Budd-daliadau a chredydau treth pan ydych wedi colli eich swydd

Os ydych newydd golli’ch swydd, efallai y byddwch yn meddwl am ba fudd-daliadau allan o waith y byddwch yn gallu gwneud cais amdanynt. Mae’r budd-daliadau sydd ar gael yn dibynnu ar yr amser y buoch yn gweithio, eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, dan ba amgylchiadau y gadawsoch eich swydd a’ch amgylchiadau gartref. 

Pa fudd-daliadau gallwch wneud cais amdanynt os ydych wedi colli’ch swydd?

Os ydych wedi colli’ch swydd, y prif fudd-dal y gallwch wneud cais amdano yw Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd (JSA).

Efallai y byddwch yn gallu cael help â chostau fel costau tai a gofal plant drwy Gredyd Cynhwysol.

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli nifer o fudd-daliadau y byddech wedi eu hawlio fel arfer, gan gynnwys Credydau Treth a Budd-dal Tai.

Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd

Os ydych wedi gwneud digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 dros y ddwy flynedd dreth ddiwethaf, efallai y gallech gael Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd.

Gallwch gael hwn am hyd at chwe mis. Caiff ei dalu i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd bob pythefnos. Ni fydd incwm eich partner neu briod yn effeithio ar eich cais.

Darganfyddwch fwy am wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Os bydd angen help arnoch â phethau fel costau tai neu fagu’ch plant, bydd rhaid i chi gyflwyno cais ar wahân ar gyfer Credyd Cynhwysol.

Mae Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar incwm y cartref, felly bydd incwm eich partner neu briod yn effeithio ar faint a gewch.

Credydau treth

Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu gwneud cais newydd am Gredydau Treth Gwaith na Chredydau Treth Plant. Yn lle hynny, gofynnir i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Os ydych eisoes yn cael credydau treth ac yn colli’ch swydd, mae hynny’n golygu newid yn eich amgylchiadau. Gallai hyn olygu y bydd rhaid i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol.

Mae rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credydau Treth CThEM o fewn 30 niwrnod. Gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0300 200 1900. Darganfyddwch am ffyrdd eraill i gysylltu â Swyddfa Credydau Treth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais am Gredydau Treth os bydd naill ai chi neu’ch partner o oed Credyd Pensiwn.

Budd-daliadau i helpu â chostau tai

Help â’ch rhent

Yn ddibynnol ar eich incwm a’ch cynilion, efallai gallech gael ychydig o help â’ch rhent o elfen costau tai Credyd Cynhwysol os ydych yn gwneud cais newydd am gymorth.

Ni all y rhan fwyaf o bobl wneud cais newydd am Fudd-dal Tai. Os ydych yn cael Budd-dal Tai yn barod ac rydych yn colli'ch swydd, efallai bydd hyn yn cyfrif fel newid amgylchiadau a bydd rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle.

Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, caiff eich Budd-dal Tai ei dalu am dwy wythnos ychwanegol ar ôl i chi anfon eich cais am Gredyd Cynhwysol cyn iddo stopio.

Darganfyddwch fwy am Fudd-dal Tai ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Help â Threth Cyngor

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael help â’ch Treth Gyngor.

Gwnewch gais am Ostyngiad Treth Gyngor ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Help â thaliadau llog morgais

Os ydych yn berchen ar dŷ, gallech fod yn gymwys i gael help â’ch taliadau llog morgais.

Budd-daliadau i helpu â chostau eraill

Mae mathau eraill o fudd-daliadau arbenigol ar gael.  Felly waeth beth yw eich amgylchiadau, gwnewch yn siwr eich bod yn cael y budd-daliadau cywir n agor mewn ffenestr newydd

Grantiau lles a grantiau addysgol

Os ydych ar incwm isel, efallai bod peth cymorth ar gael drwy grantiau lles a grantiau addysgol gan elusennau.

Gallwch chwilio am grantiau ar Turn2usYn agor mewn ffenestr newydd

Tâl diswyddo statudol

Os ydych wedi cael eich diswyddo, fel arfer bydd gennych hawl i gael tâl diswyddo statudol os ydych:

  • yn gyflogai
  • wedi cyfrannu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac
  • wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr presennol ers 2 flynedd o leiaf.

Dylech hefyd wirio eich cytundeb cyflogaeth i weld a ydych yn gymwys am dâl diswyddo cytundebol hefyd.

A oes gennych hawl i gael budd-daliadau os ydych wedi cael eich diswyddo?

Os ydych wedi colli’ch swydd yn sgil camymddwyn, neu wedi gadael heb reswm digonol, gall fod oedi cyn y gallwch ddechrau cael Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol.

Y rheswm am hyn yw bod eich anogwr gwaith y Ganolfan Byd Gwaith yn gallu rhoi sancsiwn i’ch budd-dal. Mae hyn yn golygu, y gallant ei atal rhag cael ei dalu am nifer o wythnosau. Mae i fyny i’ch anogwr gwaith i benderfynu ar hyd y sancsiwn.

Os yw eich amgylchiadau’n newid

Cofiwch ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith os ydych yn dychwelyd i’r gwaith neu os yw’ch amgylchiadau’n newid.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, mae angen i chi ddweud wrth eich Jobs & Benefits office.

Mae angen i chi hefyd dweud wrth Gyllid a Thollau EM. Gallech gael dirwy o £300 os nad ydych yn dweud wrth y Swyddfa Credydau Treth bod eich amgylchiadau wedi newid.

Gallech barhau i fod â hawl i gael rhywfaint o help pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith ac mae eich incwm yn isel.

Er enghraifft, os oeddech yn cael Lwfans Ceisio Gwaith efallai y byddwch yn parhau i gael Budd-dal Tai neu Gredyd Treth Gwaith.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol efallai bydd eich taliadau’n lleihau’n raddol hyd nes y bydd eich incwm yn codi i bwynt ble nad ydych yn gymwys i’w gael mwyach.

 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.