Budd-dal Plant a Phensiwn y Wladwriaeth

Wyddech chi fod hawlio Budd-dal Plant yn golygu y gallech chi gael mwy o Bensiwn y Wladwriaeth? Efallai mai ymddeol yw’r peth olaf ar eich meddwl wrth i chi ofalu am fabi newydd, ond gallai’r hyn a wnewch yn awr gael effaith sylweddol ar eich sefyllfa ariannol yn y dyfodol. 

Diogelu eich Pensiwn gan y Wladwriaeth

Nid oes neb yn cael Pensiwn y Wladwriaeth llawn fel mater o drefn pan fyddant yn ymddeol.

Byddwch ond yn cael y swm llawn os byddwch wedi talu - neu wedi cael eich credydu â -  chyfraniadau Yswiriant Gwladol am 35 o flynyddoedd. Fel arfer byddwch yn cronni blwyddyn o gyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy dalu trethi ar eich cyflog, ond pan fyddwch yn hawlio Budd-dal Plant, byddwch yn cael eich credydu gyda chyfraniadau Yswiriant Gwladol nes bydd eich plentyn ieuengaf yn 12 oed, hyd yn oed os nad ydych yn ennill.

Ychwanegir y credydau fel mater o drefn i’ch cyfrif Yswiriant Gwladol pan hawliwch Fudd-dal Plant - felly nid oes angen i chi wneud dim.

Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, byddwch yn cael Pensiwn newydd y Wladwriaeth.

Swm llawn Pensiwn newydd y Wladwriaeth ar gyfer 2023/24 fydd £203.85 yr wythnos.

Beth yw Budd-dal Plant?

Taliad rheolaidd gan y llywodraeth yw Budd-dal Plant i roi cymorth gyda’r cost o fagu plentyn.

Gallwch hawlio Budd-dal Plant am bob plentyn rydych yn gyfrifol amdanynt os ydynt:

  • dan 16 oed
  • dan 20 oed ac yn parhau mewn hyfforddiant neu addysg amser llawn a gymeradwyir.

Yn y flwyddyn dreth 2023/24 gallech gael:

  • £24.00 yr wythnos am eich plentyn cyntaf
  • £15.90 yr wythnos am unrhyw blant eraill

Nid oes treth i’w thalu os nad yw yr un o’r rhieni’n ennill mwy na £50,000 y flwyddyn.

Os byddwch yn ennill mwy na hyn, bydd rhaid i chi dalu rhywfaint o’r arian yn ôl fel Treth Incwm ychwanegol. Gelwir hyn yn ‘Daliad Budd-dal Plant Incwm Uchel’.

Os bydd y naill ohonoch yn ennill dros £60,000, gallwch ddewis peidio â chael y taliadau – ac osgoi'r dreth – ond parhau i gael y hawliadau.

Sut i hawlio Budd-dal Plant

Lawrlwythwch ffurflen gais (CH2) o wefan GOV.UK

Hyd yn oed os nad ydych yn meddwl y bydd gennych hawl i rywbeth gan eich bod chi neu’ch partner yn ennill mwy na’r terfyn di-dreth o £50,000 – mae dal werth hawlio. Mae hyn er mwyn i chi beidio â cholli allan ar gredydau Yswiriant Gwladol.

Os ydych yn ofalwr maeth

Os ydych yn ofalwr maeth cofrestredig, bydd angen i chi wneud cais i CThEM am gredydau Yswiriant Gwladol.

Trosglwyddo Credydau Yswiriant Gwladol

Os ydych yn gweithio ac yn cael Budd-dal Plant – efallai’ch bod yn cronni mwy o gredydau Yswiriant Gwladol nac sydd eu hangen mewn gwirionedd.

Y newyddion da yw y gallwch eu trosglwyddo i’ch partner os nad ydynt yn gweithio neu eu bod ar incwm isel a ddim yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Gallwch hawlio ar gyfer trosglwyddo credydau bob blwyddyn ar ddiwedd pob blwyddyn dreth.

Credydau teidiau a neiniau

Gallwch hefyd drosglwyddo credydau Yswiriant Gwladol i rywun arall yn eich teulu – er enghraifft:

  • brawd neu chwaer
  • taid neu nain, neu
  • aelod uniongyrchol arall o’r teulu

os ydynt yn gofalu am eich plentyn (dan 12 oed) am o leiaf 20 awr yr wythnos.

Nid oes dim angen iddyn nhw fod yn ofalwyr plant cofrestredig.

Yr enw cyffredin ar y rhain yw ‘credydau teidiau a neiniau’.

Sut i gael datganiad Pensiwn y Wladwriaeth

Mae’n hawdd edrych faint o flynyddoedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd gennych - a faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gall y rhain ei roi i chi.

Hefyd gallwch gyfrifo faint yn fwy o flynyddoedd – os o gwbl – rydych eu hangen i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.