Diogelu eich hun a’ch cartref: chwilio am yswiriant

Pan fyddwch yn prynu eiddo, mae sawl math o yswiriant ar gael. Fodd bynnag,nid oes rhaid i chi gymryd pob yswiriant a gynigir i chi. Beth bynnag fyddwch yn penderfynu, mae’n bwysig chwilio am y cynnig gorau yn gyntaf.

Yswiriant adeiladau a chynnwys

Mae yswiriant adeiladau a chynnwys yn fathau gwahanol o yswiriant sy’n cael eu clymu ynghyd a’u gwerthu â’r morgais.

Mae yswiriant adeiladau yn sicrwydd ar gyfer yr adeilad ei hun, petai’n cael ei ddinistrio neu ei ddifrodi gan ddigwyddiadau fel tân neu dywydd gwael.

A oes angen yswiriant adeiladau arnoch?

  • Os ydych yn prynu eiddo ar brydles, mae’n bur debygol mai perchennog y rhydd-ddaliad fydd yn gyfrifol am drefnu sicrwydd yswiriant adeiladau.
  • Os ydych yn rhydd-ddeiliad â morgais, bydd eich benthyciwr yn mynnu bod gennych yswiriant adeiladau.

Peidiwch â derbyn yr yswiriant adeiladau a gynigir i chi gan eich brocer morgais neu fenthyciwr yn syth – chwiliwch i gael y cynnig gorau.

Byddwch angen cael yswiriant yn ei le pan fyddwch yn cyfnewid contractau i gadarnhau prynu’r eiddo.

Mae hyn am mai chi fydd y perchennog cyfreithiol ac, os bydd tân, neu broblem â strwythur yr eiddo, chi sy’n gyfrifol.

Mae yswiriant cynnwys yn eich diogelu am golled neu ddifrod i'r eitemau yn eich cartref.

Efallai y bydd hefyd yn darparu rhywfaint o yswiriant ar gyfer eitemau a ddefnyddir y tu allan i'r cartref, megis gliniaduron, camerâu a ffonau.

A oes angen yswiriant cynnwys arnoch?

  • Mae’n bwysig cael yswiriant cynnwys rhag ofn y bydd tân, llifogydd neu ladrad.
  • Nid oes angen i chi dderbyn yr yswiriant cynnwys a gynigir i chi gan eich brocer morgais neu ddarparwr benthyciadau yn syth – chwiliwch i gael y cynnig gorau.

Yswiriant bywyd

  • Peidiwch â theimlo dan bwysau i brynu yswiriant bywyd gan eich darparwr benthyciadau neu frocer morgeisi – chwiliwch am y cynnig gorau
  • Mae yswiriant bywyd yn bwysig os oes gennych blant, gan y byddant yn debygol o fod angen taliad wedi i chi farw i helpu ag ad-daliadau morgais

Yswiriant diogelu taliadau morgais (MPPI)

Mae MPPI yn sicrwydd ar gyfer eich taliadau morgais misol petaech yn methu â’u talu oherwydd damwain, salwch neu ddiweithdra.

Yswiriant diogelu incwm

Bydd yswiriant diogelu incwm yn talu allan os na allwch weithio oherwydd salwch neu ddamwain.

Yswiriant salwch difrifol

Mae yswiriant salwch difrifol yn cynnig sicrwydd rhag ofn y canfyddir bod unrhyw salwch a nodir yn y polisi arnoch.

Os ydych yn gwneud cais llwyddiannus, bydd cyfandaliad di-dreth yn cael ei wneud i chi.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.