Lwfans Mamolaeth

Beth yw Lwfans Mamolaeth?

Budd-dal yw Lwfans Mamolaeth sy’n cael ei dalu gan y llywodraeth i ferched beichiog sydd ddim yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol.

Faint yw Lwfans Mamolaeth?

Mae Lwfans Mamolaeth yn ddi-dreth a chewch un ai:

  • 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog (cyn treth) hyd at uchafswm o £172.48 yr wythnos am 39 wythnos.
  • £27 yr wythnos am 39 wythnos, neu
  • £27 yr wythnos am 14 wythnos.

(Ffigurau 2022/23)

Byddwch hefyd yn cael credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn awtomatig tra rydych yn cael Lwfans Mamolaeth. Mae’r credydau hyn yn bwysig oherwydd maent yn cyfrif tuag at eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth.

Effaith ar fudd-daliadau eraill

Gallai Lwfans Mamolaeth effeithio ar faint rydych chi’n ei gael ar gyfer:

  • Credyd Cynhwysol
  • Gostyngiad Treth Gyngor
  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) - bydd hyn yn stopio os cewch Lwfans Mamolaeth
  • budd-daliadau profedigaeth
  • Lwfans Gofalwr.

Y cap ar fudd-daliadau

Mae’r cap ar fudd-daliadau yn cyfyngu cyfanswm y budd-daliadau y gallwch eu cael. Mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl 16 oed a throsodd sydd heb gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Nid yw rhai budd-daliadau unigol yn cael eu heffeithio, ond gall effeithio cyfanswm y budd-dal a gewch.

Pwy sy’n cael Lwfans Mamolaeth?

Efallai y gallwch ei gael am 39 wythnos os:

  • rydych yn gyflogedig ond ni allwch wneud cais am Dâl Mamolaeth Statudol
  • rydych yn hunangyflogedig ac yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 - yn cynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol
  • rydych wedi stopio gweithio’n ddiweddar.

Yn y 66 wythnos cyn mae disgwyl i’ch babi gael ei eni:

  • mae’n rhaid eich bod wedi bod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig am o leiaf 26 wythnos, ac
  • mae’n rhaid i chi fod wedi ennill £30 neu fwy am o leiaf 13 o’r wythnosau hynny - nid oes yn rhaid i’r wythnosau fod gyda’i gilydd.

Lwfans Mamolaeth os nad ydych yn gweithio

Os nad ydych yn gyflogedig nac yn hunangyflogedig ond rydych wedi bod yn helpu’ch priod neu bartner sifil hunangyflogedig gyda’u busnes yn ddi-dâl, efallai y gallwch wneud cais am Lwfans Mamolaeth ar gyfradd o £27 yr wythnos am 14 wythnos.

Pa mor hir y gallaf gael Lwfans Mamolaeth?

Telir Lwfans Mamolaeth am hyd at 39 wythnos.

Gallwch ddechrau hawlio o’r 26ain wythnos o’ch beichiogrwydd.

Y cynharaf y gallwch gael eich taliad cyntaf yw 11 wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig eich babi.

Lwfans Mamolaeth os ydych yn hunangyflogedig

Gall Lwfans Mamolaeth fod yn hwb gwerthfawr i’ch incwm os ydych yn hunangyflogedig a gorfod cymryd amser i ffwrdd o’ch gwaith i gael babi.

I gael y swm llawn o Lwfans Mamolaeth, rhaid i chi fod wedi bod yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 am o leiaf 13 o’r 66 wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig eich babi.

Pan fyddwch wedi gwneud eich cais, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gwirio eich bod wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2.

Os nad ydych wedi talu digon i gael y gyfradd lawn (£156.66 yr wythnos), cewch £27 yr wythnos am 39 wythnos os bodlonwch y meini prawf cymhwyso ar gyfer Lwfans Mamolaeth.

Mae’n bosibl i chi wneud taliadau Yswiriant Gwladol ychwanegol i sicrhau y cewch y swm llawn o Lwfans Mamolaeth. Bydd CThEM yn dweud wrthych sut i wneud hyn pan fyddwch yn gwneud eich cais. Neu cysylltwch â llinell gymorth Yswiriant Gwladol hunangyflogedig CThEM.

Ffôn: 0300 200 1900

Ffôn testun: 0300 200 3519

Y tu allan i’r DU: +44 19 1203 7010

Mae’r llinellau ar agor: 8am i 8pm Dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 4pm dydd Sadwrn. Ar gau ar ddydd Sul a gwyliau banc.

Beth os na allwch gael Lwfans Mamolaeth?

Os nad ydych yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth, mae’n syniad da i geisio gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. 

Cael mwy o help gyda budd-daliadau mamolaeth

Ydych chi'n feichiog neu newydd gael babi a dim yn meddwl eich bod yn gymwys am Dâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth?  Yna mae'n bwysig i siarad ag ymgynghorydd profiadol - er enghraifft, yn swyddfa Cyngor Ar Bopeth neu’r Ganolfan Byd Gwaith.

Dewch o hyd i’ch cangen agosaf ar wefan Cyngor ar Bopeth

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, dewch o hyd i'ch Canolfan Byd Gwaith agosaf ar  wefan GOV.UK  Neu ffoniwch 0800 012 1888.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch NI Direct ar 02890 823 318.

Rhif cyswllt Lwfans Mamolaeth a ffurflen gais

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban

Llenwch y ffurflen gais Lwfans Mamolaeth (MA1) ar wefan GOV.UK

Neu ffoniwch 0800 012 1888

Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon

Ffoniwch NI Direct ar 02890 823 318

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.