Mae gwarant estynedig yn ffurf o bolisi yswiriant sy’n eich yswirio ar gyfer costau atgyweirio ar ôl i warant y gwneuthurwr neu’r adwerthwr ddod i ben. Ond ydyn nhw’n werth yr arian? Gall gwarantau estynedig fod yn ddrud. Caiff y rhan fwyaf o nwyddau newydd eu gwneud i safon uchel ac mae gennych hawliau statudol eisoes sy’n rhoi lefel uchel o ddiogelwch.
Rydych chi wedi’ch yswirio yn barod
Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 eisoes ar eich ochr chi.
Mae’n dweud y dylai nwyddau fod o safon foddhaol, gweddu i’r gwaith y bwriadwyd nhw ar ei gyfer a phara am amser rhesymol.
Os prynwch set deledu neu beiriant golchi newydd a’u bod yn torri i lawr ymhen chwe mis, gallwch fynd â nhw’n ôl i’r siop yn syth.
Mae i fyny iddynt hwy brofi nad oedd y ddyfais yn ddiffygiol pan brynoch chi hi.
Dan rai amgylchiadau efallai y bydd gennych chi hawl cyfreithiol i ddychwelyd nwyddau am hyd at chwe blynedd ar ôl i chi eu prynu.
Ond mae hyn yn dibynnu fel arfer a ydych yn medru profi mai nam ac nid defnydd a thraul cyffredinol yw achos unrhyw broblem.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Hawliau defnyddwyr – yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Gwiriwch warantiau presennol y gwneuthurwr a’r adwerthwr
Cyn i chi ystyried talu am warant estynedig, cofiwch fod gwneuthurwyr yn aml yn gwarantu eu nwyddau am hyd at 12 mis ac yn fwy mewn rhai achosion.
Yn ogystal, bydd rhai adwerthwyr yn ychwanegu at gyfnod y gwarant ar ben cyfnod y gwneuthurwr – am ddim.
Gall hyn ychwanegu hyd at gyfanswm sicrwydd o bum mlynedd, ac mae popeth wedi’i gynnwys yn y pris.
Diogelwch cerdyn credyd
Os talwch chi gyda cherdyn credyd, byddwch chi’n cael sicrwydd awtomatig ar unrhyw nwyddau wedi’u prisio rhwng £100 a £30,000.
Dywed y gyfraith bod yn rhaid i’r cwmni cerdyn eich yswirio os oes nam ar y nwyddau neu os ydynt yn wahanol i’r hyn a ddisgrifiwyd, neu os na chânt eu darparu dan y contract.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae chargeback a diogelwch adran 75 yn gweithio ar gyfer eich credyd credyd a debyd
Yswiriant cynnwys y cartref
Fel rheol, nid yw methiant trydanol a mecanyddol yn cael eu cynnwys yn eich yswiriant cynnwys domestig, ond mae lladrad a difrod damweiniol.
Felly mae’n werth gwirio manylion eich polisi – nid oes pwynt talu ddwywaith i yswirio’r un peth.
Fodd bynnag, gwiriwch p’un a oes angen i chi dalu tâl dros ben dan eich polisi yswiriant cynnwys pan fyddwch yn gwneud cais. Nid yw llawer o warantau estynedig yn gwneud hynny.
A yw gwarantau estynedig ar gyfer dyfeisiau trydanol yn cynnig gwerth am arian?
Mae rhesymau pam na fydd gwarant estynedig yn ddilys, yn cynnwys:
- mae’r rhan fwyaf o nwyddau trydanol a dyfeisiau’n mynd yn rhatach dros amser
- mae nhw’n mynd yn fwy dibynadwy hefyd, felly rydych chi’n llai tebygol o fod angen gwarant
- mae atgyweirio’n mynd yn ddrutach wrth i ddyfeisiau fynd yn fwy cymhleth – felly gall fod yn rhatach i brynu’n newydd nag atgyweirio
- mae technoleg yn datblygu, felly nid yn unig mae nwyddau yn lle’r hen rai yn rhatach fel rheol, ond yn aml byddant yn well na’r un yr oedd gennych o’r blaen – efallai’n fwy ynni effeithlon ac felly’n rhatach i’w rhedeg, neu gyda’r nodweddion diweddaraf wedi’u cynnwys yn y pris.
