Os oes gennych incwm isel – p’un a ydych yn gweithio ai peidio – gall Credyd Cynhwysol roi arian ychwanegol i chi fyw arno. Darganfyddwch sut mae'n gweithio, faint allech chi ei gael a sut i wneud cais.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Ble i gael cyngor personol am Gredyd Cynhwysol
- Beth yw Credyd Cynhwysol?
- Pwy all hawlio Credyd Cynhwysol?
- Faint o Gredyd Cynhwysol y gallaf ei gael?
- Sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo?
- Faint o oriau gallaf weithio ar Gredyd Cynhwysol?
- Pa mor hir mae'n ei gymryd i gael Credyd Cynhwysol?
- Pa mor aml mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu?
- Sut i dalu eich costau tai ar Gredyd Cynhwysol
- Mae hawlio Credyd Cynhwysol yn datgloi help, gostyngiadau a thaliadau eraill
- Sut ydw i'n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol?
- Siaradwch âchynghorydd Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth i gael cyngor am ddim
Ble i gael cyngor personol am Gredyd Cynhwysol
Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall sylfeini Credyd Cynhwysol a sut i wneud y gorau o’ch arian.
I siarad â rhywun am eich sefyllfa eich hun, gan gynnwys cymorth i hawlio, rhowch gynnig ar y sefydliadau am ddim hyn:
- Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth am help gyda chwestiynau a hawliadau Credyd Cynhwysol, hyd nes y byddwch yn derbyn eich taliad cyntaf.
- AdvicelocalYn agor mewn ffenestr newydd am help a chefnogaeth gyda budd-daliadau, gan gynnwys cyngor cyfrinachol ynghylch a ddylech hawlio Credyd Cynhwysol.
Beth yw Credyd Cynhwysol?
Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal misol y gallwch ei hawlio os ydych ar incwm isel ac angen cymorth ychwanegol gyda chostau byw a thai. Gall helpu os ydych yn:
- chwilio am waith
- methu â gweithio oherwydd salwch neu anabledd, yn gweithio neu'n hunangyflogedig ar incwm isel
- â chyfrifoldebau gofalu.
Mae Credyd Cynhwysol yn destun prawf modd. Mae hyn yn golygu bod incwm a chynilion eich cartref yn cael eu cyfrif yn eich cais. Os ydych yn ennill gormod neu os oes gennych gynilion o fwy na £16,000 ni fyddwch yn gallu hawlio.
Os oes gennych bartner ac rydych yn byw gyda’ch gilydd, bydd eu hincwm a’u cynilion yn cael eu hystyried a bydd angen i chi wneud cais gyda’ch gilydd. Os ydynt eisoes yn derbyn budd-daliadau, efallai y bydd rhai o’r rheini’n dod i ben.
Bydd ein Cyfrifiannell budd-daliadau yn rhoi amcangyfrif cyflym i chi o'r hyn y gallech ei gael. Mae’n werth gwirio hyd yn oed os nad ydych yn meddwl eich bod yn gymwys, fel nad ydych yn colli allan ar incwm hanfodol rydych yn gymwys i’w gael.
Mae Credyd Cynhwysol yn disodli chwe budd-dal ‘etifeddol’
Os ydych yn gwneud cais newydd am fudd-daliadau, mae’n debygol y bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Mae hyn oherwydd ei fod yn disodli’r chwe budd-dal ‘etifeddol’ hyn:
- Budd-dal Tai
- Credyd Treth Plant
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Gwaith
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm.
Os ydych yn hawlio budd-daliadau etifeddol a bod eich amgylchiadau’n aros yr un fath, byddwch yn parhau i’w cael hyd nes yr anfonir Hysbysiad Ymfudo atoch. Mae gan hwn derfyn amser o dri mis i hawlio Credyd Cynhwysol erbyn.
Gallwch weld pryd rydych yn debygol o gael eich llythyr ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd neu, yng Ngogledd Iwerddon, pryd y gofynnir i chi symud i Gredyd Cynhwysol ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Gweithredwch cyn y dyddiad cau bob amser gan y bydd eich hen fudd-daliadau yn dod i ben a gallech gael eich gadael heb incwm i fyw arno. Mae’n well gwneud cais am Gredyd Cynhwysol mewn da bryd i barhau i gael taliadau.
