Mae rhai budd-daliadau a chredydau treth y gallech fod yn eu derbyn nawr yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol. Mae beth bydd hyn yn ei olygu i chi yn ddibynnol ar sut a phryd byddwch yn symud o fudd-daliadau presennol. Darganfyddwch y gwahanol ffyrdd y gallwch newid i Gredyd Cynhwysol ac effaith bosibl hyn ar eich taliadau.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pa fudd-daliadau sy’n cael eu heffeithio gan Gredyd Cynhwysol?
- Symud i Gredyd Cynhwysol oherwydd newid mewn amgylchiadau
- Os ydych yn cael budd-daliadau etifeddol a nad yw eich amgylchiadau’n newid
- Credydau Treth a Symud i Gredyd Cynhwysol
- Sut fyddwch yn cael gwybod eich bod yn symud i Gredyd Cynhwysol
- Os yw’r DWP yn gofyn i chi symud i Gredyd Cynhwysol o Gredydau Treth
- Symud i Gredyd Cynhwysol o Gymhorthdal Incwm
- Symud i Gredyd Cynhwysol o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ESA
- Symud i Gredyd Cynhwysol o Fudd-dal Tai
- Pobl ifanc a Chredyd Cynhwysol
- Os ydych ar Gredyd Pensiwn
- Ymdopi yn ariannol nes cewch eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf
Pa fudd-daliadau sy’n cael eu heffeithio gan Gredyd Cynhwysol?
Mae Credyd Cynhwysol yn disodli’r budd-daliadau hyn:
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm
- Budd-dal Tai.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn eu galw’n fudd-daliadau etifeddol.
Ni all y rhan fwyaf o bobl wneud cais newydd am fudd-daliadau etifeddol mwyach.
Os ydych yn hawlio budd-daliadau etifeddol ar hyn o bryd, mae sut a phryd rydych yn symud i Gredyd Cynhwysol yn dibynnu ar:
- a oes rhaid i chi wneud cais newydd oherwydd newid mewn amgylchiadau
- a oes dim byd yn newid ac mae’r DWP yn gofyn i chi ddechrau gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy am sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio, a sut i wneud cais newydd, yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol
Symud i Gredyd Cynhwysol oherwydd newid mewn amgylchiadau
Os bydd rhai pethau’n newid yn eich bywyd, efallai y gofynnir i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol. Er enghraifft, efallai cewch newid yn eich:
- statws cyflogaeth, fel dechrau swydd newydd, neu gynyddu neu leihau eich oriau
- amgylchiadau teuluol, fel babi newydd, plentyn yn dechrau’r ysgol, neu bartner yn symud i mewn neu allan
- cartref, fel symud i ardal awdurdod lleol newydd.
Efallai y bydd eich amgylchiadau hefyd yn newid os byddwch yn dechrau neu’n stopio:
- bod yn ofalwr
- cais yn seiliedig ar anabledd.
Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, os ydych yn cael credydau treth, bydd y taliadau'n dod i ben ar unwaith.
Fodd bynnag, os ydych yn cael Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm bydd yn cael ei dalu am bythefnos yn ychwanegol wedi i chi wneud eich cais. Mae hyn er mwyn eich helpu i ymdopi tra'n aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
Mae’n bwysig deall y gallech gael naill ai mwy neu lai o arian nag yr ydych yn ei gael nawr wrth symud o fudd-daliadau presennol i Gredydau Cynhwysol.
Am y rheswm hwn, mae’n well gwirio ymlaen llaw sut yr effeithir ar eich incwm. Mewn rhai amgylchiadau gallai gohirio’ch cais am Gredyd Cynhwysol wneud synnwyr.
Darganfyddwch fwy am newidiadau a allai olygu i chi gychwyn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar entitledtoYn agor mewn ffenestr newydd
Gwiriwch a fyddech chi’n well neu’n waeth eich byd yn newid i Gredyd Cynhwysol gan ddefnyddio ein cyfrifiannell.
Os ydych yn cael budd-daliadau etifeddol a nad yw eich amgylchiadau’n newid
Os ydych yn hawlio’r budd-daliadau sy’n cael eu disodli gan y Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gofyn i chi ar ryw bwynt i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Oni bai bod yna newid yn eich amgylchiadau, does dim angen i chi wneud dim nes bydd y DWP yn cysylltu â chi.
Ar hyn o bryd mae’n disgwyl i bob cartref sy’n hawlio budd-daliadau etifeddol a chredydau treth fod wedi symud drosodd i Gredyd Cynhwysol erbyn Medi 2024.
