Cefnogaeth ariannol i ofalwyr ifanc

Gall edrych ar ôl aelod o’ch teulu gydag anabledd, salwch, cyflwr iechyd meddwl, neu broblem â chyffuriau neu alcohol fod yn ymrwymiad anferthol. Yn ffodus mae cefnogaeth ariannol ar gael, a gwasanaethau cefnogol i roi cymorth i ysgwyddo’r baich.

Pa dasgau mae gofalwyr ifanc yn ei wneud?

Fe allech weld eich hun yn helpu aelod o’r teulu drwy:

  • wneud gwaith o amgylch y cartref, fel glanhau
  • coginio prydau bwyd
  • helpu gyda thasgau ymarferol, fel symud o un lle i’r llall, ymolchi neu wisgo yn y boreau.

Gall hyn fod yn hen ddigon anodd. Ond beth petaech hefyd mewn sefyllfa o fod yn rheoli arian y teulu, neu orfod gadael coleg neu brifysgol er mwyn talu am y gofal maent ei angen.

Pa fath o gefnogaeth ariannol sydd ar gael i ofalwyr ifanc?

Mae’r llywodraeth yn cynnig dau fath o gefnogaeth ariannol i ofalwyr ifanc, sef Lwfans Gofalwr a Phremiwm Gofalwr.

Lwfans Gofalwr

Caiff Lwfans Gofalwr ei dalu ar gyfradd safonol o £76.75 (2023/24) yr wythnos.

Rydych yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr os:

  • ydych yn 16 oed neu drosodd
  • ydych yn bodloni’r rheolau preswylio a phresenoldeb y DU
  • ydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun
  • nad ydych mewn un ai addysg amser llawn neu yn ennill mwy na £139 (2023/24) yr wythnos net. Mae hyn yn golygu £139 ar ôl i chi dalu treth, Yswiriant Gwladol a rhai didyniadau penodol.

 

Lwfans Gofalwr yn Yr Alban

Os ydych yn byw yn yr Alban, bydd gofalwyr hefyd yn cael dau daliad atodol o £237.90 y flwyddyn (2023/24).

Premiwm gofalwr

Mae’r premiwm gofalwr yn daliad ychwanegol o hyd at £42.75 (2023/24) yr wythnos.

Gellir weithiau ei ychwanegu at gyfrifiad o rai budd-daliadau eraill a dderbyniwch ar ben eich Lwfans Gofalwr. Gall y rhain gynnwys:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Budd-dal Tai
  • Gostyngiad Treth Cyngor (Rhyddhad o Dreth yng Ngogledd Iwerddon).

Mae’r ychwanegiad gofalwr yn swm cyfatebol a delir gyda Chredyd Cynhwysol.

Os ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau hyn yn barod, dylech roi gwybod i’r swyddfa budd-daliadau berthnasol eich bod wedi cael dyfarniad o Lwfans Gofalwr. Mae hyn er mwyn iddynt ychwanegu’r premiwm gofalwr i’ch taliad.

Cewch eu manylion cyswllt ar unrhyw lythyr maent wedi ei anfon atoch.

Os mai ond newydd glywed am y premiwm gofalwr ydych ac yn cael y Lwfans Gofalwr yn barod, gall taliadau budd-daliadau weithiau gael eu hôl-ddyddio.

Mae’r budd-daliadau hyn yn destun prawf modd, felly bydd eich cymhwyster yn dibynnu ar eich incwm a’ch cynilion.

Grant Gofalwr Ifanc (yr Alban yn unig)

Os ydych yn byw yn yr Alban, efallai y byddwch yn gallu cael taliad blynyddol ychwanegol o £359.65 os:

  • ydych rhwng 16 a 18 oed
  • rydych chi’n gofalu am rhwng un a thri o bobl am gyfartaledd o 16 awr yr wythnos, ac wedi bod yn gwneud am o leiaf y tri mis diwethaf.

Mathau eraill o gefnogaeth i ofalwyr ifanc

Mae nifer o fathau eraill o gefnogaeth ariannol ac ymarferol ar gael i ofalwyr ifanc. Ond yn gyntaf bydd angen i chi gael asesiad gofalwr.

Dyma gyfle i chi gael sgwrs gyda gweithiwr cymdeithasol a dweud wrthynt pa fath o gymorth rydych ei angen gyda’ch gwaith gofalu.

Os ydych yn llai na 16 oed gallwch ofyn am asesiad gofalwr y tro nesaf y bydd y person rydych yn gofalu amdanynt yn cael eu hasesiad hwy.

Os ydych dros 16 oed cewch ofyn i’ch awdurdod lleol gwblhau asesiad ar unrhyw adeg.

Sut i wneud cais am asesiad gofalwr

Os ydych yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, bydd angen i chi siarad gydag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol sy’n gyfrifol am y person rydych yn gofalu amdanynt.

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi siarad gydag Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol y person rydych yn gofalu amdanynt.

Pwy arall all roi cymorth?

Nid yw’n hawdd bod yn ofalwr ifanc - a dim ond un o’r heriau yw arian. Mae’n bosibl y bydd ffynonellau eraill o help ariannol ar gael o gronfeydd elusennol.

Efallai bydd y Carers Trust yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad ag un o’r sefydliadau hyn.

Os ydych yn teimlo bod eich rôl fel gofalwr yn cael effaith ar eich addysg a’ch gwaith ysgol neu os yw’n gwneud i chi deimlo’n bryderus neu’n anhapus, mae’n bwysig siarad â rhywun am hyn.

Mae llawer iawn o bobl fyddai’n fwy na pharod i wrando ac i roi cymorth i chi ysgwyddo’r cyfrifoldebau o fod yn ofalwr ifanc.

Gallwch ddechrau yn agos at eich cartref, gydag aelod o’r teulu neu ffrind sydd eisoes yn ymwybodol o’r sefyllfa, neu hyd yn oed eich meddyg lleol.

Yna mae yna sefydliadau sydd wedi cael eu sefydlu’n benodol i gynnig cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc, megis:

Mwy o wybodaeth

Mae llawer o sefydliadau yn cynnig cymorth a chyngor i ofalwyr ifanc ar bob agwedd o ofalu:

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.