Sut mae chargeback a diogelwch adran 75 yn gweithio ar gyfer eich cerdyn credyd a debyd

Gall cardiau credyd eich helpu i reoli eich arian pan maent yn cael eu defnyddio yn y ffordd iawn. Darganfyddwch pa ddiogelwch a gewch wrth wario ar eich cardiau credyd a debyd o dan y cynllun chargeback ac adran 75 a sut i wneud cais. Bydd y canllaw hwn yn eich helpu chi i wneud cais os yw’r cwmni rydych yn prynu ganddynt yn mynd i’r wal neu ddim yn cyflawni’r hyn a addawyd. 

Adran 75: diogelwch talu cerdyn credyd

Os ydych yn defnyddio eich cerdyn credyd i brynu rhywbeth, sy’n costio mwy na £100 a hyd at £30,000, cewch eich diogelu gan ‘adran 75’ y Ddeddf Credyd Defnyddwyr. Mae’r amddiffyniad yn dal i fod yn berthnasol hyd yn oed os daloch yn rhannol ar eich cerdyn credyd, er enghraifft blaendal ar gyfer gwyliau.

Mae hyn yn golygu bod gan y cwmni cerdyn credyd gyfrifoldeb cyfartal (neu ‘atebolrwydd’) â’r gwerthwr os bydd problem gyda’r pethau rydych wedi’u prynu neu os yw’r cwmni rydych wedi prynu oddi wrtho yn methu.

Beth y mae adran 75 yn ei gynnwys?

  • Os yw'r cwmni wedi methu â chyflenwi'r nwyddau neu'r gwasanaethau, neu wedi cyflenwi nwyddau nad ydynt yn cyrraedd y safon, neu
  • Os yw'r cwmni wedi cam-gynrychioli'r hyn y mae'n ei gyflenwi - er enghraifft, mae cyflenwr meddalwedd yn dweud y bydd pecyn meddalwedd rydych yn ei brynu yn gweithio gyda chyfrifiadur penodol pan na fydd.

Terfynau gwario i adran 75?

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer diogelwch o dan adran 75, mae’n rhaid i chi wario rhwng £100 a £30,000 ar eich cerdyn credyd. Nid yw’r diogelwch hwn yn gymwys i unrhyw beth rydych yn ei brynu gan ddefnyddio cerdyn debyd.

Mae’r swm gwario isaf o £100 yn gymwys i bob eitem neu set o eitemau rydych yn eu prynu, yn hytrach na chyfanswm y bil.

Er enghraifft, os ydych wedi prynu ffrog a siaced nad oeddynt yn rhan o siwt, gyda phob un yn costio llai na £100, ni fyddwch yn gymwys i’r diogelwch defnyddwyr o dan adran 75.

Enghraifft arall bydd prynu tocynnau am ddigwyddiad, neu docynnau cwmni hedfan.

Bydd ‘tocyn teulu’ yn cyfrif fel un eitem ond ni fydd docynnau unigol am aelodau’r teulu.

Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais yn erbyn cwmni eich cerdyn credyd o dan gynllun gwirfoddol o’r enw ‘chargeback’ rydym yn ei esbonio yn yr adran Deall chargeback isod.

Diogelwch adran 75 os ydych yn talu blaendal gyda cherdyn credyd

Nid oes yn rhaid i chi dalu’r pris llawn ar gerdyn credyd i gael diogelwch adran 75. Mae talu blaendal yn ddigon i roi’r diogelwch cyfreithiol i chi.

Er enghraifft, os wnaethoch brynu rhywbeth sy’n costio £200 ond wedi talu blaendal o £20 ar eich cerdyn credyd a’r gweddill trwy ddull arall (er enghraifft gyda cherdyn debyd neu arian parod), byddwch dal i dderbyn y sicrwydd ac fe fyddwch yn gallu hawlio’r £200 cyfan (ac nid dim ond y blaendal) o’ch cwmni cerdyn credyd pe na bai’r nwyddau yn cyrraedd neu os oeddynt yn ddiffygiol.

