Credyd Treth Gwaith

Cynlluniwyd Credyd Treth Gwaith i ychwanegu at eich enillion os ydych yn gweithio ac ar incwm isel. Ond mae’n cael ei ddisodli a bellach mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o bobl wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle. Os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith, darganfyddwch sut mae'r newid hwn yn effeithio arnoch.

Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gwaith

Yn wahanol i Gredydau Treth Gwaith, nid oes unrhyw derfynau i'r oriau y gallwch weithio ar Gredyd Cynhwysol.

Os ydych eisoes yn cael Credyd Treth Gwaith

A ydych eisoes yn hawlio Credyd Treth Gwaith? Yna mae sut a phryd y byddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol yn dibynnu ar a oes rhaid i chi wneud cais newydd oherwydd newid mewn amgylchiadau.

Credydau treth a newid mewn amgylchiadau

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM (CThEM) (adran y llywodraeth sy'n rhoi Credydau Treth) cyn pen 30 diwrnod os oes gennych newid mewn amgylchiadau. Gallai hyn fod fel:

  • colli swydd
  • cael plentyn
  • dechrau gweithio llai nag 16 awr yr wythnos.

Gallai hyn olygu y bydd rhaid i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol. Bydd Cyllid a Thollau EM yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud.

Ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0300 200 1900 i roi gwybod iddynt am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.

Credyd Treth Gwaith a help gyda chostau gofal plant

Ydych chi'n cael Credyd Treth Gwaith, yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos ac yn talu am ofal plant? Yna efallai y gallwch hawlio ‘elfen gofal plant’ Credyd Treth Gwaith. Bydd hyn yn helpu gyda hyd at 70% o'ch costau gofal plant.

  • os ydych yn gwpl, mae angen bod y ddau ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos i fod yn gymwys
  • gallwch fod yn gymwys os ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig

Gan amlaf, mae’n rhaid i chi ddefnyddio gofal plant cofrestredig neu gymeradwy. Gall hyn gynnwys gofalwyr plant, cylchoedd meithrin a meithrinfeydd.

Credyd Cynhwysol a chostau gofal plant

Mae cymorth gyda chostau gofal plant yn fwy hael ar Gredyd Cynhwysol nag yw ar Gredyd Treth Gwaith gan efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o gostau gofal plant cymwys. Yn 2022/23 mae hyn hyd at uchafswm o £646.35 am un plentyn, neu £1,108.04 am ddau blentyn. Disgwylir i’r cyfraddau hyn gynyddu i £951 ar gyfer un plentyn a £1,630 ar gyfer dau blentyn o 29 Mehefin 2023.

Mae hyn o'i gymharu â'r 70% y gallech ei hawlio am gostau gofal plant ar Gredyd Treth Gwaith. Os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith, gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i weld a fyddwch yn well eich byd yn symud i Gredyd Cynhwysol.

Mae bob amser yn well i gael cyngor budd-daliadau arbenigol cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol gan na allwch fynd yn ôl i Gredydau Treth ar ôl i chi wneud cais.

Faint allwch chi ei gael?

Gyda’r elfen gofal plant o Gredyd Treth Gwaith, gallwch gael help gyda hyd at 70% o’ch costau gofal plant. Mae hyn hyd at uchafswm penodol o drothwyon wythnosol.

Faint gallwch gael yn flwyddyn dreth 2023/24
Nifer o blant Os ydych yn talu hyd at: Gallwch gael hyd at:

Un

£175 yr wythnos

£122.50 yr wythnos

Un neu fwy

£300 yr wythnos

£210 yr wythnos

Os ydych yn talu mwy na hyn am ofal plant, dim ond yr uchafswm o’r symiau a restrir uchod y byddwch yn medru eu cael.

Os ydych yn gymwys am yr elfen gofal plant, ni fyddwch o reidrwydd yn cael y symiau llawn.

Bydd faint a gewch yn dibynnu ar:

  • eich incwm
  • yr oriau rydych yn eu gweithio
  • eich costau gofal plant.

Os ydych eisoes yn hawlio credydau treth, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth i ddiweddaru'ch cais.

Symud i Gredyd Cynhwysol oherwydd rydych wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo

O Ebrill 2023, os ydych yn cael credydau treth yn unig, sef Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant (neu’r ddau), efallai bydd y DWP yn eich gwahodd i wneud cais am Gredyd Cynhwysol fel rhan o’i gynllun ‘Symud i Gredyd Cynhwysol’.

Bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol hyd yn oed os ydych wedi adnewyddu eich cais credydau treth yn ddiweddar.

I ddechrau, ni ddylech fod yn waeth eich byd ar Gredyd Cynhwysol nag oeddech ar eich hen fudd-daliadau. Os yw’r swm rydych yn gymwys amdano’n llai ar Gredyd Cynhwysol, caiff swm atodol ei ychwnegu at eich taliad o dan Warchodaeth Drosiannol.

Ni fyddwch yn cael eich symud i Gredyd Cynhwysol yn awtomatig, bydd angen i chi wneud cais. Pan fydd eich cais wedi’i gyflwyno, bydd eich credydau treth yn dod i derfyn ac ni fydd modd mynd yn ôlatynt, felly sicrhewch eich bod yn deall beth sy’n gysylltiedig â hyn cyn i chi wneud cais.

