Beth yw yswiriant diogelu incwm?

Byddai llawer ohonom yn ei chael yn anodd cadw ar ben ein costau hanfodol, fel morgais a rhent, pe byddem yn colli incwm oherwydd salwch neu ddamwain. Mae diogelu incwm yn bolisi yswiriant hirdymor sy'n sicrhau eich bod yn cael incwm rheolaidd nes i chi ymddeol neu allu dychwelyd i'r gwaith. Darganfyddwch sut mae'n gweithio, pryd mae ei angen arnoch a beth sydd angen i chi feddwl amdano wrth ei brynu.

Sut mae yswiriant diogelu incwm yn gweithio?

Mae yswiriant diogelu incwm:

  • yn darparu taliadau rheolaidd sy'n disodli rhan o'ch incwm os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd salwch neu ddamwain
  • yn talu allan nes y gallwch ddechrau gweithio eto - neu nes i chi ymddeol, marw neu ddiwedd y tymor polisi - pa un bynnag sydd gyntaf
  • yn nodweddiadol yn talu rhwng 50% a 65% o'ch incwm os nad ydych yn gallu gweithio
  • yn cwmpasu'r mwyafrif o afiechydon sy'n eich gadael yn methu â gweithio - naill ai yn y tymor byr neu'r tymor hir (yn dibynnu ar y math o bolisi a'i ddiffiniad o analluogrwydd)
  • gellir ei hawlio gymaint o weithiau ag y mae angen i chi wneud tra bo'r polisi'n para.

Yn aml mae cyfnod aros (‘gohiriedig’) y cytunwyd arno ymlaen llaw cyn i’r taliadau ddechrau. Y cyfnodau aros mwyaf cyffredin yw 4, 13, 26 wythnos a blwyddyn. Po hwyaf y byddwch yn aros, po isaf yw'r premiymau misol.

Nid yw yr un peth ag yswiriant salwch critigol, sy'n talu cyfandaliad unwaith ac am byth os oes gennych salwch difrifol penodol.

Pryd mae angen yswiriant diogelu incwm arnoch?

Pan na allwn weithio oherwydd salwch neu ddamwain, gallech dybio y bydd eich cyflogwr yn parhau i roi rhywfaint o incwm i chi.

Mewn gwirionedd, fodd bynnag, mae gweithwyr fel arfer yn cael eu symud i Dâl Salwch Statudol o fewn chwe mis.

Ychydig iawn o gyflogwyr sy'n cefnogi eu staff am fwy na blwyddyn os ydynt i ffwrdd yn sâl o'r gwaith. Gwiriwch beth fydd eich cyflogwr yn ei ddarparu i chi os ydych i ffwrdd yn sâl.

Yn dibynnu ar faint o gynilion sydd gennych, gall colli incwm eich gadael yn fuan i fethu â thalu biliau cartref hanfodol, fel morgais/rhent a chyfleustodau.

Gall fod yn arbennig o anodd os ydych yn hunangyflogedig ac felly heb dâl salwch i ddisgyn yn ôl arno. 

Pwy nad oes arnynt angen yswiriant diogelu incwm?

Efallai na fydd angen yswiriant diogelu incwm arnoch os:

  • gallech ddod ymlaen ar eich tâl salwch - er enghraifft, mae gennych becyn buddion gweithwyr sy'n rhoi incwm i chi am 12 mis neu fwy
  • gallech oroesi ar fudd-daliadau'r llywodraeth - ar yr amod eu bod yn ddigon i dalu am eich holl dreuliau
  • mae gennych ddigon o gynilion i gynnal eich hun - byddwch yn ymwybodol y gallai fod angen i'ch cynilion bara am amser hir
  • gallech ymddeol yn gynnar
  • byddai'ch partner neu'ch teulu yn eich cefnogi - er enghraifft, mae gan eich partner ddigon o incwm i dalu am bopeth sydd ei angen arnoch chi'ch dau.

Faint yw cost yswiriant diogelu incwm?

Bydd y swm rydych yn ei dalu bob mis mewn premiymau yn dibynnu ar y polisi a'ch amgylchiadau.

Mae polisïau diogelu incwm yn cwmpasu ystod eang o salwch, cyflyrau a sefyllfaoedd. Felly mae'n bwysig cymharu'r hyn y gall gwahanol yswirwyr ei gynnig i chi.

Effeithir ar y gost gan:

  • oed
  • galwedigaeth
  • os ydych yn ysmygu neu wedi ysmygu
  • canran yr incwm yr hoffech ei dalu
  • y cyfnod aros (neu ohirio) nes bod y polisi'n talu allan
  • yr ystod o afiechydon ac anafiadau a gwmpesir
  • iechyd - eich iechyd, pwysau a hanes meddygol teuluol cyfredol.

Bydd y gost hefyd yn dibynnu a ydych yn talu:

  • premiwm safonol, y gall yr yswiriwr ei gynyddu dros amser, neu
  • premiwm gwarantedig, sy'n parhau i fod yn sefydlog cyhyd â bod gennych y polisi.

Gall premiymau gwarantedig gostio ychydig yn fwy yn y byrdymor. Ond mae llawer o bobl yn hoffi'r sicrwydd o wybod beth y byddant yn ei dalu yn y dyfodol.

