Budd-daliadau y gallwch eu hawlio fel gofalwr

Os ydych yn ofalwr, mae cymorth ariannol ar gael i chi. Darganfyddwch beth sydd ar gael a sut i wneud cais am yr hyn mae gennych hawl iddo.

Lwfans Gofalwr

Yn 2023/24, mae Lwfans Gofalwr yn £76.75 yr wythnos.

Efallai gallech ei hawlio os:

  • rydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rhywun
  • rydych yn 16 oed neu drosodd
  • nad ydych mewn addysg llawn amser neu yn astudio am 21 awr neu fwy’r wythnos.
  • rydych yn ennill £139 (2023/24) yr wythnos neu lai (ar ôl treth, Yswiriant Gwladol a threuliau).

Mae hynny’n £7,228 y  flwyddyn.

Mae rhaid i’r person rydych yn gofalu amdanynt fod yn cael budd-dal oherwydd eu salwch neu anabledd. Er enghraifft:

  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Byw i’r Anabl (y gyfradd canol neu uwch o’r elfen gofal)
  • Taliad Annibyniaeth Personol (y naill gyfradd neu’r llall o’r elfen bywyd bob dydd)
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog.

Mae Lwfans Gofalwr yn drethadwy. Ond dim ond os oes gennych ffynonellau incwm trethadwy eraill y bydd yn rhaid i chi dalu treth. Er enghraifft, pensiynau galwedigaethol neu bersonol neu enillion rhan amser. Ac os bydd cyfanswm yr incwm hwn yn mynd â chi dros y trothwy ar gyfer talu treth – £12,570 y flwyddyn yn 2023/24. Mae Lwfans Gofalwr ar ei ben ei hun yn is na’r trothwy hwn ar hyn o bryd.

Sut mae Lwfans Gofalwr yn effeithio budd-daliadau eraill?

Gall Lwfans Gofalwr hefyd effeithio ar fudd-daliadau y gallech fod yn eu cael yn barod – felly gallech gael eich talu llai mewn budd-dal arall.

Caiff ei gyfrif fel incwm os ydych yn cael Credyd Cynhwysol. Ond gallech fod yn gymwys am Gredyd Cynhwysol ychwanegol oherwydd eich bod yn ofalwr.

Gallai hefyd effeithio budd-daliadau’r person rydych yn gofalu amdanynt. Er enghraifft os ydynt yn cael Premiwm Anabledd Difrifol – gallai hyn stopio os ydych yn gwneud cais am Lwfans Gofalwr.

Gwneud yn siwr bod eich enillion yn aros o dan y trothwy

Os yw eich cyflog mynd adref yn fwy na £139 (2023/24) ar ôl didyniadau, nid ydych yn gymwys am Lwfans Gofalwr.

Bellach mae Cyllid a Thollau EM yn rhoi gwybodaeth gyfoes am enillion i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Os ydych yn ennill mwy na hyn mewn unrhyw wythnos benodol, mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth DWP. Os na wnewch hynny, gofynnir i chi ad-dalu’r swm a or-dalwyd i chi.

Os yw’ch enillion yn amrywio o wythnos i wythnos, mae’n bwysig rhoi gwybod i’r DWP. Mae hyn fel gallant gyfartaleddu’ch enillion fel eich bod yn aros o dan y trothwy.

Ni allwch gael Lwfans Gofalwr fel arfer os ydych eisoes yn hawlio Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau penodol sydd yn lle incwm. Er enghraifft fel Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd.

Fodd bynnag, mae’n werth gwneud cais o hyd, er na fyddwch yn cael y budd-dal. Os ydych yn gymwys ym mhob ffordd arall, efallai y bydd gennych hawl i incwm ychwanegol ar fudd-daliadau eraill rydych yn eu cael. Gelwir hyn yn ‘hawl gwaelodol’ i Lwfans Gofalwr.

Bydd eich Canolfan Byd Gwaith – neu’ch Jobs and Benefits Office yng Ngogledd Iwerddon – yn gallu dweud wrthych pa fudd-daliadau i wneud cais amdanynt. Neu gallwch gysylltu â’ch Cyngor Ar Bopeth lleol.

