Symud o DLA i PIP - ymdopi â newidiadau mewn incwm

Os oeddech yn cael Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ac wedi cael eich ailasesu ar gyfer Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), gallai’ch incwm fod wedi newid. Darganfyddwch fwy am y ffyrdd y gallwch reoli’ch arian er mwyn ymdopi â’ch amgylchiadau newydd.

Os yw eich dyfarniad PIP wedi ei leihau neu ei derfynu

arrow icon

Yn dilyn eich asesiad, gallech yn awr fod yn gymwys am gyfradd is o PIP na’r hyn a gawsoch gyda DLA, neu gallai’ch dyfarniad fod wedi ei derfynu’n gyfan gwbl.

Os ydych bellach yn gorfod ymdopi ar lai o arian, darllenwch ein canllaw: Symud o DLA i PIP – beth i’w wneud os bydd eich dyfarniad yn cael ei leihau neu’n cael ei derfynu.

Os yw’ch dyfarniad PIP yn fwy na’r hyn oeddech chi’n ei dderbyn ar DLA

Efallai bod eich anghenion iechyd neu anabledd wedi cynyddu ers eich asesiad diwethaf.

Os yw’ch dyfarniad PIP yn fwy nag yr oeddech yn ei gael gyda DLA, gallech fod yn gymwys yn awr am ragor o gymorth nad oedd ar gael yn flaenorol.

Rhagor o fudd-daliadau a chymorth os yw eich dyfarniad PIP wedi cynyddu

Os ydych yn awr yn cael y gyfradd uwch o’r elfen symudedd o PIP – gelwir hefyd yn lwfans symudedd - gallech fod yn gymwys i gael cymorth gyda chostau trafnidiaeth. Bydd hyn drwy Motability neu gynllun parcio’r Bathodyn Glas.

Gallech fod yn gymwys hefyd am ostyngiadau ar drafnidiaeth gyhoeddus os ydych yn cael unrhyw gyfradd o PIP.

arrow icon

Premiymau anabledd

Os ydych yn awr yn cael yr elfen bywyd bob dydd o PIP, gallech fod yn gymwys am ragor o bremiymau anabledd. Mae hyn os ydych yn cael rhai budd-daliadau neilltuol, yn cynnwys:

  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm.

Nid pawb all hawlio premiymau anabledd. I ddarganfod a allech chi fod yn gymwys ewch i wefan Turn2Us

Gall eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol gynnal gwiriad budd-daliadau llawn i sicrhau eich bod yn cael popeth sy’n ddyledus i chi.

arrow icon

Grantiau elusennol os yw eich dyfarniad PIP wedi cynyddu

Gallech fod yn gymwys hefyd am gymorth elusennol a grantiau i’ch helpu gyda chost ychwanegol eich salwch neu anabledd.

arrow icon

Gwneud y mwyaf o’ch incwm newydd

Mae’n amser da yn awr i edrych ar weddill eich cyllid i sicrhau’ch bod chi’n gwneud y gorau o’r incwm sydd gennych:

  • Arbedwch arian ar filiau ffôn, band eang, ynni a dŵr gyda chymorth ein canllaw ar Sut i arbed arian ar filiau cartref.
  • Darganfyddwch fwy o awgrymiadau da yn ein canllaw Byw ar incwm isel.
  • Gallwch gael gostyngiad ar eich bil Treth Gyngor os ydych chi’n anabl, ac angen byw mewn cartref mwy nag y byddai ei angen arnoch chi fel arall. Os mai chi yw’r unig oedolyn yn eich cartref, neu os mai dim ond gofalwr sy’n byw gyda chi sy’n rhannu’r tŷ gyda chi, gallech gael 25% oddi ar eich bil Treth Gyngor.

Darganfyddwch fwy am y Cynllun Gostyngiad Band Anabl ar wefan GOV.UK

arrow icon

Cynilo arian

Wedi i chi edrych ar eich gwariant yn y cartref, efallai y gallwch roi ychydig i ffwrdd os nad oes gennych gynilion yn barod.

Gall cynilo dwy neu dair punt yr wythnos wneud gwahaniaeth.  A gall eich helpu i ymdopi â gwariant annisgwyl neu gynllunio ar gyfer digwyddiadau mawr, fel pen-blwyddi neu’r Nadolig.

Am ragor o awgrymiadau da a syniadau ar sut i wneud y mwyaf o’ch incwm, darllenwch ein Canllaw i ddechreuwyr ynghylch rheoli eich arian.

arrow icon
Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
0800 756 1012* Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
0800 138 7777* Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp
+44 77 0134 2744

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.