Mae Cyfoedion i gyfoedion (P2P) yn ffurf o roi benthyciad a chael benthyg rhwng unigolion a busnesau, neu ‘gyfoedion’, heb sefydliad ariannol traddodiadol fel banc neu gymdeithas adeiladu. Darganfyddwch y manteision neu anfanteision o gyllid P2P.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw benthyca P2P
Mae gwefannau P2P yn paru pobl sy’n edrych i fenthyg arian gyda’r rhai sy’n edrych i’w fenthyca. Mae’r cwmnïau sy’n darparu’r gwasanaethau hyn (a elwir yn ‘lwyfannau’) yn gweithredu fel cyfryngwyr rhwng benthycwyr a’r sawl sydd yn rhoi benthyciad.
Gall benthycwyr P2P gynnig cyfraddau llog is na benthycwyr traddodiadol fel banciau. Bydd p’un a yw hyn yn wir i chi yn dibynnu ar rai ffactorau fel eich sgôr credyd.
Sut i wneud cais am fenthyciad P2P
I wneud cais, ewch i un o’r safleoedd benthyca a chofrestru. Dewiswch y swm rydych am ei fenthyg ac am ba hyd.
Os ydych yn gymwys i gael benthyciad ar ôl gwiriad credyd, dywedir wrthych am y gyfradd llog.
Mae benthycwyr P2P fel arfer yn ‘parselu’ benthyciadau rhwng llawer o wahanol bobl. Mae hyn yn golygu y bydd nifer o fenthycwyr unigol yn cytuno i fenthyca cyfran o’r cyfanswm rydych am ei fenthyca.
Yn dibynnu ar eich sgôr credyd a’r llwyfan rydych yn ei ddefnyddio, efallai y cewch gynnig llai nag y dymunwch ei fenthyca.
Manteision benthyca P2P
-
- Gall benthyciadau cyfoedion i gyfoedion gynnig cyfradd llog is na banciau neu gymdeithasau adeiladu, yn enwedig os oes gennych chi statws credyd da.
-
- Nid oes isafswm benthyg gofynnol gan rai gwefannau P2P a allai fod yn addas i chi os mai dim ond cael benthyg swm bach am gyfnod byr o amser ydych chi.
-
- Efallai y byddant yn opsiwn os ydych yn ei chael yn anodd cael benthyciad gan fanc neu gymdeithas adeiladu.
-
Mae’r rhan fwyaf o fenthyca yn cynnig ad-daliad hyblyg, ac fel arfer ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd ychwanegol am dalu’r benthyciad yn ôl yn gynnar.
-
Nid yw benthyciadau wedi'u sicrhau, felly nid oes angen defnyddio ased fel eich car neu gartref fel rhywbeth i’w sicrhau.
Anfanteision benthyca P2P
-
Os byddwch yn methu ar fenthyciad, gallai’r benthyciwr drosglwyddo’r ddyled i asiantaeth casglu dyledion. Fel dewis olaf, efallai y bydd y benthyciwr yn mynd â chi i’r llys i geisio cael yr arian sy’n ddyledus gennych yn ôl.
-
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi i’r platfform am drefnu’r benthyciad, hyd yn oed os nad yr hyn rydych yn gofyn amdano gan unrhyw un benthyciwr yw’r swm cyfan rydych chi am ei fenthyg. Gall hyn olygu y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd lluosog os oes rhaid i chi wneud cais i fwy nag un benthyciwr i gwmpasu’r cyfanswm rydych yn chwilio amdano.
-
Efallai y bydd un benthyciwr yn codi un gyfradd i chi am y swm y bydd yn ei fenthyca i chi ond efallai y bydd benthycwyr eraill sy'n cynnig benthyg y balans (neu eu rhan o’r balans) yn codi cyfraddau llog gwahanol.
-
Dim ond ar-lein mae benthyciadau P2P ar gael.
-
Gallwch ond benthyg hyd at £35,000.
-
Efallai na fydd gennych yr un amddiffyniad trwy Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS) na’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Mae’n bwysig gwirio pa amddiffyniad sydd gennych cyn i chi gymryd y benthyciad allan.
Dewisiadau amgen i fenthyca P2P
Mae gwahanol gynhyrchion credyd yn addas ar gyfer gwahanol anghenion.
