Dewis cyfrif banc ar gyfer eich taliadau budd-daliadau

I gael Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill, bydd angen bod gennych gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, neu gyfrif gyda darparwr amgen – fel undeb credyd. Mae rhaid i’r cyfrif caniatáu i chi wneud a derbyn taliadau awtomatig.

Pa gyfrifon all dderbyn taliadau budd-dal?

Bydd angen bod gennych gyfrif sy’n gallu derbyn taliadau awtomatig.

Y dewisiadau yw:

  • cyfrif cyfredol
  • cyfrif banc sylfaenol
  • cerdyn rhagdaledig

Os na allwch agor unrhyw un o’r cyfrifon hyn, cysylltwch â’r swyddfa sy’n gyfrifol am dalu’ch budd-dal i weld sut allwch gael eich budd-dal i gael ei dalu i chi.

Os ydych yn rhentu gan landlord cymdeithasol, holwch a ydynt yn argymell cyfrif penodol. Os ydynt, nid oes rhaid i chi ei ddefnyddio – ond bydd rhai landlordiaid yn talu swm fel cymhelliant i chi os gwnewch chi.

Trefnu taliadau rhent a biliau eraill

Yn ddelfrydol dylai’ch cyfrif adael i chi wneud taliadau electronig allan o’r cyfrif hefyd. Er enghraifft, Debydau Uniongyrchol neu archebion sefydlog am filiau fel rhent, nwy a thrydan.

Y cyfrifon hyn yn unig fydd yn gadael i chi wneud taliadau allan yn electronig:

  • cyfrif cyfredol
  • cyfrif banc sylfaenol

Nid yw rhai cardiau rhagdaledig yn gadael i chi wneud taliadau allan yn electronig.

Beth mae pob cyfrif yn ei gynnig?

Gwasanaethau a nodweddion Cyfrif cyfredol Cyfrif banc sylfaenol Cardiau rhagdaledig

Derbyn taliadau Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill

Ydy

Ydy

Ydy

Derbyn mathau eraill o incwm fel cyflogau o’r gwaith

Ydy

Ydy

Ydy

Caniatáu Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog

Ydy

Ydy

Nid bob tro – gwiriwch â’r darparwr.

Cyfleuster gorddrafft

Ydy

Na

Na

Cerdyn arian parod â PIN ar gyfer peiriant arian

Ydy

Ydy

Ydy, ond efallai codir ffi arnoch.

Cerdyn debyd

Ydy

Weithiau

Gellir defnyddio’r rhan fwyaf o gardiau rhagdaledig yn yr un mannau â chardiau debyd.

Llyfr sieciau

Ydy

Na

Na

Angen gwiriadau credyd wrth agor y cyfrif

Ydy

Na

Na

Ffioedd a thaliadau

Ffioedd a llog ar orddrafftiau Taliadau am Ddebydau Uniongyrchol a wrthodir

Dim ffioedd

Mae taliadau’n amrywio. Gall gynnwys ffioedd am sefydlu, ychwanegu a thynnu arian.

Cyfrifon cyfredol

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio cyfrif cyfredol i reoli eu harian o ddydd i ddydd.

Mae hyn oherwydd nad oes gan gyfrif cyfredol unrhyw un o’r cyfyngiadau sydd gan gerdyn rhagdaledig.

Cynigir cyfrifon cyfredol gan fanciau, cymdeithasau adeiladu a rhai undebau credyd.

Cyfrifon cyfredol banciau a chymdeithasau adeiladu

  • Mae ganddynt yr holl nodweddion y byddwch eu hangen, megis taliadau electronig, cardiau arian parod, cardiau debyd, Debydau Uniongyrchol a sieciau.
  • Gallwch ddefnyddio’r rhan fwyaf o gyfrifon cyfredol mewn cangen ar y stryd fawr, ar-lein, trwy ddefnyddio bancio symudol neu dros y ffôn.
  • Gallwch gael cyfriflenni cyson i’ch helpu i gadw llygad ar eich arian.
  • Mae rhai cyfrifon yn codi ffioedd uchel a llog os byddwch yn mynd i orddrafft. Ac mae gan y rhan fwyaf ffioedd os nad oes digon yn eich cyfrif i dalu Debyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog.

