Mae’r rheolau ar deithio nawr fod y DU wedi gadael yr UE yr un peth i raddau helaeth ag yr oeddent pan oedd y DU yn dal yn rhan o’r UE.. Darganfyddwch fwy am unrhyw newidiadau a beth i’w wneud os ydych yn cael eich effeithio.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- A wyf yn dal i allu teithio i’r UE?
- Teithio i’r UE
- A allaf ddefnyddio fy mhasport presennol o hyd?
- Adnewyddiad cynnar pasportau deng mlynedd i oedolion
- A yw fy EHIC yn ddilys o hyd ac oes angen yswiriant teithio arnaf i os wyf yn ymweld neu’n byw yn yr UE neu EEA?
- Yswiriant teithio a mynd yn sâl neu gael eich anafu dramor
- Mynediad at ofal iechyd os ydych yn ddinesydd o’r UE sy’n byw yn y DU
- Beth yw Cerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang y DU?
- A fydd cerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang newydd y DU yn rhoi gwarchodaeth fyd-eang i mi?
- A allaf hawlio iawndal am oediad fy hediad o hyd ar ôl Brexit?
- A fydd costau crwydro yn dod yn ôl ar gyfer defnyddio ffonau symudol yn yr UE?
- A allaf deithio â'm anifeiliaid anwes rhwng y DU a’r UE o hyd?
- A allaf deithio â'm car rhwng y DU a’r UE o hyd?
A wyf yn dal i allu teithio i’r UE?
Gallwch, mae dinasyddion y DU yn cael aros yn yr UE am 90 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 180 diwrnod heb fisa, a bydd yr un peth yn gymwys i ddinasyddion yr UE sydd ddim yn breswylwyr yn y DU.
Os ydych yn bwriadu teithio i’r EEA mae nifer o bethau y bydd angen i chi eu hystyried cyn i chi deithio, a gallai fod angen i chi weithredu yn awr.
Gallai hyn gynnwys sicrhau cerdyn gwyrdd os ydych yn fodurwr a gwirio telerau unrhyw bolisïau yswiriant sydd gennych gan gynnwys yswiriant teithio. Mae gofynion newydd hefyd ar anifeiliaid anwes yn teithio.
Bydd y cytundeb a sicrhawyd gan lywodraeth y DU yn caniatáu i’r rheini a gafodd Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) cyn diwedd 2020 barhau i’w ddefnyddio cyn y dyddiad y daw i ben.
Os ydych yn teithio i’r Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, ni fydd eich cerdyn EHIC yn ddilys. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cymryd yswiriant teithio beth bynnag i ateb pob amgylchiad.
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi cynlluniau i ddosbarthu Cerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang y DU. Mae rhagor o wybodaeth am hyn i’w chael isod.
Darganfyddwch fwy am deithio yn yr UE ar wefan GOV.UK
Gallwch hefyd ddysgu rhagor am sut allai Brexit effeithio arnoch ar wefan FCA
Teithio i’r UE
Rydych yn dal gallu mynd i’r UE, ond bydd rhaid i chi wirio ychydig o bethau, a gwneud ceisiadau am ddogfennau ychwanegol o bosibl.
Mae pethau y gallai fod angen i chi eu gwneud yn cynnwys:
- gwirio’ch pasport
- cael yswiriant teithio sy’n gofalu am eich gofal iechyd
- gwirio bod gennych y dogfennau gyrru cywir
- trefnu teithio anifeiliaid anwes – cysylltwch â’ch milfeddyg o leiaf bedwar mis cyn i chi fynd.
Cyn i chi archebu eich taith, mae angen i chi wirio bod gan basportau oedolion yn ogystal â phlant o leiaf chwe mis ar ôl cyn iddynt ddod i ben.
Bydd unrhyw reolau newydd yn gymwys i basportau sy’n cael eu dosbarthu gan y DU, Gibraltar, Guernsey, Ynys Manaw a Jersey.
Gwiriwch a oes gan eich pasbort digon o amser ar ôl ar wefan GOV.UK
A allaf ddefnyddio fy mhasport presennol o hyd?
Os oes gennych basport yn barod, nid oes angen poeni, bydd yn dal yn ddilys hyd y dyddiad y daw i ben. Bydd rheolau presennol yn dal i fod yn gymwys.
Byddwch yn ymwybodol fod pob passport newydd yn las yn awr yn hytrach na choch bwrgwyn.
Adnewyddiad cynnar pasportau deng mlynedd i oedolion
Os wnaethoch adnewyddu pasport deng mlynedd cyn iddo ddod i ben, gallai misoedd ychwanegol fod wedi cael eu hychwanegu at y dyddiad newydd y daw eich pasport i ben, gan ei wneud yn ddilys am fwy na deng mlynedd.