Os bydd unrhyw un o’ch amgylchiadau’n newid – fel cael plentyn, symud i mewn neu allan gyda phartner neu gael diagnosis o anabledd – bydd angen i chi ddweud wrth y swyddfa sy’n talu eich budd-daliadau. Mae hyn yn aml yn golygu y bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle.
I gael gwybodaeth a chymorth lawn, gweler ein canllaw Symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill.
Pwy all hawlio Credyd Cynhwysol?
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau am ddim i weld a ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol a darganfod faint y gallech ei gael. Bydd hefyd yn dangos i chi a allwch hawlio cymorth a grantiau eraill, fel Budd-dal Plant ac arian tuag at eich biliau gwresogi.
I fod yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol, fel arfer mae angen i chi:
- fod yn 18 oed neu'n hŷn
- bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- byw yn y DU
- bod â llai na £16,000 mewn cynilion a buddsoddiadau
- ennill llai na swm penodol bob mis.
Mae yna eithriadau, fel gallu hawlio o 16 oed os oes gennych anabledd, yn gadael gofal neu'n gyfrifol am blentyn.
Faint o Gredyd Cynhwysol y gallaf ei gael?
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau cyflym a hawdd i ddarganfod faint o Gredyd Cynhwysol y gallech ei gael.
Mae hyn oherwydd bod Credyd Cynhwysol yn cynnwys lwfansau ac elfennau gwahanol yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
Sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo?
Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo ar sail y lwfansau rydych yn gymwys ar eu cyfer a faint sy’n cael ei ddidynnu wedyn oherwydd pethau fel eich incwm arall. Dyma sut mae'n gweithio.
Symiau ychwanegol yn seiliedig ar eich amgylchiadau
Byddwch yn cael lwfans Credyd Cynhwysol safonol (yn seiliedig ar eich oedran ac os ydych yn byw gyda phartner) ac fel arfer un neu fwy o elfennau ychwanegol os ydych yn:
- byw gyda phlant yr ydych yn gyfrifol amdanynt
- talu am ofal plant
- gofalwr di-dâl am o leiaf 35 awr yr wythnos
- rhentu eich cartref
- â salwch neu anabledd hirdymor ac yn methu â gweithio.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol? a GOV.UK – Credyd Cynhwysol: Beth fyddwch chi’n ei gaelYn agor mewn ffenestr newydd
Didyniadau o’ch taliad Credyd Cynhwysol
Gallwch ennill arian arall wrth hawlio Credyd Cynhwysol, efallai y bydd eich taliadau misol yn mynd i lawr po fwyaf a gewch. Mae hyn yn cynnwys incwm o:
- waith
- pensiwn
- rhai budd-daliadau (nid yw budd-daliadau fel Budd-dal Plant a Lwfans Byw i'r Anabl yn cyfrif).
Efallai y bydd didyniadau eraill hefyd, gan gynnwys os:
- ydych yn defnyddio’ch taliad i ad-dalu unrhyw ddyledion i’r Adran Gwaith a Phensiynau, fel taliadau ymlaen llaw neu ordaliadau credyd treth
- oes gennych chi gynilion a buddsoddiadau gwerth dros £6,000
- ydych wedi cael sancsiwn (cosb am beidio â bodloni'r amodau hawlio, fel colli apwyntiadau)
Gall eich taliad Credyd Cynhwysol newid bob mis
Efallai y byddwch yn cael swm gwahanol o Gredyd Cynhwysol os bydd eich incwm neu’ch amgylchiadau’n newid yn y mis blaenorol.
Gelwir hyn yn eich cyfnod asesu ac mae fel arfer yn dechrau ac yn gorffen ar yr un dyddiadau bob mis. Er enghraifft, 2 Ionawr i 1 Chwefror. Y dyddiad dechrau yw’r dyddiad y gwnaethoch gais gyntaf am Gredyd Cynhwysol.
Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n cael mwy os ydych chi:
- bellach yn gymwys ar gyfer elfen arall, fel cael babi
- wedi ennill llai nag arfer, felly mae gan eich taliad Credyd Cynhwysol ddidyniad is.
Gallech gael llai (neu ddim byd) os ydych:
- wedi derbyn cyfandaliad fel taliad dileu swydd neu etifeddiaeth sy'n mynd â'ch cynilion dros £16,000
- nad ydych bellach yn gymwys ar gyfer un neu fwy o'ch elfennau ychwanegol, fel plant yn symud allan o'ch cartref
- wedi ennill mwy nag arfer neu'n derbyn eich cyflog yn yr un cyfnod asesu, fel cael eich talu'n gynnar cyn y Nadolig
- os oes gennych newid mewn amgylchiadau a bod eich partner yn symud i mewn i'ch cartref, felly mae eich taliad yn seiliedig ar eich incwm.
