Sut i dalu am welliannau i’r cartref

Dilynwch y camau isod i sicrhau eich bod yn rhoi trefn ar bethau wrth dalu am welliannau i’r cartref.

Gosodwch gyllideb a chymharu fasnachwyr

Pam?

Bydd hyn yn helpu rhwystro cost eich atgyweiriadau rhag mynd allan o reolaeth drwy osgoi’r ‘pethau ychwanegol’ nad oeddech wedi cynllunio ar eu cyfer . 

Sut?

Rhestrwch yr holl bethau rydych eisiau cael eu gwneud – a gofyn am ddyfynbrisiau ysgrifenedig yn hytrach nag amcangyfrifon.

  • mae dyfynbris yn bris sefydlog y cytunwyd arno
  • mae amcangyfrif yn bris bras a allai newid

Sicrhewch eich bod yn cael tri phris o leiaf/ Dylech eu cymharu’n fanwl a cheisio cael barn gan gwsmeriaid blaenorol .

Pan wnewch ddewis masnachwr, gwnewch yn siwr eich bod yn cael cytundeb ysgrifenedig sydd wedi ei gostio. Os byddant yn dweud wrthych ar ôl I’r gwaith ddechrau bod rhaid iddynt wneud rhagor o waith, gofynnwch am amcangyfrif ysgrifenedig a chynllun gwaith arall fydd wedi ei gostio. Gwnewch hyn cyn cytuno i wario unrhyw beth mwy.

Penderfynwch ar y ffordd orau i dalu am eich gwelliannau

Pam?

Mae cymryd yr amser i gyfrifo cost llawn unrhyw fenthyciadau yn ffordd dda o sicrhau y gallwch wir fforddio’r gwaith.

Sut?

Os fedrwch, ceisiwch dalu am gymaint ag y gallwch gyda chynilion, gall taliadau llog adeiladu yn gyflym. Mae’n bwysig cadw digon yn eich cynilion i dalu costau annisgwyl.

Manteision ac anfanteision

Manteision
  • Ni fydd rhaid i chi boeni am daliadau benthyciad misol, neu delerau ac amodau eich cytundeb cyllid.

  • Gall cael eich gwrthod am gerdyn credyd neu fenthyciad effeithio’ch adroddiad credyd yn negyddol. Wrth ddefnyddio’ch cynilion, dydy hyn ddim yn bosib.

Anfanteision
  • Efallai y byddwch yn gweld bod eich cynlluniau wedi’i rhwystro gan gyllideb lai, ac efallai cewch eich temtio i gyfaddawdu ansawdd eich adeilad. 

  • Byddwch angen swm sylweddol o arian ar gael yn syth.

Dewiswch y math gorau o gyllid

Pam?

Os ydych angen benthyg arian am eich gwelliannau cartref mae’n bwysig peidio â mynd i ddyled na allwch fforddio ei had-dalu. A pheidiwch ag anghofio bydd unrhyw gais am fenthyciad neu gredyd yn cael effaith negyddo ar eich sgôr credyd.

Sut?

Dyma rai awgrymiadau:
  • Adnabod y ffordd ratach o fenthyg am y cyfnod byraf. A chymharu cost gyfan benthyg, nid y raddfa llog yn unig.
  • Darllenwch ein canllaw Rheoli credyd yn dda.
  • Cyfrifo ad-daliadau misol gan ddefnyddio ein cyfrifiannell benthyciad.

Grantiau effeithlonrwydd ynni

Y Fargen Werdd: arbed ynni i’ch cartref

Mae’r Fargen Werdd yn eich helpu i wneud gwelliannau arbed ynni yn eich cartref a darganfod y ffordd orau i dalu amdanynt. Mae benthyciadau ar gael trwy’r cynllun yma, ond bydd rhaid i chi basio gwiriadau cymhwyster er mwyn fod yn gymwys amdanynt a bydd rhaid iddynt gael eu had-dalu. Nid yw’r benthyciadau ar gael yng Ngogledd Iwerddon.

Bydd y gwelliannau gall arbed y mwyaf o ynni yn dibynnu ar y math o gartref sydd gennych, ond mae enghreifftiau cyffredin yn cynnwys:

  • inswleiddio, megis wal solid, wal geudod neu inswleiddio atig
  • gwres
  • atal drafftiau
  • gwydr dwbl
  • gynhyrchu ynni adnewyddadwy, megis paneli solar neu bympiau gwres.

Mae’n werth nodi os ydych yn gwirio eich Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) y dylai rhoi ffyrdd o wella effeithiolrwydd eich cartref a dangos y gwahaniaeth gall hwn wneud. 

Pa help sydd ar gael yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon?

Yr Alban

Gall Cynllun Warmer Homes dalu costau gwalliannau sy’n arbed ynni fel atal drafft neu inswleiddio llofft.

I fod yn gymwys mae’n rhaid eich bod wedi bod yn berchen ar eich cartref neu’n rhentu’n breifat am o leiaf blwyddyn a rhaid eich bod yn cael rhai budd-daliadau.

Os nad ydych yn gymwys am Gynllun Warmer Homes, efallai y gallwch wneud cais am fenthyciad di-log yn lle hynny i dalu am y gwelliannau.

Mae gan rai awdurdodau lleol yn yr Alban hefyd eu cynlluniau eu hunain. Defnyddiwch y teclyn Fund Finder ar wefan Home Energy ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd

Cymru

Mae cynllun Nyth yn cynnig cyngor am ddim ar sut y gallwch wneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon. Os ydych yn gymwys, gallwch hefyd wneud cais am foeleri ac insiwleiddio am ddim.

Gogledd Iwerddon

Os yw’ch boeler yn aneffeithlon ac yn fwy na 15 oed efallai y gallwch gael grant o hyd at £1,000 i’w amnewid, os yw incwm eich cartref yn llai na £40,000 y flwyddyn.

Os ydych yn berchen ar eich cartref neu’n ei rentu gan landlord preifat a bod gennych gyfanswm incwm cartref o lai na £20,000, efallai y gallwch gael grantiau o hyd at £7,500 i wneud gwelliannau fel inswleiddio, gwresogi a gwydro ffenestri.

Gwyliwch am sgamiau Grant Cartrefi Gwyrdd

Os ydych yn cael galwad ffôn, e-bost neu neges destun allan o nunlle sy’n honni eich bod yn gymwys i gael y Grant Cartrefi Gwyrdd, gallai fod yn sgam.

Peidiwch ag ateb – os yw’n alwad ffôn rhowch y ffôn i lawr yn syth. Cymerwch amser i wirio bod yr unigolyn neu’r cwmni yn ddilys.

Os ydych yn poeni gallwch ffonio 0300 123 2040 Action Fraud neu fynd i wefan Action Fraud i gael cyngor.

Gyda’ch caniatâd, bydd yn rhannu manylion anhysbys am y sgam gyda’r heddlu.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.