Gallai unrhyw fisoedd ychwanegol ar eich pasport dros y terfyn deng mlynedd beidio â chyfrif tuag at y chwe mis sy’n gorfod bod ar ôl ar eich pasport i deithio i’r rhan fwyaf o wledydd yn Ewrop.
Am ragor o wybodaeth ar deithio i’r UE ewch i wefan GOV.UK
A yw fy EHIC yn ddilys o hyd ac oes angen yswiriant teithio arnaf i os wyf yn ymweld neu’n byw yn yr UE neu EEA?
Rhoddodd y Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) fynediad i chi at ofal iechyd gwladol yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA), a’r Swistir. Roeddech yn cael eich trin fel un o drigolion y wlad roeddech ynddi i bob pwrpas. Roedd hyn yn caniatáu i chi gael triniaeth naill ai ar gost ostyngol neu am ddim gan system ofal iechyd wladol y wlad honno.
Mae’r cytundeb a sicrhawyd gan lywodraeth y DU yn caniatáu i’r rheini sydd wedi cael Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) cyn diwedd 2020 barhau i’w ddefnyddio cyn y dyddiad y daw i ben. Os byddwch yn teithio i Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, dydy eich EHIC ddim yn ddilys rhagor. Fodd bynnag, rydym yn dal i argymell yn gryf i gymryd yswiriant teithio beth bynnag i gwmpasu’r holl ddigwyddiadau.
Os oes gennych yswiriant teithio blynyddol rydym yn argymell eich bod yn gwirio telerau’r polisi yswiriant i sicrhau ei fod yn darparu’r warchodaeth sydd ei hangen arnoch. Pe byddai’ch polisi yswiriant yn cael ei effeithio byddwn yn disgwyl i’ch darparwr yswiriant ddweud wrthych.
Mae’r llywodraeth nawr yn cyflwyno Cerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang y DU. Mae'n caniatáu triniaeth feddygol wedi’i darparu gan wladwriaeth os yw pobl yn mynd yn sâl neu’n cael damwain yn yr UE.
Mae'n cwmpasu salwch cronig neu rai sy’n bodoli, gofal mamolaeth arferol ac achosion brys.
Bydd triniaeth arbenigol, fel dialysis, yn gofyn am ‘gytundeb o flaen llaw’ i sicrhau ei bod ar gael.
Gwiriwch am y wybodaeth ddiweddaraf ar y Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) a’ Cherdyn Yswiriant Iechyd y DU (GHIC) ar wefan GOV.UK neu ffoniwch 0300 330 1350
Darganfyddwch fwy am yswiriant teithio tramor ar wefan GOV.UK
Yswiriant teithio a mynd yn sâl neu gael eich anafu dramor
Mae’r cytundeb a sicrhawyd gan lywodraeth y DU yn caniatáu i’r rheini sydd wedi derbyn Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) cyn diwedd 2020 barhau i’w ddefnyddio cyn y dyddiad y daw i ben. Mae’r EHIC yn rhoi’r hawl i chi gael mynediad at ofal iechyd brys wedi’i ddarparu gan wladwriaeth yn ystod arhosiad dros dro yn y gwledydd hynny.
Nid oedd y cerdyn EHIC erioed yn ateb arall i yswiriant iechyd. Ni fyddai wedi cwmpasu gofal iechyd meddygol preifat na chostau, fel achub o’r mynydd mewn cyrchfannau sgïo, cael eich hedfan yn ôl i’r DU, nac eiddo wedi’i golli neu’i ddwyn ac nid oedd yn ddilys ar fordeithiau.
Ein cyngor o hyd yw bod cael yswiriant teithio sy’n cwmpasu’ch anghenion gofal iechyd yn aros yn amod hanfodol wrth deithio.
Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn deall telerau ac amodau eich polisi yswiriant teithio, a’ch bod yn hapus â’r lefel o warchodaeth gofal iechyd a tharfu ar deithio mae’n ei ddarparu.
Os oes gennych bolisi yswiriant teithio presennol sydd wedi cael ei effeithio oherwydd diwedd y cyfnod trosglwyddo â’r UE dylai’ch darparwr yswiriant teithio roi gwybod i chi.
Ewch i wefan GOV.UK am gyngor ar deithio dramor
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Beth yw yswiriant teithio
Yswiriant teithio - sut mae polisi da'n edrych
Os oes gennych yswiriant teithio eisoes i ddiogelu’ch taith, dylai eich yswiriwr roi gwybod i chi os bydd unrhyw newidiadau i’r ffordd mae’r polisi yn cael ei wasanaethu.
Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â beth mae’ch polisi yswiriant teithio’n ei gwmpasu, dylech gysylltu â’ch yswiriwr.
Mynediad at ofal iechyd os ydych yn ddinesydd o’r UE sy’n byw yn y DU
Byddwch yn gallu cael mynediad at y GIG yn rhad ac am ddim os ydych yn byw fel arfer yn y DU.
Fodd bynnag, dylech chi a’ch teulu wneud cais i Gynllun Preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE i barhau i fyw yn y DU a diogelu eich gallu i gael mynediad at ofal iechyd. Agorodd y cynllun ar 30 Mawrth 2019.
Gwnewch gais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar wefan GOV.UK
Beth yw Cerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang y DU?
Mae Cerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang y DU (GHIC) a’r Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) yn caniatáu i chi gael gofal iechyd gwladol yn Ewrop am ddim neu am bris gostyngol.
Bydd unrhyw un sy’n ceisio yn awr yn cael Cerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang newydd y DU (GHIC) yn hytrach na Cherdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC). Mae’r ddau yn ddilys os byddwch yn teithio i wlad yn yr UE a'r Swistir.
Ni fydd unrhyw un sy’n teithio i Norwy, Gwlad yr Iâ na Liechtenstein, bellach yn cael gwarchodaeth a bydd angen yswiriant teithio â lefel briodol o warchodaeth gofal iechyd i ateb eu hanghenion pe byddai’r angen yn codi.
Mae rhai pobl yn gallu gwneud cais am gerdyn EHIC newydd y DU maent yn gallu parhau i’w ddefnyddio yn yr UE a bydd yn parhau i gynnwys Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein. Mae pobl sy’n gallu gwneud cais am y cerdyn newydd yn cynnwys:
- myfyrwyr o’r DU sy’n astudio yn yr UE
- rhai Pensiynwyr Gwladol Prydeinig sy’n byw yn yr UE a’u teuluoedd
- Dinasyddion yr UE yn y DU a oedd yn byw yma cyn 1 Ionawr 2021.
Gallwch geisio an Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd neu Gerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang y DU trwy alw 0300 330 1350. Neu ewch i wefan GOV.UK Mae’r cerdyn am ddim.
Peidiwch â defnyddio unrhyw safleoedd trydydd parti: maent yn debygol o godi ffi.
Mae’n bwysig gwybod na fydd un o’r cardiau uchod yn cwmpasu teithio yn ôl i’r DU am ddim. Os byddwch yn mynd yn ddifrifol o sâl neu’n dioddef damwain ddifrifol dramor, dim ond yswiriant teithio fydd yn rhoi gwarchodaeth i chi.
A fydd cerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang newydd y DU yn rhoi gwarchodaeth fyd-eang i mi?
Dim mewn gwirionedd. Mae natur “byd-eang” y cerdyn newydd yn debygol o fod yn gyfyngedig i wledydd y mae gan y DU gytundeb dwyochrog presennol â hwy. Bydd hyn yn cynnwys Awstralia, Seland Newydd, Gibraltar, cenhedloedd sydd ddim yn yr UE o’r hen Iwgoslafia, rhai o diriogaethau’r DU yn y Caribî, a’r ynysoedd anghysbell ym Môr yr Iwerydd, sef y Falklands a St Helena.
A allaf hawlio iawndal am oediad fy hediad o hyd ar ôl Brexit?
Mae Rheoliad 261 yr UE yn sefydlu hawliau teithwyr – gan gynnwys eu hawl i iawndal a chymorth – os ydynt yn cael eu hatal rhag mynd ar yr awyren yn groes i’w hewyllys, neu os yw eu hediad wedi’i ganslo neu’i ohirio.
Bydd gan deithwyr awyr ar hediad sy’n gadael y DU yr un hawliau i deithwyr ag o’r blaen. Mae hyn oherwydd bod deddfwriaeth hawliau teithwyr y DU wedi’u cadw yn y gyfraith ddomestig gan y Ddeddf Ymadael â’r UE.
Mae hyn yn golygu y byddai gan deithwyr sy’n destun gwrthod i fynd ar awyren, oedi neu ganslo hawl i gymorth a iawndal ar yr un sail â chyn i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Llywodraeth wedi dweud y bydd rheolau iawndal am oedi hediadau yn aros yr un peth, gan y bydd ei rheolau iawndal am oedi hediadau yn aros yr un peth, oherwydd ei bod wedi ysgrifennu EU261 i mewn i gyfraith y DU.
Os ydych ar hediad i neu o wlad UE sydd – oherwydd bai y cwmni awyrennau – yn cael ei oedi o fwy na thair awr neu fod eich hediad yn cael ei ganslo’n llwyr, Mae gennych dal hawl i hyd at £520 y person mewn iawndal.
