Beth yw’r dreth ystafell wely?

Os oes gennych ystafell wely sbâr a’ch bod yn rhentu eiddo gan y cyngor neu gymdeithas dai, yna gall eich Budd-dal Tai, neu elfen costau tai Credyd Cynhwysol gael ei ostwng. Yn aml cyfeirir at hyn fel y ‘Dreth Ystafell Wely’ – neu’r ‘gosb danfeddiannu’ neu ‘gael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr’.

Pwy gaiff ei effeithio gan y ’dreth ystafell wely’?

Bydd y gosb yn effeithio arnoch os:

  • ydych yn cael eich gweld fel rhywun sydd ag ystafell wely sbâr
  • ydych rhwng 16 oed ac isafswm oedran Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • ydych yn cael Budd-dal Tai (neu elfen tai Credyd Cynhwysol)
  • ydych yn rhentu eich eiddo gan awdurdod lleol, cymdeithas dai neu landlord cymdeithasol cofrestredig.

Defnyddir y rheolau canlynol wrth benderfynu a oes gennych ystafell wely sbâr:

  • disgwylir y bydd dau blentyn dan 16 oed o’r un rhyw yn rhannu
  • disgwylir y bydd dau blentyn dan 10 yn rhannu, waeth beth yw eu rhyw
  • caniateir un ystafell wely ar gyfer pob person dros 16 oed neu gwpl mewn cartref.

Os ydych yn byw yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Yn yr Alban, dylai unrhyw un sydd wedi ei effeithio gan y dreth ystafell wely gwneud cais am Daliad Tai Dewisol. Mae hyn oherwydd bydd Llywodraeth yr Alban yn gwarantu taliadau i sicrhau nad ydych yn waeth eich byd.

Mae Llywodraeth Gogledd Iwerddon yn darparu cyllid i helpu pobl sydd wedi eu heffeithio gan y dreth ystafell wely, i sicrhau nad ydynt yn waeth eu byd.

Pwy gaiff ei eithrio o’r ’dreth ystafell wely’?

Mae nifer o eithriadau.

  • Os ydych chi – neu’ch partner – dros yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth ni fydd yn effeithio arnoch. Ond, dan Gredyd Cynhwysol, bydd rhaid i'r dau ohonoch fod dros yr oedran Credyd Pensiwn i gael eich eithrio.
  • Os ydych yn ofalwr maeth cymeradwy, caniateir ystafell wely ychwanegol i chi. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych rhwng lleoliadau. Mae hyn cyhyd â’ch bod wedi maethu plentyn, neu wedi dod yn ofalwr maeth cymeradwy yn ystod y 12 mis diwethaf.
  • Os oes gennych plentyn sy’n oedlyn yn byw gartref sydd yn y Lluoedd Arfog, yna byddant yn cael eu trin fel rhai sy'n parhau i fyw gartref, hyd yn oed pan fyddant yn cael eu lleoli ar weithrediadau. Yn ystod yr amser hwn, bydd y didyniad nad yw'n ddibynnol hefyd yn cael ei dynnu ar gyfer y plentyn sy'n oedolyn.
  • Os oes gennych blentyn sy’n oedolyn sy’n fyfyriwr a’ch cartref yw ei brif breswylfa, ni fydd ei ystafell yn cael ei hystyried yn un ‘sbâr’. Mae hyn cyhyd â nad yw’n mynd mwy na 52 wythnos heb ddychwelyd adref. Fodd bynnag, dan Gredyd Cynhwysol bydd hyn am chwe mis. Hefyd, ni fydd myfyrwyr llawn amser wedi’u heithrio rhag y ‘Cyfraniad at Gost Tai’, dan Gredyd Cynhwysol. Mae hyn yn £85.73 y mis (2023/24) ar gyfer pob oedolyn 21 oed neu’n hŷn nad yw’n ddibynnol.
  • Os byddwch yn derbyn gofal, cymorth, neu oruchwyliaeth gan eich landlord mewn llety â chymorth sydd wedi’i eithrio, ni fydd effaith ar eich Budd-dal Tai.
  • Os yw eich cyngor wedi’ch rhoi mewn mathau penodol o lety dros dro oherwydd eich bod yn ddigartref, efallai na fydd effaith ar eich Budd-dal Tai.
  • Os oes gennych ystafell sbâr o ganlyniad i farwolaeth yn eich cartref, ni fydd y gostyngiad yn eich Budd-dal Tai’n gymwys am 52 o wythnosau. (Os ydych chi’n cael Credyd Cynhwysol bydd hyn am dri mis).

Eithriadau ar gyfer pobl anabl

  • Os ydych chi neu’ch partner yn derbyn gofal dros nos yn rheolaidd gan ofalwr, neu dîm o ofalwyr, caniateir i chi gael ystafell wely ychwanegol.
  • Caniateir ystafell wely ychwanegol ar gyfer plentyn sydd ag anabledd difrifol sydd un ai’n cael y gyfradd ganolig neu uwch o Lwfans Byw i’r Anabl, ac oherwydd natur yr anabledd nid yw’n gallu rhannu ystafell.

