Os ydych yn byw gyda'ch partner, rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol gyda'ch gilydd, hyd yn oed os mai dim ond un ohonoch sy'n gymwys. Mae'r taliad yn seiliedig ar incwm eich cartref a bydd angen i chi ddewis pwy sy'n cael yr arian. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod a help i gyllidebu fel cwpl.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cyfrifiannell Credyd Cynhwysol ar gyfer cyplau
- Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpl
- Mae cyplau'n cael taliad Credyd Cynhwysol misol sengl
- Sut i ddewis cyfrif banc ar gyfer Credyd Cynhwysol
- Help i reoli eich arian fel cwpl
- Os bydd unrhyw beth yn eich bywyd yn newid, cofiwch roi gwybod amdano
- Help os ydych chi'n poeni am gais Credyd Cynhwysol ar y cyd
- Siaradwch ag ymgynghorydd Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth
Cyfrifiannell Credyd Cynhwysol ar gyfer cyplau
Gall ein Cyfrifiannell budd-daliadau gyfrifo'n gyflym faint y gallech ei hawlio fel cwpl.
Gallwch weithio cymaint o oriau ag y dymunwch a pharhau i fod yn gymwys am Gredyd Cynhwysol, felly mae'n werth gwirio nad ydych yn colli allan.
Am fwy o wybodaeth am sut y cyfrifir Credyd Cynhwysol, gweler ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol?
Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpl
Bydd angen i chi wneud cais ar y cyd am Gredyd Cynhwysol os ydych yn byw gyda'ch partner, hyd yn oed os mai dim ond un ohonoch sy'n gymwys.
Mae hyn oherwydd bod y swm a gewch yn seiliedig ar incwm a chynilion eich cartref, felly mae angen i'ch partner ddarparu eu manylion hefyd.
Bydd angen i'r ddau ohonoch greu cyfrif a gwneud cais ar-lein yn GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os na allwch wneud cais ar-lein, ffoniwch Llinell Gymorth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd neu Ganolfan Gwasanaeth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd yng Ngogledd Iwerddon yn lle hynny. Efallai y byddant yn trefnu i rywun eich ffonio'n ôl neu ymweld â'ch cartref.
Am fwy o help, gan gynnwys y wybodaeth y byddwch ei angen a phryd i wneud cais, gweler ein canllaw Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Gallai budd-daliadau presennol ddod i ben pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol
Os yw'r naill neu'r llall ohonoch eisoes yn hawlio budd-daliadau, gallai rhai o'r rhain ddod i ben pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Mae hyn yn cynnwys Credyd Pensiwn a'r chwe budd-dal 'etifeddol' mae Credyd Cynhwysol yn eu disodli:
- Budd-dal Tai
- Credyd Treth Plant
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Gwaith
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig incwm.
Os ydych yn cael budd-daliadau etifeddol, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gofyn i chi newid i Gredyd Cynhwysol.
Byddwch yn cael Hysbysiad Trosglwyddo gan y rhaglen Symud i Gredyd Cynhwysol sy'n rhoi tri mis i chi weithredu.
Am fanylion a help, gweler ein canllaw Symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill.
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, nid oes angen i chi symud. Gallwch wirio a fyddai'n well i chi newid gan ddefnyddio ein Cyfrifiannell budd-daliadau.
Gallwch hawlio fel cwpl nes bod y ddau ohonoch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Mae Credyd Cynhwysol fel arfer yn dod i ben pan gyrhaeddwch oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd Ond mae ceisiadau ar y cyd yn parhau nes bod y ddau ohonoch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Unwaith y bydd hyn yn digwydd, gallwch wneud cais am Gredyd Pensiwn i barhau i gael help.
Mae cyplau'n cael taliad Credyd Cynhwysol misol sengl
Gan mai un swm a delir i'r cartref yw'r Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi ddewis pwy fydd yn ei dderbyn, naill ai i:
- gyfrif banc ar y cyd yn enw y ddau ohonnoch, neu
- un o'ch cyfrifon banc unigol.
Os oes gennych blant, mae'r taliad fel arfer yn mynd i gyfrif banc y prif ofalwr.
Os ydych yn poeni y gallai'ch partner reoli'ch arian neu ei gamddefnyddio, gallwch ofyn am daliadau ar wahân neu fwy aml yn gyfrinachol.
Gweler Help os ydych chi'n poeni am gais Credyd Cynhwysol ar y cyd am beth i'w wneud.
Sut i ddewis cyfrif banc ar gyfer Credyd Cynhwysol
Rydych angen cyfrif sy'n gallu gwneud a derbyn taliadau, cyfrif cyfredol fel arfer. Mae'r rhan fwyaf o fanciau, cymdeithasau adeiladu ac undebau credyd yn cynnig cyfrifon y gallwch eu defnyddio, hyd yn oed os oes gennych sgôr credyd gwael.