Symud o Gredyd Treth Plant i Gredyd Cynhwysol oherwydd newid mewn amgylchiadau
Os oes newid arwyddocaol yn eich amgylchiadau, fe ofynnir i chi symud o Gredyd Treth Plant i Gredyd Cynhwysol.
Efallai y bydd hyn yn digwydd os ydych:
- yn dechrau gwaith
- yn cael plentyn
- yn symud i mewn gyda’ch partner.
Gallech gael mwy neu lai o arian ar Gredyd Cynhwysol nag ydych yn ei gael ar hyn o bryd mewn Credyd Treth Plant a budd-daliadau eraill.
Mae’r ffordd y mae cynilion yn cael eu cyfrif yn wahanol i’r rheolau ar gyfer credydau treth. Os oes gennych fwy na £16,000 o gynilion ac mae’n rhaid i chi symud i Gredyd Cynhwysol oherwydd newid mewn amgylchiadau, ni fyddwch yn gymwys. Ac os oes gennych gynilion o dros £6,000, gallai'r swm a gewch gael ei effeithio. Mae'n bwysig cael cyngor budd-daliadau arbenigol cyn i chi hawlio Credyd Cynhwysol os ydych yn credu y bydd hyn yn effeithio arnoch chi.
Os oes gennych un neu ddau o blant, gallwch hawlio ar gyfer plant hyd nes y byddant yn cyrraedd 19 – neu 20 mewn rhai achosion – os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy llawn amser, ond nid yn y brifysgol.
Os ganwyd eich plant i gyd cyn 6 Ebrill 2017, byddwch yn gallu hawlio ar gyfer pob un.
Os ganwyd un neu ragor o’ch plant ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, dim ond ar gyfer y ddau gyntaf byddwch yn gallu hawlio oni bai eich bod wedi cael genedigaeth luosog neu wedi mabwysiadu.
Ni fydd y premiwm plentyn cyntaf bellach yn cael ei dalu dan Gredyd Cynhwysol.
Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol misol yn cynnwys yr elfennau ac ychwanegiadau canlynol a fydd yn disodli’r cymorth a gewch ar hyn o bryd trwy gredydau treth:
- Elfen plentyn – yn helpu gyda chostau magu plentyn.
- Ychwanegiad plentyn anabl – yn helpu gyda chostau ychwanegol magu plentyn anabl. Bydd yn cael ei dalu ar naill ai gyfradd is neu uwch gan ddibynnu ar anghenion eich plentyn.
- Elfen gofal plant – yn caniatáu i chi hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant cofrestredig misol hyd at derfyn sydd wedi ei gapio ar £646 i un plentyn a £1,108 i ddau neu fwy o blant (ar gyfer 2023/24) tra byddwch yn gweithio.
Os ydych ar Gredyd Cynhwysol, mae rheolau gwahanol am beth sy’n rhaid i chi ei wneud yn gyfnewid am gael eich taliad.
Oedran y plentyn | Beth sydd rhaid i chi ei wneud yn gyfnewid am gael taliad Credyd Cynhwysol |
---|---|
O dan 1 |
Ni ofynnir i weithio yn gyfnewid am eich Credyd Cynhwysol. |
Rhwng 1 a 2 |
Gofynnir i chi fynd i gyfweliadau ag anogwr gwaith i drafod cynlluniau ar gyfer symud i waith yn y dyfodol. |
Rhwng 3 a 4 |
Bydd disgwyl i chi weithio uchafswm o 16 awr yr wythnos (neu i dreulio 16 awr yn chwilio am waith). Efallai bydd hyn yn cynnwys peth hyfforddiant a cyfweliadau yn canolbwyntio ar waith. |
Rhwng 5 a 12 |
Bydd disgwyl i chi chwilio am waith sy’n cyd-fynd â’ch cyfrifoldebau – er enghraifft, yn ystod oriau’r ysgol. |
13 oed ac yn hŷn |
Fel arfer bydd disgwyl i chi chwilio am waith amser llawn. |
Credydau Treth a Symud i Gredyd Cynhwysol
O fis Ebrill 2023, os ydych yn cael credydau treth yn unig, efallai y bydd DWP yn gofyn i chi symud i Gredyd Cynhwysol fel rhan o’u rhaglen Symud i Gredyd Cynhwysol i symud pawb sydd ar fudd-daliadau etifeddol i Gredyd Cynhwysol.
