Beth sydd angen ichi ei wybod am fenthyciadau tymor byr, neu ddiwrnod cyflog

Mae benthyciadau tymor byr, a elwir hefyd yn ddiwrnod cyflog, yn ffordd ddrud o fenthyca os na allwch ad-dalu’n llawn ac ar amser. Darganfyddwch faint maent yn ei gostio a beth i fod yn wyliadwrus ohono os ydych chi'n ystyried un.

Sut mae benthyciadau tymor byr yn gweithio

Mae benthyciadau tymor byr wedi'u cynllunio i'ch helpu i gael arian brys, fel arfer i'ch helpu nes i chi gael eich talu. Telir yr arian yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc, felly gallwch ei wario fel y mynnoch.

Byddwch yn cytuno ar swm i’w fenthyg ac fel arfer gallwch ddewis rhwng un a chwe mis i’w ad-dalu. Byddwch yn talu cyfradd llog uchel, felly po hiraf y byddwch yn ei gymryd i ad-dalu, y mwyaf drud fydd hi.

Bydd y benthyciwr hefyd yn ychwanegu taliadau os na fyddwch yn talu ar amser, felly gallai wneud i’ch sefyllfa waethygu os na allwch fforddio ad-dalu. Meddyliwch yn ofalus bob amser cyn ei ddewis ac ystyriwch ddewisiadau eraill yn gyntaf.

Faint ydy benthyciadau tymor byr yn ei gostio

Mae benthyciadau tymor byr yn ffurf ddrud o fenthyca, fodd bynnag mae’r gost gyffredinol wedi’i chapio gan reolau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

Mae’r gyfraith hon yn golygu y byddwch yn talu hyd at 0.8% mewn llog y dydd. Felly pe baech wedi benthyca £100 am 30 diwrnod ac wedi ad-dalu ar amser, byddech yn talu uchafswm o £24 mewn llog. Os oeddech yn hwyr yn ad-dalu, y mwyaf y gellid ei godi arnoch yw £15.

Mae’r cap hefyd yn golygu na fyddwch byth yn ad-dalu mwy na dwywaith yr hyn a fenthycwyd gennych yn wreiddiol. Er enghraifft, pe baech wedi benthyca £100, y mwyaf y byddai'n rhaid i chi ei dalu fyth gan gynnwys llog a thaliadau yw £200.

Ffyrdd o ad-dalu benthyciadau tymor byr

Wrth sefydlu benthyciad tymor byr, bydd y rhan fwyaf o fenthycwyr yn gofyn i chi drefnu taliad cylchol (a elwir hefyd yn continuous payment authority neu CPA). Mae hyn yn gadael iddynt gymryd yr hyn sy'n ddyledus gennych yn uniongyrchol o'ch cyfrif banc ar y dyddiad ad-dalu.

Gall hyn fod yn ddefnyddiol, ond bydd angen i chi sicrhau bod gennych ddigon o arian yn eich cyfrif i’w dalu – ac unrhyw daliadau bil eraill, fel gwresogi, morgais neu rent. Os bydd yn mynd â chi dros derfyn eich gorddrafft gallai arwain at daliadau banc.

Gallwch ofyn i’ch benthyciwr ganslo CPA unrhyw bryd – mae gan y National Debtline dempled llythyrYn agor mewn ffenestr newydd y gallwch ei ddefnyddio. Os na fydd eich benthyciwr yn helpu, gofynnwch i’ch banc ganslo yn lle hynny.

Y naill ffordd neu’r llall, bydd dal angen i chi ad-dalu’ch benthyciad mewn ffordd arall. Os ydych yn canslo oherwydd anawsterau ad-dalu’r arian, dywedwch wrth y benthyciwr cyn gynted â phosibl a gofynnwch a allant roi mwy o amser i chi dalu.

Opsiynau ad-dalu eraill

Cyn i chi drefnu taliad cylchol ar gyfer benthyciad diwrnod cyflog, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth yw eich opsiynau eraill a sut maent yn gweithio.

Debyd Uniongyrchol

Mae hyn yn rhoi caniatâd i'r benthyciwr gasglu arian o'ch cyfrif banc. Rydych chi’n elwa ar y Cynllun Gwarant Debyd Uniongyrchol, sy’n eich diogelu os oes camgymeriad gyda’r taliad.