Gweler ein canllaw Sut i agor cyfrif banc ar gyfer eich taliadau budd-dal am fwy o wybodaeth.
A ddylech agor cyfrif ar y cyd?
Gall cyfrif ar y cyd wneud cyllidebu'n llawer haws gan ei fod yn rhoi rheolaeth gyfartal i chi dros yr arian. Dylech ond ystyried agor un gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddynt.
Bydd y ddau ohonoch yn gallu tynnu arian allan neu wario pryd bynnag y dymunwch, a allai achosi problemau os bydd un ohonoch yn ei chael hi'n anodd cadw at gyllideb.
Gweler cyfrifon banc ar y cyd am beth i gadw llygad amdano.
Am fwy o help a gwybodaeth, gweler ein canllaw A ddylech chi reoli arian ar y cyd neu ar wahân?
Help i reoli eich arian fel cwpl
Mae'n bwysig cael sgyrsiau gonest a chynllunio sut i reoli arian gyda'ch gilydd.
Cael cymorth ychwanegol os byddwch yn cael trafferth cyn eich taliad cyntaf
Ar ôl i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol, gall gymryd hyd at bum wythnos i chi gael yr arian.
Am ffyrdd i'ch helpu i ymdopi, gan gynnwys gofyn am gael eich talu'n gynnar, gweler ein canllaw Help i reoli eich arian tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
Gwnewch amser i siarad am eich arian
Gall siarad am arian gyda'ch partner fod yn anodd. Gall hefyd fod yn destun dadlau a rhwystredigaeth.
Ond os ewch chi ati yn y ffordd iawn, byddwch yn teimlo'n well pan fydd cyllid eich teulu mewn trefn ac unrhyw broblemau yn yr awyr agored.
Darganfyddwch fwy am sut i gael y sgyrsiau anodd hynny yn ein canllawiau:
Creu cyllideb i’r cartref
Bydd ein Cynllunydd cyllideb rhad ac am ddim a hawdd ei ddefnyddio yn eich helpu:
- cymharu eich gwariant â'ch incwm
- cael dadansoddiad o'ch cyllid yn ôl categori, a
- cael awgrymiadau personol i'ch helpu i wneud y mwyaf o'ch arian.
- Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Help rheoli eich arian os ydych yn derbyn budd-daliadau.
Sefydlu taliadau awtomatig ar gyfer eich biliau
Ar ôl i chi dderbyn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, mae'n cael ei dalu ar yr un dyddiadau - neu'r diwrnod gwaith cyn hynny os yw’n disgyn ar benwythnos neu ŵyl y banc.
Fel arfer, mae hyn yn:
- unwaith y mis yng Nghymru a Lloegr
- unwaith y mis yn yr Alban, ond gallwch ofyn am ddwywaith y mis
- dwywaith y mis yng Ngogledd Iwerddon, ond gallwch ofyn am unwaith y mis.
Mae'n syniad da sefydlu Debydau Uniongyrchol neu Orchymun Sefydlog i dalu'ch biliau yn awtomatig y diwrnod ar ôl i chi gael eich talu. Er enghraifft, Treth Gyngor, nwy a thrydan, ffôn symudol a band eang.
Yng Nghymru a Lloegr, bydd hyn hefyd yn cynnwys eich rhent neu forgais gan fod unrhyw help gyda'ch costau tai wedi'i gynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol. Mae hefyd yn gweithio fel hyn yn yr Alban, ond mae gennych yr opsiwn i'r arian gael ei dalu'n uniongyrchol i'ch landlord.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r arian bob amser yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch landlord, oni bai eich bod yn bodloni meini prawf penodol i'w dalu i chi.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
Gwiriwch os ydych yn gymwys i gael biliau rhatach a grantiau
Unwaith y byddwch wedi derbyn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, byddwch yn aml yn gymwys i gael gostyngiadau ar eich biliau neu daliadau eraill a grantiau.
I gael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael a sut i wneud cais, gweler ein canllaw Help i reoli eich arian os ydych yn derbyn budd-daliadau.
Os gallwch fforddio cynilo, gallwch gael bonws am ddim gwerth hyd at £1,200
Os ydych chi'n gweithio ac ar Gredyd Cynhwysol, efallai y byddwch yn gymwys i gael cyfrif Cymorth i Gynilo. Mae hyn yn talu arian bonws am ddim gan y llywodraeth ar eich cynilion, sy'n werth hyd at £1,200. Gallwch agor cyfrif i wneud y mwyaf o'r bonws.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymorth i Gynilo wedi'i egluro.