Os gofynnir i chi symud, ni ddylech fod yn waeth eich byd ar Gredyd Cynhwysol i ddechrau. Os yw’r swm y mae gennych hawl iddo yn llai ar Gredyd Cynhywsol nag yw ar eich hen fudd-daliadau, byddwch yn cael ychwanegiad at eich taliad o dan Warchodaeth Drosiannol i sicrhau nad ydych ar golled.
Bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhywsol hyd yn oed os ydych wedi adnewyddu eich cais credydau treth yn ddiweddar.
Cymorth i Gynilo
Os ydych yn gweithio ac yn cael Credyd Cynhwysol, efallai byddwch yn gymwys i gael cyfrif Cymorth i Gynilo sy’n rhoi hyd at 50% o fonws i chi ar eich cynilion gan y llywodraeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw esbonio Cymorth i Gynilo
Sut fyddwch yn cael gwybod eich bod yn symud i Gredyd Cynhwysol
Ni fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol yn awtomatig.
Byddwch yn derbyn Hysbysiad Ymfudo yn gofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn tri mis o’r dyddiad sydd ar y llythyr. Os byddwch yn symud drosodd i Gredyd Cynhwysol o gredydau treth oherwydd rydych wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo, ni fydd unrhyw gynilion dros £16,000 yn effeithio ar eich cymhwysedd ar gyfer Credyd Cynhwysol am 12 cyfnod asesu (tua 12 mis).
Os ydych yn symud i Gredyd Cynhwysol o gredydau treth trwy’r rhaglen Symud i Gredyd Cynhwysol, ni fydd unrhyw gynilion dros £16,000 yn effeithio ar eich cymhwysedd i Gredyd Cynhwysol am 12 cyfnod asesu (tua 12 mis).
Ar ôl hynny, bydd y rheolau cynilion Credyd Cynhwysol arferol yn berthnasol.
Os yw eich amgylchiadau’n newid, efallai y byddgofyn i chi newid i Gredyd Cynhwysol o Gredydau Treth Gwaith. Er enghraifft, os:
- ydych yn dechrau gweithio llai na 16 awr yr wythnos
- roeddech ar Gredydau Treth Gwaith ac yn mynd yn sâl
- mae gennych blentyn
- rydych yn dechrau rhentu eiddo, yn enwedig os yw mewn ardal awdurdod lleol newydd.
Gall y swm o Gredyd Cynhwysol sy’n cael ei dalu i chi fod yn fwy neu’n llai na’r budd-daliadau rydych yn ei gael nawr.
Mae'r ffordd y mae cynilion yn cael eu cyfrif yn wahanol i'r rheolau ar gyfer credydau treth.
Os oes gennych gynilion o fwy na £16,000 ni fyddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.
Ac os oes gennych gynilion o dros £6,000, gallai'r swm a gewch gael ei effeithio.
Mae'n bwysig cael cyngor budd-daliadau arbenigol cyn i chi hawlio Credyd Cynhwysol os ydych yn credu y bydd hyn yn effeithio arnoch chi.
Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol hefyd yn addasu o fis i fis os bydd y swm rydych yn ei ennill yn cynyddu neu’n gostwng.
Dylai hyn ei gwneud hi’n haws i chi dderbyn gwaith am gyfnod byr neu gymryd rhagor o oriau.
Os byddwch yn ennill llai yn ystod un mis dylai eich Credyd Cynhwysol godi i gau’r bwlch yn eich enillion.
Hefyd, nid oes cyfyngiad ar y nifer o oriau y mae’n rhaid i chi eu gweithio fel y mae gyda’r Credyd Treth Gwaith.
Os nad yw’ch oriau gwaith yr un peth o fis i fis, gall olygu y bydd angen i chi gyllidebu’n fwy gofalus nawr.
Er mwyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau allu cyfrifo faint o Gredyd Cynhwysol y dylech ei gael, byddant angen gwybod faint rydych wedi ei ennill yn ystod y mis diwethaf.
Bydd angen i chi neu eich cyflogwr ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau faint rydych wedi ei ennill fel na fyddwch yn cael gormod na rhy ychydig o Gredyd Cynhwysol.
Os yw’r DWP yn gofyn i chi symud i Gredyd Cynhwysol o Gredydau Treth
O fis Ebrill 2023, os ydych yn cael credydau treth yn unig, efallai y bydd DWP yn eich gofyn i symud i Gredyd Cynhwysol fel rhan o’u rhaglen 'Symud i Gredyd Cynhwysol' i symud pawb sydd ar fudd-daliadau etifeddol i Gredyd Cynhwysol.
