Dylech bob amser fargeinio wrth brynu car newydd neu ail law i sicrhau eich bod yn cael y pris gorau.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut i fargeinio am gar newydd
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cyfrifo faint y gallwch chi ei fforddio a’ch bod wedi gwneud digon o ymchwil ar y car rydych yn bwriadu ei brynu – gan gynnwys y pris a restrir.
Os byddwch yn talu ag arian parod, yn rhoi car arall yn gyfnewid neu yn trefnu cynllun cyllido, nid yw prisiau gwerthwyr ceir mewn modurdy wedi eu gosod yn bendant.
Felly paratowch gyda’n hawgrymiadau da isod.
Awgrymiadau da i gael bargen wych
Beth i’w wneud ymlaen llaw
Byddwch yn ymwybodol
Ers 1 Hydref 2014, nid yw treth ar gar yn cael ei drosglwyddo felly mae’n rhaid i chi drethu’ch car cyn i chi ei yrru.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pris rhestredig y car. Edrychwch ar wefan y gweithgynhyrchwr, neu wefannau ceir fel Parkers neu What Car? Neu edrychwch ar y rhestrau ceir newydd yng nghefn cylchgronau gyrru fel Auto Express
- Adnabod y nodweddion pwysicaf sy’n gweddu i’ch anghenion chi. Peidiwch â chael eich darbwyllo i brynu model mwy syml oherwydd ei fod yn rhatach – yn hytrach, anelwch at gael y model a ddymunwch ar ddisgownt.
- Gwiriwch ar-lein am werthwyr eraill yn eich ardal i weld a oes unrhyw un ohonynt yn cynnig bargeinion ar yr un car. Gall hyn fod yn ddefnyddiol wrth fargeinio.
- Os ydych yn cyfnewid eich car presennol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ei werth. Mwyaf yn y byd y gallwch chi ei gael amdano, y lleiaf caled y bydd yn rhaid i chi fargeinio ar weddill y fargen. Gallwch gael prisiad am ddim yn gyflym a rhwydd ar wefannau fel ParkersYn agor mewn ffenestr newydd neu brisiad mwy manwl os byddwch yn talu ffi.
- Dylech bob amser yrru’r car ar daith prawf. Cofiwch ei yrru i fyny rhiwiau, mewn traffig ac ar y ffordd agored. Os yn bosib, cymharwch y car â’r un model ond un symlach neu gyda rhagor o offer.
- Ydych chi'n edrych i siopa o gwmpas am gar? Efallai y byddwch am ystyried Which?Yn agor mewn ffenestr newydd neu’r Car ExpertYn agor mewn ffenestr newydd
Wrth siarad gyda’r gwerthwr
- Byddwch yn gwrtais a chyfeillgar, ond peidiwch â gadael i’r gwerthwr wybod beth yw eich uchafswm.
- Os ydych yn prynu ag arian parod, peidiwch â dweud wrth y gwerthwr yn syth. Mae gwerthwyr ceir yn gwneud mwy o elw ar gytundebau cyllido, felly gadewch iddyn nhw fargeinio pris y car ar y sail honno. Gallwch wrthod y fargen cyllido yn nes ymlaen yn y broses.
- Cychwynnwch trwy nodi swm sydd yn is na’r hyn rydych yn barod i’w dalu – felly gallwch chi gynyddu’n raddol os bydd angen.
- Pan fyddwch yn rhoi cynnig, peidiwch â siarad eto nes bydd y gwerthwr yn ateb.
- Byddwch mor bositif ag y gallwch am eich nod. Er enghraifft, peidiwch â dweud “A allaf gael disgownt?” Yn hytrach, gofynnwch “Faint o ddisgownt fyddech chi’n ei roi i mi?”
- Bydd rhai pobl wrth chwilio am fargen yn dechrau trwy ddweud nad ydyn nhw’n barod i dalu’r pris a hysbysebwyd, ond cofiwch eu BOD yno i daro bargen!
- Os byddwch yn ei chael yn anodd cael disgownt ond eich bod am gael y car, cynigiwch gytuno ar y fargen yn y fan a’r lle os byddwch ill dau yn cytuno ar bris.
- Peidiwch â bod ofn cerdded oddi yno os na fydd y gwerthwr yn barod i drafod neu symud llawer ar y pris.
Pan fyddwch wedi cytuno ar fargen, mae'n dal yn bosibl dod allan o'ch trefniant cyllid car.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dod a cytundeb cyllid car i ben yn gynnar
Sut i fargeinio am gar ail-law
Mae prynu car ail-law gan werthwr mewn modurdy yn llai o risg na phrynu yn breifat oherwydd bod gennych fwy o hawliau defnyddwyr os bydd diffygion difrifol ar y car yn nes ymlaen.
Mae llawer o’n hawgrymiadau uchod yn berthnasol wrth fargeinio gyda gwerthwr am geir ail-law.
Bydd prynu car ail-law yn breifat fel arfer yn rhoi gwell bargen i chi na phrynu trwy werthwr ceri ail-law.
Yn aml iawn bydd y gwerthwr preifat ar fwy o frys ac felly yn fwy parod i fargeinio.
Efallai eu bod wedi gweld y car y maent am ei brynu a than bwysau i werthu eu hen gar.
Neu efallai eu bod eisoes wedi prynu car arall ac yn gorfod rhedeg dau gar nes y byddant wedi gwerthu’r hen un.
Pa ffordd bynnag y byddwch yn prynu car ail-law, bydd gennych fwy o ffyrdd i fargeinio nag a fydd gyda char newydd.
Er enghraifft:
- diffygion technegol
- teiars ar fin mynd yn anghyfreithlon
- hanes gwasanaeth neu MOT heb fod yn gyflawn
- difrod i’r car fel tolciau neu farciau
- y car i fod i newid gwregys cam sydd yn ddrud.
Os yn bosibl, ceisiwch ganfod am ba mor hir y mae’r gwerthwr wedi bod yn ceisio gwerthu’r car.
Efallai bod arwydd wedi bod yn y ffenestr am gyfnod?
Neu wedi ei hysbysebu yn y papur lleol am wythnos yn barod, neu wedi bod ar safle fel Auto Trader am gyfnod?
Os nad ydych wedi penderfynu sut y byddwch yn talu am eich car, ceisiwch ganfod eich dewisiadau cyn gynted ag sy’n bosibl.
Os cewch chi broblemau â’ch car, gall y modd y gwnaethoch dalu amdano effeithio ar eich hawliau defnyddiwr.
Mae hon yn ystyriaeth bwysig.