Sancsiynau budd-daliadau a sut i ddelio â nhw

Beth yw sancsiwn budd-dal?

Gellir atal neu leihau rhai budd-daliadau os na fyddwch yn gwneud y pethau y gwnaethoch gytuno i'w gwneud yn eich ymrwymiad hawlydd neu'n colli apwyntiadau neu gyfarfodydd. Gelwir hyn yn sancsiwn budd-dal.

Pa fudd-daliadau all gael eu sancsiynu?

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ac rydych yn y grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Credyd Cynhwysol.

Pam fod budd-daliadau yn cael eu sancsiynu?

Os ydych yn hawlio'r budd-daliadau a restrir uchod, byddwch  wedi llofnodi dogfen o'r enw ymrwymiad hawlydd.

Mae hyn yn nodi'ch holl gyfrifoldebau, a beth fydd y sancsiynau os na fyddwch yn eu cwrdd.

Os nad oes gennych ymrwymiad hawlydd, bydd eich cyfrifoldebau yn eich Cytundeb Ceisiwr Gwaith, eich cynllun gweithredu neu'ch llythyr apwyntiad.

Mae budd-daliadau yn cael eu sancsiynu amlaf os:

  • nad ydych yn gwneud digon i chwilio am waith
  • rydych yn hwyr am apwyntiadau neu gyfweliadau
  • nad ydych yn troi i fyny i gyfarfod yn y Ganolfan Gwaith
  • nad ydych yn cymryd rhan mewn cynllun cyflogaeth neu hyfforddiant.

Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)

Sicrhewch nad ydych wedi'ch sancsiynu oherwydd eich bod yn colli galwad ffôn gan DWP. Roeddent yn arfer ffonio o rif a ddaliwyd yn ôl. Ond mae bellach wedi'i ddangos ar eich galwadau sy'n dod i mewn fel 0800 023 2635.

Mae'n werth cadw 0800 023 2635 yn llyfr cyfeiriadau eich ffôn, felly cofiwch ateb yr alwad.

Sut mae sancsiynau budd-daliadau yn effeithio ar Fudd-dal Tai a Gostyngiad Treth Cyngor

A ydych eisoes yn cael Budd-dal Tai a Gostyngiad Treth Gyngor (neu ardrethi yng Ngogledd Iwerddon)? Yna mae dal gennych hawl i’w cael hyd yn oed os yw’ch budd-daliadau’n cael eu sancsiynu.

Fodd bynnag, bydd y Ganolfan Gwaith yn cysylltu â’r cyngor, sydd fel arfer yn atal y budd-daliadau hyn hyd nes y ceir cadarnhad o’ch incwm newydd gennych.

Mae’n eithriadol o bwysig cysylltu â’r adran ‘Refeniw a Budd-daliadau’ yn eich cyngor cyn gynted ag y gallwch. Eglurwch fod eich budd-daliadau wedi cael eu sancsiynu, a rhowch dystiolaeth iddynt o’ch incwm newydd (neu ddim incwm o gwbl) er mwyn medru ailgychwyn eich cais.

Wrth wneud dim gallech wynebu dyledion rhent a Threth Gyngor (neu ardrethi yng Ngogledd Iwerddon).

Sut i ymdopi tra bydd eich budd-daliadau wedi’u sancsiynu

Yn gyntaf, gwiriwch faint o’ch incwm fydd yn cael ei atal. Yn ail, gwnewch restr o weddill yr arian sydd gennych yn dod i mewn.

Yna rhestrwch eich holl alldaliadau. Faint o arian rydych ei angen i dalu am y pethau sylfaenol?

A oes unrhyw ffordd i leihau’ch gwariant? A oes unrhyw filiau lle rydych yn ystyried ei bod yn bosibl y gallech gael bargen well a allai arbed arian i chi nawr ac i’r hirdymor?

Mae’n bwysig ceisio dal eich tir gyda thaliadau hanfodol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • unrhyw arian mae rhaid i chi dalu tuag at eich Treth Cyngor (neu ardrethi yng Ngogledd Iwerddon)
  • eich rhent – os ydych yn gyfrifol am ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord
  • eich morgais, biliau nwy a thrydan.

