Benthyg arian gan neu fenthyca i ffrindiau neu bobl rydych yn eu hadnabod

Gall fod yn demtasiwn i fenthyca arian gan rywun rydych yn ei adnabod, yn enwedig os ydynt wedi cynnig. Ond mae llawer o bethau i'w hystyried, fel sut y byddant yn ymateb os ydych chi'n cael trafferth eu talu'n ôl. Darganfyddwch fwy am beth i'w ystyried cyn i chi fenthyca’ch arian.

Beth i'w feddwl amdano cyn benthyg arian gan bobl rydych chi'n eu hadnabod

Os yw cydweithiwr neu ffrind yn cynnig benthyg arian i chi, gallai ymddangos fel ateb delfrydol. Efallai y bydd yn ymddangos fel ffordd ddelfrydol o gael yr arian sydd ei angen arnoch yn gyflym. Efallai y bydd hefyd yn ymddangos yn rhatach na thalu'r cyfraddau llog a'r ffioedd sy'n aml yn gysylltiedig â mathau mwy ffurfiol o fenthyca, fel benthyciadau diwrnod cyflog a benthyca stepen drws (a elwir hefyd yn gredyd cartref).

Ond mae'n bwysig meddwl yn ofalus cyn i chi benderfynu ar unrhywbeth. Os ydynt yn rhywun rydych chi'n ei adnabod o'r gwaith, neu o grŵp cymunedol neu ffydd, pa mor dda ydych chi'n eu hadnabod mewn gwirionedd? Os ydych yn cael trafferth eu talu'n ôl neu'n cymryd mwy o amser i dalu'r swm cyfan yn ôl, a oes siawns y gallent roi pwysau arnoch i dalu?

Byddwch yn arbennig o wyliadwrus os ydynt wedi benthyg arian i bobl eraill hefyd, gan y gallent fod yn siarc benthyg (mwy o wybodaeth isod).

Os mai chi yw'r benthyciwr

Mae'n bwysig eich bod chi a'r person rydych chi'n ei fenthyg ganddo’n nodi cynllun clir ynglŷn â'r hyn y gallwch chi fforddio ei dalu'n ôl a phryd.

Gwnewch gyllideb a sefydlwch cynllun ad-dalu

Cyn i chi fenthyg arian, mae'n bwysig llunio cyllideb. Bydd hyn yn dangos beth sy'n dod i mewn, mynd allan a pha filiau a dyledion eraill sydd gennych. Rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr Cyllideb am ddim ac  hawdd ei ddefnyddio

Bydd gosod cyllideb yn eich helpu i gyfrifo faint o arian sydd gennych ar ôl i'w ad-dalu ar ôl talu'ch holl filiau eraill. Mae'n bwysig blaenoriaethu eich dyledion, oherwydd gall biliau fel Treth Cyngor, Trwydded Deledu a nwy neu drydan arwain at ganlyniadau mwy difrifol os na fyddwch yn eu talu.

Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gallwch fod yn hyderus y gallwch dalu'r hyn rydych yn ymrwymo iddo.

Ysgrifennwch gytundeb

Mae'n dda nodi, yn ysgrifenedig, faint fyddwch chi'n ei dalu a phryd. Mae hefyd yn bwysig cadw cofnodion o bryd yr ydych yn gwneud ad-daliadau, fel bod y ddau ohonoch yn gwybod faint sy'n ddyledus gennych.

Trafodwch beth fydd yn digwydd os byddwch yn methu taliadau

Mae angen i chi fod yn hyderus na fydd y benthyciwr yn rhoi pwysau arnoch i barhau i dalu, os byddwch yn cael trafferth gwneud taliad. Cyn i chi fenthyg arian, mae'n bwysig eich bod chi a'r benthyciwr yn cytuno, ar y posibilrwydd o lunio cynllun ad-dalu newydd os bydd eich sefyllfa'n newid.

Y peth olaf rydych chi ei eisiau yw benthyca o rywle arall i wneud ad-daliadau oherwydd eich bod yn cael eich rhoi dan bwysau.