Mae ein canllaw Help i reoli'ch arian os ydych yn derbyn budd-daliadau yn cynnwys cymorth cyllidebu a ffyrdd o wneud i'ch arian fynd ymhellach.
Faint o oriau gallaf weithio ar Gredyd Cynhwysol?
Gallwch weithio cymaint o oriau ag y dymunwch a dal i hawlio Credyd Cynhwysol. Cynlluniwyd eich taliad i ychwanegu at eich enillion os oes gennych incwm isel.
Mae unrhyw swm a enillwch fel arfer yn lleihau eich taliad Credyd Cynhwysol 55c am bob £1 a enillwch. Felly, wrth i’ch enillion gynyddu, bydd eich Credyd Cynhwysol yn gostwng yn raddol nes iddo gyrraedd sero.
Os bydd hyn yn digwydd, bydd eich hawliad Credyd Cynhwysol yn aros ar agor am chwe mis rhag ofn i’ch incwm ostwng a’ch bod yn gymwys eto, felly nid oes rhaid i chi ailymgeisio. Gall hyn ei gwneud yn haws derbyn gwaith dros dro neu dymhorol.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael lwfans gwaith
Gall rhai pobl ennill swm penodol cyn i’w Credyd Cynhwysol ddechrau lleihau. Gelwir hyn yn lwfans gwaith. Byddwch yn gymwys i gael lwfans gwaith os ydych chi neu’ch partner:
- yn gyfrifol am blentyn, neu
- methu gweithio llawer o oriau oherwydd salwch neu anabledd.
Mae hyn yn golygu y bydd eich taliad Credyd Cynhwysol ond yn gostwng 55c am bob £1 y byddwch yn ei ennill dros eich lwfans. Gweler ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol? am fwy o wybodaeth.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gael Credyd Cynhwysol?
Ar ôl i chi wneud cais, gall gymryd hyd at bum wythnos i gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf. Mae hyn yn cynnwys:
- cyfnod asesu o bedair wythnos i gyfrifo faint y byddwch yn ei gael, a
- hyd at saith diwrnod i chi gael yr arian.
A allaf gael Credyd Cynhwysol wedi’i dalu’n gynnar?
Gallwch ofyn i gael eich talu’n gynnar (a elwir yn daliad ymlaen llaw) os byddwch yn cael trafferth wrth aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
Gall hyn fod hyd at swm llawn eich lwfans Credyd Cynhwysol safonol ac efallai y cewch eich talu yr un diwrnod ag y byddwch yn gwneud cais. Mae’n fenthyciad, felly bydd eich taliadau yn y dyfodol yn is nes iddo gael ei ad-dalu’n llawn.
Meddyliwch yn ofalus cyn gofyn am daliad ymlaen llaw. Os ydych eisoes wedi methu taliad neu’n poeni y gallech, defnyddiwch ein Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gymorth dyled am ddim yn eich ardal chi, ar-lein neu dros y ffôn.
Am fwy o help a gwybodaeth, gweler ein canllawiau:
Pa mor aml mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu?
Fel arfer telir Credyd Cynhwysol:
- unwaith y mis yng Nghymru a Lloegr
- unwaith y mis yn yr Alban, ond gallwch ofyn am ddwywaith y mis
- ddwywaith y mis yng Ngogledd Iwerddon, ond gallwch ofyn am unwaith y mis.
Ar ôl i chi dderbyn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, caiff ei dalu ar yr un dyddiadau. Os yw hyn yn disgyn ar ŵyl banc, fel arfer byddwch yn cael yr arian y diwrnod gwaith cynt.
Os ydych chi (neu’ch partner os ydych yn gwpl) yn cael trafferth am arian, gallwch ofyn am fenthyciad di-log o’r enw Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw – fel arfer ar ôl i chi hawlio Credyd Cynhwysol am o leiaf chwe mis yn olynol.
