Os prynwch gar sy’n ddiffygiol wedyn, mae’ch hawliau ac opsiynau’n dibynnu i raddau helaeth ar bwy rydych wedi’i brynu ganddo a sut y cafodd y car ei ddisgrifio ichi. Mae gennych lai o ddiogelwch cyfreithiol wrth brynu gan werthwr preifat neu arwerthiant ceir nag wrth brynu gan ddeliwr.
Problemau gyda cheir a brynir gan ddelwyr
Os byddwch yn prynu car newydd neu ail-law gan ddeliwr ac yn profi problemau gydag ef, mae gennych hawliau statudol dan Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015.
Mae’r Ddeddf yn datgan bod yn rhaid i’r car fod “o ansawdd foddhaol”, “yn addas i’r diben” a “fel y’i disgrifiwyd”. (Ar gyfer car ail-law, mae “ansawdd foddhaol” yn cymryd i ystyriaeth oed a milltiredd y car.)
Mae gennych hawl i wrthod rhywbeth diffygiol ac mae gennych hawl i gael ad-daliad llawn cyn pen 30 diwrnod ar ôl ei brynu yn y rhan fwyaf o achosion.
Ar ôl 30 diwrnod, byddwch chi'n colli'r hawl tymor byr i wrthod y nwyddau.
Bydd gennych hefyd lai o hawliau, fel dim ond gallu gofyn am atgyweiriad neu amnewidiad, neu ad-daliad rhannol.
Mewn gwirionedd, yn gyfreithiol rydych chi'n cael ei ddychwelyd hyd at chwe blynedd ar ôl i chi ei brynu (yn yr Alban, mae'n bum mlynedd ar ôl i chi sylweddoli gyntaf fod problem).
Ond mae'n mynd yn anoddach profi nam ac nid traul arferol yw achos unrhyw broblem.
Sut i fynd ati i unioni pethau
Awgrym da
Ceisiwch gadw sgyrsiau gyda’r deliwr mor gyfeillgar â phosibl.
Dyma beth i’w wneud os oes gennych broblem gyda char newydd neu ail-law rydych wedi’i brynu gan ddeliwr:
- Cysylltwch â’r deliwr cyn gynted ag yr ydych yn sylwi ar y broblem – yn bersonol os yn bosibl.
- Os yw’r deliwr yn cynnig trwsio’r broblem, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall unrhyw gostau sydd ynghlwm. Cadwch gofnod o’ch sgyrsiau a gohebiaeth, a chael pob cytundeb llafar yn ysgrifenedig.
- Os bydd popeth arall yn methu, gallwch wrthod eich car cyhyd â’ch bod wedi ceisio datrys y broblem gyda’r deliwr yn gyntaf.
- Mae’n rhaid ichi roi manylion ysgrifenedig i’r deliwr ynghylch eich rhesymau dros wrthod y car, ac o fewn chwe mis o dderbyn y car.
- Os yw’r deliwr yn gwrthod derbyn eich gwrthodiad o’r car, cysylltwch ag adran cysylltiadau cwsmeriaid ei weithgynhyrchydd ar unwaith. Efallai y byddant yn gallu cyfryngu.
I gael cymorth wrth gyflwyno’ch cwyn ystyriwch ddefnyddio Resolver - gwasanaeth ac yn ap rhad ac am ddim ar-lein sy’n cynnig cyngor i’r defnyddiwr ac sy’n symleiddio’r broses o gwyno
Darganfyddwch fwy ar wefan Revolver
Problemau gyda char ail law – eich hawliau fel defnyddiwr
Er na phrynoch chi eich car yn newydd, nid yw hyn golygu nad oes gennych chi hawliau os aiff unrhyw beth o’i le.
Gallech fod â hawl cyfreithiol i gael iawndal. Mae hyn yn dibynnu ar:
- pryd a ble y gwnaethoch ei brynu
- beth yw'r union broblem
- a oeddech chi'n gwybod bod problem pan wnaethoch chi ei brynu. Gallai hyn fod yn atgyweiriad, swm o arian i dalu cost atgyweiriad, neu ad-daliad llawn neu rannol o'r arian a wariwyd gennych.
Mae gan Cyngor ar Bopeth offeryn sy’n egluro’ch hawliau fel defnyddiwr. Y cwbl sydd ei angen arnoch yw’r dyddiad y prynoch y car ac a gafodd ei brynu’n breifat neu drwy werthwr masnachol.
Defnyddwich yr offeryn ar wefan Cyngor ar Bopeth
Diogelwch ychwanegol wrth brynu gan ddeliwr
Awgrym da
Mae hawliau defnyddwyr yn faes cymhleth, felly rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor manylach hefyd.
Ceisiwch gysylltu â Chyngor ar Bopeth neu Motor Ombudsman
Os prynwch gar newydd neu ail-law gan ddeliwr ac mae rhywbeth yn mynd o chwith arno, bydd gennych ddiogelwch ychwanegol os ydych wedi’i brynu drwy hurbwrcasu,
Mae gennych ddiogelwch dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974 a Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015.
Dylai’r car fod o ansawdd foddhaol, yn addas i’r diben a fel y’i disgrifiwyd
Gyda hurbwrcasu, darparwr y cyllid yn hytrach na’r deliwr sy’n gyfrifol ichi dan y gyfraith os oes problemau gyda’r car.