Sut bydd y ’dreth ystafell wely’ yn effeithio arnoch?

Os ydych yn cael eich effeithio, mae’ch Budd-dal Tai cymwys – neu elfen Tai Credyd Cynhwysol – yn cael ei dorri gan:

  • 14% ar gyfer un ystafell wely ychwanegol
  • 25% ar gyfer dwy neu ragor o ystafelloedd gwely ychwanegol.

Felly, er enghraifft, os yw’ch rhent yn £380 y mis ar hyn o bryd, torrir eich budd-dal gan:

  • £53.20 y mis ar gyfer un ystafell wely ychwanegol
  • £95 y mis ar gyfer dwy ystafell wely ychwanegol.

Cysylltwch â’ch landlord

Os ydych yn poeni am ddod o hyd i’r arian i dalu’ch rhent, y peth cyntaf y dylech ei wneud yw siarad â’ch cymdeithas dai neu gyngor. Darganfyddwch ganddynt a oes unrhyw ddewisiadau ar gael i chi.

Efallai y byddant yn siarad â chi am drosglwyddo i gartref llai, os oes rhai ar gael. Gallant hefyd eich cynghori ynghylch unrhyw gymorth ariannol ychwanegol a allai fod ar gael i chi.

Gwnewch gais am Daliad Tai Dewisol gan eich cyngor

Bob blwyddyn mae eich cyngor yn cael cronfa o arian i helpu pobl sydd angen rhagor o gymorth gyda chostau tai.

Efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am y taliad ychwanegol hwn os ydych yn cael elfen costau tai Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai.

Y cyngor sy’n penderfynu pwy ddylai gael yr hyn maent yn ei alw yn DaliadTai Dewisol.

Lluniwch gyllideb

Os nad oes gennych gyllideb i’ch aelwyd eisoes (rhestr o’ch holl incwm a thaliadau) yna dyma’r adeg i lunio un.

Ac os oes gennych gyllideb, bydd angen i chi weld a allwch gael dau ben llinyn ynghyd ar ôl i’r Budd-dal Tai gael ei ostwng.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i gyllidebu ar gyfer taliad budd-daliadau misol

Edrychwch a allwch gynyddu eich incwm

Mae bob amser yn werth edrych a oes ffordd i chi roi hwb i’ch incwm, hyd yn oed os yw’n fater o wirio a ydych yn cael yr holl help y mae gennych hawl iddo.

Ystyriwch gael lojar

Mae’n bosibl rhentu eich ystafell sbâr.

Os penderfynwch fynd i lawr y llwybr hwn, mae rhai pethau y dylech wybod:

  • Byddai cael lojar yn golygu na fyddech yn cael eich ystyried fel rhywun ag ystafell sbâr pan asesir eich Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol.
  • Os ydych yn cael Budd-dal Tai, heblaw am yr £20 yr wythnos cyntaf, mae hanner yr arian ychwanegol rydych yn ei gael mewn rhent yn debygol o gael ei drin fel incwm felly gallai eich budd-daliadau leihau.
  • Os ydych chi’n cael Credyd Cynhwysol, mae’r ffordd y bydd lletywyr yn cael eu hasesu yn wahanol. Byddwch chi’n cael eich ystyried fel un ag ystafell wely sbâr – felly bydd elfen dai eich Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng – ond bydd y rhent rydych chi’n ei dderbyn yn cael ei anwybyddu’n llwyr a byddwch chi’n gallu cael incwm di-dreth o hyd at £7,500 y flwyddyn.
  • Efallai na fydd eich yswiriant cynnwys yn ddilys os byddwch yn cymryd lojar. Gwnewch yn siŵr eich bod yn holi’ch yswiriwr os ydych wedi’ch yswirio o hyd.
  • Lawrlwythwch daflen ffeithiau am osod ystafell yn eich cartref o wefan GOV.UK

Herio penderfyniad ar ‘dreth ystafell wely’

Mae hawl gennych i herio penderfyniad ar dreth ystafell wely. Y rheswm mwyaf cyffredin dros apelio yw oherwydd eich bod angen yr ystafell wely ychwanegol gan fod gennych chi, eich partner, eich plentyn neu oedolyn nad yw'n ddibynnol, anghenion gofal dros nos.

Os ydych yn cael Budd-dal Tai, bydd angen i chi ysgrifennu at eich cyngor lleol cyn pen mis i ddyddiad y penderfyniad.

Darganfyddwch fwy am apelio yn erbyn penderfyniad ar dreth ystafell ar wefan Carer’s UK

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol bydd rhaid i chi ofyn yn gyntaf am ailystyriaeth orfodol cyn i chi apelio cyn pen mis i ddyddiad y penderfyniad.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.