Bandiau treth car wedi’u hegluro

Trethu car - y ffeithiau sylfaenol

Rhaid talu treth car ar bob cerbyd a gofrestrir yn y DU, sy’n cael ei yrru neu ei gadw ar ffordd gyhoeddus. Gall dewis y car iawn wneud gwahaniaeth mawr i’ch costau treth.

Yn ogystal, gallai dewis car â threth isel olygu bod y car yn cadw ei werth yn well, gan y bydd ganddo gostau rhedeg is yn y dyfodol, hefyd.

Rhaid trethu cerbyd a gedwir oddi ar y ffordd neu mae’n rhaid iddo gael Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol (SORN).

Gallwch wirio faint o dreth ffordd fydd yn ddyledus ar fodelau ceir newydd a hŷn ar un o’r dolenni isod.

Perchnogion ceir sydd wedi’u heithrio rhag treth car

Rhaid ei adnewyddu bob blwyddyn hyd yn oed os yw eich cyfradd dreth yn £0. Gallwch ei wneud ar-lein gyda'r gyfrifiannell cyfraddau treth cerbydau ar GOV.uk (Opens in a new window)

Nid yw’r mathau canlynol o berchnogion ceir yn talu unrhyw dreth car:

  • perchnogion ceir newydd sy’n cynhyrchu 0 gram o allyriadau carbon deuocsid (CO2) ac sydd â phris o lai na £40,000
  • perchnogion ceir a gofrestrwyd rhwng 1 Mawrth 2001 a chyn 1 Ebrill 2017 sy’n cynhyrchu hyd at 100 gram o CO2 am bob cilomedr a yrrir.

Os oes gennych anabledd, gallech fod yn gymwys i gael treth car am ddim:

  • os oes gennych chi gerbyd i berson anabl, fel sgwter symudedd
  • os ydych yn cael Atodiad Symudedd Pensiynwr Rhyfel
  • os ydych yn cael yr Elfen Symudedd Uwch y Taliad Annibyniaeth Personol.

Nid oes rhaid i chi dalu treth car ar ‘gerbydau hanesyddol’ sy’n golygu car sy’n hŷn na 40 mlwydd oed.

Faint yw treth car?

Ceir a gofrestrwyd cyntaf ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017

Ym mlwyddyn gyntaf y car, bydd cyfraddau trwydded yn newid yn seiliedig ar allyriadau carbon deuocsid y cerbyd

Cyfraddau yn seiliedig ar allyriadau carbon deuocsid yn y flwyddyn gyntaf
Allyriadau CO2 Ceir petrol (TC48) a cheir diesel (TC49) sy'n cwrdd â safon RDE2 Pob car diesel arall (TC49) Ceir tanwydd amgen (TC59)

0g/km

£0

£0

£0

1 to 50kg/km

£10

£30

£0

51 to 75g/km

£30

£130

£20

76 to 90g/km

£130

£165

£120

91 to 100g/km

£165

£185

£155

101 to 110g/km

£185

£210

£175

111 to 130g/km

£210

£255

£200

131 to 150g/km

£255

£645

£245

151 to 170g/km

£645

£1,040

£635

171 to 190g/km

£1,040

£1,565

£1,030

191 to 225g/km

£1,565

£2,220

£1,555

226 to 255g/km

£2,220

£2,605

£2,210

Dros 255g/km

£2,605

£2,605

£2,595

Ar ôl blwyddyn gyntaf y car, ar gyfer ceir sydd â phris gwerthu dan £40,000, y costau treth car yw:

Treth yn seiliedig ar y math o danwydd ar ôl y flwyddyn gyntaf
Allyriadau CO2 (g/km Cerbyd trydan Tanwydd arall Petrol neu ddiesel

0

0

0

0

1 - dros 255

£0

£170

£180

Ar gyfer ceir sy’n costio mwy na £40,000, byddwch yn talu £355 yn ychwanegol am y pum mlynedd nesaf o'r ail dro i'r cerbyd gael ei drethu. Nid oes rhaid i chi dalu hwn o fis Ebrill 2020 os oes gennych gerbyd sydd ag allyriadau sero. Ar ôl chwe mlynedd o ddyddiad y cofrestriad cyntaf, byddwch yn talu’r gyfradd flynyddol safonol yn ddibynnol ar y math o danwydd a ddefnyddir gan eich cerbyd.

