Rhedeg car fel gyrrwr ifanc neu newydd

Mae rhedeg car yn ddrud ac, fel person ifanc, byddwch chi'n talu mwy mewn yswiriant.

Yr hyn sy’n rhaid i chi ei gael yn ôl y gyfraith

Mae rhai pethau y mae’n rhaid i chi eu cael yn ôl y gyfraith cyn y gallwch ddechrau gyrru eich car ar y ffordd:

  • Yn gyntaf, bydd angen trwydded yrru arnoch. Gall y rhan fwyaf o bobl ddechrau dysgu gyrru yn 17 oed. Os nad ydych wedi cael eich trwydded eto. Gallwch ddysgu beth i’w wneud fesul cam ar wefan GOV.UK
  • Rhaid talu treth car (a elwir hefyd yn swyddogol fel VED ond weithiau y cyfeirir ati fel treth ffordd) ar bob cerbyd a gofrestrir yn y DU sy’n cael ei yrru neu ei gadw ar ffordd gyhoeddus. Gall fod yn unrhyw beth o £0 hyd at £2,000 neu fwy bob blwyddyn, yn dibynnu ar pa mor ecogyfeillgar yw’r car. Pan brynwch gar, ni chaiff treth y car ei drosglwyddo gyda’r cerbyd. Felly mae’n rhaid i chi ei drethu cyn y gallwch ei ddefnyddio. Gweler ein canllaw ar Bandiau Treth wedi'u hegluro am ragor o fanylion.
  • MOT yw prawf blynyddol ar bob car sydd dros dair oed. Yn gyfreithiol, rhaid i gerbyd basio’r MOT i sicrhau ei fod yn ddiogel ac mewn cyflwr digon da i’w yrru ar y ffordd. Y gost safonol a osodwyd gan y llywodraeth yw £54.85 am gar. Ni chaiff modurdai godi mwy na hyn am wneud y prawf, ond mae amryw o fodurdai yn codi llai na hyn, felly mae’n werth chwilio am y fargen orau. Darganfyddwch fwy am MOTs a sut i arbed arian arnynt.
  • Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich cerbyd bob amser yn ddiogel i’w yrru (‘roadworthy’). Gall fod yn anniogel hyd yn oed os oes gennych dystysgrif MOT gyfredol. Gallwch gael dirwy o hyd at £2,500, eich gwahardd rhag gyrru a chael 3 phwynt cosb am yrru cerbyd mewn cyflwr peryglus.
  • Rhaid bod gennych hefyd o leiaf yswiriant trydydd parti sy'n cynnwys eich defnydd o'r cerbyd.
  • Bydd angen i chi hefyd gofrestru eich perchnogaeth o'r cerbyd gyda DVLA (Opens in a new window)

Yswiriant

Pan ddechreuwch yrru'ch car eich hun am y tro cyntaf, mae'n debygol y bydd eich yswiriant yn eithaf drud. Ond, wrth i chi heneiddio, bydd eich premiymau yswiriant yn dechrau gostwng os ydych chi'n yrrwr da.

Mae yna lawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i leihau’r gost os yw eich yswiriant, fel ychwanegu person mwy profiadol fel ail yrrwr ar y polisi, neu leihau eich milltiroedd.

Mae yna hefyd ystod o opsiynau yswiriant car telematig, neu flwch du. Mae hyn yn cynnwys gosod dyfais yn eich car i fonitro agweddau ar eich gyrru fel cyflymder a brecio.

Gall hyn dorri pris eich yswiriant os ydych chi'n yrrwr da. Ond gall eich premiymau hefyd godi oherwydd gyrru gwael.

Costau mawr eraill gyda cheir

Costau tanwydd

Awgrymiadau da ar sut i leihau eich costau tanwydd, gan gynnwys:

  • gyrru gofalus – bydd bod ychydig yn llai byrbwyll wrth gyflymu a pheidio â gyrru mor gyflym yn lleihau faint o danwydd y byddwch yn ei ddefnyddio yn sylweddol.
  • effeithiolrwydd - ystyriwch faint o danwydd y mae unrhyw gar yr ydych yn gobeithio ei brynu yn ei ddefnyddio. Yn gyffredinol, po fwyaf yw’r injan, po fwyaf o danwydd a ddefnyddir ganddo.
  • pethau trwm – peidiwch â gadael pethau trwm yn y car a thynnwch raciau to os nad ydych yn eu defnyddio. Po fwyaf trwm yw’r car, po fwyaf o danwydd a ddefnyddir ganddo.
  • siopa – yn aml mae gan archfarchnadoedd brisiau cystadleuol am danwydd, a gallwch weithiau gasglu pwyntiau a’u gwario ar nwyddau eraill.

Cymharwch gostau tanwydd yn eich ardal ar wefan PetrolPrices

Gwasanaethu a chynnal a chadw

Mae’r cwmni moduro RAC yn dweud ei bod yn costio tua £472 i gynnal a chadw car ail law dros flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys cael yr MOT, ac unrhyw wasanaeth neu waith trwsio gofynnol.

Am ffi fisol, bydd gwarant car ail law yn cynnwys rhai mathau o waith trwsio ar eich car, a gall hyd yn oed gynnwys gwasanaeth ac MOT unwaith y flwyddyn.

Os byddwch yn penderfynu cymryd warant, gwnewch yn siŵr eich bod yn glir beth sy’n cael ei gynnwys a beth sydd ddim.

Yswiriant torri i lawr

Y tebygolrwydd yw bod y rhan fwyaf o yrwyr wedi torri i lawr o leiaf unwaith.

Mae yswiriant torri i lawr yn amrywio o gael peiriannydd i gael golwg ar eich car wrth ochr y ffordd, i gael eich car wedi ei gludo o unrhyw le yn Ewrop gyda char benthyg i chi ddal ati i deithio.

Yn naturiol, gorau yn y byd yw’r yswiriant, mwyaf yn y byd y bydd yn ei gostio.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio beth sy’n cael ei gynnwys ar bob lefel o’r yswiriant a dewiswch un sy’n bodloni eich anghenion chi orau.

Efallai y byddai'n rhatach dod o hyd i bolisi yswiriant sy'n cynnwys yswiriant torri i lawr. Ond gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwirio'r polisi yn ofalus fel eich bod chi'n gwybod beth sydd wedi'i gynnwys.

Cyfrifoldebau gyrwyr eraill

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dweud wrth DVLA os yw'ch cerbyd:

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.