Mae Credyd Treth Plant yn fudd-dal sy'n helpu gyda chostau magu plentyn os ydych ar incwm isel. Mae'n cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol, felly mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o bobl sydd angen help gyda'r costau hyn wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn ei le.
Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Plant
Mae Credyd Treth Plant yn un o’r chwech o fudd-daliadau sy’n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol.
Oni bai eich bod yn cael Credyd Treth Gwaith ar hyn o bryd, ni allwch wneud cais newydd am Gredyd Treth Plant mwyach a rhaid i chi wneud cais am elfen plant Credyd Cynhwysol yn lle.
Darganfyddwch faint o Gredyd Treth Plant y gallwch gael os ydych yn gallu gwneud cais amdano o hyd, gan ddefnyddio’r Cyfrifiannell Credydau Treth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Credyd Cynhwysol a chostau gofal plant
Os ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol a bod gennych gostau gofal plant, efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o'r costau gofal plant cymwys yn ôl. Ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25, mae hyn hyd at uchafswm o £1,014.63 ar gyfer un plentyn, neu £1,739.37 ar gyfer dau blentyn neu fwy.
Mae hyn o'i gymharu â'r 70% y gallech ei hawlio drwy elfen costau gofal plant Credyd Treth Gwaith.
I gael elfen costau gofal plant Credyd Cynhwysol, rhaid i chi:
- fod mewn gwaith cyflogedig, neu
- fod wedi cael cynnig o waith cyflogedig sydd i fod i ddechrau cyn diwedd eich cyfnod asesu misol Credyd Cynhwysol nesaf.
Os ydych mewn cwpl, rhaid i'ch partner hefyd fod mewn gwaith â thâl. Mae hyn oni bai na allant ddarparu gofal plant oherwydd gallu cyfyngedig i weithio, neu os ydynt yn gofalu am berson ag anabledd difrifol.
Gallwch hawlio elfen plentyn Credyd Cynhwysol ar gyfer pob plentyn cymwys a anwyd cyn 6 Ebrill 2017.
Os ganwyd eich plant ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, dim ond ar gyfer y ddau gyntaf y byddwch yn gallu hawlio. Mae hyn oni bai eich bod wedi cael genedigaeth luosog - neu fod eithriadau cyfyngedig eraill.
Os ydych yn cael Credyd Treth Plant ac yn meddwl y gallech fod yn well eich byd ar Gredyd Cynhwysol gallwch ddewis newid. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn cael cyngor arbenigol ar fudd-daliadau cyn i chi wneud hyn oherwydd unwaith y byddwch wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ni allwch fynd yn ôl i gredydau treth.
Dechreuwch drwy ddefnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadauYn agor mewn ffenestr newydd neu dewch o hyd i ymgynghorydd budd-daliadau arbenigol ar AdvicelocalYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol
Symud i Gredyd Cynhwysol oherwydd rydych wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo
Os ydych yn cael credydau treth yn unig, sef Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant (neu’r ddau), efallai bydd y DWP yn eich gwahodd i wneud cais am Gredyd Cynhwysol fel rhan o’i gynllun ‘Symud i Gredyd Cynhwysol’.
Bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol hyd yn oed os ydych wedi adnewyddu eich cais credydau treth yn ddiweddar.
I ddechrau, ni ddylech fod yn waeth eich byd ar Gredyd Cynhwysol nag oeddech ar eich hen fudd-daliadau. Os yw’r swm rydych yn gymwys amdano’n llai ar Gredyd Cynhwysol, caiff swm atodol ei ychwnegu at eich taliad o dan Warchodaeth Drosiannol.
Ni fyddwch yn cael eich symud i Gredyd Cynhwysol yn awtomatig, bydd angen i chi wneud cais. Pan fydd eich cais wedi’i gyflwyno, bydd eich credydau treth yn dod i derfyn ac ni fydd modd mynd yn ôlatynt, felly sicrhewch eich bod yn deall beth sy’n gysylltiedig â hyn cyn i chi wneud cais.
Sut fyddwch yn cael gwybod eich bod yn symud i Gredyd Cynhwysol
Byddwch yn derbyn llythyr Rhybudd Ymfudo gan y DWP yn gofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn tri mis i’r dyddiad yr anfonwyd y llythyr.
