Os ydych wedi cael eich gwrthod am gerdyn credyd neu fenthyciad, mae camau y gallwch eu cymryd i ddeall pam. Mae’n bwysig peidio â gwneud unrhyw beth a allai niweidio’ch statws credyd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pam y gwrthodwyd credyd i mi?
Mae llawer o resymau pam y gallai cwmni wrthod eich cais am gredyd. Mae'r rhain yn cynnwys:
- bod eich sgôr credyd yn rhy isel
- gwybodaeth negyddol ar eich ffeil gredyd, fel cofnodion taliadau rydych wedi'u colli.
- y benthyciwr yn penderfynu na fyddech yn gallu fforddio ad-dalu'r credyd y gwnaethoch gais amdano
- gwybodaeth ar eich ffeil sy'n awgrymu gweithgaredd twyllodrus
- amheuaeth am eich hunaniaeth neu'ch cyfeiriad
- amod cyfreithiol neu bolisi cwmni (er enghraifft, mae benthyciwr yn gosod isafswm lefel incwm y mae rhaid i fenthyciwr fod yn ei ennill).
Mae'r camau gorau i chi eu hystyried nesaf ar ôl i gais credyd gael ei wrthod yn dibynnu ar y rheswm y gwrthodwyd eich cais.
Beth gellid ei ddweud wrthych os gwrthodwyd credyd neu fenthyciad i chi
Yn aml ni fydd benthyciwr yn dweud wrthych pam y gwrthodwyd credyd i chi, ac nid oes rhaid iddynt ddarparu rheswm hyd yn oed os gofynnwch.
Ond dylent roi gwybod i chi pa asiantaeth statws credyd y gwnaethant ei defnyddio.
Yna gallwch gysylltu â’r asiantaeth statws credyd i ofyn am gopi o’ch ffeil.
Os byddwch yn gweld camgymeriad yn eich ffeil credyd, ysgrifennwch at yr asiantaeth statws credyd a gofynnwch iddynt ei gywiro.
Gwnewch yn siwr eich bod yn esbonio pam ei fod yn anghywir, a chynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych.
Mae gan yr asiantaeth 28 diwrnod i weithredu. Bydd y manylion perthnasol yn eich adroddiad credyd wedi ei farcio fel ‘cael ei herio’ wrthi iddynt archwilio’r mater.
Peidiwch â dal ati i wneud cais
Os ydych wedi cael gwrthod benthyciad neu gerdyn credyd, ystyriwch yn ofalus iawn cyn ymgeisio am ragor o gredyd.
Bydd unrhyw geisiadau am gredyd a wnewch – llwyddiannus neu beidio – yn dangos ar eich ffeil gredyd.
Gallai sawl cais mewn cyfnod byr wneud i ddarparwyr benthyciadau feddwl bod angen arian arnoch yn enbyd.
Gallai hyn niweidio’ch statws credyd ymhellach. Mae’ch statws credyd yn effeithio ar ba un ai gallwch gael credyd neu beidio a faint gewch ei fenthyca.
Gall effeithio ar y gyfradd llog y gallech orfod ei thalu hefyd.
Benthyg arian i dalu dyledion eraill
Os ydych yn ystyried benthyca i dalu arian arall sy'n ddyledus gennych eisoes neu i dalu biliau a threuliau byw bob dydd, gallai fod yn syniad da edrych ar ffyrdd o leihau faint rydych yn ei wario ar y pethau hyn. Er enghraifft, meddyliwch sut y gallech geisio lleihau maint eich gorddrafft neu gynyddu eich taliadau cerdyn credyd er mwyn osgoi cynyddu cymaint o log. Efallai y byddwch hefyd yn edrych ar newid cyflenwyr ynni i gwtogi ar gostau eich cartref.
Os ydych eisoes yn colli taliadau hanfodol (rhent, morgais, Treth Gyngor, ynni, dŵr) neu ar gardiau credyd, benthyciadau neu gredyd arall, mae'n bwysig cysylltu â gwasanaeth cynghori ar ddyledion am ddim cyn gynted ag y gallwch.
Byddant yn gweithio â chi i lunio cynllun i weithio allan pa ddyledion y dylech eu had-dalu yn gyntaf, ac osgoi mynd i fwy o ddyled.
Cyn i chi edrych am gael benthyciad mewn man arall
Os ydych wedi cael eich gwrthod ar gyfer benthyciad neu gerdyn, gallai fod yn gyfle da i chi feddwl am eich sefyllfa ariannol bresennol.
Ailadeiladu eich statws credyd
Mae camau y gallwch eu cymryd i ailadeiladu eich statws credyd.
Opsiynau benthyca eraill os oes gennych statws credyd gwael
Os ydych angen benthyg arian ac y gallwch fforddio’r ad-daliadau, mae rhai opsiynau y tu hwnt i gardiau credyd a benthyciadau personol.