Credyd Cynhwysol i bobl sâl ac anabl

A allaf wneud cais am Gredyd Cynhwysol os wyf yn sâl neu’n anabl?

Efallai y gallwch hefyd wneud cais am elfennau ychwanegol o Gredyd Cynhwysol i helpu â chostau eraill, fel rhent, gofalu neu fagu plant.

Os ydych yn briod, mewn partneriaeth sifil neu’n byw gyda’ch partner, bydd rhaid i chi wneud cais ar y cyd am Gredyd Cynhwysol.

Bydd eich cais Credyd Cynhwysol yn dibynnu ar incwm a chynilion eich cartref. Os oes gennych gynilion dros £16,000 ni fyddwch yn gymwys.

Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol pan fyddwch yn sâl neu’n anabl

Os ydych yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, defnyddiwch y cais ar-lein i egluro sut mae’ch cyflwr yn ei gwneud yn anodd i chi weithio neu ddod o hyd i waith.

Os ydych eisoes yn cael Credyd Cynhwysol, dywedwch wrth eich anogwr gwaith neu ychwanegwch ef i’ch dyddlyfr ar-lein.

Dylech gael nodyn ffitrwydd gan eich meddyg teulu a’i ychwanegu at eich cais/cyfrif ar-lein. 

Mewn rhai achosion, nid oes angen i chi brofi bod gennych allu cyfyngedig i weithio. Er enghraifft, os oes gennych:

  • unrhyw salwch terfynol
  • rhai cyflyrau sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd
  • rhai triniaethau canser, fel cemotherapi neu radiotherapi

Fel arall, bydd angen i chi lenwi ffurflen UC50.

Ffurflen UC50

Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf, mae'r gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth yn gyfrinachol ac am ddim. Gallant eich helpu:

  • gwirio a oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol
  • dod â'ch gwaith papur a'ch dogfennau pwysig at ei gilydd i gyflymu'ch cais
  • llenwi eich cais ar-lein.

Cymru a Lloegr

Yr Alban

Gogledd Iwerddon

Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais newydd, neu ddweud wrth eich anogwr gwaith am eich cyflwr, anfonir ffurflen UC50w atoch i’w chwblhau.

Mae rhaid i chi ei lenwi a’i anfon at y Gwasanaeth Cynghori Asesiadau Iechyd cyn pen pedair wythnos.

Asesiadau gallu i weithio

Ar ôl i chi ddychwelyd eich ffurflen, efallai y gofynnir i chi fynd i asesiad gallu i weithio.

Bydd yr asesiad yn penderfynu ym mha un o’r categorïau canlynol yr ydych:

  • rydych yn ffit i weithio
  • mae gennych allu cyfyngedig i weithio - sy’n golygu er efallai na fyddwch yn gallu chwilio am waith nawr, efallai y bydd rhaid i chi wneud rhai tasgau rheolaidd i baratoi ar gyfer gwaith
  • mae gennych allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith - sy’n golygu na fydd gofyn i chi chwilio am waith na pharatoi ar gyfer gwaith.

Cael penderfyniad gan y DWP

Ar ôl eich asesiad, bydd y DWP yn ysgrifennu atoch â’u penderfyniad. Ni chewch unrhyw arian ychwanegol tra’ch bod yn aros am y penderfyniad.

Yn y cyfamser, dylai eich anogwr gwaith ystyried eich cyflwr pan fyddant yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud i chwilio am waith neu baratoi ar gyfer gwaith.

Os ydych yn cael eich canfod i fod yn ffit i weithio

Os ydych yn cael eich canfod i fod yn ffit i weithio, bydd disgwyl i chi chwilio am waith neu gynyddu eich enillion. Ni chewch unrhyw arian ychwanegol â’ch cais.

Gallwch ofyn i’r DWP ailystyried eu penderfyniad os nad ydych yn cytuno.

Os oes gennych allu cyfyngedig i weithio

Mae hyn yn golygu na fydd rhaid i chi weithio. Ond efallai y bydd angen i chi wneud rhai gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith, fel ysgrifennu CV neu fynd ar gyrsiau hyfforddi.

Ni chewch unrhyw arian ychwanegol â’ch cais (oni bai bod eich cais o cyn Ebrill 2017).

Os oes gennych allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith

Mae hyn yn golygu na fydd rhaid i chi weithio na gwneud unrhyw beth i baratoi ar gyfer gwaith.

Yn 2023/24 byddwch hefyd yn cael £390.06 ychwanegol y mis fel rhan o'ch taliad Credyd Cynhwysol.

A allaf wneud cais am Gredyd Cynhwysol os wyf yn gweithio?

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn gweithio.

Unwaith y byddwch wedi cael eich hasesu fel bod gennych allu cyfyngedig i weithio (eglurwyd uchod) byddwch yn gymwys i hyn a elwir yn ‘lwfans gwaith’.