Byddwch yn ofalus gyda gwarantau estynedig – rhaid deall yr hyn a brynwch
Tra bod rhai adwerthwyr yn gwerthu gwarantau estynedig ar gyfer dyfeisiau trydanol a nwyddau gwynion, yn aml mae gan y gwarantau hynny derfynau amser ar gyfer yr atgyweiriad.
Gall hyn fod cyn hired â phedair i chwe wythnos, felly mae angen ichi ystyried a fyddech chi’n dymuno aros cyn hired â hynny i’ch dyfais gael ei hatgyweirio.
Er enghraifft, allech chi ymdopi heb beiriant golchi am chwe wythnos?
Mae rhai polisïau’n cynnwys costau atgyweirio, ond nid yw pob un ohonynt yn cynnwys darnau a llafur, ond mae eraill yn rhoi terfyn ariannol neu amser ar hawliau.
Felly mae’n rhaid i chi ddarllen y manylion yn ofalus iawn cyn ichi lofnodi.
Mae rhai adwerthwyr hefyd yn gwerthu yswiriant ar gyfer dyfeisiau rydych chi eisoes yn berchen arnynt ond sydd heb eu hyswirio ar hyn o bryd.
Ond mae llawer o amodau ynghlwm â’r rhain ac fel rheol cyfnod ‘dim hawlio’ yn syth ar ôl dechrau’r yswiriant. Ni fydd hawliau am fethiannau’n cael eu talu yn ystod y cyfnod hwn.
At hynny, dim ond ‘contractau gwasanaeth’ yw rhai polisïau mewn gwirionedd, felly ni chânt eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol na’u cynnwys yn y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.
Mae hynny’n golygu, os bydd yr adwerthwr yn mynd i’r wal, nad oes sicrwydd y bydd eich hawl yn cael ei dalu.
Gallwch gymharu costau a nodweddion gwarantiadau estynedig gan nifer o ddarparwyr ar y wefan Compare Extended Warranties sydd am ddim
Er mwyn cael y budd mwyaf o’r wefan gymharu Compare Extended Warranties dylech nodi:
- y pris
- yr eitem drydanol, er enghraifft ‘golchwr llestri’
- faint o flynyddoedd mae’r gwneuthurwr yn darparu gwarantiad ar eu cyfer
Yna gallwch weld canlyniadau yn ôl pris neu gyfnod y gwarant.
Ydych chi eisiau prynu gwarant estynedig?
Efallai bydd y rhestr wirio hon yn ddefnyddiol:
- Chwiliwch am y fargen orau – yn aml mae yswirwyr arbenigol llawer yn rhatach nag adwerthwyr, a gall bargenion i sawl dyfais gynnig gwell bargen.
- Gwiriwch am ba hyd bydd yn para a meddyliwch pa mor hir ydych chi’n debygol o gadw’r eitem.
- Ydy’r telerau’n cynnig cyfnewid eitem hen am un newydd os na ellir atgyweirio’r eitem?
- Gwiriwch yr eithriadau – oes rhaid chi ddefnyddio atgyweiriwr awdurdodedig?
- Oes terfyn i nifer yr hawliau y gallwch chi eu gwneud neu’r swm y gallwch hawlio amdano? Ydy’r sicrwydd yn stopio ar ôl i chi wneud cais?
- Darllenwch y print mân yn ofalus iawn, yn enwedig am ddiangfeydd ac eithriadau.
- Byddwch yn ofalus o warantau estynedig lle mae’n rhaid i chi dalu yn fisol – gall y rhain fod yn ddrud iawn dros y tymor hir.
- Ai cytundeb gwasanaeth ydyw, nid gwarant? Nid yw’r rhain yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCS) - felly os bydd cwmni’n mynd i’r wal, nid oes gennych ddiogelwch cyfreithiol.
Fel rheol, mae gennych hawliau cyfreithiol i ganslo’r warant am hyd at 45 niwrnod ar ôl ei phrynu a chael ad-daliad llawn dan reoliadau Gorchymyn Cyflenwi Gwarantau Estynedig Nwyddau Trydanol Domestig 2005.
Felly, hyd yn oed os byddwch chi’n prynu un, mae amser o hyd i ailystyried neu chwilio am y fargen orau.