Hefyd bydd rhaid i gwmnïau teithio o’r UE sy’n darparu ar gyfer cwsmeriaid o’r DU barhau i ddarparu iawndal os yw eu cwmni’n mynd i’r wal.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am eich hawliau ar gyfer hawlio iawndal am hediadau i neu o’r UE a’r DU ar wefan CAA neu ar wefan Money Saving Expert
A fydd costau crwydro yn dod yn ôl ar gyfer defnyddio ffonau symudol yn yr UE?
Ni fydd rheolau a rheoliadau’r UE ar grwydro symudol yn parhau i fod yn gymwys mwyach. Mae rhai rhwydweithiau nawr yn codi tâl arnoch am grwydro.
Er mwyn diogelu cwsmeriaid bydd terfyn o £45 y mis ar y swm y gellir ei godi am ddefnyddio data symudol dramor yn cael ei gyflwyno.
Bydd rhaid i gwsmeriaid optio i mewn os bydd eisiau mynd heibio i’r terfyn arnynt. Bydd cwsmeriaid yn cael gwybod pan fyddant wedi cyrraedd 80% a 100% yn eu tro o’u lwfansau data.
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon bydd angen i weithredwyr ffonau symudol gymryd “camau rhesymol” i helpu osgoi codi tâl ar gwsmeriaid am grwydro damweiniol oherwydd derbyn signal o Weriniaeth Iwerddon.
Bydd costau crwydro symudol yn dibynnu ar eich rhwydwaith.
Dylech wirio â’ch cwmni ffôn am unrhyw gostau ychwanegol.
Mae Llywodraeth y DU wedi pasio deddf i sicrhau bod gweithredwyr yn parhau i atal eich costau crwydro rhag mynd y tu hwnt i £45 y cyfnod anfonebu misol oni bai eich bod yn dewis yn bendant i ddefnyddio rhagor o ddata.
Ond mae’n bwysig gwirio beth mae’ch rhwydwaith symudol yn ei ddweud am grwydro cyn i chi deithio dramor.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw sut i arbed arian ar eich ffon symudol
A allaf deithio â'm anifeiliaid anwes rhwng y DU a’r UE o hyd?
Gallwch, mae dinasyddion y DU yn dal i allu mynd â chŵn, cathod a ffuredau i ac o’r UE. Nid yw pasportau anifeiliaid anwes ar gyfer teithio yn yr UE yn ddilys bellach. Bydd angen i berchnogion anifeiliaid anwes gysylltu â’u milfeddygon bedwar mis cyn unrhyw fwriad i deithio i’r UE.
I sicrhau bod eich anifail anwes yn gallu teithio o’r DU i’r UE ar ôl 31 Ionawr 2020 mewn unrhyw senario, dylech gysylltu â’ch milfeddyg am y cyngor diweddaraf.
Mae rhagor o wybodaeth ar y paratoadau iechyd a dogfennau y byddai eu hangen arnoch i deithio i’r UE, gan gynnwys gwybodaeth ar y dogfennau sydd eu hangen i ddod i mewn neu ddod yn ôl i’r DU, ar gael ar wefan GOV.UK
A allaf deithio â'm car rhwng y DU a’r UE o hyd?
Gallwch, byddwch yn dal i allu mynd â’ch cerbyd pan fyddwch yn teithio i’r UE. Fodd bynnag, gallai fod angen i chi gael cerdyn gwyrdd oddi wrth ddarparwr eich yswiriant. Mae cerdyn gwyrdd yn profi bod gennych yr yswiriant modur angenrheidiol.
Mae hyn yn cynnwys teithio rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Gallai peidio â bod â cherdyn gwyrdd arwain at ddirwy neu ofyn i chi brynu yswiriant ychwanegol.
Bydd angen i hyn fod ar bapur printiedig – ni fydd PDFau ar ddyfais electronig fel ffôn symudol yn dderbyniol. Bydd eich darparwr yswiriant modur fel arfer yn gallu darparu un yn rhad ac am ddim i chi.
Mae Cymdeithas yr Yswiriwyr Prydeinig wedi argymell yn flaenorol y dylech gysylltu â’ch darparwr o leiaf fis cyn teithio i ofyn am un.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Yswiriant car wrth yrru dramor
Os ydych yn byw yn yr UE ac yn ddeilydd trwydded y DU ar hyn o bryd gallai fod angen i chi gyfnewid eich trwydded am un leol. Mae’r terfyn amser ar gyfer hyn yn dibynnu ar y wlad rydych yn byw ynddi.