Os oes angen i chi fenthyg er mwyn talu am hanfodion ac rydych yn cael budd-daliadau penodol, mae Benthyciad Trefnu neu Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw o’r llywodraeth yn cynnig opsiwn di-log. Mae hwn yn ei wneud llawer yn rhatach nag opsiynau eraill, megis gorddrafft neu fenthyciadau diwrnod cyflog. Darganfyddwch fwy, gan gynnwys sut i wneud cais.
Beth yw Benthyciad Trefnu?
Mae Benthyciad Trefnu (a elwir yn Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw os ydych ar Gredyd Cynhwysol) yn cynnig ffordd ddi-log i fenthyg o £100 i £812.
Mae ad-daliadau fel arfer yn cael eu cymryd yn awtomatig o daliadau budd-dal rheolaidd y dyfodol. Mae wedi’i ddylunio i’ch helpu i dalu am dreuliau hanfodol neu annisgwyl, fel:
- dodrefn a chyfarpar y cartref
- dillad ac esgidiau
- blaendal rhent a chostau symud
- cyfarpar ac offer i’ch helpu i gael neu gadw swydd
- gwella, cynnal neu ddiogelu eich cartref
- cael babi
- cynllunio angladd
Y benthyciad lleiaf gallwch ei gymryd yw £100, gyda’r uchafswm yn seiliedig ar eich sefyllfa byw:
- £384 os ydych yn sengl
- £464 os ydych yn rhan o gwpl
- £812 os oes gennych blant.
Gallwch gael llai os oes gennych gynilion dros £1,000 neu’n ad-dalu Benthyciad Trefnu neu Argyfwng sydd gennych eisoes.
Ad-dalu Benthyciad Trefnu neu Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw
Mae ad-daliadau’n cael eu cyfrifo pan rydych yn cymryd y benthyciad. Mae’r swm yna fel arfer yn cael ei gymryd o’ch taliadau budd-dal rheolaidd nes ei fod wedi’i ad-dalu.
Yn dibynnu ar faint rydych yn ei fenthyg, fel arfer mae’n rhaid i chi ei ad-dalu o fewn dwy flynedd am Fenthyciad Trefnu.
O fis Rhagfyr 2024, bydd y cyfnod ad-dalu ar Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw newydd yn cynyddu o 12 mis i 24 mis, gan wneud taliadau misol yn is.
Os ydych eisoes yn ad-dalu taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw yn ôl neu os gwnaethoch gymryd un allan cyn Rhagfyr 2024, bydd angen i chi ei ad-dalu o fewn blwyddyn.
Os ydych yn stopio cael budd-daliadau tra rydych dal yn gwneud ad-daliadau, bydd angen i chi gytuno ar ffordd arall i ad-dalu’r arian.
Os na allwch fforddio taliadau bellach, gofynnwch i gytuno ar gynllun ad-dalu arall. Mae’n bwysig nad ydych yn cwympo i ddyled tra rydych yn ad-dalu’r benthyciad.
Pwy sy’n gymwys am Fenthyciad Trefnu?
Gallwch wneud cais am Fenthyciad Trefnu os ydych wedi bod yn hawlio un o’r budd-daliadau hyn am o leiaf chwe mis:
- Credyd Pensiwn
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
Sut i wneud cais am Fenthyciad Trefnu
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, gallwch wneud cais ar-lein ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd Gallwch hefyd lawrlwytho, argraffu a chwblhau Ffurflen SF500 ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd neu gasglu un o’ch Canolfan Byd Gwaith lleol.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi gwblhau Ffurflen SF500 ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd neu ymweld â’ch swyddfa Jobs and Benefits lleol.
Pwy sy’n gymwys am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw
Gallwch wneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw os:
- ydych wedi bod yn cael Credyd Cynhwysol am o leiaf chwe mis – oni bai eich bod angen yr arian i’ch helpu i gael neu gadw swydd
- wedi ennill llai na £2,600 (£3,600 os ydych mewn cwpl) yn y chwe mis diwethaf
- nad ydych yn barod yn ad-dalu Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw arall
Sut i wneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw
Bydd angen i chi siarad ag ymgynghorwr i wneud cais. Cysylltwch â llinell gymorth Credyd Cynhwysol trwy eich cyfrif ar-lein neu gofynnwch eich anogwr gwaith yn eich Canolfan Byd Gwaith lleol.
Mae gan Gyngor ar Bopeth mwy o wybodaeth ar Daliadau Cyllidebu Ymlaen LlawYn agor mewn ffenestr newydd
Help arall sydd ar gael
Mae ble i gael help a chefnogaeth mewn argyfwng yn dibynnu ar ble rydych yn byw:
- Yn Lloegr, cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddod o hyd i’ch cynllun cymorth lles lleolYn agor mewn ffenestr newydd
- Yn Yr Alban, darganfyddwch am y Scottish Welfare FundYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth Yr Alban
- Yng Nghymru, darganfyddwch am y Gronfa Cymorth DdewisolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth Cymru
- Yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch am Discretionary SupportYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect
Help os ydych yn cael babi
Os ydych yn feichiog gyda’ch plentyn cyntaf, neu mae gennych blant yn barod ac rydych nawr yn disgwyl gefeilliaid (neu enedigaethau lluosog), efallai gallwch hawlio grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn o £500. Ni fydd rhaid i chi ad-dalu hwn.
Darganfyddwch fwy am y grant hwn a help arall gall fod ar gael yn ein canllaw Pa fudd-daliadau gallaf eu hawlio pan fyddaf yn feichiog neu wedi cael babi?
Help gyda chostau angladd
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol ac mae’n rhaid i chi dalu am gostau angladd perthynas neu ffrind agos, efallai gallwch wneud cais am Daliad Costau AngladdYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn cael trafferth cyn eich taliad budd-dal cyntaf
Os ydych yn aros am eich taliad cyntaf ac na allwch fforddio byw, gallwch ofyn am daliad ychwanegol yn gynnar. Gelwir hyn yn daliad ymlaen llaw budd-dal byrdymor.
Yna caiff eich budd-daliadau rheolaidd ei leihau gan ychydig pob tro nes ei fod wedi’i ad-dalu. Gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw ar y budd-daliadau canlynol:
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Gofalwr
- Credyd Pensiwn
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Lwfans Ceisio Gwaith
Gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol trwy’ch cyfrif ar-lein. Ar gyfer y budd-daliadau eraill, fel arfer bydd angen i chi ffonio i wneud cais. Gweler GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, a nidirectYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer y rhif ffôn a’r amserau agor.