Felly, er enghraifft, byddai car petrol gyda phris prynu dros £40,000 yn talu £520 (£165+£355) am y pum mlynedd nesaf.

Y pris prynu yw’r pris a gyhoeddir cyn unrhyw ostyngiadau ar y cofrestriad cyntaf. Gwiriwch y pris prynu gyda’ch gwerthwr ceir er mwyn i chi wybod faint o dreth cerbyd fydd yn rhaid i chi ei dalu.

Math o danwydd Sengl 12 mis

Petrol neu ddiesel

£570

Amgen

£560

Mae costau treth cerbydau ychydig yn wahanol os ydych yn talu bob mis, pob chwe mis, neu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Gallwch ddarllen am y gwahanol ffyrdd o dalu ar safle GOV.UK(Opens in a new window)

Ceir a gofrestrwyd cyntaf ym mis Mawrth 2001 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2017

Mae cyfradd y dreth rydych yn ei dalu’n dibynnu ar allyriadau CO2 swyddogol y car a’r math o danwydd mae’n ei ddefnyddio.

Mae’r cyfraddau wedi eu rhannu yn fandiau, yn seiliedig ar faint o ramau o garbon deuocsid (CO2) mae car yn eu hallyrru am bob cilometr a yrrir:

Cyfradd yn seiliedig ar allyriadau CO2 swyddogol
Allyriadau CO2 (g/km) Cyfanswm am 12 mis

Hyd at 100

£0

101-110

£20

111-120

£35

121-130

£150

131-140

£180

141-150

£200

151-165

£240

166-175

£290

176-185

£320

186-200

£365

201-225

£395

225-255

£675

Over 255

£695

Gallwch rannu’r taliadau hyn er mwyn helpu i reoli’r costau ond bydd angen i chi dalu ychydig yn fwy i wneud hyn. 

Cyfradd dreth yn seiliedig ar allyriadau CO2 a gofrestrwyd cyn 1 Mawrth 2001
Maint yr injan (cc) Cyfradd 12 mis

Dim mwy na 1549

£200

Dros 1549

£325

Mae cyfradd y dreth yn seiliedig ar faint y peiriant yn unig. Mae un gyfradd ar gyfer peiriannau hyd at 1549cc ac un ar gyfer 1549cc a drosodd.

Gwahanol ffyrdd o dalu, gan gynnwys bob mis, pob chwe mis, a thrwy Ddebyd Uniongyrchol

Gallwch ledaenu cost treth car trwy dalu bob mis, pob chwe mis neu drwy Ddebyd Uniongyrchol blynyddol.

Gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trethu'ch cerbyd (Opens in a new window) ar-lein neu mewn Swyddfa Bost.

Nid oes angen i chi fod yn geidwad cofrestredig y cerbyd i sefydlu Debyd Uniongyrchol.

Anfonir e-byst a llythyrau am daliadau Debyd Uniongyrchol at ddeiliad y cyfrif.

Faint mae'n ei gostio

Mae'r swm rydych yn ei dalu (Opens in a new window) yn dibynnu ar ba mor aml rydych am wneud taliad. Mae gordal o 5% os ydych yn talu:

  • yn fisol

  • pob 6 mis.

Nid oes unrhyw ordal os ydych yn talu'n flynyddol.

Treth ffordd ar feiciau modur, mopeds a beiciau modur tair olwyn

Mae allyriadau is yn golygu bod VED ar feiciau modur, mopeds a beiciau modur tair olwyn fel arfer yn is nag ar gyfer cerbydau petrol a diesel.