Os byddwch ar ei hôl â’ch taliadau

A ydych yn poeni y byddwch ar ei hôl â thaliadau hanfodol tra bod eich budd-daliadau yn cael eu sancsiynu? Yna mae'n bwysig siarad â'ch landlord/benthyciwr morgais a'ch cyflenwr ynni. Gwnewch hyn cyn gynted ag y gallwch – a gweithio allan ffordd i fynd yn ôl ar y trywydd iawn.

Byddant yn gallu awgrymu ffyrdd i'ch helpu os ydynt yn gwybod bod problem.

Os ydych yn poeni am golli'ch cartref:

Gallwch hefyd gysylltu â Chyngor ar Bopeth:

Taliadau caledi

Mae taliad caledi yn swm llai o fudd-dal. Gallwch wneud cais am hyn o'r Ganolfan Gwaith os yw'ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) neu'ch Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) yn seiliedig ar incwm  wedi'i leihau neu ei stopio oherwydd sancsiwn.

I fod yn gymwys i gael taliad caledi:

  • mae rhaid nad ydych yn gallu talu am hanfodion, ac mae
  • 100% o'ch lwfans personol JSA neu ESA, neu'ch holl lwfans safon Credyd Cynhwysol, wedi'i dorri.

Ni allwch wneud cais am daliad caledi os yw'ch Cymhorthdal Incwm wedi'i dorri.

Mae rhaid i chi allu profi eich bod yn debygol o ddioddef caledi neu eich bod yn fregus.

Rydych mewn grŵp bregus os, er enghraifft:

  • rydych chi neu'ch partner yn feichiog
  • rydych yn gofalu am berson ag anabledd difrifol
  • chi sy'n gyfrifol am unrhyw blant dibynnol
  • rydych chi neu'ch partner yn 16 neu'n 17 oed ac mewn caledi
  • mae gennych chi neu'ch partner gyflwr iechyd cronig neu anabledd.

I fod yn gymwys i gael taliad caledi, mae rhaid i chi nawr fod yn dilyn y rheolau ar gyfer cael eich budd-dal.

Faint yw taliad caledi?

Fel arfer fe delir 60% o’ch taliad budd-dal.

Os ydych chi neu’ch partner yn feichiog neu’n ddifrifol wael, efallai y gallech gael 80% o’ch taliad budd-dal arferol.

Sut i wneud cais am daliad caledi

I wneud cais am daliad caledi, gofynnwch i'ch Anogwr Gwaith yn y Ganolfan Gwaith – byddant yn eich helpu i lenwi ffurflen JSA/ESA 10JPW.

Dylent roi apwyntiad i chi wneud hyn ar yr un diwrnod neu'r diwrnod wedyn. A dylech gael penderfyniad ar ddiwedd y cyfweliad.

Os ydych yn gymwys i gael taliad caledi, dylid talu'r arian i'ch cyfrif banc ar unwaith, neu ar y dyddiad y mae'ch taliad budd-dal nesaf yn ddyledus.

Neu, ffoniwch ganolfan gyswllt DWP ar 0800 012 1888 a fydd yn sefydlu apwyntiad yn ddiweddarach yn y dydd neu'r diwrnod wedyn yn eich Canolfan Gwaith leol.

Bydd angen i chi gyrraedd ddeg munud yn gynnar er mwyn i chi allu llenwi'r ffurflen.

Ad-dalu taliad caledi

Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Lwfans Ceisio Gwaith, nid oes rhaid i chi dalu taliad caledi yn ôl.

Fodd bynnag, gallai'r rheol hon newid felly mae'n well gwirio bob amser cyn i chi wneud cais.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, bydd rhaid i chi dalu'r taliad caledi yn ôl pan ddaw'r sancsiwn i ben.

Fel rheol, bydd DWP yn cymryd ad-daliadau o'ch taliad Credyd Cynhwysol bob mis nes ei fod wedi talu.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am ad-daliadau ar gyfradd y gallwch ei fforddio, er mwyn osgoi mynd i ddyled.

Gwneud cais i’ch cynllun lles lleol

Os oes angen cymorth arnoch â chostau hanfodol fel biliau gwresogi neu fwyd bydd cynllun lles lleol ar gael yn eich ardal.