Cyfrifon cyfredol undebau credyd

Os ydych yn cael trafferth cael eich derbyn ar gyfer cyfrif cyfredol gyda banc neu gymdeithas adeiladu, efallai y gallech roi cynnig ar undeb credyd.

Ni fydd angen i chi basio gwiriad credyd i gael cyfrif undeb credyd. Mae hyn oherwydd nad yw’r cyfrifon hyn yn cynnig gorddrafftiau fel arfer.

Weithiau gall cyfrifon cyfredol undebau credyd godi ffi weinyddol o £5 i £10 y mis, yn enwedig os ydynt yn cynnig cymorth gyda chyllidebu.

Cyfrifon banc sylfaenol heb ffi

Os nad oes gennych fynediad i gyfrif banc safonol, gall cyfrif banc sylfaenol heb ffi ei gwneud yn llawer haws i chi reoli’ch arian.

Nid oes cyfleuster gorddrafft ynghlwm â’r cyfrifon hyn. Felly ni fyddwch yn medru mynd i ddyled drwy wario mwy o arian nag sydd gennych.

Cardiau rhagdaledig

Mae'n bosibl trefnu trosglwyddo eich budd-daliadau i gerdyn rhagdaledig. Ond mae rhai pethau y dylech wybod amdanynt cyn gwneud hynny.

  • Mae amrywiaeth o ffioedd ynghlwm â chardiau rhagdaledig. Bydd angen i chi wirio gyda’r darparwr cyn prynu.
  • Nid yw cael eich holl arian ar un cerdyn yn caniatáu i chi gadw arian eich biliau ar wahân i’ch arian gwario.
  • Nid yw pob cerdyn rhagdaledig yn gadael i chi drefnu i dalu biliau yn awtomatig ar gyfer eich rhent, nwy neu drydan. Gall hyn olygu gorfod tynnu symiau mawr o arian allan bob tro y bydd angen talu bil.

Ond, mae ganddynt rai manteision:

  • Ni allwch fynd i ddyled gan nad oes cyfleuster gorddrafft ar gerdyn rhagdaledig.
  • Mae’n bosibl gwneud un taliad bil electronig gyda rhai cardiau rhagdaledig, gan roi rheolaeth i chi dros amseriad y taliad.

Un ffordd o ddefnyddio cardiau rhagdalu yw i’w weithredu ar y cyd â chyfrif banc.

Rydych yn gadael digon o arian i dalu eich rhent a biliau eraill yn eich cyfrif ac yn llwytho eich arian gwario i gyd ar y cerdyn rhagdalu.

Mae hyn yn rhoi rheolaeth i chi dros faint rydych yn ei wario. Ac mae’n golygu eich bod yn osgoi taliadau banc a chosbau ar eich cyfrif ar gyfer archebion sefydlog a ddychwelwyd neu Ddebydau Uniongyrchol.

Dewis y cyfrif banc gorau ar gyfer eich anghenion

Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn os ydych yn ceisio dod o hyd i gyfrif cyfredol neu gyfrif banc syml sy’n addas ar gyfer eich anghenion.

Dyma rai gwefannau sy’n cymharu cyfrifon banc:

  • Money Saving Expert
  • Which?– gallwch ddefnyddio eu cymhariaeth ansawdd i ddod o hyd i’r banciau â’r sgor gorau gan eu cwsmeriaid.

Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch hefyd geisio’r teclyn cymharu ar wefan The Consumer Council

Byddwch yn ymwybodol na fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi. Felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.

Mae’n bwysig hefyd gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch i’ch cyfrif banc ei gynnig.

Cyfrif ar y cyd neu sengl?

Os ydych yn briod neu yn byw gyda’ch gilydd, byddwch yn cael un taliad Credyd Cynhwysol i’ch aelwyd.

Gofynnir i chi enwebu pa gyfrif rydych am i’r arian gael ei dalu iddo a gall hyn fod yn:

  • cyfrif ar y cyd yn eich enw chi’ch dau
  • cyfrif sengl yn eich enw chi neu yn enw eich partner.

Agor eich cyfrif banc a threfnu taliadau biliau

Nawr gall cwsmeriaid newid eu cyfrif cyfredol mewn saith diwrnod gwaith.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.