Bydd angen i chi wneud y cais ar-lein (ond mae llawer o gymorth ar gael os ydych yn cael trafferth i wneud hyn).
Gall ein canllaw printiedig Paratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol yng Nghymru a Lloegr y gellid ei lawrlwytho eich helpu i baratoi.
Os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion
Mae’r swm y gallwch ei gael fel cynilion yn wahanol gydaChredyd Cynhwysol nag yw ar gyfercredydau treth. Fel arfer ni fyddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion neu gyfalaf.
Fodd bynnag, os ydych yn symud i Gredyd Cynhwysol o gredydau oherwydd rydych wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo, ni fydd eich cynilion yn effeithio ar eich cymhwysedd i Gredyd Cynhwysol am 12 cyfnod asesu (tua 12 mis).
Ar ôl hynny, os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion o hyd, ni fyddwch bellach yn gymwys am Gredyd Cynhwysol. Os oes gennych rhwng £16,000 a £6,000 o hyd ar ddiwedd y 12 cyfnod asesu, caiff eich taliadau Credyd Cynhwysol eu gostwng £4.35 am bob £250 o gynilion sydd gennych.
Sut i ddod o hyd i gymorth ychwanegol
Os ydy DWP yn gofyn i symud i Gredyd Cynhwysol a bod gennych gwestiynau, ffoniwch y llinell gymorth sydd ar eich Rhybudd Ymfudo.
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd am gyngor di-enw, diduedd ac am ddim.
Ffyrdd y gallwch gysylltu â gwasanaeth cymorth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth:
Cymru a Lloegr
Mwy o fanylion ar Gyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Neu, yn Lloegr, ffoniwch 0800 144 8444. Yng Nghymru, ffoniwch 0800 024 1220
Yr Alban
Ewch i Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 0800 023 2581
Gogledd Iwerddon
Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio’n wahanol. Darganfyddwch fwy ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Symud i Gredyd Cynhwysol os oes gennych newid mewn amgylchiadau
Rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM o fewn 30 diwrnod os oes gennych newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich Credyd Treth Plant. Er enghraifft:
- colli neu gael swydd
- cael babi
- partner yn symud i mewn neu allan.
Gallai hyn olygu y bydd rhaid i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol. Bydd CThEM yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud.
Os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion
Os yw eich amgylchiadau’n newid a bod hynny’n sbarduno cais am Gredyd Cynhwysol abod gennych £16,000 neu fwy o gynilion, mae’n bwysig cael cyngor budd-daliadau arbenigol cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol gan fod eich cynilion yn gallu effeithio ar eich cymhwysedd am Gredyd Cynhwysol.
Ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0345 300 3900 i roi gwybod iddynt am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut fydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnoch
Yn Advicelocal gallwch ddod o hyd i arbenigwr budd-daliadau yn agos atochYn agor mewn ffenestr newydd
Cadw’ch credydau treth yn gyfredol
Mae angen i chi adnewyddu eich hawliad credydau treth bob blwyddyn os ydych am barhau i'w cael.
Bydd CThEM yn ysgrifennu atoch bob mis Mai neu fis Mehefin yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud i adnewyddu eich credydau treth.
Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 31 Gorffennaf bob blwyddyn.
Gallwch reoli eich hawliad credyd treth gan ddefnyddio ap HMRCYn agor mewn ffenestr newydd. Gallwch ei ddefnyddio i adnewyddu eich credydau treth, rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau a darganfod pryd a faint fyddwch yn cael eich talu. Mae'n golygu y gallwch osgoi'r llinellau ffôn sy'n brysur iawn rhwng mis Mai a mis Awst bob blwyddyn o amgylch y dyddiad cau adnewyddu credyd treth.
Os na fyddwch yn cael eich pecyn adnewyddu, bydd angen i chi ddefnyddio'r ap neu gysylltu â'r llinell gymorth Credyd Treth ar 0345 300 3900Yn agor mewn ffenestr newydd. Gwnewch hyn cyn gynted ag y gallwch i sicrhau eich bod yn gallu cwrdd â'r dyddiad cau.
Os methwch y dyddiad cau
- Anfonir ‘gyfriflen o’r cyfrif’ atoch, yn dweud wrthych y bydd eich credydau treth yn stopio. Bydd unrhyw daliadau dros dro a gewch yn cael eu cyfrif fel gordaliad a bydd angen eu talu’n ôl.
