Mae gennym ystod o gynnwys diduedd am ddim y gallwch greu dolen iddynt sy'n helpu i dorri trwy'r jargon a chymhlethdod arian a phensiynau. Mae erthyglau, canllawiau, fideos a theclynnau y gallwch eu defnyddio i helpu'ch cynulleidfa i wneud eu dewisiadau arian a phensiynau yn gliriach - p'un a ydynt yn gyflogeion, yn gwsmeriaid neu'n ddefnyddwyr gwasanaeth.
Arfer gorau wrth greu dolenni i HelpwrArian
Dolenni testun
Am y daith ar-lein orau i'ch defnyddwyr, rydym yn argymell creu dolenni i dudalennau penodol ar wefan HelpwrArian yn hytrach nag i'r hafan. Mae hyn yn golygu y bydd defnyddiwr yn mynd yn syth at y wybodaeth gywir, yn lle gorfod chwilio i ddod o hyd iddi.
Rydym hefyd yn argymell defnyddio ‘testun angor’ perthnasol ar gyfer y ddolen. Y testun angor yw testun y hyperddolen. Mae hyn yn dweud ychydig mwy wrth ddarllenwyr am ble maent yn mynd, ond mae hefyd yn helpu i wneud y gorau o chwilotwyr.
Er enghraifft:
I weithio allan faint gallwch ei fenthyca, rhowch gynnig ar cyfrifiannell ad-dalu morgais HelpwrArian
neu
Mae gan HelpwrArian ganllaw defnyddiol ar sut i chwilio o gwmpas am flwydd-dal
Yn lle:
Clicio yma am fwy o wybodaeth.
Fel benthycwyr diwrnod cyflog
Os ydych yn gwmni benthyciadau Diwrnod Cyflog ac yn ychwanegu dolen i'ch gwefan yn unol â rheoliadau'r FCA, ychwanegwch ddolen i'r URL hwn ym mhob achos: www.moneyhelper.org.uk.
Mae hyn yn cynnwys y ddolen ar ddiwedd y rhybudd risg, a ddylai ddarllen:
Rhybudd: Gall ad-daliad hwyr achosi problemau ariannol difrifol i chi. Am help, ewch i www.moneyhelper.org.uk.
Defnyddio ein brandio
Gallwch lawrlwytho ein pecyn cymorth brandio (PDF, 16.6MB) i gyrchu a lawrlwytho ein logo ac asedau brandio eraill mewn amrywiaeth o fformatau ffeiliau, y gallwch eu defnyddio fel ffordd weledol o gysylltu â ni.
Gallwch ofyn am hyn trwy ein system Rheoli Asedau Brandio.
Mae rhaid i chi beidio â defnyddio logo HelpwrArian yn y fath fodd fel ei fod yn ymddangos ei fod yn cymeradwyo cynhyrchion neu wasanaethau.
Trwy lawrlwytho a defnyddio ein logo rydych yn cadw at y telerau ac amodau a amlinellir ar ein gwefan.
Os hoffech greu dolen i HelpwrArian, gallwch lawrlwytho ein pecyn cymorth brandio (PDF, 16.6MB) o'n gwefan
Mewnrwyd neu e-bost
Os ydych yn bwriadu creu dolen i unrhyw gynnwys HelpwrArian o e-bost neu'ch mewnrwyd, gallwn roi dolen wedi ei haddasu i chi a fydd yn caniatáu i ni fonitro faint o'ch defnyddwyr sy'n ymweld â ni o'ch cyfathrebiadau.
Byddwn hefyd yn hapus i rannu'r wybodaeth hon â'ch sefydliad at eich dibenion eich hun.