Gweler ein canllawiau am fwy o help:
Sut i dalu eich costau tai ar Gredyd Cynhwysol
Os ydych yn gymwys i gael cymorth gyda’ch costau tai, mae sut y caiff ei dalu i chi yn dibynnu ar ble rydych yn byw:
- Yng Nghymru a Lloegr mae wedi'i gynnwys yn eich taliad misol. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi drefnu i dalu eich rhent neu daliadau gwasanaeth i’ch landlord eich hun. Os byddwch yn ei chael hi’n anodd gwneud hyn, gallwch ofyn i’ch anogwr gwaith am drefniant talu amgen.
- Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, gallwch ddewis i’r arian gael ei dalu i chi fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol, neu ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
- Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn yr Alban
- Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon.
Os oes gennych forgais ac rydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch gael benthyciad Cymorth ar gyfer Llog Morgais, sy’n helpu i dalu’r llog ar eich morgais.
Mae hawlio Credyd Cynhwysol yn datgloi help, gostyngiadau a thaliadau eraill
Yn ogystal â’r incwm ychwanegol o’ch taliad Credyd Cynhwysol, byddwch fel arfer yn dod yn gymwys i gael cymorth arall gan gynnwys:
- gostyngiad ar eich Treth Gyngor neu'ch Ardrethi
- help i dalu eich biliau gwresogi, gan gynnwys y Gostyngiad Cartref Cynnes
- biliau rhatach drwy wneud cais am dariffau cymdeithasol gostyngol, gan gynnwys:
- nwy a thrydan
- dŵr
- band eang a ffôn symudol
- hawlio 85% o'ch costau gofal plant yn ôl
- prydau ysgol am ddim
- cymorth i dalu am wisg ysgol a thrafnidiaeth
- mynediad i gyfrif cynilo gyda bonws am ddim gwerth hyd at £1,200.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Help i reoli eich arian os ydych yn cael budd-daliadau.
Sut ydw i'n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol?
I gael help gyda'ch cais, siaradwch â chynghorydd Cymorth i Hawlio Cyngor ar Bopeth am ddim
Os ydych yn byw gyda’ch partner, bydd angen i’r ddau ohonoch wneud cais
Os ydych yn byw gyda’ch partner fel cwpl, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch wneud cais ar wahân, hyd yn oed os mai dim ond un ohonoch sy’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol.
Mae hyn oherwydd bod y swm a gewch yn seiliedig ar incwm a chynilion eich cartref, felly mae angen i'ch partner ddarparu ei fanylion hefyd.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut mae ceisiadau Credyd Cynhwysol ar y cyd yn gweithio.
Beth i’w wneud ar ôl i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, mae pethau y gallwch eu gwneud, gan gynnwys:
- gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer taliadau neu grantiau eraill
- creu neu ddiwygio cyllideb.
Gweler ein canllaw Help i reoli eich arian tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
Ar ôl i chi gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, sicrhewch eich bod yn:
- newid unrhyw ddyddiadau talu ar gyfer biliau neu rent i'r diwrnod ar ôl i chi gael eich talu
- gwirio a ydych bellach yn gymwys i gael gostyngiadau neu fargeinion arbennig
- rhoi gwybod os bydd unrhyw beth yn eich bywyd yn newid
- ystyried agor cyfrif Cymorth i Gynilo am fonws am ddim gwerth hyd at £1,200
- cynllunio ymlaen llaw ar gyfer misoedd drud y flwyddyn, fel penblwyddi a'r Nadolig.
Am fwy o fanylion, gweler ein canllaw Help i reoli eich arian os ydych yn cael budd-daliadau.
Os oes angen help arnoch i wneud cais, gallwch siarad â chynghorydd Credyd Cynhwysol am ddim i gael cymorth i gwblhau’r ffurflen gais.
Siaradwch âchynghorydd Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth i gael cyngor am ddim
For more help and support with your claim for Universal Credit, you can speak to an independent adviser in confidence online or over the phone.
The types of things they can help you with include:
advising how to set up:
- an email address
- Universal Credit account
- bank account.
working through the to-do list for making a successful claim
explaining the online journal and how it is used
accessing the Universal Credit phone claim service
accessing DWP home visit support.
If you live in: | You can contact: |
---|---|
England |
|
Scotland |
|
Wales |
|
Northern Ireland |
You can also:
Call the free Universal Credit helplineOpens in a new window in England, Scotland and Wales or Universal Credit Service Centre in Northern IrelandOpens in a new window for help with your claim .
Find a specialist adviser near you at AdvicelocalOpens in a new window for free help and support with benefits, including confidential advice on whether you should claim Universal Credit.