Ydych chi’n cael trafferth adnabod pa nodweddion i’w hamlygu mewn polisi yswiriant cynnwys cartref? Gwiriwch y rhestr hon o nodweddion ‘rhaid eu cael’, ‘dylid eu cael’, a ‘gellir eu cael’ i roi cymorth i chi brynu’r polisi cywir.
Nodweddion mae’n ‘rhaid eu cael’
Nodweddion ‘rhaid eu cael’ | Bydd polisi da’n rhoi |
---|---|
Swm a yswirir – rhaid i hyn fod yn ddigon o arian i glirio’r safle ac i ailadeiladu’ch cartref petai’n cael ei ddinistrio gan dân neu lifogydd, er enghraifft. |
Terfynnau wedi'u gosod o £250,000 neu uwch, neu adael i chi ddewis eich terfyn |
Swm a yswirir mynegai cysylltiedig – mae’r gost o ailadeiladu tai yn cynyddu bob blwyddyn gyda chwyddiant. Mae diogelu neu fynegrifo eich swm a yswirir yn golygu na fyddwch mewn sefyllfa o fod heb yswiriant digonol. |
Swm digon uchel i gael ei yswirio i dalu cost ailadeiladu'r eiddo. |
Llety amgen – yn yswirio’r gost o aros yn rhywle arall (megis gwesty neu dŷ rhent) tra bydd eich tŷ chi yn cael ei drwsio os na fyddwch yn gallu byw yno yn dilyn difrod sylweddol megis tân neu lifogydd |
£40,000 neu 20% o’r swm a yswirir |
Atebolrwydd cyhoeddus – yn eich yswirio yn erbyn costau cael eich erlyn os bydd rhywun yn marw neu’n cael anaf, neu os yw eu heiddo wedi ei ddifrodi, oherwydd rhywbeth a ddigwyddodd yn eich cartref chi. |
£2,000,000 |
Nodweddion y ‘dylid eu cael’
Nodweddion y ‘dylid eu cael’ | Bydd polisi da’n rhoi |
---|---|
Difrod gwydr ac offer ymolchfa – yswiriant ar gyfer adnewyddu ffenestri, gwydr mewn drysau, toiledau a basnau ymolchi, os ydynt yn torri’n ddamweiniol. |
Yswiriant ar gyfer gwydr ac offer ymolchfa heb gost ychwanegol |
Gwasanaethau tanddaearol – yswiriant ar gyfer pibelli tanddaearol a cheblau yn cario dŵr, nwy a thrydan i’ch cartref a charthffosiaeth ymaith. |
Yswiriant sylfaenol iawn am ddifrod damweiniol heb gost ychwanegol
|
Pibell carthffosiaeth wedi ei blocio – yswiriant ar gyfer y gost o glirio’r rhwystr mewn carthffos ar eich eiddo. |
£1,000 o yswiriant am ganfod y rhwystr a’i glirio |
Pibelli wedi byrstio – yswiriant am y gost o drwsio’r pibelli wedi byrstio (nid yw hyn yr un fath ag yswiriant am ddifrod dŵr yn gollwng). |
Difrod i bibelli wedi byrstio fel yswiriant safonol |
Canfod a mynd at y gollyngiad – cymorth gyda’r gost o ganfod gollyngiad a’i drwsio os yw’n digwydd yn eich tŷ chi, neu o dan ddaear. |
£5,000 o yswiriant yn safonol ar gyfer gollyngiadau y tu mewn a thu allan i’r cartref |
Eiddo gwag – am ba hyd y gallwch adael eich cartref yn wag (megis mynd i ffwrdd ar wyliau hir neu i weithio) cyn i’ch yswiriwr gyfyngu neu dynnu’r yswiriant ar gyfer eich adeiladau. |
Cyfnod o 30 diwrnod neu ragor heb orfod hysbysu’r yswirwr |
Llinell gymorth argyfwng – rhif argyfwng y gallwch ei ffonio os ceir difrod sydd angen ei drwsio cyn gynted ag y bo modd. |
Llinell gymorth 24 awr gydag atgyweiriwyr cydnabyddedig |
Nodweddion y ‘gellid eu cael’
Nodweddion y ‘gellid eu cael’ | Bydd polisi da’n rhoi |
---|---|
Yswiriant difrod damweiniol – yn eich yswirio yn erbyn cost damweiniau a all ddifrodi eich cartref. |
Yswiriant safonol neu ar gael fel dewis |
Colled neu ladrad allweddi – petaech chi’n colli’ch allweddi neu eu bod yn cael eu dwyn yna bydd hyn yn yswirio’r gost o newid y cloeon. |
Yswiriant safonol |
Yswiriant costau cyfreithiol – yswiriant ar gyfer eich costau cyfreithiol personol os oes gennych broblemau megis dadleuon cyflogaeth, hawliadau niwed corfforol. |
£50,000 o yswiriant safonol |
Gwasanaeth llinell gymorth cyfreithiol – llinell gymorth y gallwch ei ffonio am gyngor os oes gennych broblem gyfreithiol bersonol. |
Llinell gymorth am ddim yn safonol |
Yswiriant atgyweirio – bydd unrhyw waith atgyweirio i’ch adeiladau yn cael eu sicrhau. |
Yswiriant am 12 mis |
Pethau i gadw llygad arnynt
Pethau i gadw llygad arnynt | Bydd polisi da’n rhoi |
---|---|
Tâl dros ben adeiladau – cyfanswm o arian sydd yn rhaid i chi ei dalu tuag at unrhyw hawliad. |
Tâl dros ben oddeutu £0 i £100 |
Tâl dros ben difrod damweiniol – os oes gennych yswiriant difrod damweiniol mae hwn yn dâl dros ben ychwanegol y mae’n rhaid i chi ei dalu tuag at y mathau hyn o geisiadau. |
Dim tâl dros ben |
Gorlif dŵr yn llifo – os yw eich tŷ yn cael ei ddifrodi gan ddŵr sy’n gollwng neu fath neu fasn yn gorlifo, fe allech chi orfod talu tâl dros ben uwch tuag at y cais yn hytrach na’r tâl dros ben arferol. |
Dim tâl dros ben |
Rhagor o wybodaeth
Os ydych am amcangyfrif faint o yswiriant sydd ei angen arnoch, neu a oes angen yswiriant adeiladau arnoch neu beidio, dilynwch un o’r dolenni isod neu gofynnwch i frocer.