Os bydd unrhyw beth yn eich bywyd yn newid, cofiwch roi gwybod amdano
Gan fod eich taliad Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar amgylchiadau eih dau, rhaid i chi roi gwybod os bydd unrhyw beth yn newid ym mywyd y ddau ohonnoch. Gallwch:
- ychwanegu nodyn i’ch dyfflyfr ar-lein gan ddefnyddio'ch cyfrif Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd
- ffoniwch llinell gymorth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd neu Ganolfan Gwasanaeth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd yng Ngogledd Iwerddon
Mae enghreifftiau o newidiadau y mae'n rhaid i chi roi gwybod amdanynt yn cynnwys:
- symud cartref
- priodi neu ysgaru
- cael babi
- cael diagnosis o gyflwr iechyd neu anabledd
- newidiadau i'ch sefyllfa ariannol, fel codiad cyflog neu dderbyn unrhyw arian ychwanegol.
Gallwch weld rhestr lawn o'r newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt ar GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os oes amheuaeth, mae'n well rhoi gwybod amdano beth bynnag. Os na wnewch hynny, efallai y byddwch yn colli allan ar arian ychwanegol y mae gennych hawl iddo. Neu gallech gael eich talu gormod ac efallai y bydd angen i chi ad-dalu'r budd-daliadau sydd wedi cael eu gordalu ynghyd â dirwy o £50.
Help os ydych chi'n poeni am gais Credyd Cynhwysol ar y cyd
Os ydych yn poeni y gallai'ch partner wario arian sydd ei angen i dalu biliau hanfodol fel rhent, nwy, trydan a bwyd, gallwch ofyn i Gredyd Cynhwysol gael ei dalu'n wahanol.
Gelwir hyn yn Drefniant Talu Amgen (APA) a gallai fod yn:
daliad ar wahân – lle mae'ch holl daliad Credyd Cynhwysol yn mynd i'ch cyfrif
- taliad wedi’i rannu – mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei rannu rhyngoch chi a'i dalu i gyfrifon banc ar wahân.
Gallwch ofyn am APA ar unrhyw adeg, mewn tair ffordd:
- Ychwanegu nodyn i'ch dyddlyfr gan ddefnyddio'ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd
- Ffonio Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol am ddimYn agor mewn ffenestr newydd neu Ganolfan Gwasanaeth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd yng Ngogledd Iwerddon
- Siarad â'ch anogwr gwaith
Diogelwch eich hun rhag camdriniaeth ariannol
Mae gan bawb yr hawl i annibyniaeth ariannol. Os yw'ch partner yn rheoli'ch arian neu'n rhedeg dyledion yn eich enw chi, mae'n gam-drin ariannol.
Os ydych mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu ar 999, neu 999 ac yna 55 os na allwch siarad yn uchel. Fel arall, gofynnwch am siarad â'ch anogwr gwaith yn gyfrinachol ac esboniwch beth sy'n digwydd.
Efallai ei fod yn ymddangos yn frawychus, ond byddant yn gwrando ac yn awgrymu ffyrdd y gallant gefnogi, fel talu am lety dros dro.
Os ydych chi ac unrhyw blant yn gallu gadael yn ddiogel, gallai eich anogwr gwaith hefyd drefnu i'ch taliad Credyd Cynhwysol cyntaf gael ei wneud yn gynnar a darparu help gyda'ch costau teithio.
Am fwy o gefnogaeth a llinellau cymorth am ddim, gweler ein canllawiau:
Siaradwch ag ymgynghorydd Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth
Os oes angen mwy o help neu gefnogaeth arnoch ac eisiau siarad â rhywun yn gyfrinachol, gallwch siarad â chynghorydd ar-lein neu dros y ffôn.
Gallant eich helpu gyda:
sefydlu:
- cyfeiriad e-bost
- cyfrif Credyd Cynhwysol
- cyfrif banc.
gweithio drwy'r rhestr o bethau i'w gwneud ar gyfer gwneud cais llwyddiannus
esbonio'r dyddlyfr ar-lein a sut mae'n cael ei ddefnyddio
cael mynediad i wasanaeth ceisiadau ffôn Credyd Cynhwysol
cael cymorth ymweliadau cartref yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Os ydych yn byw yn: | Gallwch gysylltu â: |
---|---|
Lloegr |
|
Yr Alban |
|
Cymru |
|
Gogledd Iwerddon |
Gallwch hefyd:
- Ffonio’r llinell gymorth Credyd CynhwysoYn agor mewn ffenestr newydd l am ddim yng Nghymru, Lloegr a'r Alban neu'r Ganolfan Gwasanaeth Credyd Cynhwysol yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd am help gyda'ch cais.
- Dod o hyd i gynghorydd arbenigol yn eich ardal chi ar AdvicelocalYn agor mewn ffenestr newydd i gael help a chymorth am ddim gyda budd-daliadau, gan gynnwys cyngor cyfrinachol ynghylch a ddylech chi hawlio Credyd Cynhwysol.