Os taloch y cyfan neu ran o gost eich car gyda cherdyn credyd, mae’n bosibl bod y cwmni cerdyn a’r masnachwr yn gyd-gyfrifol am eich digolledu dan Adran 75 Deddf Credyd Defnyddwyr 1974.
Talu arian parod gan ddefnyddio cerdyn debyd
Ni fydd eich pryniant yn dod o dan Adran 75 o'r Ddeddf Credyd Defnyddwyr. Ond efallai y gallwch hawlio ad-daliad gan eich darparwr cerdyn debyd trwy gynllun gwirfoddol o’r enw ‘chargeback’.
Mae Visa, MasterCard, Maestro ac American Express ymhlith y cwmnïau sydd wedi cofrestru i 'chargeback'.
Yn dibynnu ar y cerdyn a ddefnyddiwyd gennych, mae'n debyg y bydd angen i chi wneud eich cais cyn pen 120 diwrnod ar ôl sylwi ar y broblem.
Gall ceisiadau ‘chargeback’ gymryd peth amser i'w prosesu oherwydd bod yn rhaid i'r cwmni cardiau gael yr arian yn ôl cyn y gallant ei drosglwyddo i chi.
Darganfyddwch fwy ar sut rydych chi'n cael eich amddiffyn os ydych chi'n talu gyda cherdyn credyd
Problemau gyda cheir ail-law a brynir yn breifat
Prynu’n breifat yw un o’r ffyrdd mwyaf peryglus o brynu car. Os aiff rhywbeth o chwith gydag ef ni fydd gennych gymaint o ddiogelwch cyfreithiol â’r hyn a fyddai gennych pe byddech wedi prynu’r car gan ddeliwr.
Mae’n rhaid i’r car gyfateb â disgrifiad y gwerthwr, fod yn addas ar gyfer y ffyrdd ac mae’n rhaid bod gan y gwerthwr yr hawl gyfreithiol i’w werthu ichi.
Mewn geiriau eraill, mae’n rhaid i’r car weithio, cwrdd â’r gofynion cyfreithiol i’w yrru ar ffyrdd cyhoeddus, a chael ei berchen gan y gwerthwr.
Ond chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y car “o ansawdd foddhaol” ac yn “addas i’r diben” cyn ichi ei brynu.
Gwyliwch am unrhyw werthwyr diegwyddor yn cymryd arnynt eu bod yn berchnogion preifat fel y gallant gael gwared ar geir diffygiol neu geir wedi’u lladrata.
Darganfyddwch fwy am eich hawliau ar wefan Cyngor ar Bopeth
Problemau gyda cheir ail-law a brynir mewn arwerthiant
Oeddech chi’n gwybod?
Os prynwch gar neu unrhyw eitem arall gan wefan arwerthu trwy ddefnyddio’r opsiwn “prynu nawr”, nid yw hyn yn cyfrif fel pryniad arwerthiant. Os dewiswch ‘prynu nawr’ bydd eich hawliau arferol fel defnyddiwr – yn cynnwys hawliau gwerthu o bell – yn berthnasol, cyn belled â’ch bod yn prynu gan fasnachwr busnes.
Mae arwerthiannau ceir yn gyflym a chyffrous, ond gallant gyflwyno perygl i bobl amhrofiadol ac anwyliadwrus.
Pan fyddwch wedi gwneud eich cynnig ni allwch ei ddadwneud. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod o flaen llaw beth sydd gennych wrth gefn os bydd car yn ddiffygiol nes ymlaen.
Arwerthiannau byw i geir
Efallai na fydd gennych unrhyw hawliau dan Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 a gellir gwerthu’r car ichi “fel y’i gwelir”.
Felly cyn cynnig, gwiriwch delerau ac amodau tŷ’r arwerthiant bob tro yn ogystal â’r car ei hunan.
Darganfyddwch beth yw’ch hawliau ar wefan Cyngor ar Bopeth
Arwerthiannau ceir ar-lein:
Gydag awerthiannau ar-lein mae’ch hawliau cyfreithiol yn dibynnu ar a yw’r gwerthwr yn unigolyn preifat neu’n ddeliwr ceir.
Os yw’r gwerthwr yn unigolyn preifat, does ond angen i’r car fod fel y’i disgrifir - felly mae’n achos o “brynwr byddwch yn wyliadwrus”
Mae’ch hawliau cyfreithiol yr un peth â phe byddechyn prynu ganddynt yn bersonol (gweler ‘Problemau gyda ceir ail-law a brynir yn breifat’ uchod).
Os yw’r gwerthwr yn ddeliwr, cewch eich diogelu gan y Ddeddf Gwerthu Nwyddau os canfyddwch nad yw’r car o ansawdd foddhaol, yn addas i’r diben neu fel y’i disgrifir.
Hefyd fe’ch diogelir gan Rheoliadau Cytundebau Defnyddiwr (Gwybodaeth, Canslo a Ffioedd Ychwanegol) 2013 Mae hyn yn golygu bod gennych hawl i ganslo’r archeb o fewn 14 diwrnod o’r pryniad gwreiddiol.