- Dylech gysylltu â CThEM o fewn 30 diwrnod o ddyddiad cyfriflen eich cyfrif. Gellir prosesu adnewyddiad wedi hynny er mwyn adsefydlu’ch cais yn ôl i 6 Ebrill.
- Os byddwch yn cysylltu â CThEM fwy na 30 diwrnod o ddyddiad cyfriflen eich cyfrif, byddwch ond yn medru cael credydau treth wedi’u hadsefydlu lle gallwch ddangos bod gennych ‘reswm da’ dros adnewyddu’n hwyr. Bydd angen i chi gysylltu â nhw erbyn 31 Ionawr. Yna caiff eich cais ei drin fel petai wedi ei wneud ar 6 Ebrill.
- Os na chaiff eich cais ei adsefydlu, neu nad ydych yn cysylltu â CThEM ar ôl cael eich cyfriflen o gyfrif, bydd eich credydau treth yn stopio. Bydd angen i chi dalu unrhyw gredydau treth rydych wedi’u cael ers 6 Ebrill 2024 yn ôl.
Os yw CThEM yn stopio eich taliadau
Efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth (neu os yw'ch partner). Neu efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Pensiwn yn lle hynny os ydych chi (a'ch partner) dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Pensiwn
Cyfrifiannell Pensiwn y Wladwriaeth
I weithio allan eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, defnyddiwch ein cyfrifiannell Pensiwn y Wladwriaeth yn GOV.UK (Opens in a new window)
Adnewyddu eich cais am gredydau treth
Pan fyddwch yn adnewyddu eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio rhif ffôn, ap, gwefan a gohebiaeth swyddogol CThEM. Mae hyn oherwydd yn ystod y cyfnod hwn yn agos at y dyddiad cau ceir twf yn aml mewn gweithgarwch twyllodrus sy’n aml yn targedu’r rhai sy’n ailymgeisio.
Gallwch reoli ac adnewyddu eich credydau treth ar-lein ar yn GOV.UK (Opens in a new window)
Gallwch gysylltu â CThEF i adnewyddu eich cais neu roi gwybod am newid mewn amgylchiadau ar-lein, ar eu ap, neu drwy ffonio 0345 300 3900.
Mae yna hefyd dîm ymroddedig i gefnogi'r cwsmeriaid mwyaf agored i niwed na allant fynd ar-lein. Bydd y tîm cymorth yn cysylltu â’r bobl y mae CThEM yn gwybod bod angen y cymorth hwn arnynt.
Darganfyddwch fwy am gael help gan CThEF os ydych angen cymorth ychwanegolYn agor mewn ffenestr newydd
Dylech roi gwybod i CThEM os bydd eich amgylchiadau’n newid ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, os bydd eich incwm yn newid, eich plentyn yn gadael cartref neu os byddwch yn symud tŷ.
Mae hyn oherwydd efallai y bydd rhaid i chi nawr wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn ei le.
Credydau Treth a newidiadau incwm
Os yw’ch incwm yn cynyddu o £2,500 neu fwy a’ch bod yn oedi cyn rhoi gwybod i CThEM neu’n aros tan fod eich cais yn cael ei ailasesu, efallai y byddwch yn canfod eich bod wedi derbyn gordaliad o gredydau treth.
Gofynnir i chi dalu’r arian ychwanegol hwn yn ôl. Bydd hyn naill ai drwy leihau eich credydau treth yn y dyfodol neu trwy daliadau uniongyrchol os yw’ch credydau treth wedi stopio.
I osgoi’r bil hwn, mae’n bwysicach fyth dweud wrth y CThEM o fewn 30 diwrnod pan fyddwch yn cael yr arian ychwanegol.
Bydd yn haws addasu eich credydau treth, a lleihau’r posibilrwydd y bydd gofyn i chi dalu am y gordaliadau’n ddiweddarach.
Mae’n gweithio fel arall hefyd. Os yw’ch incwm yn gostwng o £2,500 neu fwy, efallai y bydd gennych hawl i fwy o gredydau treth.
Os gofynnir i chi ad-dalu credydau treth ac y byddwch yn cael anhawster talu, siaradwch â CThEM cyn gynted ag y gallwch.