Lle gallaf gael cymorth a chyngor am fudd-daliadau?

Gall gweithio allan pa fudd-daliadau neu gredydau treth y mae gennych hawl iddynt fod yn anodd, yn enwedig â'r newidiadau lles diweddar. Darganfyddwch ble i gael cyngor arbenigol am ddim ar-lein, wyneb yn wyneb neu trwy ffonio llinell gymorth.

Cyngor Ar Bopeth

Gall Cyngor Ar Bopeth roi cyngor cyfrinachol, diduedd ac annibynnol am ddim i chi ar fudd-daliadau.

Y cyngor a gynigir

Yn ogystal â chyngor ar fudd-daliadau, gallant eich helpu i ddatrys problemau â dyled, tai a llawer mwy.

Y gwasanaethau a ddarperir

  • ar-lein
  • ymweliadau cartref
  • wyneb yn wyneb
  • llinell gymorth
  • e-bost (mewn rhai achosion).

Yn addas ar gyfer

Pawb.

Cysylltwch â Chyngor Ar Bopeth

Chwiliwch am eich canolfan leol i drefnu apwyntiad neu i weld rhestr o rifau ffôn:

Sut i gael mynediad at fanc bwyd

Os ydych yn wynebu argyfwng ac nid oes gennych arian i dalu am fwyd, efallai y gallech ddefnyddio banc bwyd.

Fel arfer ni allwch fynd yn uniongyrchol at fanc bwyd. Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn gofyn i chi gael taleb atgyfeirio gan sefydliad yn eich cymuned cyn i chi allu eu defnyddio.

Dyma rai o’r llefydd ble gallwch gael taleb banc bwyd:

  • Cyngor ar Bopeth
  • eich cyngor lleol
  • Meddyg teulu neu ymwelydd iechyd
  • Gweithiwr cymorth
  • Gweithiwr cymdeithasol
  • Canolfan Blant
  • Heddlu.

Os credwch fod angen i chi ddefnyddio banc bwyd, dilynwch y camau canlynol:

  1. Gallwch chwilio ar-lein am fanciau bwyd yn eich ardal leol. Byddwch yn gallu gweld lleoliad pob un ac â pha sefydliadau cymunedol y mae’r banciau bwyd yn cydweithio â hwy a fydd yn gallu trefnu’r daleb ar eich cyfer.
  2. Neu, gall sefydliad atgyfeirio eich helpu i ddod o hyd i'r banc bwyd agosaf a rhoi taleb i chi. I gael help â hyn, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth
  3. Wedi i chi gyrraedd y sefydliad atgyfeirio, byddant yn gofyn am ychydig o wybodaeth syml gennych er mwyn canfod eich anghenion a gwirio a ydych yn ddilys i gael taleb.
  4. Os byddwch yn gymwys, cewch daleb gan y sefydliad atgyfeirio i’w defnyddio yn y banc bwyd i chi ei chyfnewid am fwyd.
  5. Os bydd angen i ddefnyddio banc bwyd eto, bydd angen i chi gael atgyfeiriad arall.

Pethau i’w hystyried os byddwch angen taleb banc bwyd

Os credwch y byddwch yn fyr o fwyd erbyn diwedd yr wythnos mae’n bwysig i chi gynllunio ymlaen llaw. Nid yw’r rhan fwyaf o fanciau bwyd ar agor dros y penwythnos, felly ceisiwch gael atgyfeiriad cyn y penwythnos.

Cyn ymweld â sefydliadau atgyfeirio cymunedol, neu gangen Cyngor Ar Bopeth - gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eu bod ar agor yn gyntaf, cyn teithio yno.

Os ydych wedi cael eich taleb ond nid oes modd i chi deithio, efallai y gallai’ch banc bwyd agosaf ddanfon y bwyd atoch. Dylech gysylltu â hwy i gael gwybod hynny.

Mae rhai banciau bwyd yn cyfyngu ar y nifer o weithiau y cewch fynd atynt. Os gwelwch eich bod yn dibynnu’n ormodol arnynt, byddant yn gallu eich cyfeirio at rywle arall am gymorth.

Dod o hyd i fanc bwyd

Darganfyddwch fanc bwyd annibynnol yn lleol ar wefan Food Aid Network

Gallwch ddod o hyd i’ch banc bwyd Ymddiriedolaeth Trussell ar wefan Ymddiriedolaeth Trussell

Dod o hyd i sefydliad atgyfeirio

Darganfyddwch eich swyddfa Cyngor ar Bopeth agosaf a’i horiau agor, ar wefan Cyngor Ar Bopeth

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan Advice NI

Canolfannau’r Gyfraith

Mae Canolfannau’r Gyfraith yn darparu cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth am ddim i bobl dan anfantais. Efallai y gallant eich helpu â chyngor arbenigol os oes gennych broblem budd-dal gymhleth neu os ydych am apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed ar eich hawl i fudd-dal.

