Cap ar fudd-daliadau

Beth yw’r cap ar fudd-daliadau?

Os ydych dros 16 ac o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y bydd terfyn ar gyfanswm y budd-daliadau y gall eich cartref eu cael. Yr enw ar hwn yw cap ar fudd-daliadau.

Os yw eich incwm dros y terfyn hwn, efallai y bydd eich Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol gael ei leihau.

Sut mae’r cap ar fudd-daliadau yn gweithio?

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol, mae yna derfyn ar faint o incwm y gallwch gael.

Os yw’ch incwm yn mynd uwchben y swm hwn, bydd eich Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol yn cael ei ostwng nes bydd eich incwm yn syrthio islaw’r terfyn.

Byddwch wedi eich eithrio o’r cap ar fudd-daliadau os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith neu rai budd-daliadau anabledd.

Os nad ydych yn cael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol, ni fyddwch yn cael eich effeithio gan y cap ar fudd-daliadau.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Darganfyddwch fwy am y cap ar fudd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon ar wefan nidrect

Faint yw’r cap ar fudd-daliadau?

Mae yna wahanol derfynau, yn ddibynnol ar p’un a ydych yn byw yn Llundain neu yn rhywle arall.

Gwiriwch os ydych yn byw yn Llundain ar wefan Cynghorau Llundain

Efallai yr effeithir arnoch os ydych yn cael mwy na’r symiau dilynol mewn budd-daliadau:
Uchafswm budd-daliadau Pwy fydd hyn yn effeithio arnynt

£2,110.25 y mis (£486.98 yr wythnos) yn Llundain; £1,835 y mis (£423.46 yr wythnos) y tu allan i Lundain (cyfraddau 2023/24)

  • Os yw’ch cartref yn cynnwys cwpl (gyda neu heb blant), neu
  • Os ydych yn rhiant unigol (ac mae gennych blant sy’n byw gyda chi yr ydych yn gyfrifol amdanynt wrth gyfrifo’ch Budd-dal Tai)

£1,413.91 y mis (£326.28 yr wythnos) yn Llundain; £1,229.41 ymis (£283.71 yr wythnos) y tu allan i Lundain (cyfraddau 2023/24)

Os ydych yn berson sengl a naill ai:

  • nad oes gennych blant, neu
  • nad oes gennych blant sy’n byw gyda chi yr ydych yn gyfrifol amdanynt wrth gyfrifo’ch Budd-dal Tai

Eithriadau i’r cap ar fudd-daliadau

Ni fydd y cap ar fudd-daliadau yn effeithio arnoch os ydych chi neu’ch partner:

Ni chewch eich effeithio gan y cap ar fudd-daliadau os ydych chi, eich partner neu unrhyw blant dan 18 oed sy’n byw gyda chi yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau hyn:

  • Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (os cewch yr elfen gymorth)
  • Taliad Anabledd Oedolion (ADP)
  • Taliad Anabledd Plant
  • Lwfans Gwarcheidwad
  • Budd-daliadau Anafiadau Diwydiannol (a thaliadau cyfwerth fel rhan o Bensiwn Anabledd Rhyfel neu Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog)
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Pensiynau rhyfel
  • Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw.

Os nad ydych yn hawlio unrhyw un o’r budd-daliadau hyn ac yn meddwl bod gennych hawl i wneud, gallai fod o fudd i gyflwyno cais.

Pa fudd-daliadau a gynhwysir yn y cap ar fudd-daliadau?

Cynhwysir y budd-daliadau dilynol wrth gyfrifo a yw uchafswm eich incwm o fudd-daliadau’n fwy na’r cap:

  • Lwfans Profedigaeth
  • Budd-dal plant
  • Credyd Treth Plant
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (oni bai eich bod yn cael yr elfen cymorth)
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Mamolaeth
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Rhiant Gweddw
  • Lwfans Mam Weddw
  • Pensiwn Gweddw.

Pa fudd-daliadau nas cynhwysir yn y cap ar fudd-daliadau?

  • Taliad profedigaeth (diystyrir y taliad cymorth profedigaeth newydd hefyd)
  • Benthyciadau cyllidebu
  • Taliadau tywydd oer
  • Gostyngiad yn y Dreth Cyngor
  • Taliadau tai dewisol
  • Prydau ysgol am ddim
  • Taliadau angladd
  • Credyd pensiwn
  • Taliadau Cymorth Lles Lleol (Lloegr)
  • Taliadau Cronfa Les yr Alban
  • Taliadau Cronfa Cymorth Dewisol (Cymru)
  • Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth
  • Tâl Mabwysiadu Statudol
  • Tâl Mamolaeth Statudol
  • Tâl Tadolaeth Statudol
  • Cyflog Statudol a Rennir gan Rieni
  • Tâl Salwch Statudol
  • Grantiau mamolaeth Cychwyn Cadarn.

Beth i’w wneud os ydych yn cael eich effeithio gan y cap ar fudd-daliadau

Cysylltwch â’ch landlord

Os ydych yn poeni am ddod o hyd i’r arian i dalu’ch rhent, y peth cyntaf y dylech ei wneud yw siarad â’ch landlord i egluro’ch sefyllfa ac i siarad am eich opsiynau.

Os ydych yn rhentu eiddo tai cymdeithasol, mae’n bosibl y bydd eich cyngor neu gymdeithas adeiladu’n gallu cynnig eiddo rhatach ichi (os oes rhai ar gael).

Gwenwch gais i’ch awdurdod lleol am Daliad Tai Dewisol

Efallai y gallech wneud cais i’ch cyngor am gymorth yn y tymor byr gyda Thaliad Tai Dewisol.

Darganfyddwch eich cyngor lleol yng Nghymru a Lloegr ar wefan GOV.UK

Darganfyddwch eich cyngor lleol yn yr Alban ar wefan mygov.scot

Darganfyddwch eich cyngor lleol yng Ngogledd Iwerddon ar wefan nidirect

Lluniwch gyllideb

Os nad oes gennych gyllideb i’ch cartref eisoes (rhestr o’ch holl incwm a thaliadau) yna dyma’r adeg i lunio un.

Ac os oes gennych gyllideb, bydd angen i chi weld a allwch chi gael dau ben llinyn ynghyd ar ôl i’ch Budd-dal Tai gael ei ostwng.

Edrychwch ar ffyrdd i gwtogi ar gostau

Hefyd efallai y bydd yn ddefnyddiol ichi ddarllen rhai o’n tudalennau ar arbed arian ar filiau’r cartref:

Sut i arbed arian ar filiau cartref

Help gyda’ch bil Treth Cyngor

Cael help gyda’ch chwiliad gwaith

Cymryd gwaith ychwanegol

Gallech hefyd ystyried cymryd swydd arall, neu weithio mwy o oriau yn eich swydd bresennol.

Darganfyddwch fwy

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.