Sut i ddod o hyd i’ch banc bwyd lleol

Os ydych yn cael trafferth prynu bwyd, efallai y bydd banc bwyd lleol y gallwch ei ddefnyddio.

Mae rhai banciau bwyd hefyd yn dosbarthu talebau tanwydd y gallwch eu defnyddio i ychwanegu at fesuryddion cyn talu.

Sut i apelio yn erbyn sancsiwn budd-dal

Gallwch ofyn i'r Ganolfan Byd Gwaith (sy'n rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau) edrych eto ar eu penderfyniad i roi sancsiwn ar fudd-daliadau os credwch:

  • eu bod yn anghywir i roi sancsiwn ar fudd-daliadau
  • iddynt roi'r lefel anghywir o sancsiwn i chi
  • iddynt dynnu'r swm anghywir o'ch budd-dal
  • iddynt leihau eich budd-dal am yr amser anghywir.

Gelwir hyn yn ailystyriaeth orfodol. Mae rhaid i chi wneud hyn cyn y gallwch wneud apêl ffurfiol.

Mae angen i chi ofyn am hyn o fewn mis o'r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad trwy:

  • ffonio, drwy ddefnyddio'r rhif ar y llythyr penderfyniad, neu
  • postio, trwy lenwi'r ffurflen CRMR1W.

Esboniwch pam credwch fod eu penderfyniad yn anghywir, ac anfonwch gopïau o unrhyw dystiolaeth arall sydd gennych os ydych yn meddwl y bydd yn helpu'ch achos.

Pan fydd y Ganolfan Byd Gwaith wedi edrych ar eich penderfyniad eto, byddant yn anfon dau gopi o ddogfen atoch a elwir yn hysbysiad ailystyriaeth orfodol. Bydd hyn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad yr ailystyriaeth.

Os ydynt yn gwrthod newid eu penderfyniad, gallwch wedyn apelio yn ei erbyn.

Os ydych yn apelio yn erbyn sancsiwn budd-daliadau, mae'n syniad da cael rhywfaint o help gan arbenigwr. Er enghraifft, trwy Gyngor ar Bopeth neu'ch Canolfan Gyfraith leol:

Lawrlwythwch y ffurflen CRMR1W a'r nodiadau ar sut i anghytuno â phenderfyniad ar wefan GOV.UK

Sut i apelio ailystyriaeth orfodol

Dim ond pan fyddwch wedi cael rhybudd ailystyriaeth orfodol y gallwch apelio yn erbyn penderfyniad budd-daliadau.

I  apelio, mae angen i chi anfon y canlynol at Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (mae'r cyfeiriad ar y ffurflen):

  • Copi o'r hysbysiad ailystyriaeth gorfodol.
  • Ffurfiwch SSCI, y gallwch ei lawrlwytho ar  wefan GOV.UK

Sut i osgoi sancsiynau

Y ffordd orau i osgoi sancsiynau yw gwneud popeth a restrir yn eich ymrwymiad hawlydd neu yn eich cytundeb.

Dyma restr wirio i roi cymorth i chi:

  • Sicrhewch eich bod yn deall eich holl gyfrifoldebau.
  • Gofynnwch i'ch Anogwr Gwaith neu Ymgynghorydd Canolfan Gwaith esbonio unrhyw beth sy'n aneglur.
  • Rhowch wybod i'r Ganolfan Gwaith cyn gynted â phosibl os oes unrhyw beth yn eich cytundeb na allwch ei wneud, ac esboniwch eich rhesymau.
  • Cadwch olwg ar yr holl ddyddiadau pan fydd rhaid i chi fynd i'r Ganolfan Gwaith, ac unrhyw gyfarfodydd eraill y mae rhaid i chi fynd iddynt.
  • Cadwch gofnod o'ch holl weithgareddau sy'n ymwneud â'ch gofynion budd-dal. Er enghraifft, gwnewch nodyn o'r amser rydych yn ei dreulio yn chwilio am waith ac unrhyw swyddi rydych yn gwneud cais amdanynt.
  • Cadwch gopi o unrhyw beth y mae'r Ganolfan Gwaith yn ei roi neu'n ei anfon atoch.
  • Os na allwch ddod i gyfarfod neu gyfweliad, neu os ydych yn gwybod y byddwch yn hwyr, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl.
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.