Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae maes benthyca newydd wedi bod yn cynyddu mewn poblogrwydd - benthyca cyfoed i gyfoed, neu fenthyca cymdeithasol. Y syniad yw bod y bobl sy’n dymuno cael benthyg arian yn cael eu paru â’r rheini a fydd yn rhoi ei fenthyg.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw benthyca cyfoed i gyfoed?
Mae hon yn ffurf ar gael benthyg a rhoi benthyg rhwng unigolion, neu ‘gyfoedion’, heb sefydliad ariannol traddodiadol fel banc neu gymdeithas adeiladu.
Os ydych chi eisiau cael benthyg arian, mae’r gwefannau cyfoed i gyfoed yn eich paru chi gyda phobl sy’n fodlon rhoi benthyg yr arian i chi.
Mae’r cwmnïau sydd wrth wraidd y gwasanaethau hyn (a elwir yn ‘lwyfannau’) yn gweithredu fel cyfryngwyr rhwng y sawl sy’n cael benthyg yr arian a’r darparwyr.
Gall benthycwyr cyfoed i gyfoed gynnig cyfraddau llog is na ‘benthyciadau traddodiadol’, fel banc. Bydd a yw hyn yn berthnasol i chi ai peidio yn dibynnu ar ffactorau penodol megis eich statws credyd.
Mae rhai o’r bargeinion gorau ddim ond ar gael os oes gennych chi hanes credyd gwych a dim problemau blaenorol gyda methu taliadau.
Os byddwch chi’n ymgeisio am fenthyciad, bydd gwiriad credyd yn cael ei gynnal arnoch chi gan ddefnyddio asiantaeth gwirio credyd a rhaid pasio gwiriadau’r cwmni cyfoed i gyfoed ei hun.
Manteision benthyca cyfoed i gyfoed
-
Gall benthyciadau cyfoed i gyfoed fod ar gael ar gyfradd llog is na’r hyn a gynigir gan fanciau neu gymdeithasau adeiladu, yn enwedig os oes gennych chi statws credyd da iawn.
-
Nid oes isafswm benthyg gofynnol gan rai gwefannau cyfoed i gyfoed a allai fod yn addas i chi os mai dim ond cael benthyg swm bach am gyfnod byr o amser ydych chi.
-
Maent yn cynnig opsiwn arall os ydych chi’n ei chael yn anodd cael benthyciad gan fanc neu gymdeithas adeiladu, yn ddibynnol ar eich statws credyd.
Anfanteision benthyca cyfoed i gyfoed
-
Gallai cyfraddau llog benthyciadau cyfoed i gyfoed fod yn uwch na banciau stryd neu gymdeithasau adeiladu, gan ddibynnu ar eich sgôr credyd.
-
Fe allai fod angen i chi dalu ffi i’r llwyfan am drefnu’r benthyciad, hyd yn oed os nad yw’r hyn rydych yn gofyn amdano gan unrhyw un benthyciwr yn y swm cyfan rydych chi am ei fenthyg. Gall hyn olygu y bydd rhaid i chi dalu nifer o ffioedd os oes rhaid i chi wneud cais i fwy nag un benthyciwr i gwmpasu’r cyfanswm rydych chi'n chwilio amdano
-
Efallai y byddwch chi’n methu cael benthyciad os oes gennych chi statws credyd gwael neu os ydych chi wedi rheoli’ch materion ariannol yn wael yn y gorffennol.
-
Efallai na fydd gennych yr un amddiffyniad gan y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol (FOS) neu'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Mae'n bwysig gwirio pa amddiffyniad sydd gennych cyn i chi gymryd y benthyciad.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Faint mae benthyciadau cyfoed i gyfoed yn costio?
Mae’r cyfraddau llog ar fenthyciadau cyfoed i gyfoed yn amrywio cryn dipyn gan ddibynnu ar faint o risg ydych chi.
- Os oes gennych chi sgôr credyd da iawn, efallai y gallech chi gael benthyg ar gyfradd llog sydd mor isel â thua 3% ond mewn rhai achosion fe allai’r gyfradd fod yn amrywiol, sy’n golygu y gall y gyfradd godi neu ostwng bob mis, felly mae angen i chi wirio.
- Os oes gennych chi hanes credyd gwael, gallai eich cyfradd llog fod mor uchel â 30% (ond mae’n fwy tebygol y byddwch chi’n cael eich gwrthod).
Yn gyffredinol bydd llwyfannau cyfoed i gyfoed yn codi ffi am drefnu’r benthyciadau.
Sut mae gwneud cais am fenthyciad cyfoed i gyfoed?
I wneud cais am fenthyciad, ewch i un o’r safleoedd benthyca a chofrestru, gan ddewis faint o arian rydych chi’n dymuno ei fenthyg ac am ba gyfnod.
Yna byddwch yn gallu gweld a ydych chi’n gymwys ar gyfer benthyciad, a’r gyfradd/cyfraddau llog fydd yn daladwy.
Fel arfer, bydd darparwyr cyfoed i gyfoed yn cyfuno benthyciadau rhwng llawer o wahanol bobl. Mae cyfuno yn golygu y bydd nifer o fenthycwyr unigol yn cytuno i fenthyca cyfran o'r cyfanswm rydych chi am ei fenthyg.
Gan ddibynnu ar eich sgôr credyd a’r llwyfan unigol, efallai y byddwch chi’n cael cynnig llai na’r swm yr oeddech chi eisiau cael ei fenthyg. Hefyd, gallai un benthyciwr godi un gyfradd arnoch chi am y swm y byddant yn ei fenthyg i chi ond gall benthycwyr eraill sy'n cynnig rhoi benthyg y balans i chi (neu eu rhan nhw o'r balans) godi cyfraddau llog gwahanol.
Rheolau a rheoliadau
Caiff llwyfannau cyfoed i gyfoed a rhai darparwyr unigol, eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Mae hynny’n golygu, os ydych wedi gwneud cwyn i'ch benthyciwr ac yn anfodlon gyda'r canlyniad - neu nad yw’r busnes yn ymateb i chi o fewn wyth wythnos - gallwch gysylltu â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS).
Nid yw benthyciad cyfoed i gyfoed bob amser yn cael ei gwmpasu fan y FOS, felly mae'n bwysig eich bod chi'n gwirio hyn.
Os ydynt yn cytuno bod y busnes wedi gwneud rhywbeth o’i le, gallant orchymyn iddynt unioni pethau. Mae’r gwasanaeth am ddim i’w ddefnyddio.
Pethau i fod yn ymwybodol ohonynt wrth ymgeisio am fenthyciad cyfoed i gyfoed
Cyn dewis ymgeisio am fenthyciad cyfoed i gyfoed, cofiwch ystyried:
- Os byddwch chi’n methu talu ar fenthyciad cyfoed i gyfoed, gallai’r cwmni drosglwyddo’ch benthyciad i asiantaeth casglu dyledion a fydd yn ei erlid ar ran y darparwr neu ddarparwyr benthyciad. Fel dewis olaf, fe all y benthycwr fynd i’r llys.
- Bydd methu taliad neu’n diffygdalu yng nghyswllt benthyciad yn effeithio ar eich statws credyd. Pan fydd y cytundeb credyd ar waith, bydd y wefan benthyciadau cyfoed i gyfoed yn cofrestru cofnod ar eich adroddiad credyd, yn union fel y byddai’n digwydd gyda’r rhan fwyaf o fenthyciadau eraill.