Os mai chi yw'r rhoddwr benthyciadau

Os oes rhywun rydych chi'n ei adnabod yn cael trafferth gydag arian, efallai y byddai'n ymddangos yn hawdd cynnig cymorth. Ond meddyliwch yn ofalus cyn i chi fenthyg unrhyw beth iddynt. Ystyriwch a allai achosi problemau yn y gweithle os ydynt yn gydweithiwr, neu’n creu tensiynau os yw'r ddau ohonoch yn rhan o'r un gymuned neu grŵp ffydd.

Mae angen i chi fod yn hyderus y byddant yn gallu eich ad-dalu hyd yn oed os byddant yn colli eu swydd, er enghraifft. A fyddech chi'n fodlon ac yn gallu creu cynllun newydd os ydynt yn ei chael hi'n anodd gwneud ad-daliadau a rhoi'r amser y mae angen iddynt ei dalu? Neu a yw'n well awgrymu mathau eraill o fenthyca (mwy am hyn yn nes ymlaen).

Os oes llawer o arian i’w ad-dalu, mae'n bwysig cael cyngor gan gyfreithiwr neu gyfrifydd i drefnu cytundeb mwy ffurfiol. Bydd hyn yn helpu i'ch diogelu os yw'r person sy'n benthyca gennych yn marw ac mae angen i chi hawlio'r ddyled sydd heb ei thalu o'i ystad.

Byddwch yn wyliadwrus o ffrindiau ffug

Yn ôl Stop Loan Sharks roedd  62% o ddioddefwyr benthyciwr arian didrwydded yn credu eu bod yn ffrind pan wnaethant fenthyg arian.

Mae'n bwysig osgoi benthyca gan bobl nad ydych chi'n eu hadnabod yn dda, fel cydweithwyr, cydnabyddiaethau achlysurol, ffrind i ffrind, neu bobl rydych chi'n eu hadnabod yn eich cymuned leol neu grŵp ffydd.

Os yw rhywun nad ydych yn ei adnabod yn dda yn cynnig benthyg arian i chi, peidiwch a’i dderbyn – efallai eu bod yn fenthyciwr arian didrwydded

Os ydych wedi benthyca gan rywun a'u bod yn eich bygwth, yn codi gormod o log, neu wedi cymryd rhywbeth fel eich pasbort neu gerdyn banc oddi wrthych, gallai'r ymddygiad hwn eu gwneud yn fenthyciwr arian didrwydded. Os ydych yn y sefyllfa hon, mae'n bwysig cael cyngor. Rhowch wybod amdano drwy ffonio Stop Loan SharksYn agor mewn ffenestr newydd ar 0300 555 2222

Byddant yn cysylltu â chi ar amser sy'n addas i chi ac yn rhoi cyngor i chi ar gyfer delio â'r sefyllfa. Byddant hefyd yn esbonio beth fydd yn digwydd nesaf, ac yn eich helpu i gael y cymorth ariannol, tai neu ddyled y gallai fod ei angen arnoch.

Darganfyddwch a ydych chi'n gymwys i gael mwy o help

Os ydych yn cael trafferth gydag arian, mae'n bwysig eich bod yn sicrhau eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i wirio eich bod yn hawlio popeth rydych yn gymwys ar ei gyfer.

Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau ychwanegol o incwm a chymorth yn ein hadran Help gyda chostau byw

Mathau eraill o fenthyca

Os oes gennych bryderon am fenthyg gan rywun rydych yn ei adnabod, mae yna opsiynau eraill - hyd yn oed os oes gennych sgôr credyd gwael.

Y camau nesaf

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i wirio eich bod yn hawlio popeth rydych yn gymwys ar ei gyfer.

Os ydych ar Gredyd Cynhwysol, neu'n meddwl y gallech fod yn ei ddefnyddio yn y dyfodol, defnyddiwch ein teclyn Rheolwr Arian i gael gwybodaeth ac arweiniad.

Os ydych wedi methu taliadau ac angen rhywun i siarad â nhw am eich cyllid, dewch o hyd i gyngor cyfrinachol am ddim nawr gan ddefnyddio ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.