Trosglwyddo balans eich cerdyn credyd

Trosglwyddo balans yw pan fyddwch yn symud y balans o un cerdyn credyd neu gerdyn siop i gerdyn credyd arall gyda darparwr gwahanol, fel arfer i fanteisio ar gyfradd llog isel neu 0%. Os ydych yn cael trafferth talu'ch bil cerdyn credyd, darganfyddwch a yw trosglwyddo balans yn iawn i chi.

Manteision ac anfanteision o drosglwyddo balans

Mae manteision ac anfanteision newid i gerdyn credyd gyda chyfradd llog is:

  • Rheoli holl falansau eich cerdyn mewn un lle.

  • Talu llai o log bob mis ar yr hyn sy'n ddyledus gennych ar hyn o bryd – mae'r rhan fwyaf o drosglwyddiadau balans yn cynnig cyfradd llog is (0% yn aml) am gyfnod rhagarweiniol.

  • Mae rhai darparwyr cardiau credyd yn cynnig gwobrau pan fyddwch yn cymryd cerdyn trosglwyddo balans, fel arian yn ôl neu ostyngiadau siopa.

  • Mae rhai darparwyr yn caniatáu i chi 'wirio eich cymhwysedd' yn gyntaf a gwneud 'chwiliad credyd meddal' cyn i chi wneud cais, felly nid yw'n effeithio ar eich sgôr credyd.

  • Mae cwmnïau cardiau credyd fel arfer yn codi ffi am bob balans a drosglwyddir, yn aml tua 2-4% o'r swm rydych chi'n ei drosglwyddo. Ychwanegir y ffi at falans eich datganiad. Gwnewch yn siŵr nad yw'r ffioedd yn costio mwy na'r hyn rydych chi'n ei gynilo.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu'ch balans cyn i'r cynnig rhagarweiniol ddod i ben. Os na, gallech golli unrhyw gyfraddau hyrwyddo isel sydd gennych a chael y gyfradd safonol uwch wedi ei godi arnoch. Gwiriwch am ba hyd y mae unrhyw drosglwyddiad balans 0% yn bodoli a beth yw'r gyfradd llog ar ôl hynny.

  • Os ydych yn gwario gan ddefnyddio eich cerdyn credyd trosglwyddo balans, efallai na fydd y pryniannau newydd hyn yn cael eu cynnwys ar y gyfradd ragarweiniol isel neu 0%.

  • Gall yr uchafswm y gallwch ei drosglwyddo amrywio, yn dibynnu ar eich terfyn credyd unigol a'r balans presennol ar eich cerdyn credyd.

  • Peidiwch â chymryd yn ganiataol y byddwch yn gymwys i gael cytundeb trosglwyddo balans arall a’n gallu symud y balans ymlaen i gerdyn newydd.

Gwneud trosglwyddiad arian

Mae trosglwyddiad arian fel trosglwyddiad balans, ond yn hytrach na'r arian sy'n mynd o un cerdyn credyd i'r llall, mae'r arian o'r cerdyn credyd yn mynd i mewn i'ch cyfrif cyfredol dewisol.

Mae hyn yn eich caniatáu i dalu gorddrafft, neu dalu bil hanfodol neu annisgwyl gan ddefnyddio cerdyn credyd. Cyn i chi wneud trosglwyddiad, gwiriwch y taliadau a'r cyfraddau llog gyda darparwr eich cerdyn gan fod gwneud hyn fel arfer yn ddrytach.

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys manteision ac anfanteision defnyddio cerdyn credyd, gweler ein canllaw Canllaw syml i gardiau credyd.

Dewisiadau eraill yn lle trosglwyddo balans

Gall gwneud trosglwyddiad balans ymddangos yn demtasiwn os ydych yn cael trafferth talu taliadau cardiau credyd, ond mae dewisiadau eraill.

Yn gyntaf, siaradwch â'ch cwmni cardiau credyd neu siop. Bydd dweud wrth eich credydwr eich bod yn cael trafferth yn eu helpu i'ch helpu chi. Mae'n werth darganfod a oes unrhyw opsiynau cymorth a fydd yn gweithio i'r ddau ohonoch. Os oes gennych anabledd corfforol, yn profi problemau iechyd meddwl neu'n agored i niwed, efallai y bydd ganddynt hefyd dimau arbenigol i'ch cynrychioli a'ch cefnogi.

Efallai y byddwch hefyd yn ystyried:

Taliad cyflog ymlaen llaw - mae hwn yn fudd i weithwyr sy'n golygu cymryd rhywfaint neu'r cyfan o'ch cyflog cyn diwrnod cyflog.

Undebau credyd – gallai fod yn opsiwn os oes gennych incwm isel ac mae angen i chi fenthyg swm bach am gyfnod byr.

Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol – cynnig benthyciadau i bobl sy'n ei chael hi'n anodd cael credyd, ond mae eu cyfraddau llog yn tueddu i fod yn uwch nag undebau credyd.

Gorddrafftiau banc – os ydych yn cadw o fewn y terfyn ac nad ydych yn cael taliadau diofyn, bydd hyn yn rhatach na chredyd cartref. Gall cyfraddau llog fod tua 40% o hyd, felly mae'n bwysig ei ad-dalu cyn gynted â phosibl.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.