Gallwch ganslo Debyd Uniongyrchol drwy gysylltu â'ch banc neu gymdeithas adeiladu, neu drwy fancio ar-lein a symudol. Mae gan Which? hefyd dempled llythyrYn agor mewn ffenestr newydd y gallwch ei ddefnyddio.

Mae’n bwysig dweud wrth y benthyciwr eich bod yn canslo a threfnu dull talu arall. Mae hyn yn osgoi unrhyw ffioedd cosb am dalu'n hwyr a marciau negyddol ar eich adroddiad credyd.

Archeb sefydlog

Mae hyn yn rhoi caniatâd i'ch banc neu gymdeithas adeiladu wneud taliadau rheolaidd i'r benthyciwr ar ddyddiadau penodol ar gyfer symiau penodol o'ch dewis.

Gallwch ganslo archeb sefydlog, neu newid y swm, y dyddiad neu’r amlder, trwy gysylltu â’ch banc neu gymdeithas adeiladu.

Darganfyddwch fwy am Ddebydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog.

Beth i fod yn wyliadwrus ohono gyda benthyciadau tymor byr

Os gallwch fforddio’r ad-daliadau benthyciad, rydych yn hapus gyda’r gost ac yn gallu ad-dalu’n brydlon, gall benthyciad tymor byr helpu i lenwi bylchau yn eich incwm.

Fodd bynnag, daw’r broblem os na allwch ad-dalu gan y gall hyn arwain at daliadau ychwanegol a thaliad coll negyddol ar eich ffeil credyd. Os ydych chi eisoes wedi cymryd benthyciad ac yn cael trafferth talu, siaradwch â’ch benthyciwr bob amser i gytuno ar gynllun ad-dalu arall. Peidiwch â chael eich temtio i fenthyca mwy i’w ad-dalu.

Gweler ein canllaw Help os ydych yn cael trafferth i dalu’ch biliau am y camau i’w dilyn.

Efallai y bydd broceriaid credyd yn codi ffi arnoch

Wrth chwilio am fenthyciad tymor byr neu ddiwrnod cyflog, mae yna gwmnïau sy’n chwilio am sawl fenthyciwr i chi – edrychwch am yr ymadrodd ‘rydym yn gweithredu fel brocer credyd nid benthyciwr’ ar eu gwefan. Telir comisiwn i rai gan fenthycwyr, ond bydd eraill yn codi ffi arnoch am eu gwasanaethau.

Os codir ffi, rhaid i froceriaid credyd arddangos hwn yn glir cyn i chi gofrestru.

Pryd i beidio â chael benthyciad

Mae benthycwyr yn hysbysebu benthyciadau tymor byr fel ateb i ystod o broblemau llif arian. Ond mae’n debygol mai dyma’r dewis anghywir os:

  • rydych yn bwriadu ei ddefnyddio i dalu dyled arall
  • rydych eisoes yn dibynnu ar fenthyciadau eraill, megis benthyciad arall
  • nad ydych yn sicr y byddwch yn gallu ei dalu'n ôl mewn pryd
  • rydych am iddo dalu am bethau na allwch eu fforddio.

Os gwnewch gais am fenthyciad tymor byr

Cyn cymryd unrhyw fenthyciad, meddyliwch yn ofalus sut y byddwch yn ei dalu’n ôl.

Os ydych yn brin o arian y mis hwn, meddyliwch a fydd y taliad ynghyd â llog ar gael y mis nesaf. A ydych yn disgwyl incwm ychwanegol? Neu a fydd yn rhaid i chi dorri'n ôl ar eich gwariant?

Cyn gwneud cais, sydd wedi'i gofnodi ar eich cofnod credyd, edrychwch am wiriwr cymhwyster fel y gallwch weld eich cyfle o gael eich derbyn. Mae hwn yn defnyddio ‘gwiriad credyd chwiliad meddal’, felly fe welwch a yw’n werth gwneud cais heb effeithio ar eich ffeil credyd.

Os byddwch yn penderfynu cael benthyciad, gwiriwch bob amser bod y benthyciwr neu’r brocer credyd wedi’i gofrestru ar Gofrestr Gwasanaethau Ariannol yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd

Y cyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod

Os byddwch yn newid eich meddwl, gallwch dynnu’n ôl o’r cytundeb benthyciad unrhyw bryd o fewn y 14 diwrnod cyntaf. Y cyfan sydd angen i chi ei dalu yw’r llog ar y credyd rydych wedi’i ddefnyddio. Rhaid ad-dalu unrhyw gostau ychwanegol i chi.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.