynghorydd (ADF) trwy Anogwr Gwaith yn eich Canolfan Gwaith a Budd-daliadau leol.
Telir hwn ymlaen llaw i ddarparwr gofal plant cofrestredig. Bydd unrhyw swm a ddyfernir am gostau gofal plant yn cael ei gynnwys o fewn y terfyn uchaf o £1,500 sy'n daladwy am ddyfarniadau ADF mewn cyfnod o 12 mis.
Darganfyddwch fwy am yr Gronfa Ddisgresiwn yr Ymgynghorydd (ADF) yn indirectYn agor mewn ffenestr newydd
Credyd Treth Gwaith - yr elfen gofal plant
Credyd Treth Gwaith yw un o’r budd-daliadau sy’n cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol.
Os ydych eisoes yn cael Credyd Treth Gwaith, gallwch barhau i’w hawlio nes bod eich amgylchiadau’n newid, neu os gofynnir i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Ni allwch wneud cais newydd am Gredyd Treth Gwaith.
Gallwch wneud gwiriad cyflym i weld a yw’n werth symud i neu hawlio Credyd Cynhwysol gan ddefnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadau. Ond os ydych eisoes yn cael budd-daliadau (yn enwedig credydau treth) dylech siarad ag arbenigwr budd-daliadau a fydd yn gallu eich helpu i weithio allan beth sydd orau i chi cyn i chi wneud cais oherwydd ni allwch fynd yn ôl at eich hen fudd-daliadau unwaith rydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Mae Advice LocalYn agor mewn ffenestr newydd yn lle da i ddechrau i ddod o hyd i arbenigwr budd-daliadau yn eich ardal.
Darganfyddwch fwy am symud o Gredyd Treth Gwaith i Gredyd Cynhwysol
Beth yw’r elfen gofal plant?
Yr ‘elfen gofal plant’ yw un o’r elfennau, neu’r cydrannau, sy’n ffurfio Credyd Treth Gwaith.
Os ydych yn gymwys, gallai dalu hyd at 70% o’ch costau gofal plant.
Pwy sy’n ei gael?
Gallwch wneud cais am yr elfen gofal plant o’r Credyd Treth Gwaith os ydych yn:
- Gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos (os ydychyn gwpl, mae angen i’r ddau ohonoch weithio o leiaf 16 awr yr wythnos).
- Talu am ofal plant sydd wedi’i gofrestru neu ei gymeradwyo. Darganfyddwch fwy am gostau gofal plant ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Faint yw’r elfen gofal plant?
Gyda'r elfen gofal plant, gallwch gael help gyda hyd at 70% o’ch costau gofal plant.
Mae'r tabl isod yn dangos faint y gallech chi ei gael ym mlwyddyn dreth 2024/2025:
Nifer o blant | Os ydych yn talu hyd at: | Gallech gael hyd at: |
---|---|---|
1 |
£175 yr wythnos |
£122.50 yr wythnos |
2 neu fwy |
£300 yr wythnos |
£210 yr wythnos |
Os ydych yn talu mwy na hyn am ofal plant, dim ond yr uchafswm a restrir uchod y byddwch chi'n ei gael o hyd.
Os ydych yn gymwys ar gyfer yr elfen gofal plant, ni fyddwch o reidrwydd yn cael y symiau llawn.
Bydd faint a gewch yn dibynnu ar:
- eich incwm
- yr oriau rydych chi’n gweithio
- eich costau gofal plant.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Treth Gwaith
Meithrinfeydd yn y gweithle
Mae rhai cyflogwyr yn sefydlu eu meithrinfa eu hunain, naill ai yn eich gweithle neu mewn lleoliad arall.
Eich cyflogwr sy’n penderfynu faint rydych yn ei dalu am fynediad i feithrinfa yn y gweithle.
Ond p'un a yw am ddim neu â gostyngiad, mae’n cyfrif fel budd di-dreth o’ch swydd.
Gofynnwch eich cyflogwr a yw’n cynnig meithrinfa yn y gweithle
Neiniau a theidiau yn gofalu am wyrion
Ydych chi’n nain neu daid neu berthynas arall sy’n gofalu am blant tra bod eu rhieni yn y gwaith? Yna mae credydau Yswiriant Gwladol ar gael i’ch helpu chi i barhau i adeiladu’ch hawl i gael Pensiwn y Wladwriaeth yn ystod yr amser hwn.
Bydd angen 35 mlynedd gymwys arnoch i gael y Pensiwn y Wladwriaeth llawn newydd.
Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Gelwir y credydau Yswiriant Gwladol hyn yn gredydau Gofal Plant Oedolion Penodedig ac mae angen i chi wneud cais amdanynt.