Os gofynnir i chi symud, ni ddylech fod yn waeth eich byd ar Gredyd Cynhwysol i ddechrau. Os yw’r swm y mae gennych hawl iddo yn llai ar Gredyd Cynhwysol nag yw ar eich hen fudd-daliadau, byddwch yn cael ychwanegiad at eich taliad o dan Warchodaeth Drosiannol i sicrhau nad ydych ar eich colled.
Bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol hyd yn oed os ydych wedi adnewyddu eich cais credydau treth yn ddiweddar.
Sut y byddwch yn cael gwybod eich bod yn symud i Gredyd Cynhwysol
Ni fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol yn awtomatig.
Byddwch yn derbyn Hysbysiad Ymfudo yn gofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn tri mis o’r dyddiad sydd ar y llythyr.
Bydd angen i chi wneud y cais hwn ar-lein (ond mae llawer o gefnogaeth ar gael os ydych yn cael trafferth wrth wneud hyn).
Os oes gennych fwy na £16,000 o gynilion
Mae’r rheolau cynilion yn wahanol ar gyfer Credyd Cynhwysol ac fel arfer ni fyddwch yn gymwys i’w gael os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion neu gyfalaf.
Fodd bynnag, os ydych yn symud i Gredyd Cynhwysol o gredydau oherwydd rydych wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo, ni fydd eich cynilion yn effeithio ar eich cymhwysedd i Gredyd Cynhwysol am 12 cyfnod asesu (tua 12 mis).
Ar ôl hynny, os oes gennych £16,000 neu fwy o gyniliono hyd, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn dod i ben.
Os oes gennych rhwng £6,000 a £16,000 o hyd, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu gostwng gan £4.35 am bob £250 o gynilion sydd gennych.
Sut i ddod o hyd i gymorth ychwanegol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am symud i Gredyd Cynhwysol, ffoniwch rif y llinell gymorth yn eich Hysbysiad Ymfudo.
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban gallwch gysylltu â Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth ar:
Lloegr, 0800 144 8 444
Yr Alban, 0800 023 2581
Cymru, 08000 241 220
Eich amgylchiadau | Beth sydd rhaid i chi ei wneud yn gyfnewid am eich taliad Credyd Cynhwysol |
---|---|
Rydych yn gweithio’n llawn amser |
Os nad ydych yn ennill o leiaf yr hyn sy’n cyfateb i 35 awr ar yr isafswm cyflog yr awr, bydd disgwyl i chi chwilio am waith â chyflog gwell. Mae hyn yn dibynnu ar eich gallu i weithio ac unrhyw ymrwymiadau gofal sydd gennych. |
Rydych yn gweithio’n rhan-amser |
Fel arfer bydd disgwyl i chi chwilio am fwy o waith nes eich bod yn ennill o leiaf yr hyn sy’n gyfateb i 35 awr ar yr isafswm cyflog yr awr bob wythnos. Mae hyn yn dibynnu ar eich gallu i weithio ac unrhyw ymrwymiadau gofal sydd gennych. |
Rydych yn hunangyflogedig |
Mae’n debyg y bydd eich taliadau’n cael eu cyfrif fel petaech yn ennill o leiaf yr hyn sy’n cyfateb i 35 awr ar yr isafswm cyflog bob wythnos. Mae hyn yn dibynnu ar eich gallu i weithio ac unrhyw ymrwymiadau gofal sydd gennych. Gelwir hyn yn llawr isafswm incwm. |
Os ydych wedi bod yn rhedeg eich busnes am 12 mis neu fwy pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfrifo’ch taliad yn seiliedig ar y llawr isafswm incwm.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig
Lawrlwythwch daflen am ‘Credyd Cynhwysol a gwaith’ ar GOV.UK (Opens in a new window)
Lawrlwythwch daflen am ‘Credyd Cynhwysol a hunangyflogaeth ar GOV.UK (Opens in a new window)
Lawrlwythwch daflen am ‘Credyd Cynhwysol a chredydau treth’ ar GOV.UK (Opens in a new window)
Rhoi gwybod am eich enillion os ydych yn gyflogedig
Efallai y bydd eich cyflogwr yn gallu rhoi gwybod am eich enillion yn awtomatig trwy system Gwybodaeth Amser Real (RTI) y llywodraeth.
