Cynlluniwyd Credyd Treth Gwaith i ychwanegu at eich enillion os ydych yn gweithio ac ar incwm isel. Ond mae’n cael ei ddisodli a bellach mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o bobl wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle. Os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith, darganfyddwch sut mae'r newid hwn yn effeithio arnoch.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gwaith
- Os ydych eisoes yn cael Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Gwaith a help gyda chostau gofal plant
- Symud i Gredyd Cynhwysol oherwydd rydych wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo
- Symud i Gredyd Cynhwysol os oes gennych newid mewn amgylchiadau
- Cadw’ch credydau treth yn gyfredol
- Credydau treth a newidiadau incwm
Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gwaith
Yn wahanol i Gredydau Treth Gwaith, nid oes unrhyw derfynau i'r oriau y gallwch weithio ar Gredyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol
Os ydych eisoes yn cael Credyd Treth Gwaith
A ydych eisoes yn hawlio Credyd Treth Gwaith? Yna mae sut a phryd y byddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol yn dibynnu ar a oes rhaid i chi wneud cais newydd oherwydd newid mewn amgylchiadau.
Credydau treth a newid mewn amgylchiadau
Mae’n rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM (CThEM) (adran y llywodraeth sy'n rhoi Credydau Treth) cyn pen 30 diwrnod os oes gennych newid mewn amgylchiadau. Gallai hyn fod fel:
- colli swydd
- cael plentyn
- dechrau gweithio llai nag 16 awr yr wythnos.
Cymorth i Gynilo
Os ydych ar Gredyd Treth Gwaith, mae cyfrif Cymorth i Gynilo yn rhoi bonws hyd at 50% i chi gan y llywodraeth ar eich cynilion.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Esbonio Cymorth i Gynilo
Gallai hyn olygu y bydd rhaid i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol. Bydd Cyllid a Thollau EM yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud.
Ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0300 200 1900 i roi gwybod iddynt am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut fydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf fi?
Credyd Treth Gwaith a help gyda chostau gofal plant
Ydych chi'n cael Credyd Treth Gwaith, yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos ac yn talu am ofal plant? Yna efallai y gallwch hawlio ‘elfen gofal plant’ Credyd Treth Gwaith. Bydd hyn yn helpu gyda hyd at 70% o'ch costau gofal plant.
- os ydych yn gwpl, mae angen bod y ddau ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos i fod yn gymwys
- gallwch fod yn gymwys os ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig.
Gan amlaf, mae’n rhaid i chi ddefnyddio gofal plant cofrestredig neu gymeradwy. Gall hyn gynnwys gofalwyr plant, cylchoedd meithrin a meithrinfeydd.
Darganfyddwch fwy am gael help i dalu am ofal plant ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Credyd Cynhwysol a chostau gofal plant
Mae cymorth gyda chostau gofal plant yn fwy hael ar Gredyd Cynhwysol nag yw ar Gredyd Treth Gwaith gan efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o gostau gofal plant cymwys. Yn 2024/25 mae hyn hyd at uchafswm o £1,014.63 am un plentyn, neu £1,739,37 am ddau neu fwy o blant.
Mae hyn o'i gymharu â'r 70% y gallech ei hawlio am gostau gofal plant ar Gredyd Treth Gwaith. Os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith, gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i weld a fyddwch yn well eich byd yn symud i Gredyd Cynhwysol.
Mae bob amser yn well i gael cyngor budd-daliadau arbenigol cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol gan na allwch fynd yn ôl i Gredydau Treth ar ôl i chi wneud cais.
Faint allwch chi ei gael?
Gyda’r elfen gofal plant o Gredyd Treth Gwaith, gallwch gael help gyda hyd at 70% o’ch costau gofal plant. Mae hyn hyd at uchafswm penodol o drothwyon wythnosol.
