Gall credyd eich helpu i reoli’ch arian - p’un a ydych am dalu treuliau arfaethedig neu angen cwrdd â chostau annisgwyl. Ond mae’n bwysig ei ddefnyddio yn y ffordd iawn.
Bydd ein tywyswyr yn eich helpu i ddeall:
- sut mae credyd yn gweithio
- beth yw’r math gorau i chi
- sut i sicrhau eich bod yn gallu fforddio ad-daliadau
- sut i wneud cais am gredyd
- beth i’w wneud os cewch eich gwrthod am gredyd
- sut i reoli’ch credyd yn dda.
Felly p’un a ydych yn newydd i gredyd, yn ceisio gwella sut rydych yn ei reoli neu angen rhywfaint o gefnogaeth, gallwn ni helpu.