Sut mae prynu yswiriant diogelu incwm?

Gall premiymau amrywio a gall gwahanol yswirwyr ddefnyddio meini prawf gwahanol iawn. Felly mae'n werth siopa o gwmpas a gwneud ychydig o ymchwil.

Y ffordd orau o sicrhau eich bod yn cael beth sydd ei angen arnoch yw cael cyngor gan gynghorydd ariannol annibynnol neu frocer arbenigol. Gallant eich tywys trwy fanylion yr amrywiol bolisïau sydd ar gael, a sicrhau eich bod yn dewis yr un iawn.

Efallai y byddant yn codi ffi am eu gwasanaethau, neu efallai bydd cwmnïau yswiriant yn eu talu mewn comisiwn.

Mae hefyd froceriaid ac yswirwyr arbenigol ar gyfer pobl y gwrthodwyd yswiriant iddynt. Gall hyn fod oherwydd cyflwr meddygol neu oherwydd eu bod yn gwneud swydd nad yw'n dod o dan bolisïau safonol.

Pum peth i feddwl amdanynt wrth brynu yswiriant diogelu incwm

1. Byddwch yn onest am eich hanes meddygol

Mae'n bwysig rhoi'r holl wybodaeth maent yn gofyn amdani i'ch yswiriwr. Pan fyddwch yn hawlio, bydd yr yswiriwr yn gwirio'ch hanes meddygol. Os na wnaethoch ateb yn wir neu'n gywir yn eich cais, neu os na wnaethoch ddatgelu rhywbeth, efallai na fyddech yn cael taliad sydd ei angen arnoch.

2. Dewiswch lefel addas o yswiriant

Gallwch ddewis o dair prif lefel o yswiriant, sy'n talu allan yn seiliedig ar eich sefyllfa:

  • Eich galwedigaeth eich hun - ni allwch wneud eich galwedigaeth eich hun. Fel rheol, hwn yw'r drutaf, ond mae hefyd yn fwy tebygol y byddwch yn gwneud cais llwyddiannus.
  • Galwedigaeth addas - ni allwch wneud eich swydd eich hun neu un debyg sy'n addas i'ch cymwysterau a'ch profiad.
  • Unrhyw alwedigaeth - rydych yn rhy sâl i wneud unrhyw fath o waith. Fel rheol, hwn yw'r rhataf, ond mae risg uwch na fydd yn talu allan.

3. Darllenwch y print mân

Cymerwch eich amser yn darllen a chwblhau'r cais. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod yn union beth sydd wedi'i gynnwys ac nad yw'n cael sylw. Byddwch yn ymwybodol y gall diffiniadau a gwaharddiadau (yr hyn nad yw'n cael ei gwmpasu) amrywio rhwng gwahanol yswirwyr. Os ydych yngweld rhywbeth nad ydych yn ei ddeall, gofynnwch i'r yswiriwr, brocer yswiriant neu gynghorydd ariannol.

4. Gallwch newid eich meddwl

Mae gennych 30 diwrnod o brynu'r polisi i newid eich meddwl a chael ad-daliad llawn.

5. Cadwch eich yswiriant yn gyfredol

Gall amgylchiadau newid dros amser, felly adolygwch eich polisi yn rheolaidd i sicrhau y byddai'n dal i gwmpasu'r hyn sydd ei angen arnoch.

Efallai y bydd angen i chi ei gynyddu. Er enghraifft, os oes gennych blentyn neu os cymerwch forgais newydd efallai y bydd angen mwy o yswiriant arnoch nag y mae eich polisi yn ei ddarparu ar hyn o bryd. Neu os ydych yn cael swydd newydd sy'n dod gyda chyflog salwch mwy hael, efallai y gallwch ostwng lefel eich yswiriant.

Sut i ganslo yswiriant diogelu incwm

Gallwch ofyn i'ch yswiriwr ganslo eich polisi ar unrhyw adeg, ond mae rhai pethau i fod yn ymwybodol ohonynt:

  • gallai yswiriant newydd yn ei le fod yn ddrytach gan fod prisiau'n gyffredinol yn cynyddu gyda’ch oedran
  • os oes gennych gyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes, efallai na fyddant yn cael eu cynnwys o dan bolisi newydd
  • ni fyddwch yn gallu adfer y polisi unwaith y bydd wedi'i ganslo.

Fel arfer nid oes ffioedd canslo, felly byddwch ond yn rhoi'r gorau i dalu amdano - ni fyddwch yn derbyn ad-daliad o unrhyw premiymau rydych eisoes wedi'u talu 

Gofynnwch i'ch yswiriwr am help os ydych yn cael trafferth talu

Os ydych yn ystyried canslo oherwydd cost neu fforddiadwyedd, mae'n bwysig peidio â chanslo yswiriant rydych ei angen - neu i fethu taliad. Yn hytrach, cysylltwch â'ch yswiriwr a dywedwch wrthynt eich bod chi'n cael trafferth.

Mae'n rhaid i yswirwyr gefnogi cwsmeriaid sydd mewn trafferthion ariannol, felly byddant yn esbonio'ch opsiynau a'r ffyrdd y gallant helpu. Er enghraifft, gallent sefydlu cynllun ad-dalu amgen neu addasu eich yswiriant i gyd-fynd â'ch anghenion a gostwng y gost.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.