Nid ydych chwaith wedi’ch cyfyngu i bris ariannol yr eitemau. Er enghraifft, fe allech hawlio oddi wrth y cyflenwr am dreuliau ychwanegol (fel postio) neu golledion ôl-ddilynol (fel difrod a achosir trwy eitem ddiffygiol), yna gallwch hawlio o dan adran 75 yn erbyn y cwmni cerdyn credyd.

Ail ddeiliaid cardiau ac adran 75

Os yw’r pryniant yn cael ei wneud gan ail ddeiliad cerdyn, rhywun nad yw'n berson sy'n talu'r bil, nid yw’n syml.

Rhaid i unrhyw gais gael ei wneud gan y prif ddeiliad cerdyn, gan nhw a lofnododd y cytundeb credyd, ac fe allai’r cwmni cerdyn credyd wrthod cais os nad oedd yn bryniant ar y cyd, fel gwyliau teuluol, neu rywbeth ar gyfer y prif ddeiliad y cerdyn (fel anrheg pen-blwydd).

Mae braidd yn annelwig felly mae’n werth gwirio gyda chyhoeddwr y cerdyn o’r cychwyn cyntaf.

 

Adran 75 a PayPal

Efallai y cewch amddiffyniad adran 75 pan fyddwch chi’n defnyddio’ch cerdyn credyd trwy PayPal i wneud taliad am nwyddau neu wasanaethau nad ydynt yn gofyn ichi fewngofnodi i'ch cyfrif PayPal. Er enghraifft, os ydych chi'n talu gan ddefnyddio cyfrif gwestai PayPal dros dro heb fewngofnodi i'ch cyfrif PayPal eich hun, efallai y byddwch chi'n gallu gwneud hawliad o dan adran 75 o hyd.

Pan fyddwch yn mewngofnodi ac yn talu gyda'ch cerdyn credyd trwy'ch cyfrif PayPal, nid oes gennych amddiffyniad adran 75.

Mae gan PayPal ei gynllun amddiffyn prynwyr ei hun hefyd. Er mai dim ond eich amddiffyn rhag materion fel cam-ddisgrifiadau neu eitemau nad ydynt yn troi i fyny, gallai fod o gymorth ar gyfer eitemau nad ydynt yn dod o dan adran 75.

Talu am wyliau ar gerdyn credyd

Nid oes gwahaniaeth p'un a ydych yn defnyddio'ch cerdyn i brynu rhywbeth yn y DU neu dramor, rydych wedi'ch diogelu yn yr un ffordd.

Dyma a gynhwysir

  • Cost eich teithiau os aiff y cwmni awyrennau i’r wal.
  • Cost eich gwyliau os aiff y cwmni gwyliau i’r wal.
  • Treuliau ychwanegol neu golledion ôl-ddilynol - er enghraifft, os oedd yn rhaid i chi brynu tocynnau hedfan drutach i deithio adref ar ôl i gwmni awyrennau fethu.

Beth nad yw wedi’i gynnwys

  • Mewn rhai achosion, os byddwch yn prynu taith ‘hedfan yn unig’ gan drydydd parti, fel asiant teithio, efallai na fyddwch yn gallu gwneud cais oherwydd bod y trydydd parti wedi’i gontractio i ddarparu tocynnau’n unig, ac nid ar y daith hedfan.
  • Unrhyw gostau nad oedd rhaid i chi eu talu - er enghraifft, os penderfynoch ymestyn eich gwyliau ar ôl i’r cwmni awyrennau fynd i’r wal (yn hirach na’r oedd rhaid i chi) byddwch yn annhebygol o allu hawlio am gostau ychwanegol.

Sut i ddechrau cais adran 75 ar eich cerdyn credyd

Os ydych yn talu am rywbeth ar eich cerdyn credyd sy'n costio'n fwy na £100 a bod problem, eich cam cyntaf ddylai fod cysylltu â’r cwmni y gwnaethoch brynu oddi wrtho, i roi cyfle iddynt wneud iawn.

