Grantiau a budd-daliadau os ydych yn astudio a bod gennych fabi

A ydych wedi cael babi ac yn y coleg neu'r brifysgol? Yna gallech fod yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr ychwanegol. Gallai hyn gwmpasu popeth o gostau byw a chostau dysgu i grantiau teithio a gofal plant.

Budd-daliadau os ydych yn astudio ac yn cael babi

Mae’r budd-daliadau y gallech wneud cais amdanynt os ydych yn astudio ac yn cael babi yn dibynnu ar:

  • lefel y cymhwyster rydych yn astudio ar ei gyfer
  • os ydych yn astudio’n llawn amser neu’n rhan amser.

Myfyrwyr llawn amser: darganfyddwch ba fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt ar Turn2usYn agor mewn ffenestr newydd

Myfyrwyr rhan amser: efallai y bydd gennych fynediad i fwy o fudd-daliadau.  Darganfyddwch fwy ar Turn2us

Dylech hefyd sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau mae gennych hawl iddynt fel mam newydd.

Os ydych yn byw neu’n astudio yn Lloegr

Gofal i Ddysgu

Beth yw Gofal i Ddysgu?

Cynllun gan y llywodraeth yw hwn i helpu â chostau gofal plant wrth i chi astudio yn y coleg neu brifysgol..

Mae’n swm wythnosol sefydlog a delir i’ch darparwr gofal plant. Gellir ei ddefnyddio hefyd i dalu am elfennau o ofal plant, er enghraifft:

  • blaendal a ffioedd cofrestru
  • sesiynau rhagflas ar gyfer gofal plant
  • cadw lle eich gofal plant dros y gwyliau.

Pwy sy’n ei gael?

Efallai y gallech gael taliadau Gofal i Ddysgu os:

  • ydych yn rhiant dan 20 oed
  • ydych yn byw yn Lloegr
  • ydych yn astudio ar gwrs a ariennir yn gyhoeddus – gall eich ysgol, coleg neu ddarparwr dysgu ddweud wrthych a yw’ch cwrs yn gymwys
  • mai chi yw prif ofalwr eich plentyn
  • ydych yn ddinesydd Prydeinig neu’n dod o wlad Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA)
  • yw’ch darparwr gofal plant wedi ei gofrestru ag Ofsted.

Faint yw Gofal i Ddysgu?

Gyda Gofal i Ddysgu gallwch hawlio hyd at:

  • £160 fesul plentyn yr wythnos os ydych yn byw y tu allan i Lundain
  • £175 fesul plentyn yr wythnos os ydych yn byw yn Llundain.

(Ffigurau 2023/24)

Mae’r taliadau yn mynd yn uniongyrchol i’ch darparwr gofal plant.

Sut i wneud cais

Grant Gofal Plant

Beth yw’r Grant Gofal Plant?

Grant wythnosol i helpu gyda chostau gofal plant wrth i chi astudio.

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm, eich anghenion gofal plant a’r nifer o blant sydd gennych.

Nid oes rhaid i chi dalu Grant Gofal Plant yn ôl

Pwy sy’n ei gael?

I gael Grant Gofal Plant mae’n rhaid i chi:

  • fod yn fyfyriwr amser llawn
  • byw yn barhaol yn Lloegr
  • bod â – neu’n gymwys am - becyn ariannu myfyriwr 
  • bod â darparwr gofal plant sydd wedi ei gofrestru ag Ofsted
  • bod â phlentyn dan 15, neu dan 17 os oes ganddynt anghenion addysgiadol arbennig.

Ni allwch gael Grant Gofal Plant os ydych chi neu’ch partner yn:

  • hawlio’r elfen gofal plant Credydau Treth Gwaith
  • hawlio’r elfen gofal plant Credyd Cynhwysol
  • yn cael cymorth â chostau gofal plant gan y GIG.

Faint yw’r Grant Gofal Plant?

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar

  • incwm eich cartref
  • cost eich gofal plant
  • y nifer o blant sydd gennych fel dibynyddion.

Gallwch gael grant i dalu am hyd at 85% o’ch costau gofal plant.

Yn y flwyddyn academaidd 2023/24 y mwyaf gallwch ei gael yw:

  • hyd at £183.75 yr wythnos ar gyfer un plentyn
  • hyd at £315.03 yr wythnos ar gyfer dau neu fwy o blant.

Sut i wneud cais

Lwfans Dysgu Rhieni

Beth yw Lwfans Dysgu Rhieni?

Taliadau i roi cymorth i dalu am gostau dysgu os ydych yn astudio a bod gennych blentyn.

Nid oes rhaid i chi dalu Lwfans Dysgu Rhiant yn ôl a gall eich partner ceisio am un hefyd os ydynt mewn addysg llawn amser hefyd.

Pwy sy’n ei gael?

Gallech gael Lwfans Dysgu Rhieni os ydych yn:

  • fyfyriwr o Loegr â phlant dibynnol
  • yn astudio cwrs ôl-raddedig amser llawn neu gwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon.

Faint yw Lwfans Dysgu Rhieni?

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm cartref.

Yn y flwyddyn academaidd 2023/24 gallech gael rhwng £50 a £1,863

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am y Lwfans Dysgu Rhieni pan fyddwch yn gwneud cais am gyllid myfyrwyr.

Os ydych yn byw neu’n astudio yn yr Alban

Grant Rhiant Unigol

Beth yw Grant Rhiant Unigol?

Taliad a wneir i rieni sengl sy’n byw yn yr Alban gydag o leiaf un plentyn dibynnol.

Nid oes rhaid i chi dalu Grant Rhiant Unigol yn ôl.

Pwy sy’n ei gael?

