Mae ein canllawiau print diduedd wedi'u cynllunio i helpu sefydliadau nid er elw a'r sector cyhoeddus, yn ogystal â sefydliadau masnachol, gan helpu i wneud dewisiadau arian a phensiwn yn gliriach.
Sut i gael ein canllawiau
Mae ein canllaw yma i dorri trwy'r jargon a'r cymhlethdod, egluro beth sydd angen i chi ei wneud a sut y gallwch ei wneud.
Os ydych yn unigolyn sydd eisiau canllaw i chi'ch hun, gallwch archebu copïau caled o'n canllawiau am ddim, neu lawrlwytho copi i'w argraffu gartref.
Rydym wedi sicrhau bod ein canllawiau yn fan cychwyn da ar gyfer meddwl am arian a phensiynau beth bynnag fo'ch amgylchiadau neu'ch cynlluniau.
Hawliwch ein canllawiau ar ein gwefan archebu
Fersiynau Cymraeg
Mae ein holl gyhoeddiadau hefyd ar gael yn Gymraeg Gallwch newid iaith ein gwefan archebu trwy glicio ar y botwm ‘‘Ymwelydd’ ar ochr dde uchaf y wefan a dewis ‘Iaith’.
Fformatiau amgen
Gallwn hefyd anfon ein cyhoeddiadau atoch mewn ffurfiau amgen gan gynnwys Braille, print bras a sain.
Cewch ein canllawiau mewn fformat amgen ar ein gwefan archebu
Newidiadau i'n gwasanaeth am ddim – ar gyfer sefydliadau masnachol
Byddwn yn cadw ein gwasanaeth digidol am ddim, fel y gall pawb barhau i lawrlwytho canllawiau. Ond o fis Mawrth 2024, byddwn yn rhoi'r gorau i'r gwasanaeth argraffu a chyflawni ar gyfer sefydliadau masnachol. Gall sefydliadau a defnyddwyr nid-er-elw barhau i gael fersiynau wedi’u hargraffu am ddim.
Am fwy o wybodaeth a chymorth, cysylltwch â [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd.
Gwaith celf ar gyfer busnesau nid er elw a masnachol
Os yw'n well gennych argraffu eich copïau eich hun, gallwn anfon gweithiau celf atoch ar gyfer ein canllawiau am ddim.
Os ydych eisiau dyfynbris argraffu, cysylltwch â [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd.
Cewch waith celf eich canllawiau am ddim ar gyfer eich argraffu eich hun ar ein gwefan archebu
I gysylltu â ni, canslo, atal archeb, neu ymholi ynghylch danfon
Dylech unai ein hebostio ar [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd neu fewngofnodi i'ch cyfrif ar wefan APS Group i gysylltu â ni ag unrhyw ymholiad