Nifer o blant | Os ydych yn talu hyd at: | Gallwch gael hyd at: |
---|---|---|
Un |
£175 yr wythnos |
£122.50 yr wythnos |
Un neu fwy |
£300 yr wythnos |
£210 yr wythnos |
Os ydych yn talu mwy na hyn am ofal plant, dim ond yr uchafswm o’r symiau a restrir uchod y byddwch yn medru eu cael.
Os ydych yn gymwys am yr elfen gofal plant, ni fyddwch o reidrwydd yn cael y symiau llawn.
Bydd faint a gewch yn dibynnu ar:
- eich incwm
- yr oriau rydych yn eu gweithio
- eich costau gofal plant.
Os ydych eisoes yn hawlio credydau treth, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth i ddiweddaru'ch cais.
Symud i Gredyd Cynhwysol oherwydd rydych wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo
Os ydych yn cael credydau treth yn unig (Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant neu’r ddau), efallai bydd y DWP yn eich gwahodd i wneud cais am Gredyd Cynhwysol fel rhan o’i gynllun ‘Symud i Gredyd Cynhwysol’.
Bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol hyd yn oed os ydych wedi adnewyddu eich cais credydau treth yn ddiweddar.
I ddechrau, ni ddylech fod yn waeth eich byd ar Gredyd Cynhwysol nag oeddech ar eich hen fudd-daliadau. Os yw’r swm rydych yn gymwys amdano’n llai ar Gredyd Cynhwysol, caiff swm atodol ei ychwnegu at eich taliad o dan Warchodaeth Drosiannol.
Ni fyddwch yn cael eich symud i Gredyd Cynhwysol yn awtomatig, bydd angen i chi wneud cais. Pan fydd eich cais wedi’i gyflwyno, bydd eich credydau treth yn dod i derfyn ac ni fydd modd mynd yn ôlatynt, felly sicrhewch eich bod yn deall beth sy’n gysylltiedig â hyn cyn i chi wneud cais.
Sut fyddwch yn cael gwybod eich bod yn symud i Gredyd Cynhwysol
Byddwch yn derbyn llythyr Rhybudd Ymfudo gan y DWP yn gofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn tri mis i’r dyddiad yr anfonwyd y llythyr.
Bydd angen i chi wneud y cais ar-lein (ond mae llawer o gymorth ar gael os ydych yn cael trafferth i wneud hyn).
Gall ein canllaw printiedig Paratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol yng Nghymru a Lloegr y gellid ei lawrlwytho eich helpu i baratoi.
Os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion
Mae’r swm y gallwch ei gael fel cynilion yn wahanol gydaChredyd Cynhwysol nag yw ar gyfercredydau treth. Fel arfer ni fyddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion neu gyfalaf.
Fodd bynnag, os ydych yn symud i Gredyd Cynhwysol o gredydau oherwydd rydych wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo, ni fydd eich cynilion yn effeithio ar eich cymhwysedd i Gredyd Cynhwysol am 12 cyfnod asesu (tua 12 mis).
Ar ôl hynny, os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion o hyd, ni fyddwch bellach yn gymwys am Gredyd Cynhwysol. Os oes gennych rhwng £16,000 a £6,000 o hyd ar ddiwedd y 12 cyfnod asesu, caiff eich taliadau Credyd Cynhwysol eu gostwng £4.35 am bob £250 o gynilion sydd gennych.
Sut i ddod o hyd i gymorth ychwanegol
Os ydy DWP yn gofyn i symud i Gredyd Cynhwysol a bod gennych gwestiynau, ffoniwch y llinell gymorth sydd ar eich Rhybudd Ymfudo.
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd am gyngor di-enw, diduedd ac am ddim.
Ffyrdd y gallwch gysylltu â gwasanaeth cymorth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth:
Cymru a Lloegr
Mwy o fanylion ar Gyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Neu, yn Lloegr, ffoniwch 0800 144 8444. Yng Nghymru, ffoniwch 0800 024 1220
Yr Alban
Ewch i Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 0800 023 2581
Gogledd Iwerddon
Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio’n wahanol. Darganfyddwch fwy ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Symud i Gredyd Cynhwysol os oes gennych newid mewn amgylchiadau
Rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM o fewn 30 diwrnod os oes gennych newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich Credyd Treth Plant. Er enghraifft:
- colli neu gael swydd
- cael babi
- partner yn symud i mewn neu allan.