Mae hyn yn golygu y gallwch ennill swm penodol cyn y caiff eich taliadau Credyd Cynhwysol eu heffeithio.

Mae lwfansau gwaith misol ar gyfer 2023/24 yn:

  • £379 os yw’ch Credyd Cynhwysol yn cynnwys cymorth tai
  • £631 os nad ydych yn derbyn cymorth tai.

Os ydych yn ennill mwy na’r lwfans gwaith, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn lleihau’n raddol wrth i’ch cyflog gynyddu.

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn lleihau 55c o am bob £1 y byddwch yn ei hennill uwchben eich lwfans gwaith.

Sut mae Credyd Cynhwysol yn effeithio ar PIP a DLA?

Os ydych yn cael Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu Lwfans Byw i’r Anabl (DLA), bydd yn parhau i gael ei dalu ynghyd â’ch taliad Credyd Cynhwysol.

Mae PIP yn disodli'r Lwfans Byw i'r Anabl yn raddol.

Cewch y budd-daliadau hyn os yw’ch cyflwr yn ddigon difrifol i chi fod yn gymwys i’w cael. Ni fyddant yn effeithio ar y swm a gewch drwy Gredyd Cynhwysol.

Symud o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i Gredyd Cynhwysol

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar incwm yw un o’r budd-daliadau sy’n cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol. Os ydych yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar incwm ar hyn o bryd, byddwch yn cael eich symud i Gredyd Cynhwysol yn y pen draw.

Os yw’ch amgylchiadau yn aros yr un fath

Nid oes angen i chi wneud dim ar hyn o bryd.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi pan fydd yn amser i chi newid i Gredyd Cynhwysol.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid

Os bydd rhai newidiadau yn eich bywyd, efallai bydd angen i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol. Mae’r DWP yn galw rhain yn ‘newid mewn amgylchiadau’.

Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr holl fudd-daliadau rydych yn eu derbyn sy’n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol yn stopio. Mae rhain yn cynnwys:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Budd Tai
  • credydau treth.

Beth yw newid arwyddocaol mewn amgylchiadau?

Gallai newid arwyddocaol mewn amgylchiadau gynnwys:

  • dechrau gwaith
  • methu asesiad gallu i weithio
  • rhentu eiddo newydd  - yn enwedig os byddwch yn symud i awdurdod lleol newydd

A fyddaf yn cael llai o arian os symudaf o ESA i Gredyd Cynhwysol?

Os byddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol oherwydd newid mewn amgylchiadau, byddwch yn cael eich asesu dan reolau Credyd Cynhwysol.

Mae hyn yn golygu y gallai’ch taliad Credyd Cynhwysol fod yn fwy neu’n llai na’r swm rydych yn ei gael ar gyfer eich budd-daliadau cyfredol.

Os ydych yn cael y Premiwm Anabledd Difrifol

Nid yw’r Premiwm Anabledd Difrifol ar gael â Chredyd Cynhwysol.

Os ydych yn cael y Premiwm Anabledd Difrifol ac mae’ch amgylchiadau'n newid ac mae rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd eich Premiwm Anabledd Difrifol yn dod i ben.

Yn lle byddwch yn cael taliad trosiannol fel rhan o'ch taliad Credyd Cynhwysol.

Mae hyn rhwng £120 a £405 y mis ar hyn o bryd, gan ddibynnu a ydych yn sengl neu mewn cwpl a'ch gallu i weithio.

Os ydych eisoes wedi symud i Gredyd Cynhwysol a cholli’r Premiwm Anabledd Difrifol

A oeddech yn cael y Premiwm Anabledd Difrifol (SDP), ond cawsoch eich symud i Gredyd Cynhwysol cyn 16 Ionawr 2019? Yna byddwch yn parhau i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Byddwch yn cael taliad ychwanegol ar ben eich Credyd Cynhwysol fel iawndal am unrhyw arian a gollwyd ers stopio eich Premiwm Anabledd Difrifol.

Credyd Cynhwysol os oes gennych blentyn sâl neu anabl

Os yw’ch plentyn yn anabl neu’n dioddef o gyflwr iechyd hirdymor, efallai gallwch hawlio’r elfen plentyn anabl fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol.

Bydd cyfradd yr elfen plentyn anabl a gewch yn dibynnu ar gyfradd y DLA neu PIP rydych yn ei gael ar eu cyfer.

Cewch y gyfradd uwch (£456.89 y mis yn 2023/24) os yw’ch plentyn:

  • eisoes yn cael yr elfen ofal cyfradd uwch o DLA
  • eisoes yn cael yr elfen bywyd bod dydd uwch o PIP, neu
  • wedi’i gofrestru fel rhywun dall

Cewch y gyfradd is (£146.31 y mis yn 2023/24) os yw’ch plentyn yn cael yr holl gyfraddau eraill o DLA neu PIP.

Os ydych yn hawlio DLA neu PIP ar gyfer plentyn sâl neu anabl, gall y swm a gewch effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.