Mae rhagor o wybodaeth am Lwfans Gofalwr ar y gwefannau hyn:

Gogledd Iwerddon

Yr Alban

Mae Lwfans Gofalwr yn cael ei ddisodli gan Daliad Cymorth Gofalwr yn yr Alban. Bydd y gwaith graddol yn cychwyn ar ddiwedd 2023 ac yn parhau i mewn i 2024. Tan hynny byddwch yn parhau i gael Lwfans Gofalwr ond byddwch hefyd yn cael taliadau Lwfans Gofalwr Atodol.

Mae'r taliad cyntaf o £245.70 ym mis Mehefin.  Byddwch yn cael os oeddech yn cael Lwfans Gofalwr ar 10 Ebrill 2023.

Mae’r ail daliad ym mis Rhagfyr a bydd yn £245.70. Byddwch yn ei gael os oeddech eisoes yn cael Lwfans Gofalwr ar ddyddiad ym mis Hydref 2023 sydd heb gael ei gyhoeddi eto.

Ni fyddwch yn cael Atodiad Lwfans Gofalwr os oes gennych hawl gwaelodol i Lwfans Gofalwr. Ni fydd Atodiad Lwfans Gofalwr yn effeithio eich budd-daliadau eraill neu gredydau treth.

Bydd ceisiadau newydd o 19 Tachwedd 2023 ar gyfer gofalwyr sy'n byw yn awdurdodau lleol Dundee, Perth a Kinross neu Na H-Eileanan SIAR (Ynysoedd y Gorllewin) yn rhan o dreial Taliad Cymorth Gofalwr. Caiff mwy o ardaloedd eu hychwanegu dros 2024.

Credyd Gofalwr

Mae Credyd Gofalwr yn gredyd Yswiriant Gwladol sy’n llenwi’r bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Mae’n helpu tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth tra nad ydych yn gwneud unrhyw gyfraniadau eich hun oherwydd eich rôl ofalu.

Efallai y gallwch gael Credyd Gofalwr:

  • os ydych yn 16 oed neu’n hŷn
  • os nad ydych eto’n cael Pensiwn y Wladwriaeth
  • os nad ydych yn gymwys am Lwfans Gofalwr
  • rydych treulio o leiaf 20 awr yr wythnos yn gofalu am rywun
  • mae’r person rydych yn gofalu amdanynt yn cael budd-dal oherwydd eu salwch neu anabledd. Er enghraifft:

- Lwfans Byw i'r Anabl - cyfradd ganol neu uchaf o'r elfen gofal 

- Lwfans Gweini

- Lwfans Gweini Cyson

- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) elfen bywyd bob dydd

- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog

- Taliad Anabledd Plentyn (CDP) cyfradd ganol neu uchaf o'r elfen gofal.  

Os nad yw’r person rydych yn gofalu amdanynt yn cael un o’r budd-daliadau hyn yna efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais trwy lenwi ‘Tystysgrif Gofal’.

Cymru, Lloegr, a’r Alban

Gogledd Iwerddon

Premiwm Gofalwr

Efallai y bydd gennych hawl i gael Premiwm Gofalwr ychwanegol os ydych eisoes yn cael:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Cynhwysol – a elwir yr ‘elfen gofal’
  • Budd-dal Tai
  • Cymorth gyda Treth Cyngor – Rhyddhad ar Drethi yng Ngogledd Iwerddon
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn – a elwir yr ‘ychwanegiad gofalwr’.

Gofynnwch am y Premiwm Gofalwr yn eich Canolfan Byd Gwaith leol neu Jobs and Benefits Office. Fodd bynnag, os ydych yn gymwys, fel arfer bydd y taliad yn cael ei ychwanegu’n awtomatig. 

Credyd Pensiwn

Mae hwn yn fudd-dal y gallwch ei gael os ydych wedi cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae wedi’i gynllunio i ychwanegu at eich incwm mewn ymddeoliad. Mae’n cynnwys dwy ran:

  • Credyd Gwarantiedig
  • Credyd Cynilion (os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 yn unig).

Nid yw un o bob tri o bobl sydd â hawl i Gredyd Pensiwn yn gwneud cais amdano. Os ydych yn un o’r rhain, rydych yn colli allan ar gannoedd o bunnoedd y flwyddyn.

Cymorth lles lleol

Os bydd gennych angen ariannol annisgwyl a brys ac rydych yn cael budd-daliadau penodol neu rydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael help lleol. Gelwir hyn yn gymorth lles lleol.

Lloegr

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddysgu rhagor am ba help y gallent ei ddarparu. 

