Penderfynu ar y math gorau o gredyd i chi

Pan rydych chi’n cael benthyg arian, mae’n bwysig deall faint y mae’r gwahanol opsiynau yn ei gostio a sut maent yn gweithio. Mae angen ichi wybod hefyd sut mae’r costau hynny’n amrywio yn ôl y swm rydych yn ei fenthyg a hyd y benthyciad.

Beth sydd yn y canllaw hwn

Beth yw’r opsiwn credyd gorau i chi?

Rheswm dros gael benthyg arian Ystyriwch Awgrymiadau da

Rwyf am brynu rhywbeth ar gredyd a chael hyblygrwydd wrth ei dalu'n ôl

Cerdyn credyd
Mae gan rai fargeinion 0% ar bryniannau dros gyfnod rhagarweiniol (rhwng 3 a 30 mis)

  • Dylech dalu cymaint ag y gallwch i osgoi neu leihau unrhyw daliadau llog
  • Os ydych yn defnyddio bargen 0%, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei dalu'n ôl o fewn y cyfnod di-log 
  • Mae cardiau credyd yn codi tua 22% o log neu fwy ar ôl i’r cynnig cychwynnol ddod i ben 
  • Sefydlu Debyd Uniongyrchol i sicrhau nad ydych yn colli taliad
  • Peidiwch â benthyca mwy nag sydd ei angen arnoch chi
  • Os oes gennych gofnod credyd gwael efallai y cynigir cyfnod 0% byrrach i chi na'r un a hysbysebwyd, cyfradd llog uwch pan ddaw'r cyfnod 0% i ben, neu gael eich gwrthod yn gyfan gwbl
  • Mae rhai cardiau'n codi ffi fisol neu flynyddol

Mae gen i ddyled bresennol yr wyf am ei thalu mor rhad â phosibl

Trosglwyddo balans neu gerdyn trosglwyddo balans arian
Mae rhai cardiau yn gadael ichi drosglwyddo eich dyledion a pheidio â thalu llog am hyd at 18 mis. Felly maent yn gallu bod yn opsiwn rhatach ar gyfer talu dyledion eraill yn ôl.

  • Bydd y mwyafrif o gardiau yn codi ffi o tua 2-4% ar y balans a drosglwyddir
  • Gwybod sut y byddwch yn ad-dalu'r swm cyn i'r cyfnod 0% ddod i ben (sefydlu Debyd Uniongyrchol i ad-dalu symiau rheolaidd) 
  • Efallai y byddwch ond yn gymwys i gael cerdyn trosglwyddo balans os oes gennych incwm rheolaidd
  • Mae cerdyn trosglwyddo arian yn caniatáu i chi dalu arian yn syth i'ch cyfrif banc am ffi. Gallwch ddefnyddio'r arian parod hwn i dalu dyledion eraill.

Darganfyddwch fwy:

Hoffwn gael benthyg rhywfaint o arian ond fy mod yn talu swm penodol yn ôl bob mis

Benthyciad personol
Gallai hyn fod yn rhatach na cherdyn credyd dros gyfnod hwy am symiau mwy. Mae’n bosibl y bydd y llog a godir arnoch yn dibynnu ar eich statws credyd.

  • Yn aml mae isafswm benthyciad (ee £1,000) a hyd (ee blwyddyn)
  • Mae’n rhaid i chi wneud y taliadau misol
  • Nid yw pob benthyciad personol yn codi cyfradd sefydlog, felly cofiwch holi am hyn

Dim ond ychydig o arian dros gyfnod byr yr wyf am gael ei fenthyg

Gorddrafft
Mae rhai cyfrifon cyfredol yn cynnig gorddrafftiau di-log hyd at £100-£250 at derfyn penodol 