Cyfraddau VED ar feiciau modur, mopeds a beiciau modur tair olwyn 2023-2024
Maint yr injan (cc) Cyfanswm am 12 mis

Dim mwy na150

£24

151-400

£52

401-600

£80

Dros 600

£111

Beiciau modur tair olwyn (dim mwy na 450kg hwb lwyth) 2023-2024
Maint yr injan (cc) Cyfanswm am 12 mis

Dim mwy na 150

£24

Dros 150

£111

Mae costau treth cerbydau ychydig yn wahanol os ydych yn talu bob mis, pob chwe mis, neu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Gallwch ddarllen am y gwahanol ffyrdd o dalu ar safle GOV.UK (Opens in a new window)

Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn trethu’ch cerbyd

Nid oes angen i DVLA weld cerbyd heb dreth ar y ffordd i weithredu. Mae unrhyw gerbyd a welir ar y ffordd ac nad yw'n cael ei drethu, neu sy'n cael ei ddatgan yn Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol SORN ac nad yw'n cael ei gadw oddi ar y ffordd, mewn perygl o gael ei glampio neu ei bowndio gan un o dimau gorfodaeth DVLA.

Bydd DVLA yn anfon nodyn atgoffa atoch pan fydd eich treth cerbyd yn ddyledus. Bydd hyn yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i drethu ar-lein.

Os na fyddwch yn trethu ar amser, bydd llythyr cosb trwyddedu hwyr yn dilyn hyn. Mae hon yn ffi o £80 i ddechrau, ond mae'n cael ei ostwng i £40 os caiff ei thalu o fewn 28 diwrnod.

Os na thelir y gosb, anfonir eich gwybodaeth at gasglwr dyledion i adennill y taliad. Efallai y byddwch hefyd mewn perygl o gael eich erlyn trwy'r llys os ydych yn defnyddio cerbyd heb dreth.

Mae gan y DVLA nifer o gamau eraill i atal osgoi talu treth cerbydau. Mae'r rhain yn amrywio o lythyrau atgoffa, cosbau ac erlyniadau llys hyd at ddefnyddio camerâu ANPR, clampio olwynion a symud cerbydau heb drwydded.

Treth cerbyd wrth brynu a gwerthu cerbyd

Nid yw treth ar gerbydau yn cael ei throsglwyddo pan gânt eu gwerthu.

Er enghraifft, pan brynwch gar y mae rhywun arall wedi’i drethu’n flaenorol, nid yw’n cyfrif os oedd dau fis o dreth yn weddill ar y cerbyd ar ôl i chi ei brynu. Bydd angen i chi dalu’r dreth ar y cerbyd cyn i chi fedru ei yrru.

Golyga hefyd, os ydych yn gwerthu cerbyd, gallwch hawlio ad-daliad am unrhyw fisoedd llawn sydd yn weddill. Rhoddir ad-daliad fel mater o drefn pan fyddwch yn dychwelyd y rhan gwerthu neu drosglwyddo o’r ffurflen V5C i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Felly hefyd ar gyfer Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol (SORN) ar gerbyd. Os prynwch gerbyd sydd yn SORN, bydd angen i chi ddweud wrth y DVLA ei fod yn cael ei gadw oddi ar y ffordd a chael SORN newydd.

Nawr, pan fyddwch yn prynu cerbyd, ni fydd y dreth car yn cael ei throsglwyddo mwyach gyda’r cerbyd. Felly, rhaid i chi ei drethu cyn y gallwch ei ddefnyddio.

Costau a thollau

Yn ddibynnol ar ble fyddwch yn gyrru a pha ffyrdd ddefnyddiwch, efallai y bydd rhaid i chi dalu tollau a chostau ychwanegol.

Mae tollffyrdd i’w defnyddio sef, ymysg eraill, Croesfan Dartford yn Llundain, a rhan o’r M6 i’r gogledd o Birmingham.

Rhaid talu costau hefyd wrth yrru yng nghanol Llundain, a elwir yn Dâl Atal Tagfeydd Llundain a chost am y Parth allyriadau isel iawn (ULEZ), ac yn Durham, a elwir yn Gost Defnydd Ffordd Durham

O 23 Hydref 2017, bydd cerbydau na fyddant yn bodloni’r safonau allyriadau gofynnol yn talu gordal, a elwir yn Dâl Gwenwyndra neu “T-Charge”.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.