Os ydych yn cael trafferth gydag ad-daliadau lluosog, fel gorddrafftiau, cardiau credyd a benthyciadau, gall rhoi'r holl arian sy'n ddyledus gennych mewn un benthyciad ymddangos i wneud bywyd yn haws. Ond mae'r ateb sydd orau i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Darganfyddwch fwy am sut mae benthyciad cydgrynhoi yn gweithio, ac os yw'n addas i chi.
Beth yw benthyciad cydgrynhoi
Os oes gennych lawer o ymrwymiadau credyd gwahanol rydych yn ei chael hi'n anodd cadw i fyny â nhw, gallwch eu rhoi i gyd mewn un benthyciad.
Rydych yn gwneud hyn drwy fenthyca digon o arian i dalu'ch holl ddyledion sy'n weddill a thalu'r hyn sy'n ddyledus i un benthyciwr yn unig.
Mae dau fath o fenthyciad cydgrynhoi:
- Wedi’i warantu – lle mae'r swm rydych yn wedi'i fenthyg yn cael ei warantu yn erbyn ased, eich cartref fel arfer. Os byddwch yn methu ad-daliadau ar yr hyn a elwir yn aml yn 'fenthyciadau perchnogion tai', gallech golli'ch cartref.
- Heb ei warantu – lle nad yw'r benthyciad wedi'i warantu yn erbyn eich cartref neu asedau eraill.
Pan fydd cael benthyciad cydgrynhoi yn helpu
Mae cydgrynhoi ad-daliadau yn gwneud synnwyr os:
- mae'n clirio eich holl daliadau sy'n mynd allan
- mae'r cyfanswm sy'n daladwy yn llai nag yr oedd o'r blaen
- rydych yn talu llai o log nag yr oeddech o'r blaen
- ni chaiff unrhyw gynilion eu dileu gan ffioedd a thaliadau, fel ffioedd ar gyfer ad-dalu benthyciadau presennol yn gynnar neu dalu cwmni i drefnu'r benthyciad newydd
- gallwch fforddio parhau i dalu hyd nes y bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu
- rydych yn ei ddefnyddio fel cyfle i dorri eich gwariant a mynd yn ôl ar y trywydd iawn.
Benthyciadau cydgrynhoi nad ydynt yn peryglu'ch cartref
Gallai opsiwn arall i fenthyciad perchennog cartref wedi’i warantu fod yn gerdyn trosglwyddo balans llog 0% neu isel. Bydd angen i chi ddarganfod a fydd ffi yn cael ei chymhwyso i'r balans a drosglwyddir.
Gall hyn fod y ffordd rhataf, cyn belled â'ch bod yn ad-dalu'r arian o fewn y cyfnod di-log neu log isel.
Mae'n debyg y bydd angen sgôr credyd da arnoch i gael un o'r cardiau hyn, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi trosglwyddo’r balans.
Efallai y byddwch yn gallu cydgrynhoi eich ad-daliadau i fenthyciad personol heb ei warantu, ond unwaith eto, bydd angen sgôr credyd da arnoch i gael y bargeinion gorau.
Cymharu eich holl opsiynau benthyg
Mae benthyciad cydgrynhoi dyled dim ond yn un ffordd o ad-dalu dyled.
Cyn cymryd benthyciad cydgrynhoi
Mae rhai pethau y mae angen i chi eu gwneud cyn i chi gymryd benthyciad cydgrynhoi. Mae'r rhain yn cynnwys:
- siarad â'ch credydwyr
- creu cyllideb
- darganfod a allwch wneud trosglwyddiad balans 0% i gerdyn credyd arall i helpu i leihau cost eich benthyca
- os oes gennych gynilion, cyfrifwch a fyddech yn well eich byd yn eu defnyddio i ad-dalu'n gynnar
- siopa o gwmpas – gall gwefannau cymharu fod yn ddefnyddiol ar gyfer dod o hyd i'r fargen orau
- os ydych angen help i ddatrys eich dyledion yn hytrach na chael benthyciad newydd, efallai y bydd ymgynghorydd dyled yn gallu trafod gyda'ch credydwyr a threfnu cynllun ad-dalu, neu Gynllun Rheoli Dyledion.
- edrych y tu hwnt i'r gyfradd llog a hysbysebir. Cymharwch y gyfradd ganrannol flynyddol (APR), neu'r gyfradd tâl ganrannol flynyddol (APRC) ar gyfer benthyciadau wedi’i warantu. Yr APR yw'r llog y codir arnoch, a bydd yr APRC yn cynnwys y costau ychwanegol fel ffi trefniant.
- ystyriwch siarad ag ymgynghorydd dyledion am ddim a allai ddod o hyd i'r cynnyrch mwyaf addas ar gyfer eich anghenion.
Ond cadwch lygad am:
- cynhyrchion cydgrynhoi sy'n gwneud addewidion afrealistig – os ydych yn cael hysbysiad am daliad misol newydd sy'n sylweddol is ac sy'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, efallai y bydd!
- cynhyrchion sy'n addo atgyweirio eich sgôr credyd ar unwaith neu wneud i chi fod yn ddi-ddyled dros nos - mae benthyciadau cydgrynhoi yn fath arall o fenthyca ac mae'n bwysig eich bod yn parhau i dalu ar amser ac yn gallu gosod cyllideb hylaw nad yw'n gofyn i chi gymryd benthyca ychwanegol i wneud hynny
- darparwyr sy'n codi ffioedd ymlaen llaw neu ffioedd ymgynghori.