  • Gall cyfraddau llog ar orddrafftiau fod tua 40% fel rheol, felly mae mathau eraill o fenthyca yn debygol o fod yn rhatach
  • Os byddwch chi’n benthyg mwy o arian na’ch terfyn awdurdodedig, gallai hynny niweidio eich statws credyd
  • Ddim ar gyfer benthyciad tymor hir gan fod hynny’n ddrud iawn a gall y banc ofyn i chi dalu’r arian yn ôl neu leihau terfyn y gorddrafft ar unrhyw adeg 

Darganfyddwch fwy yn:

Hoffwn ddelio â’m dyledion yn y ffordd rataf a hawsaf bosibl

Benthyciad cyfuno dyledion
Gallai fod ar gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Ond os ydych chi'n cael trafferthion ariannol, efallai y byddai'n well cael cyngor ar ddyledion am ddim cyn cymryd benthyciad o'r fath.

  • Efallai y byddwch chi’n talu llai bob mis ond mae benthyciadau’n gallu para’n llawer hirach, felly byddech yn talu mwy yn ôl rhwng popeth
  • Os ydych yn cael trafferthion ariannol siaradwch ag un o’r asiantaethau sy’n rhoi cyngor cyfrinachol ac annibynnol ar ddyledion yn rhad ac am ddim i gael help i ddeall yr opsiynau gorau wrth reoli’ch dyled

Darganfyddwch fwy yn:

Ble gallaf gael benthyciad rhwng £100 a £1,000 os oes gennyf sgôr credyd isel?

Undebau credyd
Sefydliadau nid-er-elw yw Undebau Credyd sydd fel arfer yn gwasanaethu cymuned neu weithlu lleol. Yn cael eu rhedeg ar gyfer a gan eu haelodau, mae undebau credyd yn cynnig benthyciadau gyda chap cyfradd llog a hefyd yn helpu pobl i gynilo. Bydd llawer hefyd yn cynnig gwasanaethau ychwanegol fel arweiniad ar fudd-daliadau a chymorth ariannol arall.

 

Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol (CDFIs)

Mae CDFIs, a elwir hefyd yn ddarparwyr cyllid cyfrifol, yn cynnig credyd hyblyg a chyflym i'r rhai sy'n gallu fforddio ad-dalu ac fel arfer yn gwasanaethu'r DU gyfan trwy fenthyca ar-lein. Bydd rhai hefyd yn cynnig gwasanaethau ychwanegol fel gwirwyr hawl i fudd-daliadau a mynediad at apiau rheoli arian.

  • Mae'r sefydliadau hyn yn cynnig gwasanaeth wedi’i bersonoli ar gyfer ystod o bobl, gan gynnwys y rhai a allai ei chael yn anodd cael benthyciad gan eu banc
  • Maent yn tueddu i gynnig gwasanaethau cymorth eraill yn ogystal â benthyciadau, gan gynnwys cymorth gyda hawl i fudd-daliadau, cynilion a chyllidebu
  • Dim ond os gallwch fforddio'r ad-daliadau y dylech fenthyca

Darganfyddwch fwy:

Rwy'n byw ar fudd-daliadau a/ neu'n ei chael hi'n anodd talu fy nyledion a chostau byw ond ni allaf gael mwy o gredyd

Benthyciad di-log rydych chi'n ei dalu'n ôl o'ch budd-daliadau neu help gan eich awdurdod lleol (neu lywodraethau'r Alban a Chymru)

  • Os ydych chi'n hawlio budd-daliadau, efallai y gallwch  wneud cais am Fenthyciad Cyllidebu di-log neu Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw
  • Mynnwch help gan gynghorydd dyled am ddim. Gallant eich helpu i lunio cyllideb, delio â'ch credydwyr a gweld a oes gennych hawl i unrhyw fudd-daliadau ychwanegol
  • Peidiwch â benthyca i ad-dalu dyledion - gallwch fod yn gaeth mewn cylch dyled. Mynnwch help gyda'ch cyllid.

Darganfyddwch fwy yn:

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.