Sut fyddwch yn cael gwybod eich bod yn symud i Gredyd Cynhwysol

Byddwch yn derbyn llythyr Rhybudd Ymfudo gan y DWP yn gofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn tri mis i’r dyddiad yr anfonwyd y llythyr.

Bydd angen i chi wneud y cais ar-lein (ond mae llawer o gymorth ar gael os ydych yn cael trafferth i wneud hyn).

Gall ein canllaw printiedig Paratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol yng Nghymru a Lloegr y gellid ei lawrlwytho eich helpu i baratoi.

Os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion

Mae’r swm y gallwch ei gael fel cynilion yn wahanol gydaChredyd Cynhwysol nag yw ar gyfercredydau treth. Fel arfer ni fyddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion neu gyfalaf.

Fodd bynnag, os ydych yn symud i Gredyd Cynhwysol o gredydau oherwydd rydych wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo, ni fydd eich cynilion yn effeithio ar eich cymhwysedd i Gredyd Cynhwysol am 12 cyfnod asesu (tua 12 mis).

Ar ôl hynny, os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion o hyd, ni fyddwch bellach yn gymwys am Gredyd Cynhwysol. Os oes gennych rhwng £16,000 a £6,000 o hyd ar ddiwedd y 12 cyfnod asesu, caiff eich taliadau Credyd Cynhwysol eu gostwng £4.35 am bob £250 o gynilion sydd gennych.

Sut i ddod o hyd i gymorth ychwanegol

Os  ydy DWP yn gofyn i symud i Gredyd Cynhwysol a bod gennych gwestiynau, ffoniwch y llinell gymorth sydd ar eich Rhybudd Ymfudo.

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd am gyngor di-enw, diduedd ac am ddim.

Ffyrdd y gallwch gysylltu â gwasanaeth cymorth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth:

Cymru a Lloegr

Mwy o fanylion ar Gyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd

Neu, yn Lloegr, ffoniwch 0800 144 8444. Yng Nghymru, ffoniwch 0800 024 1220

Yr Alban

Ewch i Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 0800 023 2581

Gogledd Iwerddon

Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio’n wahanol. Darganfyddwch fwy ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Symud i Gredyd Cynhwysol os oes gennych newid mewn amgylchiadau

Rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM o fewn 30 diwrnod os oes gennych newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich Credyd Treth Plant. Er enghraifft:

  • colli neu gael swydd
  • cael babi
  • partner yn symud i mewn neu allan.

Gallai hyn olygu y bydd rhaid i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol. Bydd CThEM yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud.

Os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion

Os yw eich amgylchiadau’n newid a bod hynny’n sbarduno cais am Gredyd Cynhwysol abod gennych £16,000 neu fwy o gynilion, mae’n bwysig cael cyngor budd-daliadau arbenigol cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol gan fod eich cynilion yn gallu effeithio ar eich cymhwysedd am Gredyd Cynhwysol.

Ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0345 300 3900 i roi gwybod iddynt am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.

Cadw’ch credydau treth yn gyfredol

Mae angen i chi adnewyddu’ch cais am gredydau treth erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn os ydych eisiau parhau i'w cael.

Bydd Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud i adnewyddu eich credydau treth.

Os yw eich amgylchiadau’n newid ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, rhowch wybod i CThEF ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd, gan ddefnyddio apYn agor mewn ffenestr newydd CThEF neu drwy ffonio 0345 300 3900. Er enghraifft, efallai bydd rhaid i chi roi gwybod i CThEF os yw’ch incwm yn newid, mae’ch plentyn yn gadael y cartref neu rydych yn symud tŷ.

Gall newidiadau yn eich amgylchiadau effeithio ar faint o arian a gewch, neu olygu bod rhaid i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol.

Credydau treth a newidiadau incwm

Y swm y gall eich incwm newid cyn i chi orfod dweud wrth Gyllid a Thollau EM  yw £2,500. Diystyru incwm yw’r enw ar hyn.

Os aiff eich incwm i fyny

Os yw’ch incwm yn cynyddu o £2,500 neu fwy a’ch bod yn oedi cyn rhoi gwybod i CThEM neu aros tan fod eich cais yn cael ei ailasesu, efallai y byddwch yn canfod eich bod wedi cael gordaliad o gredydau treth.

Fe ofynnir i chi dalu’r arian ychwanegol hwn yn ôl.  Bydd hyn naill ai trwy leihau eich credydau treth yn y dyfodol neu drwy daliadau uniongyrchol os yw'ch credydau treth wedi dod i ben.

Er mwyn osgoi bil, mae’n bwysicach fyth dweud wrth CThEM o fewn 30 niwrnod pan fyddwch yn cael yr arian ychwanegol.

Bydd yn haws addasu eich credydau treth, a lleihau’r posibilrwydd y bydd gofyn i chi dalu am y gordaliadau yn ddiweddarach.

Os aiff eich incwm i lawr

Os yw’ch incwm yn gostwng o £2,500 neu fwy, efallai y bydd gennych hawl i fwy o gredydau treth, neu ofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Dywedwch wrth CThEM cyn gynted â phosibl ynglŷn â’r newid yn eich amgylchiadau.

Os byddwch wedi cael gordaliad o gredydau treth

Os gofynnir i chi ad-dalu credydau treth ac y byddwch yn cael anhawster talu, siaradwch â CThEM cyn gynted â phosibl.

Cadw’ch credydau treth yn gyfredol

Mae angen i chi adnewyddu eich cais am gredydau treth erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn os ydych am ddal i'w cael.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.