Gallech gael Grant Rhiant Unigol os ydych yn magu un plentyn o leiaf ar eich pen eich hun a’ch bod yn:

  • sengl
  • weddw
  • wedi ysgaru
  • wedi gwahanu.

Faint yw Grant Rhiant Unigol?

Gallech gael hyd at £1,305 yn 2023/24. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais yn uniongyrchol i'ch coleg am gymorth ariannol o'r Grant Rhieni Unigol.

Grant Gofal Plant Rhiant Unigol

Beth yw Grant Gofal Plant Rhiant Unigol?

Gall eich coleg neu brifysgol wneud taliadau o Grant Gofal Plant Rhiant Unigol.

Mae i helpu i dalu costau gofal plant cofrestredig am y diwrnodau rydych yn mynychu'r coleg neu'r brifysgol.

Nid oes rhaid i chi dalu'r arian yn ôl.

Pwy sy’n ei gael?

Gwneir taliadau Grant Gofal Plant Rhiant Unigol fesul achos. Gwneir y penderfyniad gan bob coleg neu brifysgol.

Ni fydd pob myfyriwr cymwys yn cael help gan fod y gronfa'n gyfyngedig – ond fel rheol rhoddir blaenoriaeth i rieni sengl.

Gallwch wneud cais am daliad Grant Gofal Plant Rhiant unigol os ydych yn:

  • fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig amser llawn
  • sicrhau bod y benthyciad myfyriwr uchaf ar gael
  • yn gymwys i gael eich ffioedd dysgu gan Asiantaeth Dyfarnu Myfyrwyr yr Alban (SAAS).

Mae’n rhaid i chi fod yn talu am ofal plant cofrestredig, sy'n cynnwys:

  • gofal dydd
  • cyn-ysgolion
  • clybiau ar ôl ysgol
  • gwarchodwyr plant cofrestredig.

Faint yw’r Grant Gofal Plant Rhiant Unigol?

Os ydych yn gymwys, gallwch wneud cais am daliad o hyd at £1,215.

Bydd eich coleg neu brifysgol yn penderfynu faint ddylai'r taliad fod.

Sut i wneud cais?

Gwnewch gais i'ch coleg am gymorth ariannol gan y Gronfa Gofal Plant.

Os ydych yn byw neu’n astudio yng Nghymru

Cronfa Ariannol wrth Gefn

Beth yw’r Gronfa Ariannol wrth Gefn?

Taliadau gan eich coleg neu brifysgol i roi cymorth gyda chostau gofal plant os ydych ar incwm isel.

Defnyddir y gronfa hefyd i roi cymorth i fyfyrwyr heb blant a allai fod angen cymorth ariannol i fynd ar gwrs.

Pwy sy’n ei gael?

Efallai y gallwch gael cymorth gan Gronfa Ariannol wrth Gefn os:

  • ydych yn 16 neu hŷn
  • ydych yn talu am ofal plant cofrestredig.
  • yw eich incwm cartref blynyddol yn llai na £28,000

Faint yw’r Gronfa Ariannol wrth Gefn?

Bydd eich coleg neu brifysgol yn penderfynu ar swm y taliad a gewch. 

Sut i wneud cais?

Gofynnwch i’ch coleg am gymorth o’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn.

Os ydych yn byw neu’n astudio yng Ngogledd Iwerddon

Gofal i Ddysgu

Beth yw Gofal i Ddysgu

Taliadau i roi cymorth i dalu am gostau gofal plant os ydych yn astudio.

Pwy sy’n ei gael?

Gallech gael cymorth gan y cynllun Gofal i Ddysgu os:

  • mai chi yw prif ofalwr y plentyn
  • ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
  • ydych rhwng 16 a 20 oed ar ddechrau’ch cwrs
  • ydych yn astudio cwrs amser llawn neu ran-amser a restrir ar Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig (NDAQ) - bydd eich coleg yn medru cadarnhau a yw eich cwrs yn gymwys.

Sut i wneud cais

Gofynnwch i’ch coleg am help drwy’r cynllun Gofal i Ddysgu.

Grant Gofal Plant

Beth yw’r Grant Gofal Plant?

Taliadau wythnosol i roi cymorth i dalu am hyd at 85% o’ch costau gofal plant.

Pwy sy’n ei gael?

Gallwch wneud cais os:

  • ydych yn fyfyriwr amser llawn
  • oes gennych blant dan 15 mewn gofal plant cymeradwy neu gofrestredig (neu dan 17 os oes ganddynt anghenion addysgiadol arbennig).

Faint ydyw?

Yn ddibynnol ar eich incwm cartref, yn 2023/24 gallwch wneud cais am hyd at 85% o’ch costau gofal plant, hyd at uchafswm o:

  • £148.75 yr wythnos ar gyfer un plentyn
  • £255 yr wythnos ar gyfer mwy nag un plentyn.

Ni fyddwch yn gymwys i gael y Grant Gofal Plant os ydych chi (neu’ch partner) yn hawlio elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am daliadau Grant Gofal Plant ar eich prif gais cyllid myfyrwyr.

Lwfans Dysgu Rhieni

Beth ydyw?

Taliadau i helpu â chostau’n gysylltiedig â chyrsiau os oes gennych blant.

Pwy sy’n ei gael?

Gallwch wneud cais am gymorth os ydych yn fyfyriwr â phlant. 

Faint ydyw?

Os ydych yn gymwys, gallech gael hyd at £1,538 y flwyddyn. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm cartref.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am Lwfans Dysgu Rhieni ar eich prif gais cyllid myfyrwyr. Cwblhewch y rhan am ragor o gymorth i fyfyrwyr â phlant.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.