Serch hynny, os nad ydynt yn ymateb, neu’n gwrthod rhoi ad-daliad i chi, neu os yw’n amlwg nad oes pwynt cysylltu â hwy (gan eu bod wedi diflannu neu wedi’i ddiddymu), gallwch hawlio yn erbyn eich cwmni cerdyn credyd.

Dyma sut:

  • Ysgrifenwch at y cwmni cerdyn credyd, yn datgan beth a brynoch chi, ble a phryd y prynoch ef a faint a daloch chi. Dylech gynnwys copïau o dderbynebau os oes gennych chi rai (os na, byddwch angen prawf prynu arall).
  • Dywedwch wrthynt eich bod wedi ceisio cysylltu â’r cwmni y gwnaethoch brynu nwyddau neu wasanaethau ganddynt a beth oedd yr ymateb - os o gwbl.
  • Esboniwch beth yr hoffech i’r cwmni cerdyn credyd ei wneud, fel arfer ad-dalu’r pris prynu i’ch cyfrif cerdyn credyd - cofiwch ddatgan: “Rwyf yn gwneud hawliad dan adran 75 Deddf Credyd Defnyddwyr”.
  • Cadwch gofnod o’r llythyr neu’r e-bost rydych wedi’i anfon.

Neu gallwch lenwi rhai manylion ar wefan Which?Yn agor mewn ffenestr newydd a bydd yn anfon llythyr templed atoch i'w anfon at eich darparwr cerdyn credyd. Gallwch hefyd ddefnyddio ap neu wefan cwmni eich cerdyn credyd i wneud cais ar-lein. 

Cardiau debyd a chargeback

Nid yw taliadau a phryniadau cardiau debyd yn cael eu diogelu gan adran 75 y Ddeddf Credyd Defnyddwyr. Ond os nad ydych yn cael rhywbeth rydych wedi talu amdano gyda cherdyn debyd, ac mae’r cwmni’n gwrthod eich ad-dalu, gallwch ofyn eich banc i ‘wrthdroi’r trafodiad’ a chael eich arian yn ôl trwy chargeback.

Nid yw chargeback yn amddiffyniad cyfreithiol fel adran 75, sy’n berthnasol yn y DU. Mae’n gytundeb y mae Visa, Mastercard, Maestro ac American Express wedi ymrwymo iddo. Mae’r cynllun yn eich galluogi i hawlio ad-daliad gan eich darparwr cerdyn os nad yw pryniant yn cyrraedd neu os yw’n ddiffygiol.

Dyma sut rydych yn cael eich arian yn ôl trwy chargeback:

  • Cysylltwch â’r cwmni a cheisiwch gael ad-daliad yn gyntaf cyn i chi wneud cais.
  • Mae’n rhaid eich bod yn gwneud cais o fewn 120 diwrnod o wneud y pryniant. Os yw’r pryniant ar gyfer rhywbeth yn y dyfodol, er enghraifft, tocynnau i ddigwyddiad, yna mae’r terfyn 120 diwrnod yn cychwyn o’r diwrnod y byddai’r digwyddiad wedi digwydd.
  • Bydd y cwmni cerdyn yn ceisio hawlio’ch arian yn ôl o’r cwmni rydych wedi ei dalu, trwy wrthdroi’r trafodiad.
  • Byddwch yn ymwybodol y gall ceisiadau cymryd ychydig o amser i brosesu gan fod rhaid i’r cwmni cerdyn cael yr arian wedi’i ad-dalu cyn ei drosglwyddo i chi.
  • Mae chargeback yn gweithio ar gyfer cardiau debyd, credyd neu ragdaledig.

Sut i gwyno

Os nad ydych yn fodlon â’r ymateb a gewch gan gwmni eich cerdyn gallwch wneud cwyn i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol. 

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Hawlio iawndal os ydych wedi dioddef cam-werthu.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.