Y cyngor a gynigir

Yn ogystal â chyngor ar fudd-daliadau a hawliau lles, mae Canolfannau’r Gyfraith yn cynnig cyngor cyfreithiol ar faterion yn cynnwys cyflogaeth a thai.

Y gwasanaethau a ddarperir

  • wyneb yn wyneb
  • ffôn (mewn rhai ardaloedd).

Yn addas ar gyfer

Pawb sy'n methu fforddio talu am gymorth cyfreithiol.

Cysylltwch â’ch Canolfan y Gyfraith leol

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, darganfyddwch eich un agosaf ar wefan Law Centres Network

Yn yr Alban, darganfyddwch eich Canolfan Gyfraith agosaf ar wefan Shelter Scotland

 

Cynghorwyr budd-daliadau Macmillan ar gyfer pobl a effeithir gan ganser

Gall cynghorydd budd-daliadau Macmillan eich helpu i gyfrifo pa gymorth ariannol mae gennych hawl iddo.

Y cyngor a gynigir

Maent yn cynnig cyngor arbenigol i helpu i leddfu pryderon ariannol.

Gan gynnwys gwybodaeth ar:

  • fenthyciadau
  • grantiau
  • budd-daliadau
  • credydau treth.

Y gwasanaethau a ddarperir

  • wyneb yn wyneb
  • ymweliadau cartref
  • ffôn.

Yn addas ar gyfer

Unrhyw un a effeithir gan ganser. 

Darganfyddwch gynghorydd budd-daliadau Macmillan

Darganfyddwch un yn agos i chi ar wefan Macmillan Cancer Support

Cyngor budd-daliadau Age UK ar gyfer pobl hŷn

Mae rhai canghennau lleol Age UK yn cynnig gwasanaeth cyngor cyfrinachol am ddim ar fudd-daliadau.

Y cyngor a gynigir

Cymorth ymarferol i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.

Y gwasanaethau a ddarperir

  • wyneb yn wyneb
  • ymweliadau cartref
  • ffôn
  • cymorth i lenwi ffurflenni cais.

Yn addas ar gyfer

Unrhyw un sydd dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn byw yn yr ardal a gwmpasir gan y gangen leol.

Cysylltwch ag Age UK

Ffoniwch Linell Gymorth Age UK: 0800 169 6565 (8am i 7pm, 365 diwrnod y flwyddyn).

Ewch i wefan Age UK

Neu rhowch ‘Age UK’ ac enw’ch ardal leol mewn peiriant chwilio.

Llinell Gymorth Gingerbread i Rieni Sengl

Mae Gingerbread yn cynnig cyngor a chymorth ymarferol i rieni sengl, gan gynnwys cyngor ar fudd-daliadau a chredydau treth.

Gallwch ffonio am ddim ar 0808 802 0925 (ddydd Llun: 10am i 6pm, ddydd Mawrth, ddydd Iau, ddydd Gwener: 10am i 4pm, ddydd Mercher: 10am i 1pm a 5pm-7pm). Neu ewch i wefan Gingerbread

Gogledd Iwerddon

Ewch i wefan Parenting NI Gallwch hefyd eu ffonio am ddim ar 0808 8010 722 (ddydd Llun i ddydd Iau: 9.30am i 3.30pm, a ddydd Gwener: 9.30am i 12.30pm).

Cymorth a chyngor arall am ddim

Cyngor ar ddyledion

Os ydych yn poeni am gadw i fyny ag ad-daliadau dyled mae llawer o gymorth a chyngor cyfrinachol ar gael am ddim.

Cyngor ar dai

Os oes gennych ôl-ddyledion rhent neu forgais neu os ydych yn poeni am golli’ch cartref, mae Shelter yn cynnig cyngor cyfrinachol ar amrediad o broblemau ynghylch tai.

Help sy'n lleol i chi

Os yw eich problem yn gymhleth, gall Advicelocal eich helpu i ddod o hyd i gyngor am ddim a didueddYn agor mewn ffenestr newydd yn eich ardal chi ar:

  • fudd-daliadau
  • Treth Cyngor
  • Tai
  • cyflogaeth
  • Anabledd a gofal cymdeithasol
  • Lloches a mewnfudo
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.