Bydd rhaid i chi gael gwybod a oes gan eich cyflogwr fynediad i’r system RTI.
Os oes gan eich cyflogwr fynediad i’r system RTI
Gofynnwch am rif cynllun PAYE eich cyflogwr a dyw edwchwrth eich anogwr gwaith. Gallwch wneud hyn drwy eich cyfrif ar-lein neu drwy ffonio linell gymorth Credyd Cynhwysol.
Ffôn: 0800 328 1744
Saesneg: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Darganfyddwch fanylion cyswllt ar GOV.UK (Opens in a new window)
Os oes gennych fwy nag un cyflogwr, bydd angen i chi gael rhif PAYE ar gyfer pob swydd.
Ar ôl i’ch rhif cynllun PAYE gael ei gofnodi ar eich cais, dylai gwybodaeth am eich enillion gael ei hanfon yn awtomatig yn fisol i’r Adran Gwaith a Phensiynau ac ni fydd yn rhaid i chi anfon manylion.
Os nad oes gan eich cyflogwr fynediad i’r system RTI
Beth yw fy nghyfnod asesu?
Telir Credyd Cynhwysol fel ôl-ddyled. Cyfrifir taliad pob mis trwy edrych ar faint yr ydych wedi ei ennill yn y mis blaenorol. Gelwir hyn yn gyfnod asesu. Dyddiad dechrau eich cyfnod asesu fydd y dyddiad o’r mis pan wnaeth eich cais ddechrau.
Bydd rhaid i chi roi gwybod faint rydych wedi ei ennill yn fisol erbyn diwrnod olaf y cyfnod asesu. Mae rhaid i chi ddweud hyn wrth eich anogwr gwaith drwy eich cyfrif ar-lein neu linell gymorth Credyd Cynhwysol.
Bydd rhaid i chi ddarparu:
- eich cyfeirnod PAYE
- eich cyflog trethadwy gros
- enw eich cyflogwr
- y dyddiad cawsoch eich talu
- faint o dreth a dalwyd gennych
- faint o Yswiriant Gwladol a dalwyd gennych
- manylion unrhyw gyfraniadau i gynllun pensiwn – ac a ydynt yn cael eu talu o’ch cyflog gros neu net neu i bensiwn personol.
- Bydd rhaid i chi roi adroddiad am unrhyw enillion na fydd eich cyflogwr yn gwybod amdanynt.
Symud i Gredyd Cynhwysol o Gymhorthdal Incwm
Os byddwch yn symud o Gymhorthdal Incwm i Gredyd Cynhwysol ni fyddwch yn cael eich cyfyngu i weithio uchafswm o 16 awr yr wythnos. Felly efallai y byddwch yn gallu cynyddu eich oriau gwaith a dal i gael Credyd Cynhwysol.
Os oes gennych blant a’ch bod yn symud i Gredyd Cynhwysol, disgwylir i chi drafod eich cynlluniau at y dyfodol pan fydd eich plentyn ieuengaf wedi cyrraedd un oed. Mae rhaid i chi baratoi i weithio pan fyddant yn dair oed, gyda chymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith.
Bydd eich Cymhorthdal Incwm yn cael ei dalu am ddwy wythnos pellach, wedi i chi wneud eich cais am Gredyd Cynhwysol, cyn iddo ddod i ben. Ni fydd yn rhaid i chi ad-dalu'r arian yma.
Os bydd eich amgylchiadau yn newid
Efallai y gofynnir i chi symud o Gymhorthdal Incwm i Gredyd Cynhwysol os byddwch:
- yn stopio addysg amser llawn
- yn dechrau rhentu eiddo newydd, yn sicr os byddwch yn symud i ardal awdurdod lleol newydd
- yn stopio bod yn ofalwr
- yn rhiant sengl ac mae’r plentyn ieuengaf yn troi’n bump oed
- yn dechrau gweithio digon o oriau i fodloni amodau Credyd Treth Gwaith.
Symud i Gredyd Cynhwysol o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ESA
Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) ar hyn o bryd darllenwch ein canllaw Credyd Cynhwysol i bobl sâl ac anabl
Symud i Gredyd Cynhwysol o Fudd-dal Tai
Oeddech chi’n gwybod?
A ydych yn symud o Fudd-dal Tai i Gredyd Cynhwysol? Byddwch yn parhau i gael Budd-dal Tai am bythefnos wedi i’ch hawliad Credyd Cynhwysol gychwyn. Mae hyn er mwyn lleihau’r perygl o lithro ar eich taliadau rhent.
