Os ydych yn byw ar incwm isel efallai y gallwch hawlio budd-daliadau a hawliau ychwanegol, gan gynnwys Credyd Cynhwysol – hyd yn oed os ydych yn gweithio ar hyn o bryd.
Mae llawer o bobl yn colli allan ar gymorth oherwydd nad ydynt yn credu y byddant yn gymwys, dyna pam y mae bob tro yn werth gwirio beth sydd ar gael, yn enwedig os ydych yn cael trafferthion gyda chostau byw hanfodol, gan gynnwys taliadau rhent neu forgais neu filiau a thaliadau pwysig.
Gall budd-daliadau, benthyciadau cost-isel neu am ddim y llywodraeth a grantiau elusennol eich helpu drwy’r amseroedd hynny ble efallai y bydd angen help llaw arnoch.
Er enghraifft, os ydych yn sâl neu’n gofalu am rywun, yn feichiog neu’n gofalu am blant, wedi colli’ch swydd, mewn profedigaeth neu wedi ymddeol.