Gallai hyn olygu y bydd rhaid i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol. Bydd CThEM yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud.
Os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion
Os yw eich amgylchiadau’n newid a bod hynny’n sbarduno cais am Gredyd Cynhwysol abod gennych £16,000 neu fwy o gynilion, mae’n bwysig cael cyngor budd-daliadau arbenigol cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol gan fod eich cynilion yn gallu effeithio ar eich cymhwysedd am Gredyd Cynhwysol.
Ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0345 300 3900 i roi gwybod iddynt am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut fydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf?
Ar Advicelocal gallwch ddod o hyd i arbenigwr budd-daliadau yn agos atochYn agor mewn ffenestr newydd
Cadw’ch credydau treth yn gyfredol
Mae angen i chi adnewyddu’ch cais am gredydau treth erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn os ydych eisiau parhau i'w cael.
Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch ym mis Mai neu Fehefin gyda chyfarwyddiadau.
Os yw eich amgylchiadau’n newid ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, rhowch wybod i CThEF ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd, gan ddefnyddio apYn agor mewn ffenestr newydd CThEF neu drwy ffonio 0345 300 3900Yn agor mewn ffenestr newydd. Er enghraifft, efallai bydd rhaid i chi roi gwybod i CThEF os yw’ch incwm yn newid, mae’ch plentyn yn gadael y cartref neu rydych yn symud tŷ.
Gall newidiadau yn eich amgylchiadau effeithio ar faint o arian a gewch, neu olygu bod rhaid i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy am newidiadau a all effeithio eich credydau treth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Credydau treth a newidiadau incwm
Pwysig
Mae yna newidiadau eraill i amgylchiadau efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEM amdanynt ar wahan i newidiadau incwm.
Darganfyddwch fwy ar GOV.UK i roi gwybod am newidiadau sy'n effeithio ar eich credydau trethYn agor mewn ffenestr newydd
Y swm y gall eich incwm newid cyn i chi orfod dweud wrth Gyllid a Thollau EM yw £2,500. Diystyru incwm yw’r enw ar hyn.
Os aiff eich incwm i fyny
Os yw’ch incwm yn cynyddu o £2,500 neu fwy a’ch bod yn oedi cyn rhoi gwybod i CThEM neu aros tan fod eich cais yn cael ei ailasesu, efallai y byddwch yn canfod eich bod wedi cael gordaliad o gredydau treth.
Fe ofynnir i chi dalu’r arian ychwanegol hwn yn ôl. Bydd hyn naill ai trwy leihau eich credydau treth yn y dyfodol neu drwy daliadau uniongyrchol os yw'ch credydau treth wedi dod i ben.
Er mwyn osgoi bil, mae’n bwysicach fyth dweud wrth CThEM o fewn 30 niwrnod pan fyddwch yn cael yr arian ychwanegol.
Bydd yn haws addasu eich credydau treth, a lleihau’r posibilrwydd y bydd gofyn i chi dalu am y gordaliadau yn ddiweddarach.
Os aiff eich incwm i lawr
Os yw’ch incwm yn gostwng o £2,500 neu fwy, efallai y bydd gennych hawl i fwy o gredydau treth, neu ofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Dywedwch wrth CThEM cyn gynted â phosibl ynglŷn â’r newid yn eich amgylchiadau.
Os byddwch wedi cael gordaliad o gredydau treth
Os gofynnir i chi ad-dalu credydau treth ac y byddwch yn cael anhawster talu, siaradwch â CThEM cyn gynted â phosibl.
Cadw’ch credydau treth yn gyfredol
Mae angen i chi adnewyddu eich cais am gredydau treth erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn os ydych am ddal i'w cael.