Yr Alban

Cymru

Gogledd Iwerddon

Budd-daliadau eraill efallai y gallech wneud cais amdanynt

Fel gofalwr, mae budd-daliadau a chymorth arall y gallech fod yn gymwys amdanynt.

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli’r budd-daliadau hyn:

  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm.

Os ydych yn gwneud cais newydd am fudd-daliadau prawf modd i'ch helpu os ydych ar incwm isel, mae’n debygol y bydd rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Os ydych yn gofalu am berson ag anabledd difrifol am o leiaf 35 awr yr wythnos, efallai y byddwch yn gymwys i gael yr elfen gofalwr o Gredyd Cynhwysol.

Os nad ydych eto ar Gredyd Cynhwysol

Os ydych yn cael unrhyw rai o’r budd-daliadau sy’n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol, byddwch chi’n parhau i’w cael nes:

  • mae rhaid i chi wneud cais newydd oherwydd newid mewn amgylchiadau
  • mae DWP yn gofyn i chi ddechrau hawlio Credyd Cynhwysol.

Gall newid mewn amgylchiadau gynnwys digwyddiadau fel cychwyn swydd newydd, cael plentyn a dechrau neu stopio bod yn ofalwr.

Os hoffech wybod mwy am sut y bydd hyn yn effeithio ar eich incwm, cysylltwch â gwasanaeth Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd cyn i chi wneud cais. Mae'r gwasanaeth am ddim ac yn gyfrinachol.

Cymorth gyda chostau tai

Os ydych yn rhentu, gallech gael help gyda’ch costau tai trwy elfen Costau Tai Credyd Cynhwysol (neu Fudd-dal Tai os ydych dros Oedran Pensiwn y Wladwriaeth).

Os ydych yn berchennog cartref, gallwch gael help gyda’ch taliadau llog morgais trwy Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI). Mae hyn yn cael ei gynnig fel benthyciad i’w ad-dalu.

Help arall os ydych ar incwm isel

Gallai fod gennych hawl i gael help ariannol gyda’ch:

  • tanwydd
  • costau iechyd
  • Treth Cyngor
  • gwasanaethau trwsio cartrefi.

Cynlluniau a hawliau eraill

Cynllun Motability

Os ydych yn gofalu am rywun sydd yn cael trafferth symud, gallent fod yn gymwys i gael cefnogaeth gan y cynllun Motability. Gall hyn helpu i ddarparu car, cadair olwyn, neu sgwter trydanol.

Parcio bathodyn glas

Mae trwyddedau parcio bathodyn glas yn caniatáu i yrwyr sydd â theithwyr gyda phroblemau symudedd barcio mewn lleoedd mwy cyfleus, fel mannau parcio i’r anabl.

Gallwch barcio ar linellau sengl neu ddwbl am hyd at dair awr hefyd.

Cerdyn Rheilffordd i’r Anabl

Mae’r Cerdyn Rheilffordd i’r Anabl yn caniatáu i ddeilydd y cerdyn a’r gofalwr neu gydymaith gael traean oddi ar gost pris y rhan fwyaf o docynnau trên oedolion ar rwydwaith Network Rail.

Mae’n costio £20 y flwyddyn neu £54 am gerdyn tair blynedd. Gallwch brynu un mewn unrhyw swyddfa docynnau sydd â staff neu ar-lein. 

Cerdyn Cymdeithas Arddangoswyr Sinema

Mae’r cerdyn hwn yn rhoi caniatâd i chi gael un tocyn am ddim pan fyddwch yn mynd â’r person rydych yn gofalu amdanynt i’r sinema. Mae’r holl sinemâu cenedlaethol yn ei dderbyn. Gallwch wneud cais am y cerdyn ar-lein.

Gostyngiadau eraill

Mae nifer fawr o gynigion am ddim neu ostyngol ar gael i ofalwyr mewn amgueddfeydd, canolfannau hamdden a safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ledled y wlad.

Nid ydynt bob amser yn cael eu hysbysebu – felly gofynnwch pan fyddwch yn prynu tocynnau.

Mae nifer o awdurdodau lleol yn cynnig gostyngiadau siopa, hamdden ac eraill i ofalwyr. Holwch eich awdurdod lleol i weld pa gefnogaeth ychwanegol sydd ar gael.

Ble i gael cymorth a chyngor am fudd-daliadau

Gall gwneud cais am fudd-daliadau gofalwr fod yn gymhleth. Felly gwnewch yn siwr eich bod yn cael yr hawliau cywir.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.