Os bydd eich amgylchiadau yn newid
Efallai y bydd rhaid i chi symud o Fudd-dal Tai i Gredyd Cynhwysol os ydych:
- dod o hyd i waith neu’n colli eich swydd
- yn cael eich plentyn cyntaf
- yn symud cartref, yn sicr os byddwch yn symud i ardal awdurdod lleol newydd.
Gallech gael mwy neu lai o Gredyd Cynhwysol nag yr ydych yn ei gael nawr.
Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol misol yn cynnwys elfen costau tai a fydd yn disodli’r help rydych yn ei gael ar hyn o bryd trwy Fudd-dal Tai.
Bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei dalu am bythefnos arall ar ôl i chi wneud eich cais am Gredyd Cynhwysol cyn iddo ddod i ben. Dylai hyn olygu na fyddwch yn colli taliad rhent wrth i chi aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
Taliadau rhent yng Nghymru a Lloegr
Os yw eich rhent yn cael ei dalu yn uniongyrchol i’ch landlord ar hyn o bryd, bydd hyn yn newid dan Gredyd Cynhwysol.
Bydd yr arian ar gyfer eich rhent yn cael ei dalu i chi fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol misol.
Chi fydd yn gyfrifol am ddefnyddio’r arian hwn i dalu i’ch landlord.
Fodd bynnag, os oes gennych anghenion cymorth sylweddol – er enghraifft, gyda chyllidebu – gallwch chi neu eich landlord ofyn am Drefniant Talu Amgen nes byddwch wedi cael trefn ar bethau.
Mae hyn yn golygu y gall eich rhent:
- gael ei dalu yn uniongyrchol i’ch landlord
- gael ei dalu i chi yn wythnosol neu bob pythefnos.
Yng Ngogledd Iwerddon
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon, telir eich costau tai yn awtomatig i’ch landlord. Gallwch ddewis talu’ch landlord eich hunan.
Yn yr Alban
Bydd yn rhaid i chi dalu’ch landlord yn uniongyrchol, ond gallwch ddewis talu’ch costau tai yn uniongyrchol i’ch landlord.
Pobl ifanc a Chredyd Cynhwysol
Os ydych rhwng 18 a 21 oed, i gael eich budd-dal, bydd disgwyl i chi gymryd rhan yn y Cynnig Ieuenctid.
Bydd hyn yn cynnwys cymorth dwys i chi fedru meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch i gael gwaith.
Ar ôl chwe mis, disgwylir i chi:
- ymgeisio am brentisiaeth neu hyfforddeiaeth
- cael sgiliau’n seiliedig ar waith, neu
- fynd ar leoliad gwaith gorfodol.
Cymorth tai i bobl ifanc
Os ydych chi rhwng 18 a 21 oed ac allan o waith, bydd gennych hawl yn awtomatig i gael cymorth tai os gwnewch gais am Gredyd Cynhwysol.
Os ydych ar Gredyd Pensiwn
Os ydych yn gwpl a bod naill ai chi neu’ch partner yn cyrraedd oed Credyd Pensiwn, bydd rhaid nawr i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol os bydd gennych newid mewn amgylchiadau. Efallai y bydd hyn yn golygu y byddwch yn cael llai o arian.
Darganfyddwch faint o Gredyd Cynhwysol gallwch ei gael gan ddefnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau
Ymdopi yn ariannol nes cewch eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf
Bydd yn rhaid i chi aros hyd at bum wythnos o ddyddiad eich cais am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
Pan fyddwch wedi gwneud eich cais am Gredyd Cynhwysol a'ch bod yn cael un neu fwy o'r budd-daliadau hyn:
- Budd-dal Tai
- Cymorth Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm.
Byddant yn parhau i gael eu talu am bythefnos ychwanegol cyn iddynt stopio. Ni fydd yn rhaid i chi dalu'r arian hwn yn ôl.
Bydd credydau treth yn dod i ben ar unwaith ar ôl i chi wneud eich cais.
Mae'n bwysig meddwl sut y byddwch yn ymdopi wrth aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, yn enwedig os yw'ch cyllidebu yn seiliedig ar y dyddiadau y daw'ch hen daliadau budd-dal i'ch cyfrif banc.
Os credwch y byddwch yn cael anhawster i gael dau ben llinyn ynghyd, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw. Ond byddwch yn ymwybodol y bydd angen i chi ei ad-dalu cyn pen 12 mis.