Os oes gennych sgôr credyd gwael neu ddim hanes credyd, a’ch bod wedi cael eich gwrthod am fenthyciad gan fenthyciwr stryd fawr fel banc neu gymdeithas adeiladu, gallwch wneud cais am fathau eraill o gredyd, fel benthyciad gan Undeb Credyd neu Sefydliad Cyllid Datblygu Cymunedol.
Beth yw benthyca P2P
Os ydych am fenthyca arian, cymharwch fenthycwyr P2P a dod o hyd i un rydych yn gyffyrddus ag ef.
Mae tri cham pwysig:
- Agor cyfrif gyda benthyciwr P2P a thalu rhywfaint o arian i mewn gyda cherdyn debyd neu drosglwyddiad uniongyrchol.
- Gosodwch y gyfradd llog yr hoffech ei derbyn neu gytuno ar un o’r cyfraddau sydd ar gael.
- Benthycwch swm o arian am gyfnod penodol o amser – er enghraifft, tair neu bum mlynedd. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi i fenthyca arian, fel 1% o’r benthyciad.
Mae gan rai benthycwyr gyfleuster ‘autobid’. Mae hyn yn golygu y gallwch osod terfynau ar faint rydych chi am ei fenthyca i bob busnes a’r gyfradd llog isaf rydych chi’n barod i’w benthyca arni.
Deall y risgiau
Gall benthyca P2P fod yn beryglus. Mae’n ddefnyddiol deall y risgiau a sut y gellir eu lleihau.
Y risg o ddiffygdalu
Efallai na fydd y person neu’r busnes rydych chi’n rhoi benthyg arian iddo yn gallu ei ad-dalu (gelwir hyn yn ‘ddiffygdalu’).
Po uchaf yw’r gyfradd diffygdalu ar wefan P2P, po uchaf yw nifer y bobl neu fusnesau nad ydynt yn gallu ad-dalu eu benthyciadau.
Yn wahanol i gynilion banc a chymdeithas adeiladu, nid yw’r arian rydych chi’n ei fenthyca trwy blatfform P2P yn dod o dan Gynllun Digolledu y Gwasanaethau AriannolYn agor mewn ffenestr newydd
Fodd bynnag, mae gan lawer o wefannau P2P gronfeydd neu ddarpariaeth wrth gefn, sydd wedi’u cynllunio i dalu os yw benthyciwr yn diffygdalu ar eu benthyciad.
Mae’r cronfeydd darpariaeth hyn yn amrywio’n fawr o un safle i’r llall, felly mae’n bwysig gwybod beth sydd wedi’i gwmpasu os ydych yn ystyried dod yn fenthyciwr.
Y risg o ad-dalu’n gynnar neu’n hwyr
Os caiff eich benthyciad ei ad-dalu’n gynnar neu’n hwyr, gallech wneud llai o elw nag yr oeddech wedi’i ddisgwyl.
Os bydd benthyciad yn cael ei ad-dalu'n gynnar, gallwch fenthyca’r arian eto.
Ond mae siawns na fyddwch yn gallu benthyca ar yr un gyfradd llog o bosibl..
Y risg y bydd safle’r P2P yn mynd i’r wal
Gallech golli arian os yw’r cwmni P2P yn mynd allan o fusnes (fel y mae sawl un wedi gwneud).
Os ydynt yn cael eu rheoleiddio gan yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd – fel y mae’n rhaid i bob benthyciwr P2P sy’n gweithredu yn y DU fod - rhaid iddynt gadw arian benthycwyr mewn cyfrifon wedi’u clustnodi ar wahân i’w rhai eu hunain.
Sefydliadau sy’n gallu helpu
Mae llwyfannau P2P yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Gwiriwch fod unrhyw lwyfannau rydych chi’n eu hystyried yn cael eu rheoleiddio ar Gofrestr yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Mae hyn yn golygu, os ydych wedi cwyno wrth eich benthyciwr ac yn anhapus gyda’r canlyniad - neu nad yw’n ymateb i chi o fewn wyth wythnos – gallwch gysylltu â Gwasanaeth yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd (FOS).
Nid yw benthyciad P2P bob amser yn dod o dan yr FOS, felly mae’n bwysig eich bod yn gwirio.
Os yw’r FOS yn cytuno bod y busnes wedi gwneud rhywbeth o’i le, gallant eu cyfarwyddo i unioni pethau. Mae’r gwasanaeth am ddim i’w ddefnyddio.